{"id":2735,"date":"2021-08-27T14:26:32","date_gmt":"2021-08-27T13:26:32","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2735"},"modified":"2021-08-27T14:26:34","modified_gmt":"2021-08-27T13:26:34","slug":"safon-ansawdd-1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-1\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 1"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni beth sydd o bwys iddyn nhw.<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Panel Dysgwyr Diamddiffyn<\/h3>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd y Panel Dysgwyr Diamddiffyn ar ddechrau\u2019r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth fel partneriaeth rhwng gwasanaethau Addysg a Gofal Cymdeithasol, i ganfod cefnogaeth i blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod clo. Buan iawn y datblygodd yn gr\u0175p aml-asiantaeth effeithiol i rannu gwybodaeth, dod o hyd i leoedd ysgol a gofal plant i ddysgwyr, a dewisiadau amgen i daliadau banc Prydau Ysgol am Ddim i deuluoedd lle bo angen. Pan ail-agorwyd yr ysgolion, bu i\u2019r panel addasu i ddod o hyd i gyfleoedd chwarae a seibiant i blant a phobl ifanc dros wyliau\u2019r haf, a dechreuodd gyfarfod yn wythnosol eto pan gaewyd yr ysgolion ym mis Ionawr 2021.<\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r panel, roeddem yn gallu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau cysondeb o ran mynediad i blant a oedd angen lle mewn ysgol neu ofal plant.<\/li><li>Agor darpariaeth fel mesur ataliol i deuluoedd a oedd mewn perygl o chwalu.<\/li><li>Cysylltu gyda\u2019r Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc ynghylch dysgwyr nad oeddent o reidrwydd yn hysbys i\u2019w hysgolion fel dysgwyr diamddiffyn.<\/li><li>Nodi\u2019r ffynhonnell gyllid orau ar gyfer lleoliadau gofal plant.<\/li><li>Ymgysylltu gyda theuluoedd nad oedd yn ymateb i gynigion gan eu hysgolion.<\/li><li>Cynnig lleoedd i blant a phobl ifanc diamddiffyn mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant.<\/li><li>Gwella cyfathrebu rhwng Timau Gofal Cymdeithasol ac Addysg ar lefel weithredol a strategol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd panel ar wah\u00e2n ond ar yr un pryd rhwng gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Adran Addysg, y Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc (Iechyd) a Gwasanaeth Anableddau\u2019r Adran Gofal Cymdeithasol. Fel yr uchod, bu i\u2019r panel aml-asiantaeth ddefnyddio\u2019r llwyfan hwn i rannu gwybodaeth, dod o hyd i leoedd ysgol i ddysgwyr a chydweithio i ddatblygu pecynnau pwrpasol ar gyfer unigolion gydag anghenion cymhleth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom wynebu rai heriau ar y dechrau wrth ddiffinio \u2018diamddiffyn\u2019 a pha ddysgwyr ddylai gael blaenoriaeth, ond fe wnaeth y cyfarfodydd panel wythnosol a\u2019r wybodaeth a ddarparwyd drwy\u2019r broses atgyfeirio ein galluogi ni i ddod o hyd i ddatrysiadau. Roeddem yn gallu defnyddio adnoddau eraill megis cyngor gan dimau cefnogi Addysg a Chanolfannau Teuluoedd, a chael mynediad at grantiau a chyfarpar i deuluoedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Cytunodd y Panel Dysgwyr Diamddiffyn bod hwn yn fforwm gwerthfawr ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Bydd y Panel yn parhau i gyfarfod, ac mae\u2019n hyblyg o ran cynyddu amlder y cyfarfodydd os bydd cyfnodau pellach o gau ysgolion.