{"id":2613,"date":"2021-08-17T15:12:47","date_gmt":"2021-08-17T14:12:47","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2613"},"modified":"2021-08-17T15:12:51","modified_gmt":"2021-08-17T14:12:51","slug":"safon-ansawdd-3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-3\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 3"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae\u2019r angen am ofal a chefnogaeth wedi\u2019i leihau ac atal y cynnydd o ran angen, tra\u2019n sicrhau bod y deilliannau gorau posibl yn cael eu cyflawni i bobl<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00edm Cryfhau Teuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Pwrpas y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd yw i weithio\u2019n ddwys gyda theuluoedd i gyflwyno newidiadau sy\u2019n galluogi teuluoedd i aros gyda\u2019i gilydd gartref, mewn amgylchedd teulu diogel a sefydlog, fel bod llai o blant angen derbyn gofal. Cyflawnir hyn drwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gryfhau systemau ymarfer lleol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc yn fwy effeithiol<\/li><li>Datblygu gwasanaethau sy\u2019n magu gwytnwch mewn teuluoedd<\/li><li>Galluogi gweithwyr cymdeithasol i reoli risg yn fwy hyderus, er mwyn i blant allu aros yn ddiogel yn y cartref<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ystod hanner cyntaf 2020-21, bu i\u2019r t\u00eem gefnogi 141 o blant o 55 teulu. Ceir atgyfeiriadau at y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd gan amrywiaeth o ffynonellau, fodd bynnag, ceir y mwyafrif gan dimau o fewn yr Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Chanolfannau Teuluoedd. Cafwyd 59 o atgyfeiriadau rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2020.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"642\" height=\"368\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Strengthening-Families-Pie-Chart-W.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2614\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Strengthening-Families-Pie-Chart-W.png 642w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Strengthening-Families-Pie-Chart-W-300x172.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 642px) 100vw, 642px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaethau Ffiniau Gofal ac ymyrraeth gynnar<\/h3>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd y gwasanaeth Ffiniau Gofal i ddod \u00e2 gweithwyr proffesiynol o ystod eang o dimau ynghyd. Mae\u2019r cyfarfodydd Ffiniau Gofal bellach wedi\u2019u sefydlu\u2019n llawn mewn ymarfer ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn wythnosol. Mae ymrwymiad rheolaidd gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Canolfannau Teuluoedd, Gwasanaethau Ieuenctid, y T\u00eem Ymyriadau Teuluol, y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd, a lle bo\u2019n briodol, Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, KITE, Tai a Heddlu Gogledd Cymru. Mae\u2019r dull amlddisgyblaethol wedi hwyluso cydweithio gwell rhwng timau a sefydliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Oherwydd y cynnydd a welwyd yn y galw am wasanaethau gofal a reolir dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal \u00e2\u2019r cyfarfodydd Ffiniau Gofal, mae Paneli Ymgynghori Amlasiantaeth Ymyrraeth Gynnar hefyd yn cael eu cynnal bob mis. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw canolbwyntio ar sut i gefnogi teuluoedd sydd ar ffin gwasanaethau gofal a reolir. Gall yr ymyriadau hyn gynnwys atgyfeiriadau at y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd, neu\u2019r T\u00eem Ymyriadau Teuluol, a gweithio gyda Chanolfannau Teuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2020, cafodd 26 o achosion eu hatal rhag symud i wasanaethau \u2018gofal a reolir\u2019 a chawsant eu cefnogi gan Ganolfannau Teuluoedd a gwasanaethau lles cynhwysol i aros gartref. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darparu cyfleusterau seibiant i deuluoedd sy\u2019n ei chael yn anodd<\/h3>\n\n\n\n<p>Llys Gogarth yw\u2019r gwasanaeth preswyl cyfunol i blant ag anableddau. Darperir y gwasanaeth hwn i bob plentyn dros 7 mlwydd oed sy\u2019n mynd i Ysgol Gogarth fel rhan o\u2019r cynnig allgyrsiol ac i blant a\u2019u teuluoedd sy\u2019n gymwys am seibiant i gyflawni eu canlyniadau lles o dan y Ddeddf. Ers mis Mawrth mae\u2019r gwasanaeth wedi bod ar gau i blant sy\u2019n defnyddio\u2019r ddarpariaeth fel rhan o\u2019r cynnig allgyrsiol. Mae wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod i blant gydag anghenion cymhleth a\u2019u teuluoedd. I ddechrau, darparwyd hyn i un plentyn y noson ac yn ystod yr wythnos yn unig, gan roi blaenoriaeth i\u2019r unigolion hynny gyda\u2019r anghenion mwyaf cymhleth. Wrth i hyder o ran rheoli\u2019r risg ddatblygu\u2019n rhan o\u2019r ymarfer, mae\u2019r gwasanaeth wedi dychwelyd i lefelau arferol h.y. gwasanaeth 7 niwrnod i dri o blant. Mae hwn wedi bod yn wasanaeth amhrisiadwy i\u2019r teuluoedd hyn. Yn ogystal, mae Llys Gogarth wedi parhau i gynnig lleoliadau brys i blant ag anableddau sydd ar ffin y system ofal neu sy&#8217;n Derbyn Gofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gweithio\u2019n wythnosol gyda\u2019n cydweithwyr addysg i adnabod y plant mwyaf diamddiffyn a sicrhau eu bod yn cael cynnig mynediad rheolaidd at ddarpariaeth ysgol. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gofal Cartref Pobl H\u0177n: Adolygiad Ariannu a Chomisiynu<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn yr adroddiad y llynedd dywedom wrthych am Brosiect Trawsnewid Pobl H\u0177n a\u2019r ffrydiau gwaith amrywiol yn y cwmpas. Roedd rhan o hyn yn cynnwys edrych ar sut rydym yn comisiynu gwasanaethau, gyda\u2019r nod o ganolbwyntio ar ganlyniadau a gytunwyd i unigolion.<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarparu rhywfaint o gyd-destun, mae\u2019r weledigaeth ehangach ar gyfer Gwasanaethau Pobl H\u0177n yn anelu i gefnogi\u2019r weledigaeth mewn <em>Cymru Iachach.<\/em> Rydyn ni\u2019n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i bobl h\u0177n sy&#8217;n bersonol ac yn ymatebol, ac mae sicrhau\u2019r canlynol yn allweddol i ddarparu\u2019r math hwn o wasanaeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pobl h\u0177n yn byw mewn lle o\u2019u dewis nhw<\/li><li>Gofalwyr yng Nghonwy\u2019n teimlo o werth ac yn cael eu cefnogi<\/li><li>Pobl h\u0177n sydd \u00e2 dementia\u2019n cael eu cefnogi i fyw\u2019n dda<\/li><li>Pobl h\u0177n \u00e2 dull cydweithredol sydd wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda i ddiwallu eu hanghenion<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn rhan o\u2019r weledigaeth hon, cytunwyd y dylai prosiect gael ei sefydlu i adolygu\u2019r model comisiynu ac ariannu Gofal Cartref presennol o fewn y gwasanaeth, gyda\u2019r nod o gomisiynu trwy ganlyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio\u2019n benodol ar adolygu proses gomisiynu ac ariannu gofal cartref o fewn gwasanaethau Pobl H\u0177n o\u2019r dechrau i\u2019r diwedd, i sicrhau ei fod yn symlach, yn fwy effeithlon, a bod y gofal yn cael ei gomisiynu trwy&#8217;r canlyniadau gofynnol yn hytrach nag amser a thasgau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd adolygiad llawn o\u2019r prosesau presennol yn y meysydd gwasanaeth canlynol yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod model newydd i gomisiynu darpariaeth gofal cartref Pobl H\u0177n yn cael ei gyflwyno\u2019n llwyddiannus:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Maes Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pobl H\u0177n ac Ysbytai<\/li><li>Cyllid Gofal Cymdeithasol<\/li><li>Maes Gwasanaeth Safonau Ansawdd a Chomisiynu<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Buddion y Prosiect<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Galluogi\u2019r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pobl H\u0177n ac Ysbytai i reoli galw cynyddol gyda llai o angen am gyllideb gynyddol<\/li><li>Gwell prosesau ariannol a chodi t\u00e2l<\/li><li>Galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnodau hirach<\/li><li>Gwell gwasanaeth a chanlyniadau i unigolion sy\u2019n derbyn gofal a chymorth gennym ni<\/li><li>Parhau \u00e2\u2019r ethos \u2018ail-alluogi\u2019 pan mae pecynnau gofal yn cael eu darparu gan ddarparwyr allanol yn hytrach na thimau mewnol<\/li><li>Mwy o gymorth i ofalwyr pobl h\u0177n<\/li><li>Galluogi gadael yr ysbyty\u2019n amserol a diogel<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Cynnydd Hyd Yma<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae t\u00eem prosiect mewnol wedi cael ei sefydlu i ddechrau edrych ar y trefniadau comisiynu presennol yn y Gwasanaethau Pobl H\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Achos Busnes wedi cael ei ddatblygu yn amlinellu\u2019r achos am newid ac wedi\u2019i gytuno gan y Bwrdd Prosiect a Rhaglen Integreiddio Gofal Cymdeithasol ac Addysg ym mis Rhagfyr 2020.