{"id":2664,"date":"2021-08-26T09:54:08","date_gmt":"2021-08-26T08:54:08","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2664"},"modified":"2021-08-26T09:54:11","modified_gmt":"2021-08-26T08:54:11","slug":"edrych-ymlaen-at-2021-22-a-thu-hwnt","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/edrych-ymlaen-at-2021-22-a-thu-hwnt\/","title":{"rendered":"Edrych ymlaen at 2021-22 a thu hwnt"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Addasu i fywyd ar \u00f4l Covid-19: Doethwaith 2020<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pandemig Covid-19 wedi newid y ffordd y mae llawer o staff gofal cymdeithasol yn gweithio, gyda\u2019r mwyafrif o staff a oedd yn arfer gweithio mewn swyddfeydd bellach yn gweithio gartref. Bydd Doethwaith 2020 yn canolbwyntio ar sut rydym ni\u2019n gweithredu nawr, a sut y bydd hyn yn newid wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yn y dyfodol. &nbsp;Y weledigaeth ar gyfer y prosiect yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Symud ymlaen i ddulliau gweithio newydd a mwy cynhyrchiol sy\u2019n creu cyfleoedd ac yn gwella canlyniadau ar gyfer pawb, gan ystyried yr angen i leihau lledaeniad y feirws.<\/li><li>Cydbwyso\u2019r weledigaeth uchod yn erbyn yr angen am adferiad cymdeithasol ac economaidd, tra\u2019n rheoli\u2019r risg.<\/li><li>Adeiladu ar y ffyrdd newydd o weithio a ddaeth yn amlwg yn ystod y cyfnod clo, a sicrhau bod y rhain yn parhau ar sail hirdymor.<\/li><li>Ceisio gwneud pethau\u2019n wahanol yn y dyfodol i gefnogi lleihau carbon, lles staff, darpariaeth gwasanaeth i\u2019r bobl rydym yn eu cefnogi ac ein heffeithlonrwydd fel adran (a sefydliad ehangach).<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Ym mis Gorffennaf 2020, gofynnwyd i staff sydd fel arfer yn gweithio mewn swyddfeydd gwblhau arolwg am yr effaith o weithio gartref ers mis Mawrth 2020. Datgelodd yr arolwg bod y mwyafrif o\u2019r staff eisiau parhau i weithio gartref, ond byddent yn hoffi dychwelyd i\u2019r swyddfa am ddiwrnod neu ddau&#8217;r wythnos pan mae\u2019n ddiogel i wneud hynny. \u00a0Cwblhawyd arolwg dilynol gan staff ym mis Mawrth 2021 i weld os yw eu safbwyntiau wedi newid, neu os ydynt yn dal i ffafrio ffordd gymysg o weithio. Rydym yn aros am ganlyniad yr arolwg hwnnw, fodd bynnag, rydym yn datblygu fframwaith ar gyfer ymgynghoriad pellach ar sut rydym am ddefnyddio gofod swyddfa pan fydd y pandemig wedi dod i ben a byddwn yn gallu dychwelyd i\u2019r swyddfa.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Coed-Pella-1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2665\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Coed-Pella-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Coed-Pella-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Coed-Pella-1-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Coed-Pella-1-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Coed-Pella-1.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption><em><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Coed Pella<\/span><\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Byddwn yn canolbwyntio ar les ein cydweithwyr a\u2019n partneriaid, sydd wedi bod yn gweithio dan amgylchiadau anodd a phwysau uchel am fisoedd. Rydym yn ymwybodol o effeithiau cronnol cydbwyso bywyd gwaith a chartref, oriau gwaith hirach, ymateb i argyfyngau\u2019n gyson ond eto\u2019n parhau i ddarparu gwasanaeth i safon uchel.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd sicrhau bod gan ein gweithwyr allweddol fynediad at frechlyn cyfredol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn 2021-22 er mwyn iddynt allu darparu gofal a chymorth yn ddiogel i unigolion diamddiffyn yng Nghonwy.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Newid ein modelau gofal<\/h2>\n\n\n\n<p>Fel y nodwyd drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi gorfod meddwl yn wahanol am ddarparu gofal a chymorth i unigolion drwy gydol y pandemig. Mae technoleg wedi cael ei defnyddio\u2019n fwy nag erioed o\u2019r blaen, yn lle cyswllt wyneb yn wyneb, ac rydym wedi defnyddio llai ar ein hadeiladau. Mae gwasanaethau dydd wedi\u2019u cyfyngu neu wedi dod i ben yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod hwn, ac mae wedi cael effaith fawr ar staff gofal cymdeithasol, ein partneriaid a\u2019r unigolion rydym yn eu cefnogi oherwydd bod rhaid newid popeth a oedd yn gyfarwydd i ni.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai canlyniadau cadarnhaol wedi deillio o hyn, gydag unigolion yn dewis gwneud y newidiadau\u2019n drefniant hirdymor, gan fod hyn yn gweddu\u2019n well iddynt. Mae pobl yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i deilwra gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion penodol, ar eu telerau eu hunain. Mae teuluoedd yn mwynhau defnyddio Zoom i gynnal cyfarfodydd neu grwpiau cefnogi yn eu cartrefi, heb angen trefnu gofal plant neu gludiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn sicr bydd unigolion sydd wedi\u2019i chael hi\u2019n anodd iawn yn ystod y cyfnod clo; gofalwyr \u00e2 sefyllfa gartref a waethygodd o ran dwyster a phwysau, pobl sydd wrth eu boddau\u2019n mynd i ganolfannau dydd i gyfarfod ffrindiau, plant sy\u2019n gweld eisiau eu harferion arferol. Byddwn yn parhau i weithio gyda\u2019r unigolion hyn i roi\u2019r gefnogaeth orau y gallwn iddynt o dan yr amgylchiadau, a phan fydd y cyfyngiadau\u2019n llacio, byddwn yn gallu edrych ar