{"id":2576,"date":"2021-08-17T15:11:37","date_gmt":"2021-08-17T14:11:37","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2576"},"modified":"2021-08-17T15:11:39","modified_gmt":"2021-08-17T14:11:39","slug":"safon-ansawdd-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-2\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 2"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys ac sy\u2019n derbyn cefnogaeth yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir<\/h3>\n\n\n\n<p>Drwy gydol pandemig Covid-19 rydym wedi parhau i gynnal ein safonau uchel o ran darpariaeth gwasanaeth, er iddo gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Mae pob agwedd o ddarpariaeth gwasanaeth wedi parhau, yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ffrydiau gwaith Datblygu Gwasanaethau Plant<\/li><li>Ymchwiliadau diogelu<\/li><li>Cyswllt teulu i blant a rhieni sy\u2019n wynebu achosion cyfreithiol<\/li><li>Asesiadau maethu<\/li><li>Cynlluniau pontio mabwysiadu<\/li><li>Cefnogaeth i unigolion sy\u2019n gadael gofal<\/li><li>Asesiadau oedolion<\/li><li>Asesiadau iechyd meddwl<\/li><li>Adolygiadau Amddiffyn Plant a Phlant sy&#8217;n Derbyn Gofal<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Wrth gwrs roedd elfen ychwanegol o gadw at ganllawiau Covid-19, asesiad risg deinamig o haint Covid-19 a rheoli diogelwch defnyddwyr gwasanaeth a staff, yn ogystal ag addasu ymarfer i wneud y defnydd gorau o dechnoleg.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi datblygu a gweithredu cynlluniau wrth gefn ac ymateb Covid-19 i gefnogi\u2019r gwaith rydym yn ei wneud yn ystod y cyfnodau anodd hyn ac wrth i\u2019r cyfyngiadau gael eu llacio. Aethom ati i ddatblygu cynlluniau adnewyddu \/ ymateb yn unol \u00e2 chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Mae\u2019r cynlluniau hyn yn amlinellu beth fydd blaenoriaethau gwasanaethau wrth i ni fynd drwy\u2019r haenau, yn cynnwys dibyniaethau a goblygiadau o ran adnoddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i ni fynd o un cam adnewyddu \/ ymateb i\u2019r llall, mae\u2019r gwasanaeth yn parhau i fonitro ac ymateb i anghenion oedolion, teuluoedd a\u2019u gofalwyr. Rydym yn gofyn am adborth rheolaidd gan staff yngl\u0177n \u00e2 sut mae\u2019r cynlluniau yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac unrhyw broblemau. Mae\u2019r Uwch D\u00eem Rheoli Gofal Cymdeithasol yn cynnal goruchwyliaeth ar y cynlluniau hyn ac yn cymeradwyo unrhyw newidiadau lle bo angen (yn cynnwys mewnbwn gan Iechyd a Diogelwch Corfforaethol).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gr\u0175p Adnewyddu Gofal Cymdeithasol yn parhau i gyfarfod yn wythnosol i rannu arferion da a chodi ymholiadau \/ materion gweithredol i\u2019w huwchgyfeirio i\u2019r T\u00eem Rheoli Gofal Cymdeithasol a\u2019r Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol lle bo\u2019n briodol. Rydym yn parhau i chwarae rhan fawr yn y Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol i sicrhau bod cysylltiadau rhwng y gwasanaeth a\u2019r Cyngor ehangach yn cael eu rheoli a bod gwybodaeth allweddol yn cael ei rhannu gyda\u2019r gwasanaeth pan fydd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ein hymateb i Covid-19: Cyfarpar Diogelu Personol<\/h2>\n\n\n\n<p>Daeth yn amlwg ar ddechrau pandemig Covid-19 y byddai angen i ni roi trefniadau ar waith i sicrhau bod nifer fawr o Gyfarpar Diogelu Personol ar gael i\u2019n darparwyr gofal cymdeithasol ac ysgolion. Ar ddiwedd mis Chwefror, sefydlwyd a gweithredwyd llinell ff\u00f4n ac e-bost penodol gan weithwyr a adleoliwyd o swyddi eraill o fewn CBSC. Roeddent yn brysbennu\u2019r holl geisiadau am Gyfarpar Diogelu Personol ar sail achosion unigol ac yn trefnu i\u2019w danfon fel rhan o wasanaeth 24 awr.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar y dechrau, roedd cyflenwadau o Gyfarpar Diogelu Personol yn isel ac roedd danfoniadau drwy\u2019r gadwyn gyflenwi genedlaethol yn anrhagweladwy, felly roedd angen trefnu cynlluniau wrth gefn a rhoi systemau rheoli stoc ar waith. Wrth i nifer yr achosion o\u2019r feirws gynyddu, gwnaed newidiadau allweddol i reoliadau, ac yn ystod penwythnos y Pasg 2020 cynhaliwyd ymarfer i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i bob darparwr yn y sir. Roedd hyn yn cyd-fynd ag archwiliad a gynhaliwyd gan y Fyddin a oedd yn hynod gadarnhaol am y dull yr oedd gennym ar waith.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l adolygu ein harferion gwaith, gwnaethom newid y dull hwnnw er mwyn ymateb i\u2019r sefyllfa a oedd yn datblygu\u2019n barhaus, gan newid i brosesau archebu a cheisiadau wythnosol, sicrhau bod anghenion ein cleientiaid Taliadau Uniongyrchol yn cael eu diwallu, a chynnwys cydweithwyr o\u2019n gwasanaeth cartref mewnol i oruchwylio a chynorthwyo \u00e2\u2019r broses ddosbarthu.