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae arfarniad dewisiadau llawn o fodelau comisiynu posibl ar gyfer y dyfodol nawr yn mynd rhagddo, yn cynnwys gwerthusiad peilot ar ganlyniadau yn y T\u00eem Adnoddau Cymunedol Plas Menai yn Llanfairfechan.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Y Camau Nesaf<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Bydd cyfle i ddarparwyr ddod i ddigwyddiad cwrdd \u00e2&#8217;r prynwr fydd yn cael ei drefnu yn y gwanwyn yn 2021 i drafod cynigion yn fwy manwl.<\/li><li>Bydd yr hyn sy\u2019n deillio o\u2019r gwerthusiad peilot ar ganlyniadau\u2019n cael ei rannu er mwyn llywio ein cynigion ymhellach.<\/li><li>Parhau i ymgynghori ac ymgysylltu gyda Darparwyr, Ymarferwyr ac Unigolion sy\u2019n derbyn Gwasanaethau Gofal Cartref.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Rydym eisiau eich sicrhau y bydd y gwasanaethau\u2019n parhau i gael eu comisiynu pa bynnag fodel rydym yn ei weithredu<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"727\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Calculating-the-Accounts-1-1024x727.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2617\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Calculating-the-Accounts-1-1024x727.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Calculating-the-Accounts-1-300x213.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Calculating-the-Accounts-1-768x545.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Calculating-the-Accounts-1-1536x1090.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Calculating-the-Accounts-1.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwneud y mwyaf o Grant Dydd G\u0175yl Dewi<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gronfa hon ar gael i bobl ifanc cymwys rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd naill ai yng ngofal yr awdurdod lleol neu sy\u2019n gadael gofal er mwyn eu helpu i symud tuag at fod yn annibynnol. Eleni, fe wnaethom anfon arolwg i bobl ifanc yn ein gofal, yn gofyn sut yr hoffent wario\u2019r grant. Fe ofynnon nhw bod panel yn cael ei sefydlu i graffu ceisiadau a gyflwynir am y grant, ac o ganlyniad, mae panel wythnosol wedi cael ei greu. Mae\u2019n cynnwys un person ifanc, y rheolwr prosiect a\u2019r rheolwr t\u00eem; mae sawl person ifanc yn cymryd rhan ar sail rota.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bobl ifanc ar y panel wedi rhoi cipolwg ar y prosesau meddwl y tu \u00f4l i geisiadau ac wedi ein cefnogi ni i ddeall ceisiadau o\u2019u safbwynt nhw.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Bu i Covid-19 brofi\u2019n her ddiddorol wrth benderfynu sut y byddai\u2019r panel yn cael ei sefydlu. Ar y dechrau, roeddem wedi rhagweld y byddai pobl ifanc yn mynychu wyneb yn wyneb, fodd bynnag, cyfranogiad digidol oedd yr unig ffordd i symud ymlaen oherwydd y cyfyngiadau cymdeithasol. &nbsp;Mae hyn wedi bod o fantais oherwydd bod pobl yn gallu mynychu, waeth lle maent yn y wlad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth wnaeth ein synnu?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>O bosib y syndod mwyaf oedd y lefel o graffu yr oedd pobl ifanc yn ei defnyddio wrth edrych ar geisiadau. Mae enghraifft o hyn mewn perthynas \u00e2 cheisiadau am werslyfrau; yn y gorffennol rydym wedi awdurdodi prynu gwerslyfrau\u2019n ddi-gwestiwn, fodd bynnag bydd y bobl ifanc yn cymeradwyo gydag argymhellion ychwanegol e.e. i fynd i\u2019r llyfrgell, chwilio am lyfrau ail law, ble i chwilio amdanynt ac ati. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac mae\u2019n sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gorau allan o\u2019u hawl Grant Dydd G\u0175yl Dewi.