{"id":2462,"date":"2020-11-04T15:06:34","date_gmt":"2020-11-04T15:06:34","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2462"},"modified":"2020-11-04T15:06:38","modified_gmt":"2020-11-04T15:06:38","slug":"edrych-ymlaen-at-2020-2021-a-thu-hwnt","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/edrych-ymlaen-at-2020-2021-a-thu-hwnt\/","title":{"rendered":"Edrych ymlaen at 2020-2021 a thu hwnt"},"content":{"rendered":"\n<p>Drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi nodi nifer o enghreifftiau o waith pwysig sydd ar y gweill ac yn parhau o fewn ein meysydd gwasanaeth wrth symud ymlaen i 2020-2021. Mae Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant a datblygiadau Iechyd Meddwl wedi cael eu nodi fel blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. \u00a0Trowch at yr adran ar Safon Ansawdd 2 am ragor o fanylion.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Trawsnewid Gwasanaethau Pobl H\u0177n<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd Trawsnewid Gwasanaethau Pobl H\u0177n gyda&#8217;r nod o efelychu\u2019r weledigaeth a ddiffiniwyd gan \u2018Cymru Iachach\u2019. &nbsp;Mae\u2019r strategaeth yn canolbwyntio ar weledigaeth hirdymor am \u2018ymagwedd system gyfan tuag at Iechyd a Gofal Cymdeithasol\u2019 ar sail iechyd a lles, ac ar atal salwch. &nbsp;Mae gweledigaeth Conwy ar gyfer Gwasanaethau Pobl H\u0177n yn ceisio adlewyrchu a chefnogi\u2019r weledigaeth hon. &nbsp;Mae Conwy\u2019n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i bobl h\u0177n sy&#8217;n bersonol ac yn ymatebol. &nbsp;Yr hyn sy\u2019n allweddol i sicrhau\u2019r math hwn o ddarpariaeth yw gwneud yn si\u0175r bod pobl h\u0177n yn byw mewn amgylchedd o\u2019u dewis hwy, yn teimlo\u2019u bod yn cael eu gwerthfawrogi a\u2019u cefnogi, bod pobl h\u0177n sy\u2019n byw gyda dementia yn teimlo\u2019u bod yn cael cymorth a bod yna ddull cydweithredol wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda o ddiwallu anghenion.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darparu a chyflwyno gofal integredig ar gyfer pobl h\u0177n ochr yn ochr \u00e2 gwasanaethau iechyd<\/li><li>Darparu amrywiaeth o ddewisiadau llety i bobl h\u0177n<\/li><li>Adolygu&#8217;r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a datblygu modelau newydd sy&#8217;n atal pobl rhag mynd i ofal hirdymor<\/li><li>Comisiynau yn \u00f4l canlyniadau a darparu gofal sy&#8217;n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl h\u0177n<\/li><li>Galluogi pobl hyn i gadw eu hamnibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach<\/li><li>Dod yn sir sy&#8217;n rhagori mewn darparu gofal dementia i bobl h\u0177n a&#8217;u gofalwyr<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym wedi amlinellu nifer o&#8217;r buddion disgwyliedig. &nbsp;Er enghraifft, lleihad yn yr angen i bobl h\u0177n fynd i ofal preswyl hirdymor, llai o ofal cartref hirdymor, gwelliant yn narpariaeth y gwasanaethau i bobl sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u gofalwyr, a mwy o hyfforddiant ac uwchsgilio staff, i enwi ychydig yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyllid grant o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru wedi cael ei ryddhau i gefnogi rhai o\u2019r prosiectau o fewn y rhaglen, sef:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwasanaethau Dementia<\/li><li>Timau Adnoddau Cymunedol a datblygu ardaloedd lleol<\/li><li>Cyfleusterau ailalluogi o fewn y sir&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith hwn hefyd yn cysylltu \u00e2 gwerthoedd a gweledigaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol (Cymru) 2015.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cydymffurfio \u00e2\u2019r Canllawiau Newydd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru a\u2019r Fframwaith Rheoli Perfformiad<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>O 1 Ebrill 2020 ymlaen, bydd pob awdurdod lleol yn rhoi Cod Ymarfer newydd ar waith yn \u00f4l cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.