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ein gweithrediadau wedi datblygu ymhellach erbyn yr haf 2020:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cafodd r\u00f4l dros dro ein swyddog Cyfarpar Diogelu Personol ei chreu\u2019n ffurfiol<\/li><li>Gwelodd ein llinell gyngor \/ ymholiadau ostyngiad o ran galw a chafodd ei throsglwyddo i\u2019n t\u00eem Un Pwynt Mynediad ar gyfer y cyhoedd<\/li><li>Cynhaliwyd ail archwiliad gan y Fyddin a oedd, unwaith eto, yn gadarnhaol iawn am ein rheolyddion ac arferion gwaith<\/li><li>Symudwyd gweithrediadau i Barc Masnach Mochdre ym mis Awst<\/li><li>Estynnwyd ein cwmpas o ran cyflenwi a dosbarthu i gynorthwyo ag ailagor ysgolion a lleoliadau gofal plant<\/li><li>Wrth i ganolfannau hamdden ailagor, bu i yrwyr gofal cymdeithasol gymryd lle gyrwyr Gwasanaethau Hamdden<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Erbyn diwedd 2020, roeddem yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Bob darparwr gofal cymdeithasol, yn cynnwys cartref, preswyl a nyrsio, byw \u00e2 chymorth a chynlluniau Tai Gofal Ychwanegol (mewnol ac allanol)<\/li><li>Gofalwyr a chleientiaid Taliadau Uniongyrchol<\/li><li>Pob t\u00eem gofal cymdeithasol, p\u2019un ai ydynt yn darparu gofal uniongyrchol neu anuniongyrchol<\/li><li>Holl wasanaethau ysgolion ac ysgolion arbennig, yn cynnwys gwasanaethau cerdd a gweithgareddau awyr agored<\/li><li>Pob gofalwr plant a phob darpariaeth gofal dydd, yn cynnwys ar \u00f4l ysgol<\/li><li>Unrhyw un arall mewn angen! Mae cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ddarparu i gofrestrwyr ar gyfer priodasau ar wely angau, i gydweithwyr Iechyd a Diogelwch, ac rydym wedi cefnogi mentrau eraill megis dosbarthu a chasglu iPads.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Roeddem hefyd yn dosbarthu Profion Llif Unffordd i dimau gofal cartref.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"451\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Llanrwst-Bridge-Scene-2-1024x451.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2577\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Llanrwst-Bridge-Scene-2-1024x451.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Llanrwst-Bridge-Scene-2-300x132.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Llanrwst-Bridge-Scene-2-768x338.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Llanrwst-Bridge-Scene-2.png 1526w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Wrth i ni fynd i mewn i\u2019r flwyddyn newydd roedd angen datblygu ymhellach, sy\u2019n golygu bod cydweithwyr o feysydd gwasanaeth eraill wedi ymuno \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae ein Gwasanaeth Safonau Ansawdd wedi dod \u00e2 chefnogaeth ychwanegol i mewn i reoli\u2019r broses archebu.&nbsp;<\/li><li>Mae cefnogaeth ychwanegol ar gyfer pacio a dosbarthu gan gydweithiwr sydd fel arfer yn gweithio yn Theatr Colwyn.<\/li><li>Mae aelod newydd o\u2019r Gwasanaeth Addysg wedi ymuno \u00e2\u2019r t\u00eem i oruchwylio ac esmwytho\u2019r broses, gan ddarparu trefniadau rheoli risg i ysgolion.<\/li><li>Rydym nawr yn rheoli stoc y pecynnau profi ac yn eu dosbarthu.<\/li><li>Rydym yn parhau i gefnogi dosbarthiad \/ casgliad iPads i \/ o gartrefi gofal ochr yn ochr \u00e2\u2019n t\u00eem comisiynu. Mae hyn wedi helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad \u00e2\u2019u teuluoedd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Hyd yma, rydym wedi dosbarthu 1.7 miliwn p\u00e2r o fenyg, 1.6 miliwn o fygydau, 1.6 miliwn o ffedogau, 29,000 p\u00e2r o gogls ailddefnyddiadwy a 17,000 o fisorau.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Trwy ein dull hyblyg, byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ar ffurf Cyfarpar Diogelu Personol wrth i bandemig Covid-19 ddatblygu, gan ymateb i angen yn \u00f4l y gofyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sefydlu ein Canolbwynt Staffio<\/h2>\n\n\n\n<p>Roedd yn amlwg o ddifrifoldeb cynyddol y pandemig y byddai\u2019n rhaid i ni roi mesurau ychwanegol ar waith i gasglu data yngl\u0177n ag absenoldeb staff, sicrhau bod gennym ddigon o staff cyflenwi i ddarparu gwasanaethau rheng flaen a chynyddu gwytnwch os byddai achos o\u2019r coronafeirws yn codi.<\/p>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd Canolbwynt Staffio, yn cynnwys cydweithwyr o dimau Cymorth i Fusnesau amrywiol i fonitro gweithgarwch, gwneud adroddiadau a darparu cymorth i reolwyr i gofnodi data cywir. Rhoddwyd i\u2019r canolbwynt tasgau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rheoli\u2019r broses adleoli er mwyn caniat\u00e1u i staff Conwy drosglwyddo dros dro o un adran i adran arall i ddarparu cymorth. Roedd hyn yn cynnwys derbyn ceisiadau adleoli gan wasanaethau a pharu a chefnogi staff yn briodol drwy\u2019r broses.<\/li><li>Rheoli\u2019r broses o gofnodi absenoldebau.<\/li><li>Derbyn, monitro, dadansoddi a gweithredu ar wybodaeth a data gweithlu dyddiol.<\/li><li>Ymateb i bryderon y gweithlu sy\u2019n codi o\u2019r sector gofal cymdeithasol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Drwy gyfranogiad y canolbwynt, roeddem yn gallu sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol drwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau cywirdeb o ran cofnodi pryd oedd cydweithwyr yn dechrau cyfnodau o hunan-ynysu ac yna dychwelyd i\u2019r gwaith.