{"id":2390,"date":"2020-11-03T15:42:43","date_gmt":"2020-11-03T15:42:43","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2390"},"modified":"2020-11-03T15:42:47","modified_gmt":"2020-11-03T15:42:47","slug":"safon-ansawdd-5-cefnogi-pobl-i-ddatblygu-a-chynnal-perthnasoedd-iach-a-diogel-yn-y-cartref-gydar-teulu-ac-yn-bersonol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/safon-ansawdd-5-cefnogi-pobl-i-ddatblygu-a-chynnal-perthnasoedd-iach-a-diogel-yn-y-cartref-gydar-teulu-ac-yn-bersonol\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 5: Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd iach a diogel yn y cartref, gyda\u2019r teulu ac yn bersonol"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cymorth i Deuluoedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"299\" height=\"814\" src=\"\">Y llynedd, gwelwyd cynnydd mawr yn y gwaith o sefydlu ein model Cymorth i Deuluoedd newydd. \u00a0Mae\u2019r pum T\u00eem Cymorth i Deuluoedd wedi ymwreiddio\u2019n llwyr yn eu cymunedau lleol ac yn darparu cymorth gyda:\u00a0<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Grwpiau mynediad agored<\/li><li>Grwpiau wedi\u2019u targedu (er enghraifft cyrsiau rhianta, gweithdai ar them\u00e2u)<\/li><li>Gwybodaeth a chyngor<\/li><li>Cymorth gan wirfoddolwyr a chymorth cymheiriaid<\/li><li>Cymorth un i un<\/li><li>Cymorth gan Weithwyr Teulu ar sail yr hyn sy\u2019n bwysig i\u2019r teulu<\/li><li>Cael gafael ar gymorth arbenigol i deuluoedd (er enghraifft, mae gwasanaethau fel Hawliau Lles, Camdriniaeth Ddomestig a Chwnsela i Deuluoedd wedi\u2019u lleoli gyda phob un o\u2019r Timau Cymorth i Deuluoedd bob wythnos)<\/li><li>Gwaith amlasiantaeth wedi\u2019i seilio ar anghenion y teuluoedd unigol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gallu cyrraedd mwy fyth o deuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol drwy ein gwasanaethau Dechrau&#8217;n Deg.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Proffil Lles y Teulu<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn defnyddio adnodd newydd y gwnaethom ei gynhyrchu ar y cyd \u00e2 theuluoedd i gynnal sgyrsiau am yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt. Mae\u2019r adnodd \u201cProffil Lles y Teulu\u201d hwn wedi cyrraedd rhestr fer am Wobr Gofal Cymdeithasol ac wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan deuluoedd a\u2019r gweithlu fel fframwaith ar gyfer sgwrs \u201cBeth sy\u2019n Bwysig\u201d, sy\u2019n gynnwys pob agwedd ar fywyd teuluol. &nbsp;Mae\u2019r adnodd yn cynnig cyfle i fesur canlyniadau ac i deuluoedd gymryd perchnogaeth o\u2019u cynllun gweithredu eu hunain. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi datblygu Safonau Ansawdd ar gyfer y gwasanaeth, mewn partneriaeth \u00e2\u2019r teuluoedd rydym yn gweithio \u00e2 hwy a\u2019r staff sy\u2019n gweithio gyda\u2019r teuluoedd (gweler y blwch ar y dde).<\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o hyn, rydym wedi bod yn cyfweld teuluoedd i gael cipolwg ar eu hanes, a gweld pa wahaniaeth mae\u2019r cymorth wedi\u2019i wneud iddynt.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Astudiaeth Achos<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-pullquote\"><blockquote><p>\u201cY gwasanaethau cymdeithasol ddywedodd wrtha\u2019 i fod y Ganolfan Deuluoedd yn agor, ac fe es i yno dipyn o weithiau. Mae\u2019r cyrsiau\u2019n wych, ond y cymorth emosiynol wnaeth wahaniaeth i mi. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i yn y sefyllfa rydw i ynddi r\u0175an hebddo. Os gwela\u2019 i rhywun yn cael trafferthion yn yr ysgol, fi ydi\u2019r person cyntaf i ddweud \u201ctyrd, awn ni i\u2019r Ganolfan Deuluoedd\u201d. Mi wn i y gwn\u00e2n nhw ein helpu ni. Roeddwn i\u2019n dod yma bob diwrnod ar un adeg. Doeddwn i ddim eisiau bod adref. Roeddwn i\u2019n ymddiried ynddyn nhw. Roeddwn i mor drist drwy\u2019r amser\u2026 Fe wnaethon nhw eistedd yno\u2019n gwrando arna\u2019 i\u2019n crio, ac wedyn roeddwn i\u2019n mynd adref ac yn teimlo\u2019n iawn. Rydw i\u2019n dioddef o orbryder eithaf drwg a dw i\u2019n poeni\u2019n ofnadwy. Rydych chi i gyd wedi bod yma i mi pan o&#8217;n i&#8217;n teimlo fel rhoi&#8217;r ffidil yn y to, a phan o&#8217;n i&#8217;n meddwl &#8216;mod i am golli popeth. Alla\u2019 i ddim dychmygu bywyd heb y Ganolfan Deuluoedd.