{"id":2701,"date":"2021-08-26T16:33:19","date_gmt":"2021-08-26T15:33:19","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2701"},"modified":"2021-09-01T10:14:00","modified_gmt":"2021-09-01T09:14:00","slug":"safon-ansawdd-4","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-4\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 4"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canolfannau Teuluoedd Conwy<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pum T\u00eem Cymorth i Deuluoedd wedi addasu i sicrhau bod gan deuluoedd y cymorth y maent ei angen yn ystod y flwyddyn ryfedd ac anodd hon. Wrth i ni ganfod ffyrdd amgen o ymgysylltu a chyfathrebu gyda theuluoedd, rydym wedi sefydlu prosiectau a phartneriaethau newydd. Braf iawn oedd gweld y gwaith caled hwn yn cael ei gydnabod \u00e2 \u2018chymeradwyaeth uchel\u2019 yn rownd derfynol y Gwobrau Gofal Cymdeithasol ym mis Tachwedd o dan y categori <em>Adeiladu Dyfodol Disglair gyda Phlant a Theuluoedd.<\/em><strong> <\/strong>Cawsom hefyd y cyfle i rannu ein gwaith mewn blog gan Swyddfa Archwilio Cymru. Dyma rai enghreifftiau o\u2019r hyn rydym wedi\u2019i wneud eleni:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Darpariaeth mynediad agored i deuluoedd<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Grwpiau Zoom, yn cynnwys paned a sgwrs, clybiau i fabanod mewn partneriaeth ag Ymwelwyr Iechyd, a chlybiau cynilo<\/li><li>Sefydlu ein tudalennau gwe yn ganolbwynt gwybodaeth a gweithgareddau: <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/Conwy-Family-Centres.aspx\">www.conwy.gov.uk\/bywydteuluol<\/a><\/li><li>Cynnal <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/Family-Life-Webinars.aspx\">gweminarau<\/a> \u2018SgwrsRhieni\u2019 a chlipiau fideo byr ar bynciau megis trefn amser gwely, cefnogi lles emosiynol plant, galar a cholled, a datblygiad plentyn<\/li><li>Gweithgareddau lles megis teithiau cerdded mewn grwpiau bychain a sesiynau chwarae<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Darpariaeth wedi\u2019i thargedu i deuluoedd<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Addasu ein darpariaeth rhianta i gynnal cyrsiau anffurfiol a ffurfiol ar Zoom<\/li><li>Sesiynau a chyrsiau thematig megis Tymhorau Tyfu i rieni ar alar, a grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid ar Wahanu ac Ysgaru<\/li><li>Defnyddio\u2019r ysgolion sydd ar gau a Chastell Conwy i ddarparu gofodau chwarae i deuluoedd pryderus gyda mynediad cyfyngedig i ofod yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod clo<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Darpariaeth un i un i deuluoedd<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae ein Gweithwyr Teuluoedd wedi bod yn hyblyg ac ar gael yn fwy nag erioed i deuluoedd yn ystod y cyfnod hwn, yn defnyddio ymweliadau stepen drws, danfon parseli bwyd ac adnoddau, pecynnau crefft, troeon, galwadau fideo a gwiriadau lles rheolaidd<\/li><li>Nodi meysydd cymorth pellach i deuluoedd drwy\u2019r panel Dysgwyr Agored i Niwed ac atgyfeiriadau at ein partneriaid<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Partneriaethau<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyfnewid dillad yn nwyrain Conwy gydag elusennau lleol a grwpiau cymunedol<\/li><li>Darpariaeth wedi&#8217;i chyfoethogi, megis Gweithiwr Teulu Mind Conwy, sesiynau seibiant ychwanegol Gofalwyr Croesffyrdd, Chwarae, Babi Actif ar gyfer plant cyn oed ysgol<\/li><li>Cyflwyno gweminarau a datblygu <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/Parenting-Support.aspx\">clipiau fideo byr<\/a> gyda Seicolegwyr Addysg Conwy, ymarferydd cwsg, ac ymarferydd rhianta<\/li><li>Rydym wedi bod yn gweithio\u2019n agosach gydag ysgolion a\u2019r Heddlu Cymunedol i ymgysylltu gyda theuluoedd<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Eleni, fe wnaethom lansio arolwg parhaus gyda theuluoedd, yn seiliedig ar ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/Our-Family-Support-Standards.aspx\">Safonau Gwasanaeth<\/a>.&nbsp; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;<strong>Dyma rywfaint o\u2019r adborth a gawsom:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd fy ngweithiwr teuluoedd yna i mi pan oeddwn i ei hangen hi, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo pan oedd yn fy ffonio gyda\u2019r nos ac ar benwythnosau oherwydd fy mod yn unig.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cefais gefnogaeth i mi fy hun, llythyrau cefnogi i wahanol asiantaethau a chefais fy enwebu am ddiwrnod yn y castell a\u2019r cynllun chwarae.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Bydd cymryd camau i fagu hyder mewn rhai meysydd yn cymryd peth amser i mi, er mae gwybod bod y drws bob amser ar agor yn galonogol iawn.