{"id":2529,"date":"2021-08-17T14:57:24","date_gmt":"2021-08-17T13:57:24","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2529"},"modified":"2021-08-17T14:57:27","modified_gmt":"2021-08-17T13:57:27","slug":"yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud"},"content":{"rendered":"\n<p>Yma, byddwn yn edrych yn \u00f4l ar y meysydd gwaith yr oeddem am eu cyflawni yn ystod 2020-21, ac yn darparu&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadau system rheoli achosion newydd<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn yr adroddiad y flwyddyn ddiwethaf, dywedom y byddem yn mabwysiadu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i greu un system rheoli achosion ar gyfer yr holl Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol ar draws Cymru. Mae\u2019r prosiect gweithredu wedi dangos cynnydd da, gyda WCCIS yn mynd yn fyw ym mis Tachwedd 2021, fel y cynlluniwyd.&nbsp; Roedd hwn yn brosiect sylweddol a heriol, gydag oddeutu 675 o ddefnyddwyr, wedi\u2019u hyfforddi\u2019n bennaf drwy sesiynau dros y we\u2019, i ddefnyddio\u2019r system. Byddwn yn parhau i\u2019w cefnogi ar eu taith ddysgu, a gwneud gwelliannau i\u2019n prosesau lle bo angen i sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo mor ddi-dor a hawdd i\u2019w reoli \u00e2 phosibl.<br><br>Pan fydd Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd eraill mewn sefyllfa i fabwysiadu\u2019r system, bydd yr arfer o rannu gwybodaeth am yr unigolion rydym yn eu cefnogi yn cael ei gwella ac yn caniat\u00e1u cydweithio a chadw cofnodion.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Y llynedd roeddem yn paratoi i Weithdrefnau Diogelu newydd Cymru ddod i rym, ac ers mis Ebrill 2020 rydym wedi bod yn gweithio\u2019n galed iawn i sicrhau bod ein gweithlu\u2019n barod am y newid, ac yn hyderus wrth gynnwys yr arfer newydd yn eu gwaith bob dydd. Mae hyn wedi cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Diweddaru dogfennau, templedi a phrosesau i adlewyrchu terminoleg newydd<\/li><li>Codi ymwybyddiaeth o\u2019r gweithdrefnau ymysg yr holl wasanaethau o fewn yr Awdurdod, yn cynnwys aelodau etholedig<\/li><li>Annog staff i lawrlwytho\u2019r ap i\u2019w ffonau clyfar<\/li><li>Darparu sesiynau hyfforddi<\/li><li>Cynnal arolwg i fesur hyder staff wrth ddefnyddio\u2019r weithdrefn<\/li><li>Cynnal arolwg i fesur pa mor hyderus yw rheolwyr wrth gefnogi eu timau i ddefnyddio\u2019r gweithdrefnau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Roedd yr arolwg yn rhoi argraff o ba mor gyfarwydd yw staff gyda\u2019r gweithdrefnau a sut maent yn eu defnyddio. Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol, ac rydym wedi llwyddo i greu cynllun gweithredu clir o ran yr hyfforddiant pellach sydd ei angen ym mhob adran. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae&#8217;r ap yn gyfeirbwynt ardderchog, ac rydym yn gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw&#8230;.am gyngor pellach pan rydym yn ansicr.<\/p><cite>Rheolwr Gofal Cymdeithasol<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r ap yn adnodd gwerthfawr, hawdd i\u2019w ddefnyddio, ac mae\u2019n cael ei gadw\u2019n gyfredol.<\/p><cite>Rheolwr Gofal Cymdeithasol<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Rydym wedi darganfod, o fewn diogelu oedolion, bod hwyluso a disgwyliadau\u2019r gweithdrefnau\u2019n fwy clir ac yn adeiladu ar ganllawiau blaenorol. Mae ymarferwyr yn gallu defnyddio\u2019r ap fel adnodd i\u2019w harwain drwy gydol y broses.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae proses glir a llym yn ei lle i reoli honiadau a wneir yn erbyn unigolion sy\u2019n gweithio mewn swyddi gydag ymddiriedaeth. Fel rhan o hyn, mae rolau Swyddog Dynodedig a Swyddog Dynodedig ar gyfer Diogelu yr Awdurdod Lleol wedi cael eu sefydlu a\u2019u hyrwyddo o fewn yr Awdurdod.