&nbsp; Mae nifer o ddibenion i\u2019r Cod ymarfer, a rhaid i bob ALl fod yn ymwybodol ohonynt a chydymffurfio \u00e2 hwy. &nbsp;Mae hyn yn cynnwys nodi\u2019r safonau ansawdd a\u2019r fframwaith rheoli perfformiad newydd y mae\u2019n rhaid i ni ei ddefnyddio i adrodd am ein perfformiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. &nbsp;Mae\u2019r Cod Ymarfer hefyd yn ceisio galluogi pobl i ddeall y safon o ofal a chymorth y mae ganddynt hawl iddi gan eu ALl, a deall sut y caiff AauLl eu mesur mewn perthynas \u00e2 darparu Gwasanaethau Cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r Cod alluogi AauLl i ganolbwyntio ar sut yr ydym yn perfformio, deall pwysigrwydd cipio data a sut y gellir ei ddefnyddio i lywio gwelliant, darparu atebolrwydd a sicrhau bod gan yr ymarferwyr y sgiliau, y cymwysterau a\u2019r gefnogaeth briodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, o 1 Ebrill 2020 ymlaen, bydd gwaith yn mynd rhagddo ar roi cyfres newydd o fesurau Llywodraeth Cymru ar waith, y bydd angen adrodd arnynt bob blwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mabwysiadu Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn datblygu ar ganllawiau statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac maent wedi\u2019u llunio i ddarparu arweiniad a disgwyliadau clir ar gyfer diogelu oedolion a phlant. &nbsp;Eu nod yw helpu unrhyw un sy\u2019n gweithio gydag oedolion neu blant (mewn gwaith cyflogedig neu ddi-d\u00e2l) i gymhwyso\u2019r ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol y ddeddf i\u2019w rolau a\u2019u dyletswyddau, drwy egluro beth yw eu cyfrifoldebau a sut i\u2019w cyflawni. &nbsp;Drwy\u2019r Gweithdrefnau canlynol, bydd ein hymarferwyr yn sicrhau eu bod yn cyflawni\u2019r canlyniadau gorau posib ar gyfer plant ac oedolion mewn perygl, eu gofalwyr a\u2019u teuluoedd ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i\u2019r Gr\u0175p Gweithredu Gweithdrefnau Diogelu Cymru gynnal sesiynau briffio ar gyfer yr holl staff ym mis Mawrth, bydd y gweithdrefnau\u2019n cael eu rhoi ar waith ar 6 Ebrill 2020. Yna, byddwn yn gweithio\u2019n galed drwy gydol 2020-21 i ymwreiddio\u2019r Gweithdrefnau yn ein rolau a\u2019n cyfrifoldebau bob dydd fel ymarfer safonol. Bydd gan y staff yr hyder i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod llais yr unigolion a\u2019r cwestiynau \u201cbeth sy\u2019n bwysig\u201d yn rhan o\u2019r broses ddiogelu.<\/li><li>Defnyddio barn broffesiynol ymarferwyr i ddiwallu anghenion dynodedig unigolion, mewn fframwaith lle mae ymarfer yn cael ei safoni rhwng asiantaethau ledled Cymru.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd y Gweithdrefnau ar gael yn ddidrafferth i gymaint o bobl ag sy\u2019n bosib drwy blatfform ar-lein ac ap am ddim, a bydd yr holl staff yn cael eu hannog i\u2019w defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"588\" height=\"420\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Hands-Holding-iPad-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2463\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Hands-Holding-iPad-1.png 588w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Hands-Holding-iPad-1-300x214.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 588px) 100vw, 588px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn system rheoli achosion electronig sy\u2019n cael ei mabwysiadu gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd ledled Cymru. &nbsp;Bydd yn darparu un cofnod i gleient\/claf ac yn ein galluogi i rannu gwybodaeth am unigolion yn ddiogel ac yn gyfleus gyda chydweithwyr Iechyd, gan drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gofal a chymorth yn ein cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem prosiect sydd wedi cael y dasg o roi\u2019r WCCIS ar waith wedi gwneud cynnydd da yn ystod 2019-20, ac maent ar y trywydd cywir i gwblhau&#8217;r prosiect o fewn yr amserlen. &nbsp;Mae\u2019r t\u00eem wedi gweithio \u00e2 phob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol er mwyn mapio eu prosesau presennol a rhai&#8217;r dyfodol, a chynllunio sut y caiff y rhain eu hymgorffori yn y system. &nbsp;Mae hwn wedi bod yn waith swmpus a hanfodol, sydd wedi sicrhau bod ein gwasanaethau yn rhan llawn o\u2019r gweithrediad, a\u2019u bod yn cyfranogi i\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ychwanegol at y gwaith o adrodd ar, ac archifo cofnodion hanesyddol, mae\u2019r t\u00eem bellach yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant ar y system i bob aelod staff sydd ei angen (tua 675 o bobl), er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus i\u2019w ddefnyddio pan fydd yn cael ei roi ar waith. \u00a0Mae\u2019r sesiynau wedi cael eu cynllunio ar gyfer hydref 2020, a byddwn yn darparu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cydweithio i wneud ein gwasanaethau\u2019n fwy hygyrch<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Drwy gydol yr adroddiad, rydym wedi dangos sut yr ydym yn cydweithio \u00e2 phartneriaid o fewn yr awdurdod lleol ac yn allanol, i ddarparu gwasanaethau sy\u2019n hygyrch i bawb. Ein nod wrth symud ymlaen i 2020-21, yw parhau ein taith yn cydweithio \u00e2 thimau fel Tai, Rheolaethol, Addysg, TG, BIPBC a sefydliadau\u2019r trydydd sector. \u00a0Isod, fe welwch chi enghraifft wych o gydweithrediad rhwng ein Gwasanaeth Anableddau a BIPBC er mwyn darparu cynllun tai \u00e2 chymorth cyffrous fel rhan o&#8217;r Rhaglen Drawsnewid AD.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu \u2013 Gr\u0175p Cynllunio Cynllun Tai \u00e2 Chymorth (Conwy) a Ariennir ar y Cyd<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019r Rhaglen Drawsnewid AD ehangach, mae Cyngor Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno i symud tuag at sefydlu model a gomisiynir ar y cyd o dai \u00e2 chymorth i nifer fechan o unigolion ag anghenion cymhleth. &nbsp;Rhagwelir y bydd y model tai hwn yn helpu lleihau\u2019r angen am leoliadau y tu allan i\u2019r sir, a gellir ei ystyried fel glasbrint ar draws y rhanbarth. &nbsp;Er mwyn datblygu\u2019r gwaith, mae gr\u0175p amlddisgyblaethol wedi cael ei sefydlu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sefydlu\u2019r model hwn o dai yn galw am nifer o wahanol ffrydiau gwaith, pob un \u00e2\u2019i ganlyniadau disgwyliedig ei hun. Mae\u2019r gr\u0175p yn dod \u00e2 gweithwyr proffesiynol perthnasol ynghyd gyda&#8217;r bwriad o nodi, cytuno, gweithredu a monitro&#8217;r camau gweithredu angenrheidiol mewn perthynas \u00e2 phob un o&#8217;r bedair ffrwd waith ganlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Ffrwd Waith 1: Y Bobl<\/strong><br>Canlyniad: Bydd tri unigolyn cymwys yn barod i symyd i mewn i&#8217;r eiddo<\/li><li><strong>Ffrwd Waith 2: Y Gwasanaeth<\/strong><br>Canlyniad: Bydd gwasanaeth arbenigol yn cael ei sefydlu, gyda staff hyfforddedig<\/li><li><strong>Ffrwd Waith 3: Yr Eiddo<\/strong><br>Canlyniad: Bydd eiddo wedi&#8217;i ddylunio\/addasu&#8217;n briodol yn barod i bobl symud i mewn iddo<\/li><li><strong>Ffrwd Waith 4: Y Cyllid<\/strong><br>Canlyniad: Bydd cyllid Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd ar gael, ynghyd \u00e2 chytundeb cyd-gyllido<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Er mwyn bod yn effeithiol, mae\u2019r gr\u0175p angen amrywiol lefelau o gynrychiolwyr o\u2019r <a>awdurdod lleol<\/a> ac Iechyd. \u00a0Bydd y gr\u0175p hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd. \u00a0Er ei bod yn anodd rhagweld amserlenni ar hyn o bryd, bydd y gr\u0175p yn bodoli ar ei ffurf bresennol nes y bydd y rhaglen ar gyfer y model tai a ariennir ar y cyd yn gyflawn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"514\" height=\"484\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-small-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2465\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-small-1.png 514w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-small-1-300x282.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 514px) 100vw, 514px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi nodi nifer o enghreifftiau o waith pwysig sydd ar y gweill ac yn parhau o fewn ein meysydd gwasanaeth wrth symud ymlaen i 2020-2021. Mae Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant a datblygiadau Iechyd Meddwl wedi cael eu nodi fel blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2462","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2462","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2462"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2462\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2462"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}