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd y t\u00eem bob amser yn gwrtais a chroesawgar. Roeddwn bob amser yn teimlo\u2019n well ar \u00f4l siarad gyda fy ngweithiwr teuluoedd. Mae hi\u2019n ymroddedig, brwdfrydig ac yn ymatal rhag barnu wrth fy helpu a fy nghefnogi i a fy nheulu. Drwy\u2019r pandemig, rhoddodd o\u2019i hamser i gysylltu a holi amdanom ni. Nid oedd y galwadau byth yn frysiog ac roedd yn rhoi ymdeimlad o werth a pharch i mi \/ ni. Diolch.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darparu Gweithgareddau Lles Cymunedol Ar-Lein<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Lles Cymunedol wedi gorfod dyfeisio ffyrdd newydd o ddarparu cymorth yn ystod pandemig Covid-19, felly yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethant gynnal sesiynau dros y we, gan gynnig ystod o weithgareddau ar-lein am ddim i oedolion sy\u2019n byw yng Nghonwy.&nbsp; I ddechrau, fe wnaeth y t\u00eem fapio\u2019r ddarpariaeth bresennol er mwyn nodi unrhyw fylchau. Cafodd sesiynau amrywiol megis ioga, ymarfer corff mewn cadair, cyrsiau straen a phryder, bingo a chanu eu datblygu a\u2019u cynnig ar-lein dros Zoom.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae\u2019r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n newydd i\u2019r ardal ac yn gwarchod fy hun; mae\u2019r sesiynau hyn wedi bod yn bwysig iawn i mi, diolch i chi am eu trefnu.<\/p><cite>Unigolyn a gymerodd ran yn y sesiynau ymarfer corff mewn cadair<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe wnes i wir fwynhau\u2019r sesiwn hon heno gyda Paula a th\u00eem Lles Conwy. Ymlaciol iawn. Byddwn yn argymell i unrhyw un ymuno \u00e2\u2019r sesiynau hyn i ymlacio ac ymestyn y corff.<\/p><cite>Unigolyn a gymerodd ran mewn sesiwn ioga<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Dw i\u2019n meddwl bod y gwaith rydych chi\u2019n ei wneud ar hyn o bryd yn ardderchog. Ceisio codi hwyliau pawb a rhoi gw\u00ean ar wynebau pobl. Gwaith arbennig.<\/p><cite>Unigolyn a gymerodd ran yn y sesiynau canu<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Diolch i chi am drefnu\u2019r sesiynau canu gyda Rebecca. Mae staff a phreswylwyr wedi elwa ac wedi mwynhau pob munud. O safbwynt personol, mae wedi bod yn braf iawn i\u2019w gweld yn gwenu a dawnsio, ac mae hefyd wedi bod yn ddifyrrwch bendigedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p><cite>Rheolwr cartref gofal<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Yr her fwyaf oedd cefnogi darparwyr a\u2019r cyhoedd gyda defnyddio technoleg ddigidol. Nid oedd llawer o ddarparwyr wedi rhoi sesiynau ar-lein o\u2019r blaen, ac nid oeddent yn gyfarwydd \u00e2 defnyddio Zoom. Cynigiwyd cefnogaeth gan y t\u00eem, nid yn unig i\u2019w helpu i fynd ar-lein, ond i fod yn ddigon hyderus i ddefnyddio\u2019r dechnoleg a darparu \/ cynnal sesiynau ar-lein yn effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn ymateb i\u2019r materion yr oedd y cyhoedd yn eu hwynebu, fe wnaethom sefydlu gwasanaeth i gefnogi pobl dros y ff\u00f4n i ddechrau arni gyda gwasanaethau a gweithgareddau ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Tan y bydd hi\u2019n ddiogel i gynnal gweithgareddau wyneb yn wyneb unwaith eto, mae\u2019r t\u00eem yn parhau i gynnig darpariaeth ar-lein a chefnogaeth ddigidol dros y ff\u00f4n. Mae\u2019r sesiynau newydd ar gyfer 2021 yn cynnwys cwrs chwe wythnos \u2018Byw drwy Gyfnod Heriol, sesiynau dawns Bollymoves a Chrefftwyr Myfyriol, sydd yn gr\u0175p cymdeithasol wythnosol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Astudiaeth achos: dysgu sgiliau newydd<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Trefnodd y T\u00eem Lles Cymunedol diwtorial ar dylino dwylo dros Zoom er mwyn galluogi pobl i ofalu amdanynt eu hunain, gan ganolbwyntio ar y dwylo i\u2019w cadw\u2019n hyblyg ac ystwyth. Mae\u2019r gweithgaredd yn cynnwys technegau ymwybyddiaeth ofalgar i ymlacio\u2019r corff a\u2019r meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Mynegodd dynes 63 mlwydd oed, a oeddem eisoes wedi\u2019i chefnogi i wneud galwadau fideo i\u2019w theulu yn ystod y cyfnod clo, ddiddordeb yn y cwrs oherwydd ei bod yn dioddef o arthritis yn ei dwylo. Mae hi mewn llawer o boen, ac roedd yr effaith o beidio \u00e2 gweld ei theulu wyneb yn wyneb wedi gwneud iddi deimlo\u2019n isel. Cysylltodd \u00e2\u2019r t\u00eem drwy ein tudalen Facebook i archebu lle, ond roedd yn bryderus nad oedd yn gwybod sut i ddefnyddio Zoom ac nid oedd ganddi iPad neu ff\u00f4n \u2018modern\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth ein Swyddogion Lles ei sicrhau, a\u2019i harwain drwy\u2019r broses o osod Zoom ar ei ff\u00f4n. Trefnwyd sesiwn flasu i wneud yn si\u0175r ei bod yn teimlo\u2019n hyderus am gael mynediad i\u2019r sesiwn ar y diwrnod.