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhoi llais i blant yn eu hadolygiad<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi parhau i gynnal adolygiadau Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal yn ystod y pandemig, sydd, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, yn cael eu cynnal dros alwad gynhadledd. Mae pobl ifanc yn parhau i gael cyswllt \u00e2\u2019r Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol cyn cyfarfodydd, ar lefel sy\u2019n briodol o ran oed a datblygiad. Yn fwy diweddar, mae adolygiadau wedi cael eu cynnal dros alwadau fideo Zoom lle bo hynny\u2019n bosibl. Mae\u2019r cynnig o eiriolaeth yn parhau i gael ei wneud i blant cyn pob adolygiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynadleddau Amddiffyn Plant yn dal i gael eu cynnal ond dros alwad gynhadledd yn hytrach na chyfarfod wyneb yn wyneb. Cynorthwyodd hyn \u00e2 chyfranogiad rhieni a nodwyd bod rhieni yn fwy hyderus i rannu eu safbwyntiau. Mae cyfranogiad plant hefyd wedi cynyddu, gyda mwy o bobl ifanc naill ai\u2019n siarad gyda\u2019r Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol ymlaen llaw, neu\u2019n cymryd rhan yn y gynhadledd, yn rhannol neu\u2019n llawn. Mae safbwyntiau\u2019r plentyn yn cael eu cofnodi yn y cyfarfodydd, a gwaith uniongyrchol yn cael ei gwblhau gyda phlant i gynorthwyo dealltwriaeth y gynhadledd o\u2019u safbwyntiau. Mae\u2019r cynnig o eiriolaeth yn cael ei wneud eto i blant a rhieni cyn y gynhadledd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hon wedi bod yn ffordd newydd o weithio i bawb, yn cynnwys Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol, plant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol. Rydym wrthi\u2019n archwilio platfformau cyfarfod gwahanol i ddarparu\u2019r swyddogaeth a\u2019r profiad gorau. Mae cysylltedd wedi bod yn broblemus ac ansefydlog ar adegau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae newidiadau i\u2019n systemau cofnodi gyda chyflwyniad System Wybodaeth Gofal Cleientiaid Cymru wedi cyflwyno heriau i staff a Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol sy\u2019n dal i ymgyfarwyddo \u00e2\u2019r prosesau newydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd nifer o gyfarfodydd adolygu yn parhau i gael eu cynnal dros y we, yn enwedig os yw\u2019n well gan yr unigolyn ifanc wneud hyn yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd y platfform ar gyfer cyfarfodydd cynhadledd achos yn cael ei archwilio ymhellach er mwyn caniat\u00e1u i\u2019n partneriaid allweddol ymgysylltu\u2019n llawn mewn cyfarfodydd. Dylai hyn ganiat\u00e1u i rieni a phlant \/ pobl ifanc weld cyfranogwyr fel petaent yn yr un ystafell.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <em>Mind of My Own<\/em> yn cael ei roi ar waith yn ddiweddarach eleni, mae hwn yn gyfle i\u2019r unigolyn ifanc ychwanegu eu safbwyntiau pan maent yn dymuno gwneud hynny drwy ap yn hytrach na\u2019r llyfryn ymgynghori arferol. Bydd hyn hefyd yn cael ei ymestyn i\u2019r cyfweliad Dychwelyd Adref.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymateb i anghenion pobl yn ystod y cyfnod clo<\/h3>\n\n\n\n<p>Roedd cyfleoedd i bobl ddiamddiffyn ymgysylltu gyda gweithgareddau a diddordebau y tu allan i\u2019r cartref yn brin iawn yn ystod cyfnod clo Covid, felly roedd rhaid i ni feddwl yn greadigol, a gweithio gyda nhw i ganfod datrysiadau a dewisiadau amgen. Isod gweler adborth gan deuluoedd plant ag anableddau sydd wedi elwa\u2019n fawr o gyfraniadau cymharol fach.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Cadw\u2019n heini gyda Mam<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Prynom oriawr ffitrwydd i \u2018K\u2019 er mwyn ei annog i barhau \u00e2\u2019i batrwm ymarfer corff, y mae\u2019n ei fwynhau\u2019n arw. Dywedodd ei fam:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae K wrth ei fodd gyda\u2019i oriawr, mae hi wedi bod ganddo ers peth amser bellach ond mae\u2019n dal i\u2019w gwisgo bob dydd. Rydym yn cystadlu yn erbyn ein gilydd wrth i ni fynd am dro ac ar benwythnosau i weld pwy all gerdded y nifer fwyaf o gamau. &nbsp;Rwy\u2019n gweld ei bod yn ei ysgogi\u2019n fawr ac yn rhoi rheswm iddo barhau gyda\u2019i ymarfer corff a rhedeg, mae\u2019r gweithwyr cefnogi yn ei annog drwy\u2019r oriawr hefyd.