<\/li><li>Annog rheolwyr i gynnal gwiriadau lles cyn i\u2019w stad ddychwelyd i\u2019r gwaith.<\/li><li>Gallu adrodd yn gywir ar nifer y staff oedd ar gael ar unrhyw ddiwrnod.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Sicrhau bod staff yn hollol barod ac wedi\u2019u cefnogi wrth adleoli, yn enwedig os nad oeddent yn cyflawni r\u00f4l ym maes gofal cymdeithasol. Bu i ni liniaru hyn drwy ddarparu adnoddau hyfforddi ar-lein er mwyn i staff ar y rhestr adleoli allu ymgyfarwyddo \u00e2 beth allai fod yn ofynnol ohonynt, pe baent yn cael eu rhoi mewn r\u00f4l gofal yn y cartref neu gartref gofal ar fyr rybudd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Oherwydd llwyddiant y canolbwynt o ran cywirdeb data, cynigir canoli\u2019r gwaith o fewnbynnu a monitro absenoldeb ar sail barhaol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"411\" height=\"276\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Woman-at-Desk-With-Arm-Raised-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2579\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Woman-at-Desk-With-Arm-Raised-1.png 411w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Woman-at-Desk-With-Arm-Raised-1-300x200.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 411px) 100vw, 411px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Llunio cynllun dysgu a chymorth i staff a adleoliwyd<\/h2>\n\n\n\n<p>Datblygwyd y Cynllun Dysgu Craidd ar gyfer staff mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi adleoliad staff i feysydd gwasanaeth hanfodol. Rhoddwyd y modiwlau dysgu canlynol ynghyd fel ymateb gofynnol i effaith Covid-19 ar y gweithlu. Roedd y modiwlau ar gael ar-lein oherwydd bod hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi cael ei atal. Y meysydd pwnc allweddol oedd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gofal: Yr Hanfodion<\/li><li>Cymorth Cyntaf Sylfaenol<\/li><li>Hylendid Bwyd<\/li><li>Rheoli Haint<\/li><li>Diogelu<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pecyn hyfforddiant craidd yn cymryd oddeutu pedair i bump awr i\u2019w gwblhau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ychwanegol at y modiwlau dysgu, gwnaethom ddarparu sesiynau briffio ar-lein i staff i\u2019w paratoi ar gyfer adleoli; roedd y sesiynau\u2019n canolbwyntio ar:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Beth allai staff ei wynebu mewn lleoliadau gofal<\/li><li>Sut i ddelio \u00e2 sefyllfaoedd amrywiol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd yn rhaid i ni sicrhau bod staff yn gymwys i fynd i sefyllfa waith lle\u2019r oedd Covid-19 yn bresennol. Roedd hefyd yn heriol i symud o ddibyniaeth ar hyfforddiant wyneb yn wyneb i ddysgu dros y we.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r gwaith hwn, mae ein rhaglen ddysgu ar gyfer 2021-22 yn rhaglen gymysg yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Iechyd a diogelwch hanfodol a gyflwynir wyneb yn wyneb<\/li><li>E-Ddysgu<\/li><li>Rhith-ddysgu<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Arweiniodd y dull cymysg hwn at wneud ein rhaglen ddysgu yn fwy hygyrch i weithwyr o ardaloedd daearyddol gwahanol. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Defnyddio staff banc i gefnogi ein cartrefi preswyl<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pandemig wedi creu prinder annisgwyl o weithwyr gofal mewn cartrefi gofal ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd cydnabod y risg sylweddol hon yn golygu ein bod yn gallu lliniaru yn erbyn amhariad difrifol i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal.<\/p>\n\n\n\n<p>O dan drefn lywodraethol Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru, cytunodd yr awdurdodau lleol a BIPBC, drwy <em>femorandwm o ddealltwriaeth, <\/em>i ddefnyddio staff banc BIPBC ar sail beripatetig i gefnogi gwytnwch cartrefi gofal. Dim ond mewn achos o risg uchel o fethiant cartref gofal i barhau i ddarparu gofal oherwydd amgylchiadau\u2019n ymwneud \u00e2 Covid-19, y byddai\u2019r gweithlu hwn yn cael ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan gyrhaeddodd nifer yr achosion Covid-19 uchafbwynt yng Ngogledd Cymru yn y cyfnod rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr, daeth cynaliadwyedd gweithlu\u2019r cartref gofal yn risg sylweddol i awdurdodau lleol y rhanbarth a BIPBC. &nbsp;Roedd y trefniadau ffurfiol hyn o gymorth i osgoi methiant posibl cartrefi gofal, a fyddai wedi gallu arwain at orfod symud preswylwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gweithredodd Conwy fel awdurdod lleol arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru wrth weithio gyda BIPBC i sefydlu\u2019r trefniadau hyn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth ystyried dewisiadau i ddarparu staff banc o BIPBC i gartrefi gofal, nodwyd nifer o faterion allweddol i\u2019w datrys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cytuno ar delerau ac amodau eglur a thryloyw i