<\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r cyswllt a gawsom gyda\u2019r ddynes hon, mae hi:<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 nawr yn hyderus wrth ddefnyddio ei ff\u00f4n i gael mynediad at sesiynau ar-lein dros Zoom a gwneud galwadau fideo i\u2019w theulu<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 wedi dysgu technegau er mwyn lleddfu poen ei harthritis a lleihau ei theimladau o iselder\/ hwyliau isel<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 yn edrych ymlaen at fod yn fwy cymdeithasol a chymryd rhan mewn pethau yr oedd yn arfer eu mwynhau cyn Covid-19, megis dawnsio llinell<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Diolch i chi am yr holl help rydych wedi\u2019i roi i mi, mae fy ff\u00f4n mor hen ni wnes i erioed feddwl y buaswn yn gallu defnyddio Zoom arno, mae gallu gwneud rhai o\u2019r pethau yr oeddwn yn arfer eu mwynhau wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, rydw i\u2019n edrych ymlaen yn arw at y sesiynau dawnsio llinell yr ydych yn eu trefnu.<br>Mae gweld wynebau fy wyrion a fy wyresau eto wedi bod yn fendith, ni allaf ddiolch digon i chi i ddweud y gwir, rydw i\u2019n gweld eu heisiau nhw\u2019n arw, a dyma\u2019r peth agosaf at eu gweld wyneb yn wyneb.<br>Rydw i\u2019n tylino fy nwylo 2 neu 3 gwaith yr wythnos, ac rwyf wedi synnu gymaint y mae\u2019n helpu i leddfu fy mhoen. Rydw i\u2019n eu tylino yn y bore pan maent ar eu gwaethaf ac mae hyn yn helpu i\u2019w llacio. Mae hefyd wedi fy helpu i ddal tegell ac roedd hynny\u2019n arfer bod yn anodd iawn i mi ac roeddwn yn ystyried prynu o\u2019r peiriannu un gwpan hynny sydd ar gael.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"653\" height=\"433\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CW-Digital-Support-Welsh.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2886\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CW-Digital-Support-Welsh.png 653w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CW-Digital-Support-Welsh-300x200.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 653px) 100vw, 653px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynorthwyo dinasyddion Conwy \u00e2 danfoniadau bwyd<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar ddechrau\u2019r pandemig, cysylltodd y T\u00eem Lles Cymunedol \u00e2 darparwyr bwyd lleol i lunio cyfeiriadur o gwmn\u00efau yn cynnig danfoniadau hanfodol ledled y sir. Rhannwyd y rhestr yn eang trwy\u2019r cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a thrwy sianeli allanol. Fe wnaethom gysylltu gyda chwmn\u00efau\u2019n wythnosol i sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei diweddaru\u2019n rheolaidd. Defnyddiodd y Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol y cyfeiriadur i gyfeirio pobl at wasanaeth danfon bwyd a delir amdano yn eu hardal leol, fel bo angen.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020, bu i 5,160 o bobl gyrchu\u2019r wybodaeth am ddanfoniadau bwyd drwy ein tudalen gwe, ac mae\u2019r adborth yn awgrymu ei fod wedi bod yn adnodd defnyddiol i lawer iawn o bobl.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Diolch yn fawr iawn i chi am y rhain! Fe wnes i eu gweld ar eich tudalen Facebook \u2026.defnyddiol iawn a bydd llawer iawn o bobl yn elwa ohonynt!<\/p><cite>Aelod o staff y Gymdeithas Tai<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Dim ond eisiau dweud bod y rhestrau hyn wedi bod o fudd mawr, yn enwedig i\u2019n teuluoedd gwledig. Rwyf wedi gallu darparu manylion cyswllt defnyddiol i nifer o deuluoedd sy\u2019n rhan o fy llwyth achosion ac wedi gallu archebu ffrwythau a llysiau i ffrind sy\u2019n byw ar ei phen ei hun, sydd dros 70 mlwydd oed ac sydd yn hollol fyddar. Braf iawn yw gallu cyfeirio at y rhestrau a\u2019u rhannu.<\/p><cite>Gweithiwr Cymdeithasol Anableddau<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom hefyd<strong> gael adborth gan Gomisiynydd Pobl H\u0177n Cymru ar Facebook!<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"498\" height=\"93\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Commissioners-Facebook-Message-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2888\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Commissioners-Facebook-Message-2.png 498w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Commissioners-Facebook-Message-2-300x56.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 498px) 100vw, 498px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Y brif her oedd cysylltu gyda\u2019r darparwyr lleol er mwyn gwirio a diweddaru\u2019r wybodaeth yn wythnosol. Roedd hon yn broses a oedd yn cymryd llawer iawn o amser i\u2019r staff.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae yna dal alw am y wybodaeth hon, ac mae\u2019r wybodaeth yn dal ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fodd bynnag, mae\u2019r cyfrifoldeb o gynnal yr wybodaeth wedi cael ei basio i\u2019r Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y cyfyngiadau clo lleol, fe wnaethom greu adran yn ein pecyn lles hydref a gaeaf i hyrwyddo pa ddarpariaeth o fwyd sydd ar gael ar draws y sir, er mwyn rhannu\u2019r wybodaeth hon yn ehangach ac ein helpu ni i gyrraedd y bobl sydd angen yr wybodaeth hon fwyaf.