&nbsp;&nbsp; &nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p><p>Mae K yn mwynhau ei gwisgo pan mae yn y gampfa oherwydd ei bod yn cofnodi ymarferion gwahanol. Mae ganddo\u2019r un oriawr \u00e2\u2019i weithiwr&nbsp; cefnogi hefyd ac mae wrth ei fodd, mae\u2019n hoffi bod yn debyg iddo. Roedd K mor hapus gyda\u2019i oriawr ac fe gyrhaeddodd&nbsp; ar ganol y cyfnod clo pan nad oedd ganddo lawer o gymhelliad i wneud unrhyw beth. Fel teulu, roeddem wir yn gwerthfawrogi\u2019r ffaith ei fod wedi gallu cael rhywbeth fel hyn gennych chi. <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Hwyluso\u2019r amser a dreulir ar y cyfrifiadur<\/span><\/h4>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd yn gymorth mawr pan gyrhaeddodd y ddesg yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Nid wyf yn si\u0175r beth mae H yn ei wneud ar y cyfrifiadur ond mae\u2019n ei wneud yn hapus a gall dreulio amser maith arno. Mae\u2019n gwneud cyflwyniadau PowerPoint ac yn mwynhau gwylio fideos;&nbsp; mae wedi gwneud rhai o\u2019r fideos ei hun ar ei iPad. Mae chwarae ar ei gyfrifiadur yn ei dawelu ac yn ei wneud yn lawer hapusach gartref.<\/p><p>Mae cael y ddesg yn golygu nad yw\u2019n mynd o un cyfrifiadur i\u2019r llall, oherwydd eu bod yn torri o hyd neu bod y monitor yn malu, ac yna mae\u2019n digalonni. Roedd wrth ei fodd pan gyrhaeddodd y ddesg, mae hi yn ei ystafell wely.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynnig modelau gofal amgen: Gwasanaethau dydd anableddau<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar ddechrau\u2019r cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 fe wnaethom gau ein gwasanaethau o fewn adeiladau. Mewn ymateb i hyn fe wnaethom gynnig mwy o ofal cartref, Taliadau Uniongyrchol, ac allgymorth o\u2019n darpariaeth ddydd i unigolion a\u2019u gofalwyr fel dewis arall i ddiwallu eu hanghenion lles. Er bod gwasanaethau anableddau wedi ailagor darpariaeth ddydd i oedolion, rydym wedi gorfod cydnabod efallai na fydd ailddechrau \u00e2 gofal dydd yn bosibl neu\u2019n ddiogel i rai unigolion, oherwydd y risgiau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 grwpiau \u2018cohort\u2019 o bobl \u00e2\u2019i gilydd. Nid ydym wedi gallu ailddechrau \u00e2 darpariaeth arferol ein clybiau plant ag anableddau, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion y plant mwyaf cymhleth yn unig, yn cynnwys y rhai hynny ar ffin y system ofal ac yn ystod gwyliau\u2019r haf yn unig. Mae ein prif anawsterau wedi ymwneud \u00e2 lleoliadau addas, o ystyried yr angen i ddiheintio a pharatoi\u2019r lleoliad ar gyfer y defnyddwyr nesaf yn unol \u00e2 chanllawiau Covid-19. O ganlyniad, rydym wedi cael ceisiadau am Daliadau Uniongyrchol ychwanegol er mwyn galluogi teuluoedd i gynnal gwytnwch.<\/p>\n\n\n\n<p>Er y bwriadwyd i\u2019r cynnydd i becynnau gofal, drwy gymorth wedi\u2019i gomisiynu neu daliadau uniongyrchol, fod yn fesur dros dro ar y pryd, gall nawr ddatblygu i\u2019r dull a ffefrir o ran cefnogi\u2019r unigolion diamddiffyn hynny yn eu cartrefi. Mae\u2019n bosibl y byddai\u2019n well gan y rhai hynny sydd nawr yn ymdopi gartref gyda\u2019r dulliau amgen rydym wedi\u2019u rhoi ar waith, barhau i wneud hynny yn yr hirdymor, yn hytrach na chael eu derbyn i ofal neu ddychwelyd i ddarpariaeth ddydd. O fewn y Gwasanaethau Anableddau rydym eisoes