{"id":2438,"date":"2020-11-04T13:43:54","date_gmt":"2020-11-04T13:43:54","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2438"},"modified":"2020-11-04T13:47:17","modified_gmt":"2020-11-04T13:47:17","slug":"sut-yr-ydym-yn-cyflawnir-hyn-a-wnawn","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/sut-yr-ydym-yn-cyflawnir-hyn-a-wnawn\/","title":{"rendered":"Sut yr ydym yn cyflawni\u2019r hyn a wnawn"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ein gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Galluogi ein staff i wella eu hiechyd a\u2019u ffitrwydd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae sicrhau bod ein gweithlu yn iach ac wedi\u2019u hysgogi yn flaenoriaeth i ni, ac ar ddechrau 2020 lansiwyd rhaglen hyfforddi iechyd a gweithgarwch newydd o\u2019r enw FAST 365 mewn partneriaeth \u00e2 sefydliad ffitrwydd lleol. &nbsp;Nod y rhaglen yw darparu gwybodaeth a chymorth i\u2019r gweithlu gymryd camau trawsnewidiol yn eu hiechyd a\u2019u ffitrwydd dros gyfnod her chwech wythnos, ac yna\u2019r flwyddyn gyfan.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Y gobaith yw y bydd staff Gofal Cymdeithasol ac Addysg, drwy gymryd rhan yn y fenter, yn gweld gostyngiad yn lefel y straen a&#8217;r cwynion cyhyrysgerbydol y maent yn eu dioddef, sy\u2019n cyfrif am nifer sylweddol y dyddiau a gollir oherwydd salwch yn yr adran.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r her ers lansio\u2019r rhaglen wedi ymwneud \u00e2 pham nad yw hyn yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaethau Datblygu Cymunedol a\u2019i gynnig i\u2019r Cyngor yn ehangach. &nbsp;Fodd bynnag, nid ein bwriad o\u2019r cychwyn oedd darbwyllo pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, ond i gyflwyno\u2019r syniad yn raddol fod yna gysylltiad rhwng lles a gweithgarwch neu symudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Y nod yw, unwaith y byddant yn gwneud ymarfer corff ac yn defnyddio&#8217;r beltiau monitro gweithgarwch (y mae&#8217;r staff eu hunain yn eu prynu), y bydd y cyfranogwyr eisiau defnyddio&#8217;r cyfleusterau hamdden sydd gan CBSC i&#8217;w cynnig a gwneud y mwyaf o&#8217;r 30 munud o amser gyda th\u00e2l a ddyrannwyd iddynt i symud a chymryd rhan mewn gweithgarwch. &nbsp;Er na all y Gwasanaethau Hamdden ddarparu cynnig tebyg ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i weithio\u2019n agos \u00e2 hwy a rhagwelwn y bydd y rhaglen beilot o fudd i\u2019r cyfranogwyr ac i ganolfannau hamdden yr awdurdod lleol o ran presenoldeb a hyrwyddo gwasanaethau mewnol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers lansio\u2019r rhaglen, mae\u2019r niferoedd sydd wedi cofrestru wedi rhagori ar y disgwyliadau. Os ystyrir ei bod yn llwyddiant ar \u00f4l ei gwerthuso, bydd trafodaeth yn cael ei chynnal am ailgynnig y rhaglen a&#8217;i chynnig i gr\u0175p ehangach o staff neu unigolion a dargedir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"564\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Gym-Scene-1-1024x564.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2439\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Gym-Scene-1-1024x564.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Gym-Scene-1-300x165.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Gym-Scene-1-768x423.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Gym-Scene-1.png 1185w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cael adborth ar ein perfformiad<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Nododd 100% o\u2019r ymatebwyr bod y timau gofal cartref wedi ymateb yn briodol i bryderon am unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cytunodd 100% o\u2019r ymatebwyr fod y t\u00eem yn gwrtais wrth ymdrin ag ymholiadau<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r gwasanaeth yn gwrando ar y galw o ran anghenion a bydd yn chwilio am ffyrdd amgen o ddarparu gwell gwasanaeth cymorth, sy\u2019n fwy addas.