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Astudiaeth Achos<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Bu i ddynes 93 mlwydd oed, sy\u2019n byw ar ei phen ei hun a chryn bellter oddi wrth ei theulu, gysylltu \u00e2 ni. Nid oes ganddi fynediad at unrhyw gymorth gan ffrindiau neu gymdogion, ac mae ganddi nam ar ei symudedd a\u2019i golwg.<\/p>\n\n\n\n<p>Cysylltodd y ddynes \u00e2\u2019r T\u00eem Lles gan nad oedd ei theulu wedi gallu cael archeb bwyd ar-lein iddi ac roedd ei chyflenwad o fwyd hanfodol ar gyfer ei hun a\u2019i chi yn prinhau. Roedd hi\u2019n ddigalon iawn ac yn llawn panig, gan ddweud ei bod wedi bwyta sgon i frecwast oherwydd dyna\u2019r unig beth oedd ganddi ar \u00f4l yn y t\u0177. Roedd ei mab yn bryderus iawn, ac wedi ystyried gyrru yno o Lundain i helpu, ond dywedodd wrtho am beidio gwneud hynny, oherwydd ei fod yntau yn ei saithdegau ac y dylai fod yn aros adref yn hunan-ynysu. Roedd ei mab wedi canfod gr\u0175p Facebook lleol o\u2019r enw \u2018Rhos on Sea \u2013 Help the Elderly\u2019 ac roedd wedi cyhoeddi neges yno yn gofyn am gymorth, ac awgrymodd un aelod eu bod yn cysylltu gyda ni.<br><br>Ffoniodd y ddynes a siaradodd gydag Arweinydd y T\u00eem a lwyddodd i dawelu meddwl y ddynes a sgwrsio gyda hi am ei hanghenion, megis a oedd yn gallu talu dros y ff\u00f4n gyda cherdyn neu a oedd arni angen talu gydag arian parod, ei lleoliad a pha eitemau hanfodol yr oedd hi eu hangen. Llwyddom i\u2019w chysylltu gyda siop leol. Gwnaed taliad dros y ff\u00f4n a chafodd eitemau hanfodol eu danfon yn ddi-gyswllt at ei drws y diwrnod hwnnw. Llwyddom hefyd i\u2019w rhoi mewn cysylltiad \u00e2 Cinnamon Trust a drefnodd bod gwirfoddolwr yn mynd yno i gerdded ei chi dair gwaith yr wythnos.<br>Roedd y ddynes yn gallu trefnu danfoniadau bwyd wythnosol at ei drws, gan sicrhau bod ganddi fynediad at fwyd hanfodol ac osgoi rhoi ei mab neu hithau mewn perygl yn ystod y cyfnod clo.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ei chi yn llai aflonydd oherwydd ei bod yn cael mynd am dro yn rheolaidd, mae\u2019r ci, yn y gorffennol, ar adegau pan nad oedd wedi cael mynd am dro, wedi neidio ar y ddynes gan achosi iddi syrthio a brifo ei phen a\u2019i choesau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ffoniodd y ddynes i ddiolch i ni am ein help a\u2019n cefnogaeth, ac roedd hi\u2019n swnio\u2019n ddagreuol iawn wrth esbonio pe na bai wedi dod o hyd i ni, byddai wedi bod ar goll o ran beth i\u2019w wneud, ar wah\u00e2n i adael i\u2019w mab deithio yno i\u2019w helpu, a fyddai nid yn unig wedi torri\u2019r gyfraith ond wedi rhoi\u2019r ddau mewn perygl o ddal Covid-19.<\/p>\n\n\n\n<p>Esboniodd hefyd bod y gwirfoddolwr o\u2019r Cinnamon Trust yn hyfryd ac roedd ei chael yno i gerdded y ci wedi bod yn ryddhad mawr, oherwydd ei bod wedi bod yn poeni sut y byddai\u2019r ci\u2019n ymateb pen a bai\u2019n gallu mynd allan am rai wythnosau, roedd yr ofn o gael codwm arall wedi peri pryder mawr iddi.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"406\" height=\"381\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Lady-Walking-Pug-in-the-Rain-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2890\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Lady-Walking-Pug-in-the-Rain-1.png 406w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Lady-Walking-Pug-in-the-Rain-1-300x282.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 406px) 100vw, 406px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pecyn Lles Cymunedol<\/h3>\n\n\n\n<p>Bu i\u2019r T\u00eem Lles Cymunedol gydnabod bod y pwysigrwydd o ddarparu cyfleoedd i oedolion sy\u2019n byw yng Nghonwy, i wella eu Hiechyd a\u2019u Lles yn fwy hanfodol nawr nag erioed o\u2019r blaen. Roeddent yn bryderus nad oedd gan lawer o unigolion bresenoldeb ar-lein, ac felly nid oeddent yn gallu cael mynediad at weithgareddau dros y we. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater, datblygodd y t\u00eem Becyn Lles yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a gweithgareddau y gallai pobl eu gwneud o\u2019u cartrefi eu hunain, er mwyn gwella eu lles corfforol a meddyliol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cawsom adborth cadarnhaol gan gydweithwyr a\u2019r cyhoedd:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cyn y Nadolig roeddwn yn teimlo\u2019n isel iawn. Fe welais neges ar eich Tudalen Facebook Lles Cymunedol a phenderfynu eich ffonio, fe siaradais gyda dynes hyfryd; fe anfonodd gopi o\u2019ch Pecyn Lles ataf. Roedd wir o gymorth mawr i mi ac fe ddaeth ataf ar yr adeg gywir.