{"id":2410,"date":"2020-11-04T12:02:25","date_gmt":"2020-11-04T12:02:25","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2410"},"modified":"2020-11-04T12:10:33","modified_gmt":"2020-11-04T12:10:33","slug":"safon-ansawdd-6-gweithio-gyda-phobl-au-cefnogi-i-sicrhau-gwell-lles-economaidd-gwell-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/safon-ansawdd-6-gweithio-gyda-phobl-au-cefnogi-i-sicrhau-gwell-lles-economaidd-gwell-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 6: Gweithio gyda phobl a\u2019u cefnogi i sicrhau gwell lles economaidd, gwell bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy\u2019n diwallu eu hanghenion"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Mae 78% o\u2019r plant yn hapus gyda\u2019r bobl y maent yn byw gyda hwy.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Hawliau Lles yn y Gymuned<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Ym mis Tachwedd 2018, dechreuodd y T\u00eem Hawliau Lles weithio o\u2019r pum swyddfa amlddisgyblaethol leol o amgylch Sir Conwy, ac ar yr un pryd agorwyd y gwasanaeth i&#8217;r holl drigolion sydd angen cyngor am fudd-daliadau. &nbsp;Cyn hyn, roedd angen i weithiwr cymdeithasol atgyfeirio unigolion at y gwasanaeth. &nbsp;Mae\u2019r t\u00eem yn gweithredu llinell gyngor ddyddiol y gall unrhyw un o drigolion Conwy ei ffonio am gyngor a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"634\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Group-1-1024x634.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2411\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Group-1-1024x634.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Group-1-300x186.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Group-1-768x476.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Group-1.png 1156w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Ffoniwch y T\u00eem Hawliau Lles rhwng dydd Llun a dydd Gwener ar 01492 576605<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>O fewn yr ardaloedd lleol, mae\u2019r Swyddogion Hawliau Lles yn rhan o d\u00eem gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol. &nbsp;Mae pob Swyddog Hawliau Lles yn gyfrifol am reoli\u2019r atgyfeiriadau yn yr ardal a gwneud eu trefniadau eu hunain i ymweld \u00e2 chleientiaid. Mae\u2019r Swyddogion Hawliau Lles hefyd yn ffynhonnell gymorth ar gyfer y gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol sy\u2019n aml yn eu holi am gyngor ar fudd-daliadau ac atgyfeiriadau. Mae pawb yn cydweithio i ddarparu\u2019r llythyrau cefnogi a\u2019r wybodaeth feddygol sydd eu hangen i hawlio budd-daliadau, a hynny\u2019n aml yr un diwrnod. &nbsp;Gall hyn gyflymu\u2019r broses hawlio i\u2019r cleient. &nbsp;Er enghraifft, efallai y bydd cleient sy\u2019n profi caledi angen llythyr gan y meddyg i gefnogi cais am grant, a gall gael gafael ar hwn yr un diwrnod er mwyn ei anfon gyda\u2019r ffurflen gais.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna nifer o fanteision i weithio yn y ffordd hon. &nbsp;Un ohonynt yw y gellir ymyrryd yn gynnar mewn achosion, gyda\u2019r gobaith o osgoi gorfod rheoli argyfwng. &nbsp;Bydd Swyddogion Hawliau Lles yn mynychu cyfarfodydd clwstwr wythnosol lle bydd gweithwyr cymdeithasol a staff Iechyd fel nyrsys a therapyddion galwedigaethol yn trafod ac yn dyrannu achosion. Gall staff Hawliau Lles roi cyngor ar gam cynnar yn y broses, a gallant wneud apwyntiad i weld y cleient yr un diwrnod yn aml os bydd angen.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Astudiaeth Achos<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd g\u0175r h\u0177n, 85 oed, yn ysbyty Llandudno yn aros am leoliad addas mewn cartref preswyl. Trafodwyd ei achos yn y cyfarfod Clwstwr gan ei fod yn ddigon da i adael yr ysbyty ond na allai ddychwelyd adref am ei fod wedi cael str\u00f4c ddrwg, oedd wedi ei adael \u00e2 gwendid yn ei fraich a diffyg hyder.