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"132\" height=\"200\" src=\"\"><strong>Datblygiad a Dysg y Gweithlu<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019n buddsoddiad yn y gweithlu, rydym wedi llunio perthynas \u00e2 Community Care Inform. &nbsp;Mae CC Inform yn adnodd ar y we sy\u2019n arwain y farchnad, wedi\u2019i ddylunio\u2019n benodol ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol proffesiynol sy&#8217;n gweithio gydag oedolion, plant a theuluoedd. &nbsp;Mae\u2019r safle\u2019n cynnig cyfoeth o gyngor ymarferol, y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, yr ymchwil diweddaraf, cyfraith achosion ac amrywiaeth o fideos, podlediadau ac adnoddau eraill sydd wedi\u2019u dylunio i ysbrydoli trafodaethau gr\u0175p a gwella ein harferion. <br><br>Hyd yma, gall 290 o aelodau staff gael mynediad i CC Inform Children a CC Inform Adults. &nbsp;Mae hyn hefyd yn cynnwys myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol. &nbsp;Ein nod oedd sicrhau bod ymarferwyr yn defnyddio\u2019r adnoddau fel rhan o\u2019u gwaith bob dydd. &nbsp;Bydd hyn yn golygu bod ganddynt well adnoddau i wneud penderfyniadau\u2019n gynt ac yn fwy hyderus ar sail tystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut yr ydym yn rheoli rhaglenni i gyflawni newid<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Trefniant dros dro, hyblyg yw rhaglen a gr\u00ebwyd i gydlynu, cyfeirio a goruchwylio gweithrediad cyfres o brosiectau a gweithgareddau cysylltiedig er mwyn darparu deilliannau a buddiannau cysylltiedig ag amcanion strategol y sefydliad. Caiff rhaglen ei chreu i\u2019w gwneud yn bosib trawsnewid busnes, pan fo newid o\u2019r fath yn gofyn am nifer o brosiectau i gefnogi&#8217;r newid neu&#8217;r trawsnewidiad. &nbsp;Mae defnyddio ymagweddau Rheoli Prosiectau a Rhaglenni yn rhan fawr o sut y mae Gofal Cymdeithasol yn cyflawni newidiadau a gwelliannau er budd staff a chymuned Conwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein hymagwedd Rheoli Rhaglenni wedi\u2019i seilio ar y fethodoleg Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, ac mae\u2019n adnodd allweddol sy\u2019n ein galluogi i reoli newid trawsnewidiol a allai gynnwys cymhlethdod, risg, rheoli nifer o rhyngddibyniaethau a datrys gwrthdaro rhwng sawl blaenoriaeth. &nbsp;Mae\u2019n darparu fframwaith strwythuredig a all helpu i osgoi meini tramgwydd a chyflawni amcanion. &nbsp;Bydd rhaglenni o fewn Gofal Cymdeithasol yn cael eu cydweddu ag un neu fwy o amcanion ein Cynllun Corfforaethol 2017-22, ac felly\u2019n cael eu llywio\u2019n uniongyrchol hefyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol (Cymru) 2015.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn sicrhau a) bod cydweithwyr sy\u2019n gweithio\u2019n rheolaidd mewn amgylcheddau rhaglenni yn mynychu cwrs Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, a b) bod y rhaglenni\u2019n cadw at saith egwyddor y dull Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cadw\u2019n gyson \u00e2 strategaeth gorfforaethol CBSC<\/li><li>Arwain Newid<\/li><li>Dychmygu a chyfleu gwell dyfodol<\/li><li>Canolbwyntio ar y buddion a\u2019r bygythiadau iddynt<\/li><li>Ychwanegu gwerth<\/li><li>Dylunio a chyflawni galluedd cydlynol<\/li><li>Dysgu o brofiad<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ein hadnoddau ariannol a sut yr ydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf her yr hinsawdd ariannol, rydym yn parhau i amddiffyn darpariaeth gwasanaethau uniongyrchol. &nbsp;Ein nod yw darparu\u2019r gwerth gorau, bod yn effeithlon a pheidio \u00e2 dyblygu gwaith. &nbsp;Daeth y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol o hyd i \u00a32.4 miliwn mewn arbedion ar gyfer 2019-2020, ond rydym yn parhau i ddarparu\u2019r gwasanaeth gorau posib i\u2019n trigolion.