wedi gweld nifer o geisiadau i ddiwygio Cynlluniau Gofal a Chymorth i adlewyrchu dewisiadau unigolion wrth symud ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, mae canran fawr o\u2019r rhai sydd wedi defnyddio darpariaeth ddydd o\u2019r blaen heb ddychwelyd i wasanaethau o unrhyw fath eto oherwydd y risgiau y maen nhw\u2019n teimlo sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chynyddu eu cysylltiadau. Mae llawer o\u2019r unigolion hyn yn cael eu cefnogi gan ofalwyr sydd yn ddiamddiffyn hefyd, felly mae hwn yn faes yn byddwn yn ei wylio\u2019n ofalus, yn enwedig os yw\u2019r risg Covid-19 wedi lleihau\u2019n sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn gweithio gyda\u2019n darparwyr gwasanaethau dydd annibynnol a mewnol a\u2019n partneriaid trydydd sector i ddatblygu cynnig amgen i bresenoldeb mewn gwasanaethau o fewn adeiladau. Rydym wedi sefydlu gr\u0175p Cynhwysiant Digidol, yn cynnwys partneriaid trydydd sector a chydweithwyr o Sir Ddinbych a\u2019r T\u00eem Trawsnewid Anableddau Dysgu rhanbarthol. Mae\u2019r gr\u0175p yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant digidol a datblygu datrysiadau ymarferol i gefnogi pobl i fynd ar-lein. O fewn gwasanaethau dydd Anableddau Conwy, mae\u2019r T\u00eem Gofal Uniongyrchol wedi datblygu cynnig digidol sy\u2019n cynnwys sesiynau ar-lein i bobl nad ydynt yn gallu bod yn bresennol ar hyn o bryd, er enghraifft, boreau coffi, cerddoriaeth, a sesiynau Cyswllt Conwy. Mae\u2019r ymateb hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhoi sylw i eiriolaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan Ofal Cymdeithasol Conwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda DEWIS CBA i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol i bobl gydag anableddau a phobl h\u0177n. Mae eiriolaeth yn ymwneud \u00e2 chymryd camau i helpu pobl i ddweud beth maent ei eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau y maent eu hangen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac maent bob amser yn eu cefnogi ac yn ochri gyda nhw.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Mae eiriolaeth yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn y b\u00f4n, mae eiriolaeth yn ymwneud \u00e2 chefnogi pobl i gael llais, dewis a rheolaeth, ac i fynegi eu safbwyntiau, dymuniadau a theimladau, yn groes i r\u00f4l y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol eraill sy\u2019n canolbwyntio\u2019n bennaf ar hyrwyddo lles gorau\u2019r unigolion.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Covid-19 wedi gorfodi pawb i weithio\u2019n wahanol, ac o ran gwasanaethau cymorth, mae hyn yn bennaf wedi golygu symud tuag at gefnogaeth dros y ff\u00f4n a chyfathrebu drwy dechnolegau ar y we e.e. Zoom.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Dewis wedi pwysleisio i asiantaethau partner yr angen am eiriolaeth, gan atgoffa asiantaethau ei bod yn bwysig cofio bod gan yr holl unigolion, sy\u2019n wynebu rhwystrau wrth gyfathrebu eu dymuniadau a\u2019u teimladau neu wrth ddeall prosesau, yr hawl i eiriolaeth mewn perthynas \u00e2\u2019u hanghenion gofal a chymorth (fel y diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac y gall yr anghenion hyn fod yn fwy oherwydd amgylchiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 Covid-19, megis:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li>A yw\u2019r unigolyn yn wynebu rhwystrau h.y. cyfathrebu, neu ddeall y broses?<\/li><li>A yw rhywun wedi symud i mewn ar \u00f4l cael eu rhyddhau o\u2019r ysbyty?<\/li><li>A yw rhywun wedi cael eu symud o\u2019u preswylfa arferol?<\/li><li>Ydynt yn gwrthwynebu cael eu symud?