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Fel panel, hoffem i hyn barhau. Mae wedi bod yn broses graff iawn ac mae wedi dilysu\u2019r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas \u00e2\u2019r grant. Caiff y lefel hon o gyd-gynhyrchiad ei hategu gan gyfranogiad, fel y\u2019i diffiniwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llety hyblyg i fyfyrwyr prifysgol a phobl ifanc sy\u2019n nes\u00e1u at fod yn annibynnol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2019 daeth yn amlwg bod diffyg llety i fyfyrwyr prifysgol fyw ynddo yn ystod y gwyliau, yn ogystal \u00e2 diffyg llety seibiant ar gyfer lleoliadau \u2018Pan fydda i\u2019n Barod\u2019. Gall hyn weithiau arwain at ddefnydd amhriodol o westai gwely a brecwast.<\/p>\n\n\n\n<p>Edrychom ar adnoddau o bob rhan o Ewrop, ac yn arbennig yr elfen gynaliadwy o lety uned sengl. Cysylltom \u00e2 chymdeithasau tai a llwyddom i gysylltu gyda Chartrefi Conwy i fod yn rhan o\u2019u cynllun Passivhaus; mae hyn yn cynnwys wyth o unedau llety i bobl sengl. Mae T\u00eem yr Ymgynghorydd Personol wedi treialu un uned, yn defnyddio Cronfa Dydd G\u0175yl Dewi i brydlesu uned (pod) un ystafell wely ddiogel i bobl gydag anghenion isel sydd ei hangen fel man sefydlog neu ar gyfer seibiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyffrous iawn, mae hwn yn brosiect hynod gynaliadwy gyda gwres yn dod o wres y corff wedi\u2019i ailgylchu yn yr uned. Cafodd yr uned ei hadeiladu gan <a href=\"https:\/\/www.creatingenterprise.org.uk\/cy\/hafan\/\">Creu Menter<\/a>, cangen o Gartrefi Conwy a sefydlwyd fel menter gymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai lluniau o\u2019r pod:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"739\" height=\"554\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-1-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2620\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-1-1.jpg 739w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-1-1-300x225.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 739px) 100vw, 739px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-2-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2622\" width=\"737\" height=\"552\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-2-1.jpg 670w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-2-1-300x225.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 737px) 100vw, 737px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-3-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2624\" width=\"733\" height=\"550\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-3-1.jpg 584w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/YP-Pod-3-1-300x225.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 733px) 100vw, 733px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Unwaith eto, mae pandemig Covid-19 wedi arwain at oedi, sydd wedi effeithio ar y defnydd rydym wedi gallu ei wneud o\u2019r pod. Fodd bynnag, cafodd yr allweddi eu trosglwyddo ar ddechrau mis Chwefror ac mae\u2019r gwaith dodrefnu wedi dechrau yn barod ar gyfer gwyliau\u2019r Pasg.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Grant Dydd G\u0175yl Dewi wedi cael ei ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn nesaf a hon fydd ein blwyddyn lawn gyntaf o redeg y pod. Rydym yn rhagweld y bydd arbedion ariannol, ochr yn ochr \u00e2 chynnig lleoliad diogel i bobl ifanc.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r angen am ofal a chefnogaeth wedi\u2019i leihau ac atal y cynnydd o ran angen, tra\u2019n sicrhau bod y deilliannau gorau posibl yn cael eu cyflawni i bobl T\u00edm Cryfhau Teuluoedd Pwrpas y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd yw i weithio\u2019n ddwys gyda theuluoedd i gyflwyno newidiadau sy\u2019n galluogi teuluoedd i aros gyda\u2019i gilydd gartref, mewn amgylchedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2613","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2613","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2613"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2613\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2613"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}