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn lliniaru effeithiau pwysau ariannol, rydym yn sicrhau ein bod yn cael gafael ar, ac yn gwneud y mwyaf o gyllid grant lle bynnag y bo hynny\u2019n bosib, er mwyn ein galluogi i barhau i weithio\u2019n arloesol ac yn effeithiol o fewn ein gwasanaethau. Er enghraifft, dyrennir y Gronfa Gofal Integredig (CGI) gan Lywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru. &nbsp;Nod y gronfa yw ysgogi a galluogi gwaith integredig rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Tai, y Trydydd Sector a darparwyr annibynnol i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy. &nbsp;Gall y gronfa gefnogi mentrau (neu brosiectau) newydd yn ogystal ag ehangu gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli. &nbsp;Yng Nghonwy, defnyddiwyd cyllid CGI i ddatblygu\u2019r Gwasanaeth Gweithwyr Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig ledled Conwy. &nbsp;Mae hwn yn ddarn allweddol o waith i wella&#8217;r gwasanaeth i Bobl H\u0177n ledled y Sir. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, defnyddiwyd cyllid grant o fewn ein gwasanaethau ataliol i atal plant rhag mynd i\u2019r system gofal drwy waith dwys y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd. &nbsp;Gwelwyd cyfradd lwyddiant o 94% wrth gefnogi teuluoedd (gan gynnwys teuluoedd maeth) sy\u2019n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth oherwydd fod plentyn \/ plant ar fin dod yn rhan o&#8217;r system ofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Atal sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn i reoli\u2019r galw. &nbsp;Os gallwn ni ddarparu\u2019r cymorth cywir ar yr adeg gywir, byddwn yn osgoi cynnydd yn yr angen a\u2019r gost.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"758\" height=\"539\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Calculator-Accounts-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2446\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Calculator-Accounts-1.png 758w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Calculator-Accounts-1-300x213.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 758px) 100vw, 758px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sicrhau gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rhan allweddol o&#8217;n gwaith Comisiynu Gofal Cymdeithasol yw datblygu Gwerth Cymdeithasol yn y Sir. &nbsp;Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol (a\u2019u partneriaid) i hybu datblygiad sefydliadau dielw i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol. O fewn hyn, mae &#8220;Llais a Rheolaeth\u201d yn un o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf, ac mae hyn yn dylanwadu ar y rhaglen Gwerth Cymdeithasol wrth annog gwasanaethau i fod yn fwy cyd-gynhyrchiol yn eu datblygiad, lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu grymuso i ddylanwadu ar ddatblygiad a darpariaeth gwasanaethau sy\u2019n effeithio arnynt hwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd adroddiad hunanasesu manwl i werth cymdeithasol o fewn Conwy yn cynnwys argymhellion i ddatblygu Strategaeth Gwerth Cymdeithasol gorfforaethol, a helpu ymwreiddio gwerth cymdeithasol mewn strwythurau partneriaethau lleol. Roedd yr adroddiad hwn yn bwydo i mewn i adroddiad i Lywodraeth Cymru gan y Fforwm Gwerth Cymdeithasol rhanbarthol, fel sy\u2019n ofynnol dan y Ddeddf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyd-gynhyrchu yn \u00f4l ei natur wedi\u2019i gysylltu\u2019n gynhenid \u00e2 gwerth cymdeithasol. Os byddwn yn gwella cyd-gynhyrchu, bydd mwy o werth cymdeithasol yn dilyn. &nbsp;O fewn Gofal Cymdeithasol Conwy, rydym yn symud tuag at ymagwedd mwy cyd-gynhyrchiol tuag at gomisiynu a monitro contractau y gwasanaethau trydydd sector rydym yn eu comisiynu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein dull comisiynu\u2019n defnyddio\u2019r cylch Dadansoddi, Cynllunio, Gwneud ac Adolygu, ac rydym yn ceisio ymwreiddio cyd-gynhyrchu ym mhob rhan o&#8217;r cylch lle bo&#8217;n bosib. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud \u00e2 chyflawni canlyniadau lles a chael gwerth am arian; byddwn yn cynnwys defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau drwy gydol y cylch er mwyn sicrhau ein bod, drwy gydweithio, yn darparu\u2019r safon gywir o wasanaethau cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir ac am y pris cywir. &nbsp;Drwy\u2019r broses hon byddwn hefyd yn sicrhau ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfarfodydd adolygu contract yn gyfle i gynnal sgwrs rhwng y ddwy ochr, lle byddwn yn cydweithio i wneud yr hyn a allwn i gynyddu effaith eu gwasanaethau i\u2019r eithaf. Mae hyn yn golygu gwneud yn si\u0175r bod gwasanaethau\u2019n gwrando ar eu pobl ac yn datblygu mewn ymateb i\u2019r hyn y maent yn ei glywed.