<\/p><cite>Aelod o\u2019r cyhoedd<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Y broblem fwyaf oedd ceisio cyrraedd y bobl hynny a fyddai\u2019n cael y budd mwyaf o\u2019r pecyn. Fe wnaethom ei hyrwyddo drwy staff iechyd a gofal cymdeithasol, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a\u2019n cydweithwyr yn y sector annibynnol. Gwnaethom argraffu\u2019r pecynnau a\u2019u hanfon i gartrefi pobl gyda chymorth gan ein partneriaid a chydweithwyr megis Cartrefi Conwy, banciau bwyd lleol, ein timau gofal mewnol, y gwasanaeth llyfrgell a gwasanaeth storfeydd cyfarpar cymunedol. Ers lansio\u2019r pecyn, mae cyfanswm o 3,373 o gop\u00efau wedi cael eu dosbarthu i bobl yn eu cartrefi neu wedi\u2019u cyrchu drwy ein tudalen we.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adborth gan weithwyr proffesiynol a\u2019r cyhoedd yngl\u0177n \u00e2\u2019r pecyn wedi bob yn gadarnhaol iawn ac mae pobl wedi dweud ei fod yn ddefnyddiol iawn. Mae\u2019r t\u00eem yn parhau i ddatblygu gwybodaeth a gweithgareddau newydd ar gyfer pecynnau yn y dyfodol a bydd y trydydd rhifyn yn cael ei gyhoeddi ar 1 Chwefror 2021.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi ein gofalwyr di-d\u00e2l drwy gydol y pandemig<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi golygu bod ein cyswllt gyda gofalwyr di-d\u00e2l Conwy wedi bod yn wahanol iawn eleni. Mae ein Swyddogion Gofalwyr wedi bod yn gweithio gartref ac mae ein system ddyletswydd dyddiol, sydd wedi aros yn ei lle, wedi bod yn brysur. Cysylltodd y swyddogion gyda phob gofalwr a chynnal galwadau wythnosol gyda\u2019r gofalwyr a nodwyd fel y rhai mwyaf diamddiffyn yn ystod yr argyfwng, a darparu cymorth emosiynol a chymorth ymarferol cynyddol os oedd angen. Roedd rhai gofalwyr yn teimlo fel eu bod angen dwy neu dair o alwadau\u2019r wythnos felly fe wnaethom drefnu hynny ar eu cyfer.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ddechrau\u2019r pandemig, bu i nifer o ofalwyr ddewis canslo eu gwasanaeth eistedd gyda phobl, gydag eraill hefyd yn canslo eu cefnogaeth gofal cartref oherwydd pryderon yngl\u0177n \u00e2 dal Covid-19. Yn fwy diweddar rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau i\u2019r panel mewn perthynas ag ail-gomisiynu gwasanaethau a gafodd eu canslo gan ofalwyr. Yn anffodus, mae llawer o ofalwyr yn datgan eu bod nawr yn ei chael hi\u2019n anodd ac angen seibiant o\u2019u sefyllfa.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyswllt yn cael ei wneud gyda phob ymholiad newydd i\u2019r T\u00eem Gofalwyr. Er nad yw ymweliadau cartref yn cael eu cynnal, mae\u2019r holl rifau cefnogaeth perthnasol yn cael eu rhannu ac mae asesiadau gofalwyr yn cael eu cynnal dros y ff\u00f4n, gyda chymorth yn cael ei drefnu yn \u00f4l yr angen. Rydym hefyd yn cysylltu gyda gofalwyr sydd eisoes \u00e2 phecyn cymorth er mwyn adolygu\u2019r cymorth y maent yn ei dderbyn a sicrhau ei fod yn dal yn addas i\u2019r diben.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr Wythnos Gofalwyr, a gynhaliwyd o 8-14 Mehefin 2020 yn wahanol iawn gan nad oeddem yn gallu cynnig y digwyddiad galw heibio arferol gyda chyngor a chyfarwyddyd wyneb yn wyneb. Yn hytrach, gweithiom gyda\u2019r T\u00eem Lles Cymunedol i ddarparu gweithgareddau ar-lein a oedd hefyd ar gael fel pecyn y gellid ei anfon drwy\u2019r post at ofalwyr. Roedd y gweithgareddau\u2019n cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, canu, teithiau cerdded rhithiol, ioga a noson gwis, ac roedd y pecyn yn cynnwys ryseitiau, chwilair, croesair, tudalennau i\u2019w lliwio, origami a gwybodaeth am sut i gael cymorth pellach.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth i amser fynd yn ei flaen, rydym yn disgwyl y bydd mwy o ofalwyr yn ei chael hi\u2019n anodd gan nad yw\u2019r cymorth gofal dydd a seibiant ar gael iddynt. Wrth symud ymlaen, bydd y T\u00eem Gofalwyr yn parhau i ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i\u2019r gofalwyr yng Nghonwy yn ystod y cyfnod heriol a digynsail hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein Gwasanaeth Rhandiroedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth rhandiroedd wedi bod yn weithredol am beth amser o fewn ein Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, ac roeddem ni o\u2019r farn bod angen ei ddiweddaru, gan ganolbwyntio\u2019n benodol ar hygyrchedd. Mae\u2019r cyfres o gyfnodau clo oherwydd pandemig Covid-19 wedi golygu bod y gwasanaeth wedi gorfod gohirio gwaith gr\u0175p am gyfnodau, gan ganiat\u00e1u i\u2019r gweithwyr cefnogi ddatblygu\u2019r gwasanaeth. Lluniwyd y cynlluniau blaenorol gan ddefnyddiwr y gwasanaeth a oedd yn meddu ar sgiliau garddwriaeth a gweithio gyda phobl, a oedd yn gallu darparu\u2019r ffocws hwnnw ar hygyrchedd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Yma fe welwch sut oedd y rhandir yn edrych cynt\u2026.<\/span><\/h4>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"452\" height=\"591\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-1-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2892\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-1-1.png 452w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-1-1-229x300.png 229w\" sizes=\"auto, (max-width: 452px) 100vw, 452px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"771\" height=\"557\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-2-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2894\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-2-1.png 771w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-2-1-300x217.