unrhyw weithiwr banc BIPBC gadw atynt wrth weithio mewn cartref gofal<\/li><li>Gwiriadau cyflogaeth diogel ar gyfer gweithlu\u2019r banc, i\u2019r un safon ag unrhyw weithiwr arferol<\/li><li>Trefniadau llywodraeth staff sy\u2019n cael eu lleoli mewn cartrefi gofal<\/li><li>Sicrhau bod staff banc wedi\u2019u paratoi ar gyfer gweithio mewn lleoliad gofal<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Aethpwyd i\u2019r afael \u00e2\u2019r datrysiadau i\u2019r heriau hyn yn y Memorandwm o Ddealltwriaeth ar y cyd ac atodiadau ategol, a chawsant eu cymeradwyo gan y budd-ddeiliaid canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Arweinwyr Cronfa Risg Cymru<\/li><li>Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pob awdurdod yng Ngogledd Cymru &nbsp;<\/li><li>BIPBC<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith hwn wedi amlygu beth all gael ei gyflawni drwy gymorth cydfuddiannol a chydweithio. Mae cyflenwad gweithlu i ofal cymdeithasol ac iechyd yn fater parhaus. Y camau nesaf i\u2019w harchwilio yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Datblygu cyd-fanc staff iechyd a gofal cymdeithasol<\/li><li>Cyd-raglenni cyflwyno, dysgu a datblygu ar gyfer staff banc<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Prosiect Adnewyddu Gwasanaeth<\/h2>\n\n\n\n<p>Ers dechrau\u2019r pandemig ym mis Mawrth 2020, mae staff gofal cymdeithasol Conwy wedi bod yn gweithio saith diwrnod yr wythnos i sicrhau ein bod wedi ymateb yn briodol i\u2019r heriau amrywiol sydd wedi codi. Mae proses lywodraethu gadarn wedi bod ar waith i sicrhau bod Conwy wedi cael llais mewn fforymau rhanbarthol, a galwadau dyddiol gyda\u2019r adran Iechyd a chydweithwyr partneriaeth eraill i sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu ar bob lefel o ddatblygiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r holl brosesau gweithredol wedi cael eu datblygu\u2019n defnyddio asesiadau risg, ac mae perthynas waith agos gyda\u2019r adran Iechyd a Diogelwch corfforaethol i sicrhau ein bod wedi ystyried pob agwedd bosibl. Mae cyfarfodydd t\u00eem dros y we wedi cael eu cynnal yn amlach (wythnosol) i gefnogi lles busnesau ac ymarferwyr. Ni ddaeth gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i ben yng Nghonwy o ganlyniad i COVID-19, ac mae Conwy\u2019n falch iawn o hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gr\u0175p Adnewyddu Gofal Cymdeithasol wedi cael ei sefydlu i adolygu\u2019r swyddogaethau \/ gweithgareddau allweddol o fewn Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Theuluoedd). Fel rhan o hyn, mae dadansoddiad gweithlu cyfan wedi cael ei gynnal i gadarnhau pa wasanaethau sydd wedi parhau i gael eu darparu neu ba rai sydd wedi dod i ben, a sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r dadansoddiad hwn rydym wedi llwyddo i nodi sut mae gwasanaethau wedi gallu parhau i gyflawni rhai swyddogaethau a herio os gellid cynnwys arferion gwaith newydd fel rhan o waith arferol.<br>Rydym wedi bod wrthi\u2019n gweithio ar ddatblygu cynlluniau adnewyddu yn unol \u00e2 llwybr goleuadau traffig Llywodraeth Cymru. Mae\u2019r cynlluniau hyn yn amlinellu beth fydd blaenoriaethau gwasanaethau wrth i ni symud ar hyd y llwybr goleuadau traffig, yn cynnwys dibyniaethau a goblygiadau o ran adnoddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i ni fynd o un cam adnewyddu i\u2019r llall, mae\u2019r gwasanaeth yn parhau i fonitro ac ymateb i anghenion yr oedolion, teuluoedd a\u2019u gofalwyr. Rydym yn gofyn am adborth rheolaidd gan staff yngl\u0177n \u00e2 sut mae\u2019r cynlluniau yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac unrhyw broblemau sy\u2019n codi. Mae\u2019r Uwch D\u00eem Rheoli Gofal Cymdeithasol yn cynnal goruchwyliaeth ar y cynlluniau hyn ac yn cymeradwyo unrhyw newidiadau lle bo angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gr\u0175p Adnewyddu Gofal Cymdeithasol yn parhau i gyfarfod yn wythnosol i rannu arferion da a chodi ymholiadau \/ materion gweithredol i\u2019w huwchgyfeirio i\u2019r T\u00eem Rheoli Gofal Cymdeithasol a\u2019r Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol lle bo\u2019n briodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gofal cymdeithasol Conwy yn parhau i chwarae rhan fawr yn y Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol i sicrhau bod cysylltiadau rhwng y gwasanaeth a\u2019r Cyngor ehangach yn cael eu rheoli a bod gwybodaeth allweddol yn cael ei rhannu gyda\u2019r gwasanaeth pan fydd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Adborth ar ein gwasanaethau cartrefi gofal a chartref mewnol<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar ddechrau 2020,&nbsp; fe wnaethom anfon cyfres o holiaduron i staff ac i\u2019r timau sy\u2019n gweithio ochr yn ochr \u00e2 ni o\u2019r adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gweler cipolwg o\u2019r canlyniadau isod.