<\/li><li>A wnaethant ddeall beth oedd symud yn ei olygu iddynt?<\/li><li>A yw eu gofal wedi newid?<\/li><li>A oedd ganddynt deulu priodol i\u2019w cefnogi wrth wneud y penderfyniad hwn? (fel y diffinnir gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant)<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Mae Conwy hefyd yn comisiynu gwasanaeth eiriolaeth plant, Tros Gynnal Plant Cymru. Eiriolaeth plant yw pan mae eiriolwr plant yn gallu cynnig cyngor a chymorth i blentyn neu unigolyn ifanc. Prif bwrpas eiriolwr plant yw galluogi plant i fynegi eu dymuniadau a\u2019u teimladau gyda\u2019r nod o annog yr arfer o rymuso plant a chynnal eu hawliau dynol. Bydd eiriolwr plant yn ceisio rhwystro plant rhag cael eu niweidio ac mae\u2019n bosibl y gallant geisio cael cyfiawnder i\u2019r plant hynny sydd eisoes wedi cael eu niweidio mewn rhyw ffordd. Gall eiriolwr plant hefyd geisio sicrhau bod gan blant fynediad at adnoddau neu wasanaethau a fydd o fantais i\u2019w bywydau, megis addysg, gofal plant a rhianta priodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ddechrau\u2019 r pandemig, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau eiriolaeth plant (i ddechrau) cyn dychwelyd i lefelau atgyfeirio mwy cyffredin. Ar hyn o bryd mae lefel yr atgyfeiriadau yn uchel ac mae wedi bod felly ers y Nadolig.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu i Tros Gynnal Plant Cymru, y sefydliad rydym yn ei gomisiynu ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth plant, addasu ei ddull o ran darparu gwasanaethau ym mis Mawrth 2020, wrth i staff symud i weithio gartref ac i\u2019r holl ymgysylltiadau gyda phlant a phobl ifanc gael eu cynnal dros y we yn ystod cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. Mae ymgysylltu dros y we\u2019 wedi cynnwys defnyddio amrywiaeth o blatfformau, yn cynnwys y ff\u00f4n, dan arweiniad yr unigolyn. Ers mis Medi, maent wedi bod yn cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb gyda phlant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu ymgysylltu dros y we am ba bynnag reswm, yn cynnwys diffyg cyfarpar, diffyg gallu i ymgysylltu drwy sgrin, diffyg lle cyfrinachol i ymgysylltu gyda\u2019r eiriolwr ac ati. Mae\u2019n rhaid i banel o uwch reolwyr asesu risg pob ymweliad wyneb yn wyneb a\u2019i gymeradwyo cyn ei gynnal, er mwyn diogelu\u2019r plentyn neu\u2019r unigolyn ifanc a staff Tros Gynnal Plant.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym ni yma yng Nghonwy wedi cael ein plesio\u2019n arw gyda sut mae plant a phobl ifanc wedi ymgysylltu gyda chefnogaeth yn ystod y pandemig. Mae llawer wedi cael ei ddysgu ganddynt o ran ymlacio wrth ymgysylltu dros y we; dyma genhedlaeth sydd wedi cael ei magu gyda phlatfformau megis Facetime a WhatsApp! Mae Tros Gynnal Plant hefyd wedi defnyddio adnoddau a chyfarpar i ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc dros y we. Pethau megis llyfrau, celf a chrefft a gemau, a anfonwyd at y plant a phobl ifanc cyn y cyfarfodydd ac a oedd hefyd o gymorth i ddechrau\u2019r sgwrs wrth gyfarfod plant a phobl ifanc am y tro cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p>O ran ymgysylltu dros y we, mae Tros Gynnal Plant wedi gorfod bod yn adweithiol ac ymatebol e.e. aildrefnu cyfarfodydd gyda phlant a phobl ifanc os yw cyfrinachedd wedi bod yn broblem ac ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc dros y we drwy ysgolion i oresgyn heriau o\u2019r fath. Maent wedi profi rhai heriau wrth egluro pethau megis hysbysiadau preifatrwydd i blant iau dros y we, ond eto maent wedi bod yn hyblyg o ran eu dull o wneud hyn, gan ailedrych ar y mater yn \u00f4l y galw a \/ neu egluro i riant\/gofalwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel y soniwyd uchod, newidiodd Tros Gynnal Plant ychydig ar eu dull o weithredu yn ystod y cyfnod clo cyntaf a gwneud yn si\u0175r eu bod yn cadw mewn cysylltiad \u00e2 phlant a phobl ifanc i\u2019w hatgoffa o\u2019r gwasanaeth eiriolaeth os oeddent ei angen. Fel arfer, ni fyddent yn gwneud hyn gan fod eiriolaeth yn cael ei harwain gan y plentyn, ond oherwydd bod plant a phobl ifanc wedi rhyngweithio llai gyda gweithwyr proffesiynol, roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig i fod yn rhagweithiol, i\u2019w hatgoffa o\u2019r gwasanaeth a rhoi cyfle iddynt ymgysylltu, rhag ofn yr oedd ganddynt unrhyw beth i\u2019w drafod a nad oeddent yn gallu gwneud hynny gyda gweithwyr proffesiynol eraill oherwydd newidiadau i amlder \/ math o gyswllt.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae plant a phobl ifanc wedi parhau i gael llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau drwy eiriolaeth. Rydym wedi gweld mwy o blant a phobl ifanc nag arfer sydd eisiau i Tros Gynnal Plant fynychu cyfarfodydd ar eu rhan. Mae plant a phobl ifanc yn dweud mai\u2019r rheswm am hyn yw nad ydynt yn hoffi mynychu cyfarfodydd mawr dros y we. Maent yn iawn ar sail un i un ond nid ydynt yn hoff o gyfarfodydd aml-asiantaeth sy\u2019n cael eu cynnal yn y ffordd yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Tros Gynnal Plant hefyd wedi parhau i ddarparu eiriolaeth i gartrefi preswyl yr ALl yn ystod y pandemig. Unwaith eto, mae\u2019r rhain wedi cael eu cynnal dros y we neu dros y ff\u00f4n. Mae Tros Gynnal Plant yn ymwybodol iawn bod y bobl ifanc sy\u2019n byw mewn cartrefi preswyl yn llai gweledol nag eraill, ac roeddent yn awyddus i sicrhau fod ganddynt fynediad at eiriolwr yn ystod y pandemig. Mae cartrefi preswyl nawr yn cael nodyn atgoffa wythnosol o\u2019r gwasanaeth hwn, ochr yn ochr \u00e2 gweithwyr proffesiynol \/ timau gofal cymdeithasol eraill, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ymwybodol o sut i gael mynediad at ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adborth a gafwyd am y gwasanaeth wedi cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ni fyddai wedi bod yn bosibl heboch chi wrth fy ochr i.<\/p><cite>Unigolyn ifanc<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Bydda\u2019 i\u2019n eich cofio am weddill fy oes.<\/p><cite>Unigolyn ifanc<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ni allen ni fod wedi gallu cymryd y cam hwn ymlaen oni bai am eich cefnogaeth&nbsp; a\u2019ch eiriolaeth gref\u2026mae yn sicr wedi bod yn un o achosion mwyaf heriol fy ngyrfa. Diolch am eich cefnogaeth.<\/p><cite>Gweithiwr Cymdeithasol<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae Gwasanaethau Eiriolaeth Plant yn parhau i fonitro\u2019r sefyllfa mewn perthynas \u00e2 Covid-19 yn agos ac yn dilyn canllawiau LlC ar arferion gweithio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Young-White-Male-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2739\" width=\"252\" height=\"346\"\/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni beth sydd o bwys iddyn nhw. Panel Dysgwyr Diamddiffyn Sefydlwyd y Panel Dysgwyr Diamddiffyn ar ddechrau\u2019r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth fel partneriaeth rhwng gwasanaethau Addysg a Gofal Cymdeithasol, i ganfod cefnogaeth i blant a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2735","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2735","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2735"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2735\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2735"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}