\u201d<\/p><p>\u201cMae gwybod eu bod nhw yno i mi yn beth mawr. Os galla\u2019 i ei gael o allan o fy mhen ar unwaith, dw i\u2019n iawn. Maen nhw\u2019n gwrando arna\u2019 i ac yn fy helpu i. Mae\u2019n anodd bod yn rhiant sengl gyda phlentyn sydd ag anghenion ychwanegol.\u201d<\/p><\/blockquote><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym yn defnyddio\u2019r adnodd \u2018Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad\u2019 i roi syniad o\u2019r arian a arbedir drwy atal teuluoedd rhag mynd i fwy o argyfwng a chymhlethdod. Mae\u2019r swm a gyfrifwyd rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019 dros \u00a31 miliwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfathrebu a Gweithio mewn Partneriaeth<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn gweithio gyda llu o bartneriaid i ddarparu gwasanaethau\u2019n effeithiol. \u00a0Rydym wedi sefydlu system fel bod teuluoedd nad ydynt yn symud ymlaen at y gwasanaethau gofal a reolir, yn cael eu hatgyfeirio\u2019n awtomatig at y Timau Cymorth i Deuluoedd. \u00a0Rydym wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i\u2019n cyflwyno ein hunain fel llwybr cymorth amgen i deuluoedd drwy \u2018atgyfeiriadau cymorth cynnar\u2019.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Unrhyw heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Y brif her i ni fel gwasanaeth yw llwyddo i gyrraedd pobl sydd angen cymorth; mae nifer y teuluoedd sy&#8217;n elwa o gysylltu \u00e2&#8217;n Timau Cymorth i Deuluoedd yn fwy na\u2019r disgwyl. Rydym yn defnyddio ein hadnoddau mewn ffordd ddoeth ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth a gyda\u2019r gymuned leol i fodloni\u2019r galw hwn. Mae hefyd wedi bod yn her gwneud yn si\u0175r bod ein gwaith cymorth cynnar ac atal yn parhau i fod yn flaenoriaeth, pan fo gan nifer o\u2019r teuluoedd anghenion ac amgylchiadau cymhleth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn parhau i ddarparu\u2019r gwasanaethau rydym wedi\u2019u sefydlu, a chael ein harwain gan anghenion y gymuned leol. Rydym yn parhau ar ein taith i ganfod safleoedd priodol i sefydlu Canolfannau Teuluoedd neu gymorth yn y cymunedau lleol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwasanaeth Cyswllt<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i\u2019n timau drosglwyddo i\u2019r swyddfeydd newydd yng Nghoed Pella ym Mae Colwyn, roeddem yn gallu cynnig gwell amgylchedd i deuluoedd yn ystod \u2018amser cyswllt\u2019. \u00a0Mae\u2019n hawdd cyrraedd y lleoliad canolog ar gludiant cyhoeddus ac mae wedi helpu llawer o deuluoedd i deithio\u2019n ddidrafferth i sesiynau cyswllt. \u00a0Mae pob un o\u2019r pum ystafell wedi\u2019u creu\u2019n bwrpasol, gyda cheginau cyflawn, cyfleusterau toiled cysylltiedig gyda mannau newid clytiau a lle i storio teganau, ac rydym yn gweithredu ar adborth teuluoedd o ran gwelliannau pan fo hynny\u2019n bosib. \u00a0Yn ystod y cam dylunio, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i natur sensitif sefyllfaoedd y teuluoedd a\u2019r heriau posib wrth drosglwyddo plentyn rhwng aelodau teulu a gofalwyr maeth, felly mae dwy fynedfa ar wah\u00e2n i\u2019r ystafell gyswllt, a man parcio diogel dynodedig i ollwng a chasglu. \u00a0Mae cyfarpar monitro TCC ym mhob ystafell yn gadael i weithwyr cyswllt arsylwi a chofnodi amser y teulu gyda\u2019i gilydd heb fod yn ymwthiol, ac mae\u2019r ystafell arsylwi staff yn rhoi mwy o gyfle i fyfyrio ar y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, a\u2019i wella.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"578\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Meeting-in-Living-Room-1-1024x578.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2391\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Meeting-in-Living-Room-1-1024x578.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Meeting-in-Living-Room-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Meeting-in-Living-Room-1-768x433.