<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnom i staff sy\u2019n gweithio yng nghartref preswyl EMI Llys Elian roi eu barn ar eu profiad o weithio yno, a dweud sut y byddent yn sgorio\u2019r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu. Ar y cyfan, cawsom ymateb cadarnhaol, gyda 94% o\u2019r &nbsp;ymatebwyr yn rhoi sg\u00f4r o bedwar neu bump allan o bump i\u2019w gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r staff yn trin bob preswylydd fel unigolyn, yn ogystal \u00e2\u2019u trin fel petaent yn aelod o\u2019u teulu.<\/p><cite>Gweithiwr Llys Elian<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r staff yn teimlo bod ganddynt berthynas dda gyda\u2019u rheolwyr, ac mae 100% o ymatebwyr yn credu bod eu cyfraniad yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth i\u2019r unigolion y maent yn eu cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i unigolion ac rwyf wrth fy modd yn eu gweld yn gwenu.<\/p><cite>Gweithiwr Llys Elian<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gofynnom i\u2019r timau sy\u2019n gweithio gyda Llys Elian, o\u2019r awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd, cymdeithas tai ac eraill i ddarparu adborth o safbwynt cwsmer. Dywedodd 94% o\u2019r ymatebwyr bod y gwasanaeth yn \u2018dda iawn\u2019 neu\u2019n \u2018dda\u2019 o ran ymateb i ymholiadau yn brydlon ac roedd yr un canran o\u2019r ymatebwyr yn cytuno bod staff Llys Elian yn gwrtais pan oeddent yn cysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 100% o\u2019r ymatebwyr yn cytuno bod ein staff yn gymwys wrth ddelio ag ymholiadau, a&#8217;u bod yn ymateb yn brydlon a phriodol pan oedd pryderon am unigolion yn cael eu codi.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r gofal a\u2019r cymorth a ddarperir yn arbennig. Mae pawb yn derbyn gofal a chefnogaeth o\u2019r lefel uchaf.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae pawb yn canolbwyntio ar gynhyrchu\u2019r canlyniad gorau posibl i\u2019r holl bobl sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth. Mae\u2019r patrwm sifft yn llyfn a\u2019r broses drosglwyddo o safon gan weithwyr proffesiynol sy\u2019n gofalu am les staff a phreswylwyr.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gofynnom i staff sy\u2019n gweithio yn ein gwasanaethau gofal cartref mewnol i bobl h\u0177n am adborth ar eu profiadau. Rhoddodd 89% o\u2019r ymatebwyr sg\u00f4r o bedwar neu bump allan o bump i\u2019w gwasanaeth, ac roedd y sylwadau ategol yn gadarnhaol iawn.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n credu ein bod yn darparu gwasanaeth gofal da iawn. Mae gennym gefnogaeth wych gan ein rheolwyr sy\u2019n ein galluogi ni i gyflawni ein gwaith hyd eithaf ein gallu. Rydym yn derbyn hyfforddiant yn gyson er mwyn cadw ein sgiliau\u2019n gyfredol ac mae ein gwasanaeth yn cynnig hyblygrwydd da iawn \u2026..mae gennym d\u00eem da o unigolion sy\u2019n gallu cynnig sicrwydd a gofal effeithiol.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n teimlo ein bod fel t\u00eem yn gwneud gwaith ardderchog wrth ddarparu gwasanaeth gofalgar a thrugarog. Mae llawer o fy nghydweithwyr yn mynd tu hwnt i\u2019w swydd-ddisgrifiad yn y cyfnod heriol hwn i sicrhau lles ein cleientiaid.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Dywedodd y cohort hwn o staff bod technoleg yn faes y gellid ei wella. Dylid nodi, ar adeg ysgrifennu\u2019r adroddiad hwn, rydym wrthi\u2019n darparu\u2019r ffonau clyfar diweddaraf i staff sy\u2019n gweithio\u2019n y gymuned, yn lle\u2019r dechnoleg sydd bellach wedi dyddio. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o roi mwy o fynediad i hyfforddiant ar-lein i staff cymunedol a dyfeisiau i hwyluso hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnwyd i\u2019r timau sy\u2019n gweithio ochr yn ochr \u00e2\u2019r t\u00eem gofal cartref i bobl h\u0177n am adborth ar eu perfformiad. Dywedodd 94% o\u2019r ymatebwyr bod y gwasanaeth yn \u2018dda iawn\u2019 neu\u2019n \u2018dda\u2019 o ran ymateb i ymholiadau yn brydlon ac roedd 100% o\u2019r ymatebwyr yn cytuno bod y staff yn gwrtais pan oeddent yn cysylltu \u00e2 nhw. Roedd 100% yn cytuno bod pryderon yngl\u0177n ag unigolion yn defnyddio\u2019r gwasanaeth yn cael eu trin yn brydlon ac yn briodol, a bod unigolion yn cael eu cadw\u2019n ddiogel a bod eu lles yn cael ei gefnogi yn ystod y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r t\u00eem gofal ailalluogi yn d\u00eem da iawn ond yn anffodus, mae\u2019r galw\u2019n fwy na\u2019r argaeledd. T\u00eem ardderchog sy\u2019n darparu gwasanaeth hanfodol.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydym yn hapus iawn gyda\u2019r gwasanaeth gofal cartref mewnol ac rydym bob amser wedi bod \u00e2 pherthnasau gwaith ardderchog gyda\u2019r t\u00eem a\u2019u rheolwyr.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gofynnwyd hefyd i staff o d\u00eem mewnol anableddau am adborth ar eu gwasanaeth. Rhoddodd 96% o\u2019r ymatebwyr sg\u00f4r o bedwar neu bump allan o bump i\u2019w gwasanaeth, ac roedd y sylwadau ategol yn gadarnhaol iawn.