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enghraifft ddiweddar yn ymwneud \u00e2 gwasanaeth a ail gomisiynwyd drwy gyllid Teuluoedd yn Gyntaf, sef gwasanaeth Cefnogi Cydberthnasau Teuluol. Dylanwadwyd ar fanyleb y gwasanaeth gan bobl oedd wedi defnyddio gwasanaethau tebyg, a drwy ymgynghoriadau ger gi\u00e2t yr ysgol. Ar y cam cyfweld, roedd defnyddwyr y gwasanaeth a chynrychiolwyr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy yn rhan o\u2019r panel er mwyn rhannu\u2019r broses o benderfynu pa ddarparwr oedd yn cael y contract, a byddant hefyd yn rhan o waith adolygu\u2019r contract. Bydd rhannu p\u0175er a chydweithio gwirioneddol yn arwain at wasanaeth sy\u2019n cydweddu\u2019n well \u00e2 chyflawni canlyniadau y mae ar bobl eu heisiau, a thrwy hynny wella gwerth cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw cynhyrchu Gwerth Cymdeithasol wedi\u2019i gyfyngu i Ofal Cymdeithasol yn unig; gall gwasanaethau ehangach y Cyngor gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy eu hamrywiol bartneriaethau a chontractau, ac maent yn gwneud hynny. &nbsp;Bydd y rhaglen hon yn cael ei symud ymlaen yn gyfan gwbl drwy Gytundeb Partneriaeth tair blynedd rhwng y Cyngor a\u2019r Trydydd Sector.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Mae Gwerth Cymdeithasol yn golygu deall gwerth newid i fywydau pobl. Mae unrhyw wasanaeth sy\u2019n helpu hybu newidiadau cadarnhaol fel gwell lles, mwy o hyder, bod yn iachach, byw mewn gwell tai neu gael gwell cydberthnasoedd teuluol, yn creu gwerth cymdeithasol.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Un her, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 gwasanaethau ataliol, yw bod rhaid datblygu achos busnes yn aml ar sail gwerth ariannol yn unig, oherwydd pwysau cyllidebol. Mae hyn yn aml yn bwysicach nag ystyried gwerth cymdeithasol. Yn ogystal, efallai na wireddir unrhyw ddarpar arbedion cost am beth amser, ac\/neu mewn rhannau eraill o&#8217;r system. Er enghraifft, gallai gwasanaethau ataliol cymdeithasol arwain at arbedion neu lai o alw i\u2019r gwasanaeth iechyd, ymhen amser.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ein gwaith partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd penderfyniadau. &nbsp;Mae\u2019r Ddeddf yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i benderfyniadau. &nbsp;Yng Nghonwy rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn y Cynllun Corfforaethol. &nbsp;Mae\u2019r saith nod a\u2019r pum ffordd o weithio yn cyfateb i\u2019r wyth Canlyniad ar gyfer Dinasyddion Conwy. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ceir camau gweithredu yn y Cynllun Corfforaethol sy\u2019n ataliol, sydd \u00e2\u2019r nod o weithio tuag at yr effaith tymor hirach ac sydd wedi\u2019u llunio drwy ystyried sut y maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles. Mae\u2019r camau gweithredu hefyd yn gydweithredol yn y modd y maent yn canolbwyntio ar weithio\u2019n agos gyda chymunedau, fel bod ganddynt berchnogaeth dros y Canlyniadau ar gyfer Dinasyddion a\u2019u bod yn rhan o\u2019r cydweithio i\u2019w cyflawni. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ddeddf hefyd yn diffinio datblygu cynaliadwy yng Nghymru fel dull o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. &nbsp;Mae\u2019n gwneud i ni ystyried yr hyn rydym yn ei wneud, sut yr ydym yn ei gyflawni a sut yr ydym yn cyfathrebu. &nbsp;Fel gwasanaeth, rydym yn cyfrannu drwy fyfyrio ar y modd yr ydym yn defnyddio&#8217;r pum ffordd o weithio yn ein proses Adolygu Perfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a\u2019r Cod Ymarfer yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith. &nbsp;Mae\u2019r broses hon hefyd yn galluogi AauLl i wella eu gwasanaethau\u2019n