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwyddai&#8217;r Gweithiwr Cymdeithasol fod lle wedi dod yn wag yng Nghynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys y Coed, fyddai\u2019n diwallu ei holl anghenion. Yr unig broblem oedd ei fforddiadwyedd i\u2019r cleient. Dim ond am 48 awr y gellid cadw\u2019r lle iddo. Gyda chaniat\u00e2d y cleient, gwnaeth y Swyddog Hawliau Lles yr ymholiadau angenrheidiol gyda\u2019r Adran Gwaith a Phensiynau yngl\u0177n \u00e2\u2019i Bensiwn y Wladwriaeth, gan wneud cais yr un diwrnod am Lwfans Gweini i&#8217;r cleient. Byddai\u2019r cais hwn yn cynyddu ei incwm o \u00a387.65 yr wythnos.&nbsp; Gan ei fod yn byw ar ei ben ei hun heb unrhyw incwm arall ar wah\u00e2n i bensiwn y wladwriaeth, roedd yn gymwys am bremiwm arall o \u00a365.85 yr wythnos. &nbsp;Roedd ar ei ennill o \u00a3153.50 yr wythnos. Mae bellach yn hapus yn ei fflat ac mae\u2019r warden yn dweud ei fod wedi gwneud ffrindiau newydd. Heb ymyrraeth gynnar gan y t\u00eem Hawliau Lles, efallai na fyddai wedi cael cyfle i gymryd y denantiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwng Ebrill 2019 a Ionawr 2020, gwelodd y T\u00eem Hawliau Lles 1,980 o unigolion, gan sicrhau cyfanswm o \u00a35,987,983.08 mewn budd-daliadau ar eu cyfer<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn darparu allgymorth yn y gymuned i gynnig cyngor am fudd-daliadau ar draws nifer o wahanol wasanaethau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dydd Llun 1-4pm yn Eglwys Sure Hope, Hen Golwyn i gleientiaid y Prosiect Rhannu Bwyd.<\/li><li>Dydd Llun 9.30am-12pm yng Nghoed Pella, Bae Colwyn\u2013 gwasanaeth galw heibio i gael cyngor am fudd-daliadau.<\/li><li>Un dydd Llun y mis \u2013 gwasanaeth i gleifion y clinig poen yng Nghanolfan Abergele.<\/li><li>Dydd Mawrth olaf y mis yn y lleoliad Cymunedau am Waith i gleientiaid y Ganolfan Waith.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Y brif her gyda Hawliau Lles yw darparu gwasanaethau sy\u2019n diwallu anghenion y gymuned ar y pryd, gan osgoi dyblygu gwasanaethau a ddarperir gan asiantaethau eraill, fel y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth. Ar hyn o bryd, mae yna lawer o ganolbwyntio ar gyngor am y Credyd Cynhwysol, ac rydym yn diwallu\u2019r angen hwn drwy helpu gyda cheisiadau gan ddefnyddio dyfeisiau llechen, cynnig sesiynau galw heibio yng Nghoed Pella a drwy\u2019r llinell gyngor.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae mwy o gyngor cyffredinol am fudd-daliadau i\u2019w weld ar <\/strong><a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Benefits-and-grants\/Benefits-and-Grants.aspx\"><strong>wefan Conwy<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gweithio o\u2019r Canolfannau Teuluoedd<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Hawliau Lles hefyd yn gweithio o\u2019r Canolfannau Teuluoedd sydd o amgylch Conwy, yn ogystal \u00e2 Llyfrgell Penmaenmawr. &nbsp;Mae\u2019n arferol i swyddog weld rhwng pedwar a chwech o gleientiaid mewn diwrnod, ac mae pob un yn cael cyfle i drafod eu problemau a mynd i\u2019r afael ag unrhyw broblemau brys er mwyn atal y sefyllfa rhag troi\u2019n argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwng Ebrill 2019 a Ionawr 2020, gwelodd y T\u00eem Hawliau Lles 161 o gleientiaid yn y Canolfannau Teuluoedd<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod Canolfannau Teuluoedd yn amlddisgyblaethol, gall y cyhoedd ffonio am gyngor a gellir trefnu apwyntiad