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r gwasanaeth yn rhagweithiol iawn, yn ogystal \u00e2 bod yn ymatebol pan fo angen. Mae\u2019r staff i gyd yn gweithio\u2019n dda fel t\u00eem ac maent wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau yn ystod y pandemig i sicrhau bod anghenion cymorth ac emosiynol defnyddwyr gwasanaeth a staff yn cael eu diwallu.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 100% o\u2019r ymatebwyr yn teimlo bod eu cyfraniad yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth i\u2019r unigolion y maent yn eu cefnogi gyda sylwadau ategol yn amlygu\u2019r grym y mae staff yn ei deimlo wrth allu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Rhoddodd lawer enghreifftiau o\u2019r cymorth yr oeddent yn falch o\u2019i ddarparu, lle\u2019r oedd y canlyniad gorau posibl wedi\u2019i gyflawni ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>[Y rhan orau o fy swydd yw] gweld unigolyn yn magu hyder ac yn gallu byw ar eu pen eu hunain. Dod yn annibynnol a gallu cyfrannu i\u2019r gymuned leol.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Dangosodd adborth a gafwyd gan gydweithwyr yn y gwasanaeth anableddau ehangach bod 100% o\u2019r ymatebwyr wedi dweud bod y gwasanaeth mewnol yn \u2018dda iawn\u2019 neu\u2019n \u2018dda\u2019 ym mhob maes. Unwaith eto, roedd yr adborth a gafwyd yn canmol gallu\u2019r t\u00eem i addasu yn ystod y pandemig, a pharhau i gynnig gwasanaeth o\u2019r radd flaenaf i\u2019r unigolion y maent yn eu cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Bod yn hyblyg a\u2019r gallu i addasu sy\u2019n allweddol i allu\u2019r t\u00eem hwn i ddarparu gwasanaeth mor dda yn ystod y cyfyngiadau Covid hyn. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar yr unigolyn, o\u2019r rheolwyr i\u2019r staff yn y gymuned.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Yn frwd dros roi gofal a diwallu anghenion y cleientiaid bob amser.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi gofalwyr maeth Conwy yn eu r\u00f4l<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein gofalwyr maeth yn darparu gwasanaeth gwerthfawr, gan roi amgylchedd diogel a meithringar mewn lleoliadau tymor byr a hirdymor i blant a phobl ifanc yng Nghonwy. Ym mis Rhagfyr 2020, gofynnom i\u2019n gofalwyr maeth rannu eu profiadau gyda ni, drwy arolwg electronig. Darparodd 43 o ymatebwyr adborth gwerthfawr am y gwasanaeth maethu, y gefnogaeth y maen nhw\u2019n ei derbyn i gyflawni eu r\u00f4l, a dulliau cyfathrebu drwy gydol y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r gofalwyr maeth a ymatebodd, roedd 76% ohonynt o\u2019r farn bod y gwasanaeth maethu yn darparu cefnogaeth ddigonol i\u2019w teulu i gyflawni eu dyletswyddau maethu.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae lefel y gefnogaeth yr wyf yn ei chael wedi gwella\u2019n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydw i\u2019n teimlo fel fy mod yn cael fy nghefnogi\u2019n dda yn fy r\u00f4l gan fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol.<\/p><cite>Gofalwr maeth<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Yn bennaf, nododd y rhan fwyaf o ofalwyr maeth (91%) eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol o ran goruchwyliaeth dros y we yn ystod y pandemig, gyda 29% yn hapus i barhau gyda chyfarfodydd ar-lein yn unig, a 70% pellach yn dewis cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a dros y we.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae cyfarfodydd dros y we yn arbed amser ac yn gallu ffitio i mewn i ddiwrnod prysur gofalwr maeth yn haws.<\/p><cite>Gofalwr maeth<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod gofalwyr cymdeithasol yn ymweld \u00e2\u2019r cartref i sicrhau lles y gofalwyr maeth a\u2019r bobl ifanc sy\u2019n byw yn y cartref.<\/p><cite>Gofalwr maeth<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd gweld bod 93% o ofalwyr maeth wedi rhoi sg\u00f4r o 4 neu 5 seren am eu profiad cyffredinol gyda\u2019r t\u00eem yn galonogol iawn i\u2019r gwasanaeth maethu, ynghyd ag adborth cadarnhaol a diolchiadau i aelodau t\u00eem unigol am eu cefnogaeth. Byddwn yn rhannu\u2019r holl sylwadau gyda\u2019r t\u00eem ac yn edrych ar sut y gallwn wella ein cynnig i ofalwyr maeth i sicrhau eu bod yn parhau i weithio gyda ni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwobr Gofalwn Cymru<\/h2>\n\n\n\n<p>Roedd gwobr Gofalwn Cymru yn wobr newydd yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2020, yn canolbwyntio ar weithwyr gofal unigol yng Nghymru sydd ag effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Roedd pob unigolyn a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi dangos proffesiynoldeb ac ymroddiad yn eu rolau, ond un o ofalwyr maeth Conwy, Sandra Stafford, ddaeth i\u2019r brig.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd Sandra ei <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/gwella-gwasanaethau\/y-gwobrau-2020\">henwebu am y wobr<\/a> gan weithwyr cymdeithasol yn ein t\u00eem maethu a roddodd asesiad o\u2019i rhinweddau.