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Conwy wedi rhoi\u2019r gweithdrefnau ar waith yn brydlon, gydag Awdurdodau eraill yn gofyn am ein proses a\u2019n dogfennau i gynorthwyo \u00e2\u2019u cynlluniau gweithredu eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Oherwydd pandemig Covid-19, mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r hyfforddiant wedi cael ei gynnal dros y we, sy\u2019n golygu ein bod wedi gorfod trin a thrafod technoleg a phlatfformau newydd i gyflwyno\u2019r wybodaeth yn effeithiol.<\/li><li>Gohiriwyd y trefniadau mynd yn fyw ar gyfer y gweithdrefnau diogelu o fis Ebrill i fis Medi 2020, a oedd yn golygu bod y sesiynau hyfforddi yn cyd-daro \u00e2 hyfforddiant ar y system wybodaeth gofal cleientiaid newydd; roedd hyn yn effeithio ar bresenoldeb ac argaeledd staff.<\/li><li>Mae addasu o Bolisi a Gweithdrefnau Dros Dro Cymru ar gyfer Diogelu Oedolion Diamddiffyn i Weithdrefnau Diogelu Cymru wedi cymryd peth amser.<\/li><li>Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi parhau i ddarparu prosesau a chanllawiau penodol drwy gydol y cyfnod hwn, gan greu diffyg eglurder ar rai adrannau o\u2019r gweithdrefnau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn parhau i sicrhau bod y gweithdrefnau\u2019n cael eu hymgorffori\u2019n llwyddiannus yn ein harferion gwaith. Ar ben hynny, byddwn yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mynychu cyfarfodydd y t\u00eem gofal cymdeithasol i annog cydymffurfio.<\/li><li>Sefydlu gweithdrefnau yn rhan o ymarfer ar draws yr holl dimau gweithredol drwy hyfforddiant, mentora cymheiriaid a dysgu ymarferol.<\/li><li>Rhannu canllawiau drwy\u2019r fforymau diogelu plant ac oedolion.<\/li><li>Ymuno \u00e2\u2019r gr\u0175p tasg a gorffen cenedlaethol mewn perthynas ag Adran 5.<\/li><li>Cynorthwyo ein cydweithwyr yn yr Adran Addysg gyda darparu hyfforddiant ar brosesau Adran 5.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ail-lunio ein gwasanaethau iechyd meddwl<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2019-20, bu i ni gymryd camau breision wrth ddatblygu ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, gan agor ein canolbwynt yn Llandudno, ac ymdrechion i efelychu\u2019r model hwn ar draws y sir. Yn ystod 2020, cynyddodd y pandemig gyflymder y newid a thynnu sylw at ble roedd angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion i gyflawni ein gweledigaeth o ofal cymesur, amserol sy\u2019n canolbwyntio ar adfer. Roedd y t\u00eem gofal cymdeithasol wedi\u2019i gyd-leoli gyda chydweithwyr Bwrdd Iechyd fel rhan o\u2019r T\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol, ond daethpwyd i gytundeb yn y gwanwyn 2020 i wahanu\u2019r ddau d\u00eem i gydnabod arbenigedd pob sefydliad. Byddai hefyd yn caniat\u00e1u i ni wahaniaethu rhwng pobl sydd angen ymateb clinigol gan y T\u00eem Iechyd a phobl sydd \u00e2 phroblemau gofal cymdeithasol, a fydd nawr yn cael eu gweld gan y T\u00eem Lles Meddyliol newydd ei ffurfio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymrwymiad cryf rhwng y Bwrdd Iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod y ddau d\u00eem yn cyflawni darpariaeth ddi-dor ar gyfer y bobl sydd angen gwasanaethau, gan sicrhau bod yr unigolyn yn cael mynediad at y gwasanaeth y mae ei angen, a bod y gwasanaeth hwnnw\u2019n cael ei ddarparu gan y gweithiwr proffesiynol cywir ar yr adeg gywir. Rhan allweddol o\u2019r datblygiad hwn yw gwella ffocws y T\u00eem Lles Meddyliol ar atal ac ymyrraeth gynnar, sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth reoli sefyllfaoedd argyfwng ac ymdrin ag achosion sylfaenol, gan leihau\u2019r tebygolrwydd o ailadrodd argyfyngau a gwella ansawdd bywyd pobl.