i weld un o\u2019r t\u00eem Hawliau Lles drwy ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol a gweithwyr cymorth os oes angen. Nod y T\u00eem Hawliau Lles yw cynnig ymyrraeth gynnar i helpu atal problemau rhag troi&#8217;n faterion mwy cymhleth. Er enghraifft, drwy helpu mam ifanc gydag \u00f4l-ddyledion rhent i gyllidebu ei harian a sefydlu cynllun fforddiadwy gyda\u2019r Gymdeithas Tai i dalu\u2019r \u00f4l-ddyledion, gellir osgoi ei throi allan o\u2019i llety a\u2019i gwneud yn ddigartref. Enghraifft arall fyddai mam ifanc sy\u2019n dioddef trais domestig yn y cartref ac sydd angen cyngor am sut i adael ei phartner. Mae\u2019r Ganolfan Deuluoedd yn le hawdd iddi fynd a gellir archwilio pob dewis sydd ar gael iddi mewn amgylchedd diogel yn hytrach nag mewn swyddfa ffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw pob cleient ar fudd-daliadau; mae rhai ar gyflogau isel neu gontractau oriau sero ac angen cymorth i wneud y mwyaf o\u2019u hincwm a chyllidebu er mwyn gallu talu rhent a thrydan. Os oes yna broblem gyda dyled, gallwn gysylltu \u00e2\u2019r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth i wneud apwyntiad i\u2019r cleient.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019n gwasanaeth, byddwn yn gwneud yn si\u0175r bod y cleient yn cael pob gostyngiad sydd ar gael, er enghraifft cymorth gyda chostau d\u0175r, prydau ysgol am ddim a gwirio bod y cleient ar y tariff ynni cywir. Os nad oes gan y cleient ddigon o arian i brynu bwyd, yna gallwn archebu parsel bwyd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwasanaethau sy\u2019n Ennill Gwobrau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy, sy\u2019n cynnwys Galw Gofal a darpariaeth TCC yr Awdurdod Lleol, wedi ennill gwobr Safon Aur yr Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol. &nbsp;Dyma&#8217;r safon ddiogelwch uchaf y gall Canolfan Derbyn Larymau ei chyrraedd, a ni yw\u2019r cyntaf yng Nghymru i\u2019w hennill, gyda\u2019r gallu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i\u2019n holl gwsmeriaid yn y sector cyhoeddus a\u2019r sector preifat. &nbsp;&nbsp;Bydd yr achrediad yn caniat\u00e1u i ni ehangu cwmpas ein gwasanaethau monitro galwadau i gynnwys monitro larymau tresmaswyr a lladron, larymau t\u00e2n, TCC ar gyfer cymwysiadau diogelwch, dyfeisiau gweithwyr sy\u2019n gweithio ar eu pennau eu hunain, yn ogystal \u00e2 larymau cymdeithasol a chyfarpar theleofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hon yn safon anodd ei chyrraedd ac fe aethom drwy dri diwrnod o asesiadau ar y safle i weld sut mae\u2019r t\u00eem yn gweithio a chadarnhau bod yr holl systemau yn eu lle. &nbsp;Archwiliwyd adeiladwaith y ganolfan fonitro ynghyd \u00e2\u2019r trefniadau mynediad diogelwch, ac roedd rhaid gwirio ein haelodau staff i safonau\u2019r heddlu. &nbsp;Mae angen i\u2019n polis\u00efau a\u2019n gweithdrefnau gynnwys pob agwedd ar y gwasanaeth, rhaid i raglenni hyfforddi fod wedi\u2019u trefnu ar gyfer y staff ac mae\u2019n rhaid i ni fod \u00e2 threfniadau parhad busnes cadarn. Roedd angen tystiolaeth hefyd ein bod yn defnyddio systemau rheoli ansawdd effeithiol gyda rhaglen effeithiol o archwilio mewnol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Twf busnes cynaliadwy, gan fod y ganolfan dderbyn ddigidol yn gallu rheoli amrywiaeth eang o dechnolegau a gwybodaeth.