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae Sandra a\u2019i g\u0175r Mark yn ofalwyr maeth eithriadol sy\u2019n dangos ymrwymiad, angerdd a gofal o safon uchel yn gyson i bob un o\u2019r plant maen nhw wedi gofalu amdanynt ers 2001. Maent yn gofalu am blentyn ag anableddau cymhleth a hyd heddiw, mae\u2019r plentyn yn parhau i syfrdanu pawb o\u2019i chwmpas ac yn gwneud cynnydd rhyfeddol.Mae Sandra, fel y prif ofalwr, yn wynebu heriau dyddiol fel y mae\u2019n sicrhau ei bod yn bodloni anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, mae\u2019n mynychu apwyntiadau meddygol a chyfarfodydd, yn ogystal \u00e2 chefnogi a hyrwyddo cyswllt gyda\u2019r teulu biolegol. Mae&#8217;n gwneud i bopeth edrych mor ddiymdrech, er y diffyg cwsg. Mae Sandra a Mark yn darparu mwy nag amgylchedd cartref diogel a chariadus i&#8217;r plentyn, mae&#8217;n cael ei derbyn ac yn cael cyfleoedd i fwynhau pob eiliad mewn bywyd a chyflawni ei photensial llawn.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Datblygiadau\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi ailedrych ar y mwyafrif o\u2019r polis\u00efau a gweithdrefnau sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019n gwaith statudol a\u2019r pump o safonau cenedlaethol a osodwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd hon yn fenter sylweddol a ysgogwyd pan gynhaliwyd yr hunanasesiad o\u2019r safonau cenedlaethol<\/p>\n\n\n\n<p>Gweler isod restr o\u2019r gwaith a wnaed drwy grwpiau tasg a gorffen ers mis Ebrill 2020; mae hyn yn cyd-fynd \u00e2\u2019r newidiadau a wnaed i ddarpariaeth gwasanaeth oherwydd pandemig Covid-19.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Polisi cyflwyno newydd gyda phroses ar gyfer staff newydd a phresennol a chydweithwyr, yn cynnwys polis\u00efau a gweithdrefnau yn ymwneud \u00e2\u2019r gofynion statudol a\u2019r rhai a osodwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid:<ul><li>Diwygio polisi a gweithdrefn Oedolyn Priodol<\/li><\/ul><ul><li>Adolygu datrysiadau y Tu Allan i\u2019r Llys<\/li><\/ul><ul><li>Adolygu a diwygio gweithdrefnau cerdyn melyn<\/li><\/ul><ul><li>Ailgyflwyno contractau ABC gydag ein swyddog heddlu ar secondiad fel haen ataliol arall i rwystro plant rhag cael eu troseddoli ac i leihau\u2019r posibilrwydd o fynd i wasanaethau cyfiawnder troseddol statudol<\/li><\/ul><ul><li>Cydymffurfio \u00e2 pholisi a gweithdrefnau Diogelu Cymunedol<\/li><\/ul><ul><li>Cynhyrchu polisi gofalu i sicrhau bod mesurau cadarn mewn lle i graffu ar yr holl drosglwyddiadau<\/li><\/ul><ul><li>Proses Gorchymyn Atgyfeirio<\/li><\/ul><ul><li>Polisi a phroses Adolygu Risg Uchel<\/li><\/ul><ul><li>Polisi a phroses Gorchymyn Cadw a Hyfforddi<\/li><\/ul><ul><li>Polisi a phroses Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid<\/li><\/ul><ul><li>Gweithdrefnau yngl\u0177n \u00e2 thor-rheolau yn cynnwys amserlenni manwl yn erbyn safonau cenedlaethol<\/li><\/ul><ul><li>Prosesau llys ar gyfer achosion llys ar ddyddiau\u2019r wythnos a dydd Sadwrn a chreu pecyn llys<\/li><\/ul><ul><li>Cyflwyno newyddlen i roi trosolwg o ddatblygiadau gwasanaethCyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth yn natblygiad a chyhoeddiad taflenni ar gyfer meysydd allweddol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Trefnu a dosbarthu rheolwyr a staff i grwpiau tasg a gorffen gydag amserlenni i fodloni terfynau amser ar y 15 maes uchod. Er i\u2019r pandemig achosi anawsterau gyda bodloni mesuryddion perfformiad gwasanaeth, roeddem yn gallu adleoli staff i gynorthwyo mewn mannau eraill a rhoi amser i ddatblygu ein maes gwasanaeth ein hun (gweler mwy o wybodaeth isod).<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Llunio a chytuno ar gytundeb lefel gwasanaeth gydag Awdurdod Lleol Sir Ddinbych i ddarparu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, lle mae Conwy\u2019n darparu ac yn cyflwyno i Sir Ddinbych drwy\u2019r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda ffi reoli ac i Gonwy oruchwylio\u2019r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd<\/li><li>Caffael i brynu system TG newydd yn lle\u2019r system \/ cronfa ddata Care-Works bresennol<\/li><li>Edrych ar broses bontio gyfannol i blant sy\u2019n troi\u2019n oedolion i sicrhau bod ganddynt y gwasanaethau statudol, ataliol a thrydydd sector mewn lle cyn trosglwyddo o\u2019n gwasanaeth i feysydd eraill<\/li><li>Proses sefydlu i blant a theuluoedd sy\u2019n mynd drwy\u2019r drefn warchodol, yn cynnwys iaith.<\/li><li>Byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd creadigol i ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned i\u2019w cefnogi er mwyn iddynt weld ein bod yn malio a hefyd er mwyn i\u2019n plant a phobl ifanc gyflawni gwaith sy\u2019n dangos eu gwerth iddyn nhw eu hunain ac eraill. Mae\u2019r pandemig wedi cyflwyno cyfleoedd i edrych ar ffyrdd gwahanol o ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned a\u2019r plant a\u2019r teuluoedd sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau.<\/li><li>Rydym hefyd wedi llunio achos busnes am gyllid drwy ddwy ffrwd i gael 21 o ddyfeisiau llechen er mwyn ein galluogi ni i ymgysylltu dros y we, ac edrych ar sut i gael mwy o gyfranogiad gan ddefnyddwyr i ddatblygu\u2019r gwasanaeth.