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-Before-2-1-768x555.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 771px) 100vw, 771px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">A nawr&#8230;.<\/span><\/h4>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"573\" height=\"425\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-After-1-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2896\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-After-1-2.png 573w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-After-1-2-300x223.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 573px) 100vw, 573px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"763\" height=\"591\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-After-2-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2898\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-After-2-1.png 763w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Allotment-After-2-1-300x232.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 763px) 100vw, 763px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd cael mynediad at adnoddau priodol yn anodd, fodd bynnag, fe wnaethom gysylltu \u00e2 gwahanol sefydliadau a dibynnu\u2019n drwy ar roddion i gefnogi\u2019r gwaith o adfywio\u2019r Gwasanaeth Rhandiroedd. Roedd hyn yn cynnwys trawstiau rheilffordd gan National Rail, a rhisgl wedi\u2019i roi i gefnogi\u2019r gwaith o ddarparu llwybrau mynediad lefel.<br>Mae\u2019r gwasanaeth ar agor i ardaloedd eraill o\u2019r Awdurdod, fodd bynnag, oherwydd Covid-19 a\u2019r cyfnodau clo cysylltiedig, nid ydynt wedi gallu cael mynediad at y rhandiroedd fel y cynlluniwyd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn gobeithio ail-lansio\u2019r gwasanaeth rhandiroedd wrth i gyfyngiadau cyfnod clo Cymru gael eu codi. Rydym hefyd yn gobeithio ymgysylltu gyda gwasanaethau eraill wrth iddynt ddechrau ail-sefydlu eu gweithgareddau eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Ymgynghori Personol: Gweithgarwch yn ystod 2020-21<\/h3>\n\n\n\n<p>Er gwaetha\u2019r heriau yn sgil Covid-19, rydym wedi bod yn brysur gyda ffrydiau gwaith amrywiol newydd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rydym wedi dechrau ymgymryd \u00e2 phrosiect ymchwil hirdymor gyda Phrifysgol Bangor i ddeall ymddygiadau pobl sy\u2019n gadael gofal yn y gobaith y gallwn archwilio eu cymhellion a hwyluso ymgysylltiad mwy ystyrlon gyda gwasanaethau. Y bwriad yw i\u2019r canlyniadau lywio polis\u00efau\u2019r dyfodol, gweithdrefnau ac offer gwaith ymarferol a fydd yn cael eu rhannu ledled Cymru.<\/li><li>Rydym wedi bod yn gweithio gyda cheiswyr lloches ar eu pen eu hunain i sicrhau ein bod yn gallu rhoi\u2019r gefnogaeth sydd arnynt ei hangen iddynt.<\/li><li>Rydym wedi gofyn i bobl ifanc am eu barn ar y gefnogaeth rydym wedi llwyddo i\u2019w darparu drwy gydol pandemig Covid-19; bydd y canlyniadau\u2019n llywio cynllun gweithredu i ddatblygu\u2019r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.<\/li><li>Mae rolau Cefnogwyr wedi cael eu datblygu yn y t\u00eem Ymgynghori Personol, gyda phob YP yn cael maes diddordeb penodol a fyddant yn ei ddatblygu er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth a gwella gwybodaeth y t\u00eem.<\/li><li>Mae cynllun darparu gwasanaeth wedi cael ei ddatblygu i gynnwys sawl pwnc o iechyd rhywiol, eisiau dechrau teulu, beichiogi, i enedigaeth neu golled plentyn. Mae ein dull amlasiantaeth yn rhoi mynediad i bobl sy&#8217;n gadael gofal at asesiadau cyfannol, gofal a chefnogaeth mewn modd tryloyw.<\/li><li>Hyrwyddo pecynnau gwaith pwrpasol i bobl sy&#8217;n gadael gofal heb unrhyw gymwysterau \/ cymwysterau gradd isel ac sy\u2019n methu gwneud cyrsiau prentisiaeth neu gael profiad gwaith.<\/li><li>Rydym wedi rhoi bocsys lles i bobl sy&#8217;n gadael gofal, yn cynnwys gweithgareddau i\u2019w cefnogi yn ystod y cyfnod clo.<\/li><li>Rydym yn cyflwyno prynhawniau meithrin t\u00eem i ail-sefydlu perthnasau sydd efallai wedi dod i ben oherwydd y pandemig a threfniadau gweithio gartref. Gobeithir y gellir rhannu gwybodaeth a\u2019r arfer orau unwaith eto, i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i\u2019r bobl ifanc sy\u2019n ei dderbyn.<\/li><li>Mae ein polisi gadael Kick-Start wedi\u2019i ddatblygu i ddarparu strategaeth gwblhau i bobl ifanc sy\u2019n rhan o\u2019r cynllun allu symud ymlaen i lety addas mewn modd syml a chynlluniedig cyn gynted ag y maent yn barod.