&nbsp;&nbsp; &nbsp;&nbsp;Y Ganolfan Derbyn Larymau yw\u2019r ganolfan fonitro gyntaf yng Nghymru sydd wedi\u2019i galluogi\u2019n ddigidol, a byddwn yn cydweithio \u00e2\u2019n partneriaid i ddarparu gwasanaethau a gefnogir gan y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>TRAC<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan d\u00eem TRAC Conwy 19 aelod staff sy\u2019n helpu dysgwyr blynyddoedd 7 i 11, a blwyddyn 6 yn fwy diweddar, pob ysgol uwchradd, ysgol arbenigol a lleoliad addysg amgen, yn ogystal \u00e2 hyd at ddeg ysgol gynradd ledled y sir. Amcan y prosiect yw darparu hyfforddiant i bobl ifanc sydd \u00e2&#8217;r mwyaf o risg o fod yn NEET (Pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) pan fyddant yn gadael yr ysgol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ers cychwyn y prosiect ym mis Ebrill 2016, mae t\u00eem TRAC Conwy wedi gweithio gyda 784 o bobl ifanc.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Caiff dysgwyr eu hatgyfeirio at TRAC gan ysgolion ar sail eu sg\u00f4r Adnodd Proffilio Dysgwyr. &nbsp;Mae\u2019r sg\u00f4r yn cynnwys dangosyddion fel presenoldeb, ymddygiad a statws derbyn gofal, sydd \u00e2\u2019r mwyaf o bwysoliad. &nbsp;Mae Gweithwyr Lles, cwnselwyr ysgol a Gweithwyr Lles Addysg yn cyfarfod \u00e2 phobl ifanc am hyd at un sesiwn\/gwers yr wythnos. &nbsp;Maent yn gweithio gyda phobl ifanc i ganfod sut y gellir gwella presenoldeb, ymddygiad a chyrhaeddiad drwy osod nodau, amcanion, eirioli dros bobl ifanc a helpu gwella sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu, hunan-barch ac ysgogiad, ymysg pethau eraill. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hyd yma, mae 197 o bobl ifanc wedi lleihau eu risg o fod yn NEET wrth gymryd rhan yn y prosiect.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae staff y t\u00eem TRAC hefyd yn darparu gweithgareddau i ddarparwyr a grwpiau bychain; mae sefydliadau hyfforddi a gomisiynir gan TRAC yn darparu amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau, gyda rhai ohonynt yn arwain at gymhwyster.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hyd yma, mae 149 o gymwysterau lefel I neu II wedi cael eu dyfarnu.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o&#8217;u r\u00f4l, mae gweithwyr TRAC yn mynychu cyfarfodydd amlddisgyblaethol a chyfarfodydd eraill y gwasanaethau cymdeithasol, gan ddod \u00e2 safbwynt y person ifanc i\u2019r cyfarfod. Mae hyn wedi bod o fudd mawr i helpu hysbysu paneli am y camau gorau i berson ifanc eu cymryd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Astudiaeth Achos<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Cyfeiriwyd person ifanc at TRAC i helpu gwella ei bresenoldeb a chanfod y rheswm pam nad oedd yn mynychu&#8217;r ysgol bob dydd. &nbsp;Cododd yr ysgol bryder am gyflawniad academaidd y person ifanc, ond roedd hefyd yn poeni am ei iechyd meddwl a\u2019i amharodrwydd i gael ei atgyfeirio at CAMHS.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y person ifanc yn eithaf tawedog yn ystod y sesiwn gyntaf. Dros amser, fe gychwynnodd ddatgelu mwy am ei fywyd personol a pham nad oedd yn hoffi\u2019r ysgol. &nbsp;Cychwynnodd y person ifanc hefyd siarad mwy am ei iechyd meddwl. &nbsp;Cychwynnodd y gwaith cymorth gyda chymorth emosiynol, gan fagu hyder ac edrych ar y gwahaniaeth rhwng perthnasoedd iach a rhai niweidiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r person ifanc bellach yn mynychu\u2019r ysgol uwchradd yn llawn amser gyda chofnod presenoldeb llawer gwell. &nbsp;Mae bellach yn paratoi ar gyfer ei ddyfodol ac wedi cael ei atgyfeirio at Gyrfa Cymru.