<\/li><li>Rydym hefyd yn gweithio ar broses sy\u2019n cynorthwyo ac yn cymell ein gwasanaeth i gynnal sgyrsiau lles gyda phlant a theuluoedd sydd ar gau i\u2019n gwasanaeth bob tri, chwech, naw a deuddeg mis. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi ni i gyfeirio, cynnig ymyriadau atodol a throsglwyddo lle bo angen. Mae hyn yn cefnogi atal a chyfle pellach i drosglwyddo lle nodir hyn.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Adleoli aelodau t\u00eem y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/h2>\n\n\n\n<p>Llwyddom i adleoli staff i feysydd gwahanol yn yr adran yn ystod y pandemig:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Treuliodd dri aelod o staff 60% o\u2019u hamser yng nghartref plant Glan yr Afon oherwydd eu bod yn cael trafferthion staffio o ganlyniad i achosion Covid-19 yn y lleoliad.<\/li><li>Gweithiwr cymdeithasol gyda phrofiad blaenorol yn y gwasanaeth i gefnogi cynnydd mewn ymholiadau ac ymchwiliadau A47.<\/li><li>Cefnogodd y Rheolwr Gwasanaeth y T\u00eem Dyletswydd Argyfwng a darparodd lwybr llety argyfwng o fis Ebrill i fis Medi 2020, gydag ychwanegiadau ac addasiadau llety i liniaru risg y pandemig.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Cydbwyso anghenion y gwasanaeth tra\u2019n sicrhau ein bod yn darparu cymorth manwl a chyson i gydweithwyr mewn meysydd eraill. Roedd yn rhaid i ni addasu i feysydd gwasanaeth newydd, gan geisio mapio gweithrediadau drwy ganllawiau Arolygiaeth Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chanllawiau\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadau Cod Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru<\/h2>\n\n\n\n<p>Daeth Cod Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru yn weithredol ar 1 Ebrill 2020. Mae\u2019r fframwaith yn cynnwys set newydd o fesurau perfformiad cenedlaethol sy\u2019n disodli ein dangosyddion perfformiad blaenorol. Er mwyn i ni allu mabwysiadu\u2019r fframwaith newydd, rydym wedi cyflawni gwaith ar ein systemau rheoli cleientiaid er mwyn caniat\u00e1u i ni gasglu ac adrodd ar y wybodaeth yn \u00f4l yr angen. Mae gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi wynebu nifer o heriau fel t\u00eem mewn perthynas \u00e2 gweithredu\u2019r fframwaith newydd. Dim ond ar 31 Mawrth 2020 y cafodd y gwaith papur terfynol i gefnogi\u2019r gweithrediad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, i\u2019w ddefnyddio o 1 Ebrill 2020. Roedd hi\u2019n 27 Tachwedd 2020 erbyn i ganllawiau ffurfiol pellach yngl\u0177n \u00e2\u2019r diffiniadau ar gyfer y 105 mesur newydd gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae Covid-19, wrth gwrs, wedi cyfyngu rhai o\u2019n ffyrdd arferol o weithio ond rydym, ar y cyfan, wedi gallu symud ymlaen \u00e2\u2019r gweithrediad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Oherwydd yr heriau rydym wedi\u2019u hwynebu dros y deuddeg mis diwethaf, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ymarferoldeb technegol y system newydd o ran adrodd ar y mesurau newydd. Rydym wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad oes gofyniad i adrodd yn erbyn y Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd ar gyfer 2020\/21. Felly, ein ffocws yw sicrhau bod y system yn barod ar gyfer adrodd yn 21\/22.<\/p>\n\n\n\n<p>Oherwydd yr heriau rydym wedi\u2019u hwynebu dros y deuddeg mis diwethaf, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ymarferoldeb technegol y system newydd o ran adrodd ar y mesurau newydd. Rydym wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad oes gofyniad i adrodd yn erbyn y Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd ar gyfer 2020\/21. Felly, ein ffocws yw sicrhau bod y system yn barod ar gyfer adrodd yn 21\/22.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"309\" height=\"478\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Woman-Showing-Laptop-Data-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2587\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Woman-Showing-Laptop-Data-1.png 309w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Woman-Showing-Laptop-Data-1-194x300.png 194w\" sizes=\"auto, (max-width: 309px) 100vw, 309px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys ac sy\u2019n derbyn cefnogaeth yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir Drwy gydol pandemig Covid-19 rydym wedi parhau i gynnal ein safonau uchel o ran darpariaeth gwasanaeth, er iddo gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Mae pob agwedd o ddarpariaeth gwasanaeth wedi parhau, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":301,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2576","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2576","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2576"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2576\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2576"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}