barhaus. &nbsp;Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau cadarn ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata ar fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. &nbsp;Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o&#8217;r safonau ansawdd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, partneriaeth ac integreiddio ac atal. Mae gan yr awdurdod lleol drefniadau llywodraethu cadarn i gefnogi rheolaeth effeithiol Gofal Cymdeithasol. Mae\u2019r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. &nbsp;Mae\u2019r Cyngor wedi penodi dau Ddeiliad Portffolio sy\u2019n cynrychioli Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Hamdden. &nbsp;Rydym hefyd yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i\u2019r Pwyllgor Craffu eu hadolygu a\u2019u herio. &nbsp;Yn ogystal, mae gennym broses fewnol gadarn o oruchwylio a herio perfformiad. &nbsp;Cynhelir cyfarfodydd \u00e2\u2019n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"427\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Council-Chamber-Presentation-1-1024x427.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2441\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Council-Chamber-Presentation-1-1024x427.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Council-Chamber-Presentation-1-300x125.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Council-Chamber-Presentation-1-768x320.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Council-Chamber-Presentation-1-1536x640.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Council-Chamber-Presentation-1.png 1601w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhaglen Ariannu Hyblyg<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Nod y Rhaglen Ariannu Hyblyg yw sicrhau gwell canlyniadau i\u2019r rhai hynny sydd fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, a hynny drwy ddulliau ymyrryd yn gynnar ac atal, gan annog pobl i hunan-fyfyrio a chryfhau eu cymhelliant. Y bwriad yw chwalu\u2019r rhwystrau sy\u2019n atal pobl rhag newid er gwell, drwy ddatblygu dulliau blaengar sydd wedi\u2019u dylunio i atal pobl rhag mynd yn fwy diamddiffyn yn y dyfodol. Mae\u2019r rhaglen yn cyfuno deg o ffrydiau cyllid mewn dau \u2018bot\u2019 o grantiau er mwyn cryfhau ein gallu i ddarparu gwasanaethau ataliol, sy\u2019n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar gyda&#8217;r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae\u2019r \u2018pot\u2019 cyntaf yn canolbwyntio ar Dai a\u2019r ail ar Blant a Chymunedau. <br><br>Gyda\u2019r hyblygrwydd newydd hwn, rydym wedi gallu newid ein cymorth i rieni&#8217;n sylweddol, gyda\u2019r staff Dechrau&#8217;n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf bellach yn cydweithio fel un t\u00eem Cymorth i Deuluoedd o bum gwahanol ardal leol. &nbsp;Mae gan bob ardal restr o gymorth a gweithgareddau ar nifer o wahanol lefelau, gan gynnwys mynediad agored, gwybodaeth a chyngor, grwpiau un-i-un a chymorth arbenigol. &nbsp;Mae\u2019r model yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd yng Nghonwy sydd wedi adrodd eu hanesion yngl\u0177n \u00e2\u2019r cymorth oedd ar gael iddynt.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Llwyddiannau allweddol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adnodd Lles y Teulu wedi cyrraedd rhestr fer am wobr, ac rydym wedi cael ein gwahodd i ymuno \u00e2 phrosiect arloesol Rhoi Plant yn Gyntaf. &nbsp;Mae cysylltiadau agos wedi\u2019u sefydlu \u00e2 gwasanaethau eraill o fewn yr awdurdod, fel y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Desg Ddyletswydd Plant (Gofal Cymdeithasol) a\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid, sydd wedi ailstrwythuro i atgynhyrchu\u2019r model ardal leol. &nbsp;Mae\u2019r gwaith ailgomisiynu wedi dechrau a bydd yn parhau drwy gydol 2020\/21.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn siarad \u00e2 phobl ifanc a rhieni am gyfleoedd chwarae, sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019n thema Iechyd a Lles. Rydym hefyd yn edrych ar sut y mae ein canolfannau hamdden yn cael eu defnyddio. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi ein data Cefnogi Pobl er mwyn gallu cynllunio ein gwasanaethau wrth symud ymlaen. &nbsp;Bydd elfennau o\u2019n gwaith casglu gwybodaeth hefyd yn cael eu defnyddio o fewn y them\u00e2u Digartrefedd, Pobl Ifanc ac Iechyd Meddwl, sydd oll wedi\u2019u cydgysylltu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn adolygiad o\u2019n cefnogaeth cyflogadwyedd, rydym yn gwneud nifer o newidiadau i&#8217;r ffordd yr ydym yn cydlynu ein cefnogaeth. &nbsp;Er enghraifft, mae\u2019r staff Gofal Cymdeithasol sy\u2019n darparu cynlluniau sy\u2019n ymwneud \u00e2 chyflogadwyedd wedi trosglwyddo i\u2019r Gwasanaethau Datblygu Cymunedol, fel bod staff cyflogadwyedd i gyd yn dod o dan un gwasanaeth, ac rydym wrthi\u2019n creu swydd arweinydd strategol ar gyfer cyflogadwyedd o fewn yr un gwasanaeth. &nbsp;Bydd y Prif Swyddog Cyflogadwyedd newydd yn goruchwylio holl gynlluniau cyflogadwyedd yr awdurdod ac yn datblygu Strategaeth Cyflogadwyedd Conwy, gan gynnwys ein cefnogaeth ar gyfer unigolion ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy, mae\u2019r ffrydiau cyllid yn cwmpasu pum gwasanaeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Plant, Teuluoedd a Diogelu;<\/li><li>Datblygu Cymunedol;<\/li><li>Addysg;<\/li><li>Gwasanaethau Integredig Oedolion a Chymunedau;<\/li><li>Rheoleiddio a Thai.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gan hynny, mae ein dull llywodraethu\u2019n dod \u00e2 phob swyddog arweiniol, y pum Pennaeth Gwasanaeth a\u2019r holl Gyfarwyddwyr Strategol ynghyd i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sy\u2019n cael ei ddarparu, y rhwystrau a\u2019r cyfleoedd. &nbsp;Gallwn hefyd sicrhau bod meysydd lle mae cydweithrediad yn digwydd yn cael eu nodi a\u2019u hyrwyddo. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi adolygu ein trefniadau monitro contractau a&#8217;r ffordd yr ydym yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth ddatblygu ein gwasanaethau. &nbsp;Byddwn yn rhannu enghreifftiau o arferion da ac yn edrych ar safoni prosesau ar gyfer monitro contractau. Byddwn hefyd yn cryfhau ein hadnoddau o ran ceisio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a chyd-gynhyrchu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn ceisio adborth gan ddefnyddwyr am gyfleoedd chwarae, yn unol \u00e2\u2019r cynlluniau ail-gomisiynu, a byddwn yn cysylltu hyn \u00e2\u2019n thema Iechyd a Lles, ynghyd \u00e2&#8217;r data am ein gwasanaethau hamdden. &nbsp;Rydym wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi ein data Tai er mwyn cael gwell gwybodaeth am anghenion wrth symud ymlaen. Byddwn yn rhoi mwy o newidiadau cyflogadwyedd ar waith ac, ynghyd ag adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, byddwn yn edrych ar sut yr ydym yn cyflwyno rhywfaint o&#8217;n darpariaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Playground-Scene-1-1024x452.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2443\" height=\"388\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Playground-Scene-1-1024x452.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Playground-Scene-1-300x132.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Playground-Scene-1-768x339.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Playground-Scene-1.png 1296w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rheoleiddio ac Arolygu<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) wedi newid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu harolygu, sut yr ydym yn gwella ansawdd y gofal a\u2019r cymorth yr ydym yn ei ddarparu, a\u2019r modd yr ydym yn rheoleiddio\u2019r gweithlu. &nbsp;Mae\u2019n rhoi ansawdd ac arolygu gwasanaethau wrth wraidd rheoleiddio, yn cryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y rhai sydd ei angen ac yn sicrhau bod gwasanaethau\u2019n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers 2018, o fewn y Gwasanaethau Oedolion, dechreuwyd cofrestru rheolwyr yn y sector cartrefi gofal ledled Cymru o dan y rheoliadau RISCA newydd. Rydym wedi cynnal cyfres o fforymau rheolwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno RISCA. Hefyd, bu i ni gynnal gweithdai Cofrestru \u00e2 Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar er mwyn helpu\u2019r gweithlu gofal cartref i gofrestru. Rydym wedi sefydlu gr\u0175p polisi RISCA sy\u2019n cwrdd bob mis er mwyn adolygu\u2019r polis\u00efau sy\u2019n ofynnol o dan y rheoliadau newydd. Gyda\u2019n partneriaid, rydym hefyd yn cynnal Gr\u0175p Hyfforddiant Darparwyr Conwy er mwyn hybu datblygiad a dysg y gweithlu gydol y Sector.