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">ADTRAC<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) sydd rhwng 16 a 24 oed i ddychwelyd i\u2019r gweithle, i gyrsiau hyfforddi neu i addysg. &nbsp;Mae ADTRAC wedi gweithio gyda dros 130 o bobl ifanc, gyda:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>22 yn ennill cymhwyster<\/li><li>24 yn cael gwaith a 4 arall yn gweithio\u2019n rhan-amser (llai nag 16 awr)<\/li><li>11 yn dychwelyd i addysg a 3 arall mewn addysg rhan-amser (llai nag 16 awr)<\/li><li>6 ar hyfforddeiaethau<\/li><li>5 yn cwblhau lleoliadau gwaith<\/li><li>6 yn cychwyn gwirfoddoli<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bobl ifanc rydym yn gweithio \u00e2 hwy i gyd yn wahanol ac yn dod ag amrywiaeth o rwystrau a phersonoliaethau i\u2019r gymysgedd. &nbsp;Maent oll yn dod at ADTRAC ar wahanol gamau yn eu bywydau; efallai y bydd rhai\u2019n gwybod beth yr hoffent ei wneud ond eu bod angen cymorth i symud ymlaen gyda\u2019u syniadau. &nbsp;Mae rhai angen cymorth a chyngor ychwanegol i gyrraedd eu nodau, ac eraill heb unrhyw ysgogiad i ddilyn eu nodau a\u2019u huchelgeisiau o gwbl. &nbsp;Mae\u2019r prosiect wedi cael ei ymestyn tan fis Chwefror 2021, a byddwn yn parhau i helpu pobl ifanc Conwy tan hynny.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Grant Arloesi Tai &#8211; Atal Digartrefedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Grant Arloesi Tai Llywodraeth Cymru wedi cael ei sicrhau i alluogi\u2019r Gwasanaeth Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal i gymryd drosodd gyda\u2019r prosiect Kick Start 1. &nbsp;Mae\u2019r prosiect hwn wedi galluogi datblygiad tai \u00e2 chymorth sy\u2019n darparu cymorth 24\/7 i bobl sy\u2019n gadael gofal sy\u2019n agored i niwed ac sydd ag anghenion cymhleth. &nbsp;Fel arall, byddai\u2019r bobl hyn sy\u2019n gadael gofal mewn perygl o fod yn ddigartref.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwyd y grant i gyllido\u2019r meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darparu gofal 24\/7 i bobl sy\u2019n gadael gofal gydag anghenion cymhleth<\/li><li>Cynyddu\u2019r cymorth ymarferol a\u2019r llety y gellir ei gynnig i bobl sy\u2019n gadael gofal<\/li><li>Lleihau\u2019r perygl i bobl sy\u2019n gadael gofal fynd yn ddigartref<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Cynigir y ddarpariaeth i bobl sy\u2019n gadael gofal ac mewn perygl o fod yn ddigartref y nodwyd eu bod angen cyfnod pontio hirach cyn y gallant symud i&#8217;r gymuned a rheoli eu tenantiaeth eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y prosiect Reolwr Cofrestredig dynodedig sy\u2019n gyfrifol am gyflawniad llwybr pob person ifanc a\u2019r canlyniadau a nodwyd o fewn y rhain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r uwch fodel byw \u00e2 chymorth yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darparu cyfleoedd gwaith<\/li><li>Gweithio ar y cyd \u00e2 Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, Cynghorwyr Personol, Heddlu Gogledd Cymru, Swyddogion Tai a budd-ddeiliaid allweddol eraill<\/li><li>Sgiliau cyllidebu<\/li><li>Sgiliau datrys problemau a gwytnwch<\/li><li>Lefel uchel o oruchwyliaeth a monitro anghenion cymorth<\/li><li>Sgiliau byw&#8217;n annibynnol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae ambell i her wedi codi gyda\u2019r prosiect hwn, er enghraifft, mae pobl ifanc a roddwyd mewn darpariaeth byw \u00e2 chymorth wedi bod angen lefelau arbennig o uchel o gymorth unigol i sicrhau y diogelir eu lles. &nbsp;Os na fyddai\u2019r ddarpariaeth hon wedi bod ar gael, gallai\u2019r bobl ifanc fod wedi bod mewn perygl o gamfanteisio a digartrefedd. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"655\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-1-1024x655.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2413\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-1-1024x655.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-1-300x192.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-1-768x491.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/House-1.