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn sefydlu rhaglen ymyrraeth gynnar gynaliadwy rhaid cael cyswllt agos a chadarn gyda\u2019n partneriaid Trydydd Sector a chymunedau. Mae\u2019r nod i ddatblygu\u2019r canolbwynt cymunedol a phopeth y mae\u2019n ei gwmpasu, h.y. darpariaeth i bob oedran ym mhob ardal gyda choleg adfer ffyniannus a\u2019r gallu i gefnogi pobl mewn argyfwng, yn parhau i fod yn agwedd allweddol o\u2019r model gwasanaeth cyffredinol. Mae gennym gynlluniau mwy cadarn yn eu lle ar gyfer y coleg adfer ac rydym wedi addasu\u2019r weledigaeth i ymateb i anghenion wrth iddynt newid yn ystod y pandemig. Er enghraifft, mae\u2019r defnydd cynyddol o dechnolegau digidol wedi cyflwyno buddion yr ydym yn gobeithio eu harneisio a\u2019u datblygu, gan gydnabod hefyd bod cyswllt wyneb yn wyneb, i rai pobl, yn hanfodol. Rydym yn credu bod hon yn elfen hanfodol wrth rymuso unigolion i weithio tuag at adferiad ystyrlon a lles meddyliol parhaus.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sefydlu ein hadnodd asesu risg hunan-esgeulustod a chelcio<\/h3>\n\n\n\n<p>Y llynedd, siaradom am yr angen i asesu risg unigolion sy\u2019n dangos arwyddion o hunan-esgeulustod neu gelcio. Mae ein hasesiad risg wedi cael ei dreialu ac mae gan bob unigolyn sy\u2019n hunan-esgeuluso rybudd ar ein y system wybodaeth gofal cleientiaid, ynghyd ag ymarferydd dynodedig. Maent hefyd wedi\u2019u rhestru ar gofrestr hunan-esgeulustod, ac mae gan bob rheolwr fynediad at y gofrestr hon.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae nifer sylweddol o gyfarfodydd aml-asiantaeth wedi cael eu cynnal i lunio cynlluniau gweithredu unigol i gefnogi pobl sy\u2019n hunan-esgeuluso, ac o ganlyniad, mae llawer wedi mynd drwy\u2019r protocol ac wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr. Mae hyn yn dangos bod y risgiau wedi cael eu diddymu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gweithio\u2019n galed i ymgysylltu a gweithio gydag asiantaethau partner yn llwyddiannus. Mae cyfarfodydd yn rheolaidd yn cynnwys yr holl asiantaethau partner pennaf, ac mae asesiadau risg ar y cyd yn aml yn cael eu datblygu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pandemig wedi creu her, sy\u2019n golygu bod ymweliadau wyneb yn wyneb a\u2019r asesiad risg wedi canolbwyntio\u2019n bennaf ar Covid-19. Y brif her nawr yw annog ymarferwyr i ddefnyddio\u2019r adnodd asesu risg ochr yn ochr \u00e2\u2019r protocol i sicrhau ymarfer diogel.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Y brif nod wrth symud ymlaen yw hyrwyddo defnydd yr adnodd asesu risg a monitro ei ddefnydd. Yn ogystal, byddwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gweithio ochr yn ochr \u00e2\u2019r protocol hunan-esgeuluso a\u2019r polisi celcio. Bydd y Timau Diogelu ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn hanfodol yn yr archwiliad nesaf, a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn sicrhau bod canllawiau a chyngor priodol yn cael eu rhoi, gyda\u2019r nod o alluogi unigolion i leihau eu perygl o niwed, a bod ymarferwyr yn ymarfer yn ddiogel.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yma, byddwn yn edrych yn \u00f4l ar y meysydd gwaith yr oeddem am eu cyflawni yn ystod 2020-21, ac yn darparu&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Mabwysiadau system rheoli achosion newydd Yn yr adroddiad y flwyddyn ddiwethaf, dywedom y byddem yn mabwysiadu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn unol ag [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2529","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2529","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2529"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2529\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2529"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}