<\/p>\n\n\n\n<p>O fewn maes gwasanaeth Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Trosolwg Cenedlaethol mewn perthynas \u00e2 phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal.&nbsp; Bu i ni gymryd rhan yn yr adolygiad hwn ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar sut y gallwn wella\u2019r ffordd yr ydym yn gweithio i wella profiadau drwy ddefnyddio\u2019r canfyddiadau allweddol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mwy Na Geiriau: Darparu\u2019r \u2018Cynnig Gweithredol\u2019<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn syml, mae \u2018Cynnig Gweithredol\u2019 yn golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rhywun orfod gofyn amdano. &nbsp;Dyma ddywedodd Mark Drakeford ( Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd) yn 2016:<\/p>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"240\" height=\"211\" src=\"\">\u201cSicrhau diogelwch, urddas a pharch siaradwyr Cymraeg sydd wrth wraidd darparu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn y Gymraeg.&nbsp; Nid cydymffurfio \u00e2 gofynion cyfreithiol a chynnal safonau proffesiynol yn unig sy\u2019n bwysig, ond gwella ansawdd y gofal a diwallu anghenion ieithyddol pobl, yn ogystal \u00e2 darparu gwasanaethau cyhoeddus da sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy, rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau bod y Cynnig Gweithredol yn cael ei ymwreiddio yn ein diwylliant, gan sicrhau ansawdd a diogelwch i siaradwyr Cymraeg y sir. &nbsp;Mae sicrhau bod unigolion sy&#8217;n derbyn gofal a chymorth gennym yn gallu cyfathrebu \u00e2 staff cymorth yn eu dewis o iaith yn hynod bwysig. &nbsp;Er mwyn galluogi hyn, byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi Mwy Na Geiriau wedi\u2019u hanelu at y gweithlu cyfan, sy&#8217;n cyflwyno:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y Cynnig Gweithredol<\/li><li>Y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg<\/li><li>Profiadau defnyddwyr gwasanaethau<\/li><li>Sut mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi ein cyfrifoldebau mewn perthynas \u00e2 darparu gwasanaeth Cymraeg<\/li><li>Rhoi newid ar waith<\/li><li>Datblygu strategaeth sgiliau iaith<\/li><li>Cyfnewid arferion da<\/li><li>Llunio cynllun gweithredu<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Cytunodd 95% o\u2019r bobl a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion eu bod yn gallu cyfathrebu yn eu dewis o iaith<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cynhaliwyd 19 cwrs gyda 178 aelod staff yn eu mynychu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfranogi ac Ymgynghori<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Dros y deuddeng mis diwethaf, rydym wedi cynnal nifer o ymarferion cyfranogi ac ymgynghori ar amrywiaeth o bynciau ar ran y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd. &nbsp;Mae\u2019r ymateb a\u2019r wybodaeth a gawn o\u2019r ymgynghoriadau a\u2019r ymgysylltiad yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"146\" height=\"318\" src=\"\">Ymgynghori \u00e2 phobl h\u0177n a Thai ar gyfer Strategaeth Tai Conwy.<\/li><li>Gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Daflen Retinopathi Diabetig.<\/li><li>Mynd gyda dinasyddion Conwy i ymgynghoriad BIPBC ar Wasanaethau Deintyddol.<\/li><li>Mynd gyda dinasyddion Conwy i ddigwyddiad ymgynghori &#8216;Heneiddio&#8217;n Dda yng Nghymru: Cymunedau Oed Gyfeillgar\u2019 yn Y Galeri, Caernarfon (gyda\u2019r Comisiynydd Pobl H\u0177n yn bresennol).