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth symud ymlaen, gallai lleoliadau yn y dyfodol gynnwys pobl ifanc sydd wedi cael sawl gofalwr maeth neu wedi cael profiad o leoliad preswyl yn chwalu, neu rai sydd wedi cael eu rhoi mewn lleoliadau preswyl y tu allan i\u2019r sir a fyddai\u2019n elwa o fod yn agosach i\u2019w cartref mewn amgylchedd sy\u2019n cynnig lefel uchel o gymorth.\u2008<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cytunodd 67% o\u2019r bobl ifanc eu bod wedi cael cyngor, cymorth a chefnogaeth i\u2019w paratoi ar gyfer bod yn oedolyn.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i wedi cael cryn dipyn o gymorth wrth fudo a sefydlu fy mywyd fel oedolyn.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Maelgwyn \/ Kick Start<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal a Phobl Ddiamddiffyn yn ymgymryd \u00e2 thenantiaeth tai dwy ystafell wely ym Mhrosiect Maelgwyn. &nbsp;Bydd hwn yn adnodd i bobl ifanc ag anghenion canolig sydd angen symud ymlaen o ofal maeth. Rydym wrthi\u2019n cysylltu \u00e2\u2019r Adran Ystadau a Chartrefi Conwy i gael gwybod beth yw telerau rheoli\u2019r ddarpariaeth. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd adolygiad ar raddfa eang o\u2019r Cynllun Tai Llety \u00e2 Chymorth yn archwilio niferoedd y bobl ifanc sy\u2019n defnyddio\u2019r prosiect hwn ac yn nodi\u2019r rhwystrau i ddewis y llety hwn. &nbsp;&nbsp;Mae\u2019r canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer pobl ifanc a leolwyd mewn llety Gwely a Brecwast dros dro wedi cael eu hadolygu i ganfod beth sydd ei angen o ran manylion llety dros dro yn y dyfodol. &nbsp;Rydym wrthi\u2019n archwilio modelau amgen gyda\u2019r T\u00eem Cefnogi Pobl. &nbsp;Erbyn Mehefin 2020, gobeithiwn fod wedi comisiynu pum gwely a gynlluniwyd ac un gwely brys mewn prosiect newydd yng Nghoed Pella, gyda grant Cefnogi Pobl wedi cael ei ailgyfeirio o Kick Start 1.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygiad Tai Cymdeithasol Cwrt Ysgol Maelgwn<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae 2 d\u0177 p\u00e2r \u00e2 dwy ystafell wely wrthi\u2019n cael eu datblygu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn Gofal Maeth fel rhan o ddatblygiad tai cymdeithasol Cwrt Ysgol Maelgwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Cwrt Ysgol Maelgwn yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>10 Uned Tai \u00e2 Chymorth 1 ystafell wely (i gael eu dyrannu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol)<\/li><li>2 fyngalo 5 ystafell wely wedi\u2019u haddasu<\/li><li>4 t\u0177 2 ystafell wely (anghenion cyffredinol)<\/li><li>2 d\u0177 2 ystafell wely (llety a rennir i bobl ifanc sy&#8217;n gadael gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol)<\/li><li>1 byngalo bariatrig 1 ystafell wely<\/li><li>2 fyngalo 2 ystafell wely<\/li><li>6 fflat 1 ystafell wely (gyda&#8217;r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael cynnig cyntaf am gyfnod cyfyngedig)<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae darpariaeth llety a rennir i bobl ifanc sy&#8217;n gadael gofal yn ddarpariaeth tymor byr a arweinir gan anghenion, a byddai plant a phobl ifanc yn cael eu lletya am gyfnodau o rhwng tri mis a dwy flynedd cyn symud ymlaen i\u2019w llety eu hunain fel trefniant pontio o \u2018Pan Fydda\u2019 i\u2019n Barod\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddai\u2019r unigolion sy\u2019n cael llety yn cael cymorth cofleidiol yn ystod y dydd drwy\u2019r timau cymorth Gwasanaethau Plant a Phobl Ddiamddiffyn. Gallai hyn gynnwys cymorth gan Gynghorydd Personol sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn, Swyddog Hawliau Lles, Gweithiwr Cymdeithasol a swyddfa Llwybrau Cadarnhaol Pobl Ifanc, neu bwy bynnag sy\u2019n rhan o ofal y person ifanc. Bydd y cymorth mewnol hwn yn cael ei gyfuno \u00e2 chymorth yn \u00f4l yr angen a gomisiynir yn allanol gyda&#8217;r nos ac ar benwythnosau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu&#8217;n rheolaidd \u00e2 Datrysiadau Tai i ganfod atebion i symud ymlaen pan fydd y person ifanc yn barod i drosglwyddo i ddarpariaeth amgen neu fyw\u2019n annibynnol.