<\/li><li>Mae gennym fynediad at ddau d\u0177 a rennir ar safle Maelgwn a fydd yn rhoi llety i bedwar o bobl ifanc am ddwy flynedd. Byddant yn derbyn gofal estynedig pwrpasol, mynediad at gefnogaeth yn \u00f4l yr angen y tu allan i oriau a chyngor cyffredinol gan weithiwr ymyrraeth Pobl Ddiamddiffyn, a fydd yn goruchwylio\u2019r gwaith o redeg y ddau d\u0177. Bydd y bobl ifanc yn cael eu cefnogi i adeiladu ar eu sgiliau byw&#8217;n annibynnol, deall tenantiaethau a materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 thenantiaethau a\u2019u paratoi i symud ymlaen i lety mwy parhaol erbyn diwedd y ddwy flynedd. &nbsp;Roedd y tai ar gael o 22 Chwefror 2021.<\/li><li>Rydym wedi dyrannu gweithwyr cymdeithasol i dair o Ganolfannau Teuluoedd ac rydym wedi rhannu gwybodaeth am ein gwasanaethau gyda meddygfeydd teulu. Gobeithir drwy godi ymwybyddiaeth y byddwn yn dod yn ymwybodol o bobl cyn iddynt brofi argyfwng ac y gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn gynt.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae llawer o heriau wedi codi eleni, yr her fwyaf oedd y diffyg cyswllt wyneb yn wyneb gyda\u2019r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw, cydweithwyr ac asiantaethau eraill oherwydd y cyfnod clo. Mae arferion gwaith wedi gorfod newid ac mae anghenion unigolion wedi newid yn anochel oherwydd eu bod yn fwy unig nag erioed. Yn y meysydd gwaith a restrwyd uchod, rydym wedi profi oedi wrth symud ymlaen ac rydym wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd o amgylch y rhwystrau hyn i gynnal cyfathrebu a pherthnasau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mynd i\u2019r afael \u00e2 chamddefnyddio sylweddau<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Pobl Ddiamddiffyn yn aml yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer unigolion sydd, drwy\u2019r broses asesu, yn cydnabod eu bod angen cefnogaeth gyda\u2019u defnydd o gyffuriau ac alcohol, ond nid ydynt yn aml yn bodloni\u2019r meini prawf ar gyfer gwasanaethau penodol (neu nid ydynt yn teimlo\u2019n barod i\u2019w defnyddio). Bydd gan yr unigolion hyn fynediad at weithiwr cymdeithasol a gweithiwr cefnogi ymyrraeth a fydd yn gweithio gyda nhw am hyd at ddeuddeg wythnos i archwilio pam eu bod yn defnyddio cyffuriau ac alcohol, darparu technegau ymdopi, addysg ar y gefnogaeth sydd ar gael a dileu\u2019r rhwystrau a\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r gwasanaethau hyn. Bydd hwn yn ddull cyfannol, gyda\u2019r gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu \u00e2 gwasanaethau priodol eraill am gyngor a chyfarwyddyd. Os teimlir, ar unrhyw bwynt yn ystod y deuddeg wythnos, bod yr unigolyn angen cefnogaeth sy\u2019n fwy arbenigol, gofynnir am eu caniat\u00e2d i gynnal trafodaeth aml-asiantaeth i weld sut y gellir diwallu eu hanghenion. Gobeithir y bydd y dull hwn yn rhoi cyngor a chymorth angenrheidiol i unigolion, pan maent eu hangen, ac o bosib eu hatal rhag lithro drwy\u2019r rhwyd nes eu bod yn bodloni meini prawf gwasanaethau eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfiawnder Ieuenctid: Darparu cymorth i\u2019n cymunedau<\/h3>\n\n\n\n<p>Eleni, mae\u2019r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned, yn enwedig tuag at adeg y Nadolig.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fe wnaethom ddarparu gwasanaeth Nadolig atgyweiriol gyda chartrefi gofal ar draws Conwy a Sir Ddinbych, a gydag oedolion diamddiffyn yn y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys bocsys plannu a wnaed gan ein pobl ifanc ac a drefnwyd gydag Iechyd a Diogelwch i gydymffurfio \u00e2 chyfyngiadau Covid-19.<\/li><li>Gwnaed bocsys esgidiau personol gyda rhoddion gan Asda, B&amp;Q a Home Bargains, a rhoddwyd y rhain i gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd meddwl i\u2019w dosbarthu i\u2019r oedolion diamddiffyn rydym yn eu cefnogi.<\/li><li>Fe wnaethom hefyd gasglu negeseuon a cherddoriaeth wedi\u2019u recordio ymlaen llaw gan bobl ifanc, ac fe gyflwynwyd y rhain i gartrefi gofal.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym yn gobeithio bod y pethau hyn wedi gwneud gwahaniaeth i rai o\u2019r bobl fwyaf unig a diamddiffyn yng Nghonwy, ac wedi gwneud iddynt deimlo fel bod rhywun yn meddwl amdanynt yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan gynyddu eu hunanwerth a\u2019u lles. Gobeithir y gallwn, o ganlyniad, adeiladu ar y bond rhwng cenedlaethau. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd logisteg, unigrwydd a darpariaeth, a chydlynu\u2019r bobl ifanc, yn ogystal \u00e2\u2019r tasgau i roi\u2019r ymarfer ar waith i gyd yn heriol. Roedd yn rhaid i ni hefyd ddarbwyllo Iechyd a Diogelwch y gallent gydymffurfio gyda chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas \u00e2 chyfyngiadau Covid-19 a sicrhau\u2019r cyhoedd a\u2019r gymuned.