<\/li><li>Mynychu\u2019r Rhwydwaith i drafod Cynhyrchion a Gwasanaethau Teleofal (Gwasanaethau Lles).<\/li><li>Mynychu\u2019r Rhwydwaith i ymgynghori \u00e2 hwy ar boster i roi gwybodaeth am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor (Refeniw a Budd-Daliadau).<\/li><li>Mynychu\u2019r Rhwydwaith i drafod Budd-daliadau a sut i gysylltu \u00e2\u2019r Gwasanaeth Hawliau Lles (Hawliau Lles).<\/li><li>Cydweithio \u00e2 Chydlynydd Rhaglen y Prosiect IMAGINE ar gyfer Bae Colwyn (Sut y gall cymunedau gydweithio\u2019n well).<\/li><li>Mynychu Rhaglen Darllen ar y Cyd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy i drafod y rhaglen a sut y gall unigolion gymryd rhan.<\/li><li>Ymgynghori \u00e2 defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar ail-ddylunio\u2019r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol.<\/li><li>Cynnal grwpiau ymgynghori bychain yng Nghartrefi Preswyl Plas Isaf a Llys Elian yngl\u0177n \u00e2\u2019u barn am fyw mewn lleoliad preswyl 24 awr.<\/li><li>Mynychu digwyddiad ymgynghori \u2018Heneiddio&#8217;n Dda yng Nghymru&#8217;\u2013 \u2018Ymagweddau Arloesol tuag at Wasanaethau Cyhoeddus mewn Cymunedau Gwledig\u2019.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae ein Swyddog Cyfranogi wedi cyflwyno sawl sesiwn i staff a grwpiau lleol ar sut i \u2018Ddeall Dementia\u2018. &nbsp;Rydym hefyd wedi hyrwyddo Arolwg Blynyddol Conwy ar gyfer pobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethu, drwy siarad ag unigolion i\u2019w helpu i lenwi\u2019r ffurflen adborth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwaith Cyfranogiad yr Ifanc<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Adolygu ein Pecyn Cymorth Hawliau Plant mewn ymgynghoriad \u00e2 Chyngor yr Ifanc Conwy.<\/li><li><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"111\" height=\"329\" src=\"\">Cwblhau Prosiect Diogelwch ar y We ar eithafiaeth a&#8217;r peryglon i bobl ifanc.<\/li><li>Cefnogi ein cynrychiolydd ieuenctid dros Anabledd Cymru i fynychu Senedd Ieuenctid Cymru.<\/li><li>Ymgynghori \u00e2 Chyngor yr Ifanc ar y Pecyn Cymorth Cyfleoedd Chwarae Digonol.<\/li><li>Galluogi aelodau Cyngor yr Ifanc i fynychu cyfarfod Cyngor Tref Bae Colwyn er mwyn gwreiddio llais pobl ifanc ymhellach yng ngwaith y Cyngor Tref.<\/li><li>Cysylltu \u00e2 theuluoedd sydd wedi ymwneud \u00e2\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd i gynnwys eu barn am y gwasanaeth mewn adroddiad cyffredinol.<\/li><li>Ymgynghori \u00e2 Chyngor yr Ifanc Conwy ar Gynllun Corfforaethol Conwy.<\/li><li>Ymgynghori \u00e2 phlant a phobl ifanc yngl\u0177n \u00e2 &#8216;Beth sy&#8217;n Gwneud Rhiant Maeth Da&#8217;<\/li><li>Cyfrannu i gyfarfodydd Cyngor yr Ysgol yn yr Uned Atgyfeirio Disgyblion.<\/li><li>Ymgynghori \u00e2\u2019r Gwasanaeth Datblygu Gwledig ar yr hyn sy\u2019n bwysig i bobl ifanc sy\u2019n byw mewn ardaloedd gwledig.<\/li><li>Galluogi aelodau o Gyngor yr Ifanc i fynychu digwyddiadau cenedlaethol a gynhelir gan Cymru Ifanc yn rheolaidd, ac mae gennym gynrychiolaeth ar Senedd Ieuenctid y DU.<\/li><li>Ymgynghori \u00e2 Phobl Ifanc sy\u2019n Gadael Gofal ar yr Ap Cyfathrebu Mind of My Own ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.<\/li><li>Cyfrannu i Sesiwn Hyfforddi Llywodraethwyr a Disgyblion ar gyfer ysgolion uwchradd Conwy, gydag aelodau Cyngor yr Ifanc Conwy.<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ein gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol Galluogi ein staff i wella eu hiechyd a\u2019u ffitrwydd Mae sicrhau bod ein gweithlu yn iach ac wedi\u2019u hysgogi yn flaenoriaeth i ni, ac ar ddechrau 2020 lansiwyd rhaglen hyfforddi iechyd a gweithgarwch newydd o\u2019r enw FAST 365 mewn partneriaeth \u00e2 sefydliad ffitrwydd lleol. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2438","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2438","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2438"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2438\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2438"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}