yr opsiynau i ail-gyflwyno cefnogaeth wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Dd\u00f4l<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd ar safle Meadow Lodge ym Mae Colwyn, a gafodd ganiat\u00e2d cynllunio ym mis Tachwedd 2020. Bydd hyn yn gwneud defnydd gwych o safle adfeiliedig, a bydd y brics, y concrid a\u2019r tarmac yn cael eu defnyddio i adeiladu\u2019r adeilad newydd, a bydd y deunyddiau eraill fel pren a llechi hefyd yn cael eu hadfer a\u2019u hailgylchu ar gyfer y Ganolfan Asesu Plant. Mae\u2019r prosiect yn gydbartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yn caniat\u00e1u i weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol gydweithio er mwyn asesu anghenion y plant, eu teuluoedd a\u2019u gofalwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni fwriedir iddo fod yn gartref parhaol i blant, ond mi fydd yn lleoliad y gellir gofalu am blant yn ddiogel, eu cefnogi a\u2019u goruchwylio gan d\u00eem preswyl, a lle mae plant a\u2019u rhieni \/ gofalwyr yn gallu cwrdd \u00e2 th\u00eem therapiwtig ar y safle.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cyfleuster yn cefnogi teuluoedd i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r anawsterau maent yn eu hwynebu a datblygu gwytnwch yr uned deuluol, fel na fyddant angen defnyddio gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"562\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bwthyn-y-Ddol-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2667\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bwthyn-y-Ddol-1.jpg 1000w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bwthyn-y-Ddol-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bwthyn-y-Ddol-1-768x432.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><figcaption><em><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Bwthyn y Ddol<\/span><\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Gweler isod sylw\u2019r Cyng. Cheryl Carlisle, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd am y cynlluniau:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Bydd ein cynlluniau am Ganolfan Asesu Plant ar y safle hwn yn dod \u00e2 chymorth a chefnogaeth broffesiynol i un lleoliad ac yn helpu i wella\u2019r canlyniadau i blant a\u2019u teuluoedd.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Byddwn yn darparu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yn adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Darpariaeth seibiant newydd cyffrous ar gyfer pobl anabl<\/h2>\n\n\n\n<p>Fel y soniwyd eisoes yn yr adroddiad, mae\u2019r gwaith ar ein canolfan seibiant newydd i bobl anabl yn mynd rhagddo ym Mron y Nant, Bae Colwyn. Datblygwyd y ganolfan mewn ymateb i\u2019r cynnydd yn nifer y bobl anabl \u00e2 gofalwyr sydd angen seibiant yn rheolaidd, bydd gan yr adeilad newydd ofod byw preifat i bawb sy\u2019n aros yno ac ardal gymunedol fawr ar gyfer cymdeithasu. Bydd ei lleoliad yn ei gwneud yn hygyrch i&#8217;r rhan fwyaf o bobl ei chyrraedd ac yn hawdd iddynt ddefnyddio\u2019r amwynderau a\u2019r gwasanaethau y maent eu hangen ac yn eu mwynhau yn yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"782\" height=\"273\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bron-y-Nant-Respite-Centre-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2669\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bron-y-Nant-Respite-Centre-1.png 782w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bron-y-Nant-Respite-Centre-1-300x105.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Bron-y-Nant-Respite-Centre-1-768x268.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 782px) 100vw, 782px\" \/><figcaption><em><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Darparwyd y cynlluniau gan Bensaerniaeth Dewis<\/span><\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mireinio ein system wybodaeth gofal cleientiaid<\/h2>\n\n\n\n<p>Nawr bod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn weithredol fel ein system wybodaeth gofal cleientiaid, byddwn yn canolbwyntio ar gynnwys y prosesau cofnodi newydd yn ein llwyth gwaith dyddiol. Byddwn yn parhau i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddwyr y system, yn cynnwys y rheiny sy\u2019n gweithio ochr yn ochr \u00e2 ni i sefydliadau partner. Byddwn hefyd yn datblygu ein deunyddiau a sesiynau hyfforddi ymhellach, i adlewyrchu anghenion ein gweithlu, gan geisio sicrhau bod pontio o\u2019n system flaenorol mor ddiffwdan a hawdd \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Gorffennaf 2021, bydd y system yn cael ei diweddaru felly byddwn yn cynorthwyo defnyddwyr \u00e2 newidiadau sylweddol i edrychiad a gweithrediad y system, yn cynnwys diweddaru ein deunyddiau hyfforddi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Addasu i fywyd ar \u00f4l Covid-19: Doethwaith 2020 Mae pandemig Covid-19 wedi newid y ffordd y mae llawer o staff gofal cymdeithasol yn gweithio, gyda\u2019r mwyafrif o staff a oedd yn arfer gweithio mewn swyddfeydd bellach yn gweithio gartref. Bydd Doethwaith 2020 yn canolbwyntio ar sut rydym ni\u2019n gweithredu nawr, a sut y bydd hyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2664","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2664","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2664"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2664\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2664"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}