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwobr Cyflawniad Ieuenctid<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein Swyddog Addysg wedi gweithio gyda Gwobr Cyflawniad Ieuenctid i gydweithio gyda\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid i lansio\u2019r wobr ar-lein. Oherwydd y cyfnod clo nid ydym wedi gallu gwneud hyn mewn lleoliad gr\u0175p fel y cynlluniwyd, fodd bynnag, rydym nawr wedi cael cymeradwyaeth gan Ieuenctid Cymru i gynnal sesiynau unigol ar-lein. Nod y wobr yw gwella sgiliau a hunan hyder pobl ifanc. Bydd ein pobl ifanc yn gweithio ar yr Her Ieuenctid, sydd yn brosiect deg awr a fydd yn canolbwyntio ar un gweithgaredd, megis coginio, celf, garddio ac ati.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"495\" height=\"414\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Young-Chefs-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2900\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Young-Chefs-1.png 495w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Young-Chefs-1-300x251.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 495px) 100vw, 495px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Hyfforddiant a datblygiad ar gyfer teuluoedd maeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Darperir yr elfen seicolegol o\u2019n prosiect Cymorth Gofal Maeth Uwch gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o fewn gwasanaethau plant, ac mae\u2019n wahanol i waith cyffredinol y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc oherwydd ei bod yn cyfrannu at arferion craidd gwaith cymdeithasol. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae\u2019r gwasanaeth arbenigol hwn wedi canolbwyntio ar hyfforddiant a datblygu, cyfrannu at asesiadau neu ddarparu asesiadau datblygiadol annibynnol cyflenwol, i lywio lleoliadau a gofal. Mae hyn wedi canolbwyntio\u2019r sylw\u2019n benodol ar ddiffinio\u2019r math o fewnbwn therapiwtig a fyddai\u2019n briodol i gefnogi gofalwyr maeth, plant a lleoliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r r\u00f4l hon hefyd wedi datblygu llwybrau ac wedi cefnogi\u2019r gwaith o hwyluso mynediad effeithiol at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, gwasanaethau niwroddatblygiadol ac eraill i bobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Y nod yw hyrwyddo sefydlogrwydd lleoliadau ac atal lleoliadau rhag mynd ar chw\u00e2l. Mae ffocws clir ar ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddiant priodol sy\u2019n gallu cefnogi\u2019r plant, y bobl ifanc a\u2019u Gofalwyr Maeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llwybr hyfforddi wedi\u2019i nodi ar gyfer y deuddeg mis nesaf, gyda phob gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn y Gwasanaeth Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal wedi\u2019u cofrestru ar gyfer hyfforddiant yn seiliedig ar ddirnad meddyliau eraill. Mae\u2019r hyfforddiant hwn yn ddull newydd sy\u2019n benodol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal maeth, er mwyn ceisio cefnogi eu lles emosiynol yn fwy effeithiol. Ei nod yw hyrwyddo ansawdd perthnasau, cefnogi gofal maeth effeithiol a sensitif, a helpu gofalwyr i helpu\u2019r plentyn sydd yn eu gofal i ddeall a rheoli emosiynau\u2019n well. Mae\u2019r ffocws ar wella elfennau craidd ymlyniad diogel, yn cynnwys cydweithio, a gallu myfyriol rhiant (neu ofalwr). Mae\u2019r pwyslais ar helpu gweithwyr cymdeithasol i gefnogi gofalwyr maeth i ddirnad meddyliau\u2019r plant y maent yn gofalu amdanynt.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd gyda chyfyngiadau Covid-19, fodd bynnag, rydym wedi newid gymaint \u00e2 phosibl i ddulliau cefnogi dros y we. Rydym wedi ailgyflwyno cyfleoedd hyfforddi ac nid ydym wedi gadael i\u2019r cyfyngiadau oedi cynnydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Nodi cefnogwyr yn y gwasanaeth i weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol a gofalwyr maeth sy\u2019n gallu ymgymryd \u00e2 rolau arweiniol mewn hyfforddiant arbenigol megis:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li>Datblygu Systemau Synhwyraidd-weithredol Heb Ddatblygu Digon mewn plant sydd wedi profi trawma datblygiadol<\/li><li>Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar gyfer trin diffyg cwsg \u2013 y canllawiau a argymhellir gan NICE ar gyfer trin anhwylder cwsg<\/li><li>&nbsp;\u2018Cyfweliad Ystyr y Plentyn\u2019<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi recriwtio cymhorthydd seicoleg yn ddiweddar a fydd yn gwella\u2019r gwasanaeth y gallwn ei gynnig i gefnogi plant, pobl ifanc a gofalwyr maeth, yn ogystal \u00e2 hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a dysgu i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas Canolfannau Teuluoedd Conwy Mae\u2019r pum T\u00eem Cymorth i Deuluoedd wedi addasu i sicrhau bod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2701","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2701","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2701"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2701\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2701"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}