&nbsp; Bydd hyn yn sicrhau y cedwir hyd yr arhosiad i\u2019r cyfnod byrraf posib er mwyn i blant a phobl ifanc eraill sydd mewn angen gael defnyddio\u2019r unedau llety.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r datblygiad yn gyson \u00e2 nodau Conwy o ddatblygu cymunedau cynaliadwy a diwallu anghenion a dyheadau\u2019r gymuned leol sy\u2019n cael eu gwthio i\u2019r cyrion yn y farchnad dai bresennol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae trafodaethau\u2019n mynd rhagddynt i benderfynu a allai\u2019r Gymdeithas Dai sy\u2019n datblygu\u2019r llety rentu\u2019n uniongyrchol i\u2019r bobl ifanc\/ddiamddiffyn dan sylw, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd cyfrifoldeb os yw\u2019r unigolyn yn iau na 18 oed. &nbsp;Mae paratoadau wedi\u2019u gwneud mewn perthynas \u00e2 threfniadau pellach o ran y pecyn cymorth\/gofal sydd wedi\u2019i sefydlu a\u2019r cyllid sydd ar gael ar gyfer y lefel uwch o reolaeth tai y bydd ei angen ar gyfer tai tymor byr, tai \u00e2 chymorth a thai a rennir. &nbsp;Mae cytundeb rheoli hefyd wrthi\u2019n cael ei ddatblygu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygiadau Eraill y Dyfodol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mewn cydweithrediad ac mewn partneriaeth \u00e2 sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Clwyd Alun, rydym yn datblygu ein cynnig o gymorth mewn perthynas ag ailalluogi, Tai Gofal Ychwanegol ac unedau anabl a byw\u2019n annibynnol. &nbsp;Mae\u2019r prosiectau cyffrous hyn yn dal i fod yng nghamau cynnar eu datblygiad. &nbsp;Fodd bynnag, ein nod drwy\u2019r mentrau hyn yw darparu cymorth llety priodol a chadarn i unigolion. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"272\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Building-Site-1-1024x272.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2415\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Building-Site-1-1024x272.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Building-Site-1-300x80.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Building-Site-1-768x204.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Building-Site-1-1536x408.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Building-Site-1.png 1599w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Teimlai 67% o\u2019r oedolion mai eu dewis hwy oedd byw mewn cartref preswyl<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Dyma\u2019r peth gorau i mi ei wneud erioed.<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae 78% o\u2019r plant yn hapus gyda\u2019r bobl y maent yn byw gyda hwy. Hawliau Lles yn y Gymuned Ym mis Tachwedd 2018, dechreuodd y T\u00eem Hawliau Lles weithio o\u2019r pum swyddfa amlddisgyblaethol leol o amgylch Sir Conwy, ac ar yr un pryd agorwyd y gwasanaeth i&#8217;r holl drigolion sydd angen cyngor am fudd-daliadau. &nbsp;Cyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2410","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2410","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2410"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2410\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2410"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}