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Meeting-in-Living-Room-1.png 1062w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gan fod natur cyswllt dan oruchwyliaeth yn newid ac yn cael ei ystyried yn gyfle i ddarparu a phrofi sesiynau sgiliau rhianta, penderfynwyd uwchsgilio\u2019r gweithlu i adlewyrchu\u2019r cyfrifoldebau newydd a\u2019r gwasanaeth mwy cymhleth. Mae\u2019r t\u00eem cyfan bellach yn ystyriol o ACE ac felly\u2019n deall rhywfaint o\u2019r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y gallai\u2019r rhieni eu hunain fod wedi mynd drwyddynt. O ganlyniad, mae eu hymagwedd tuag at deuluoedd wedi tyneru ac maent wir wedi ymrwymo i gydweithio \u00e2 rhieni i gyflawni\u2019r canlyniadau gorau ar gyfer y plant. Eleni, mae\u2019r Gweithwyr Cyswllt hefyd wedi gweithio gydag Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Ymyrraeth Teuluol i ddarparu pecynnau rhianta pwrpasol i deuluoedd mewn angen. Cafwyd un sefyllfa eleni lle bu angen cynnwys dehonglwr i sicrhau bod y Tad hefyd yn gallu cyfrannu at rianta ei faban newydd anedig. \u00a0Cyflawnwyd gwaith gyda\u2019r T\u00eem Cyfreithiol hefyd i wella ansawdd nodiadau achos a sicrhau eu bod yn gadarn ac yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn llys. \u00a0O ganlyniad, gwelwyd gwelliant nodedig, gydag un barnwr lleol yn ein llongyfarch ar safon cofnodion yr achos cyswllt. \u00a0<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cydberthynasau a Rhywioldeb<\/h2>\n\n\n\n<p>Gan fod hyfforddiant ar gydberthnasau ac iechyd rhywiol i bobl ag anableddau dysgu wedi bod yn un o ganolbwyntiau eleni, defnyddiwyd cyllid ar gyfer cyrsiau a ddarparwyd gan brosiect Jiwsi, a groesawyd gan y rhai a fynychodd. &nbsp;O ganlyniad, rydym wedi comisiynu hyfforddiant pellach gan yr un prosiect, fydd yn gweithio gyda phobl ifanc sy\u2019n byw yng Ngogledd Cymru ac sydd wedi\u2019u hadnabod fel pobl ifanc diamddiffyn sydd mewn mwy o berygl o ddioddef problemau iechyd rhywiol nawr neu yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ochr yn ochr \u00e2 hyn, mae gennym Bolisi Cydberthnasau sy&#8217;n cynnig canllawiau i bobl ag anableddau, eu Gofalwyr ac unrhyw un sy\u2019n gweithio gyda hwy, i&#8217;w helpu i ddeall sut y dylai gwasanaethau weithio gydag unigolion mewn perthynas \u00e2 rhywioldeb a chydberthnasau. &nbsp;Credwn fod gan bobl sy\u2019n defnyddio gwasanaethau oedolion yr un anghenion a hawliau personol a rhywiol \u00e2 phawb arall, ac y dylai ein staff helpu\u2019r unigolion sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau i archwilio a deall eu rhywioldeb. &nbsp;Mae\u2019r Polisi yn dangos ein hymrwymiad i annog unigolion i fynegi eu dewisiadau a\u2019u hoffterau personol mewn perthynas \u00e2 chydberthnasau personol a rhywioldeb.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu Ranbarthol wedi blaenoriaethu cydberthnasau a rhywioldeb ac wedi dyrannu cyllid i gefnogi\u2019r gwaith hwn ymhellach, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth gan y trydydd sector i ddatblygu asiantaeth cyfeillgarwch a chariad.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"676\" height=\"382\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Couple-on-Bench-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2393\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Couple-on-Bench-1.png 676w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Couple-on-Bench-1-300x170.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 676px) 100vw, 676px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Helpu Gofalwyr Conwy<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Conwy wedi cofrestru ar gyfer Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru, a gr\u00ebwyd gyda chyfranogiad Gofalwyr a gweithwyr proffesiynol statudol a\u2019r trydydd sector ledled y rhanbarth. Mae\u2019r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth o \u201cgynnig\u201d cyson ar gyfer Gofalwyr ar hyd a lled chwe sir Gogledd Cymru, er mwyn ceisio sicrhau bod gwasanaethau ar gael i Ofalwyr, waeth lle maent yn byw, i&#8217;w helpu yn eu r\u00f4l ofalu ac i gefnogi eu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y strategaeth ranbarthol, mae Conwy wedi cwblhau hunanasesiad a ddangosodd bod gan Gonwy gymysgedd effeithiol o gymorth i Ofalwyr ar y cyfan. Mae hyn yn cynnwys y t\u00eem cymorth i Ofalwyr mewnol ac amrediad o ddarparwyr trydydd sector a gomisiynir, gyda chymorth penodol ar gyfer Gofalwyr Ifanc a\u2019r unigolion hynny sy\u2019n gofalu am bobl \u00e2 phroblemau iechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi\u2019r hyn a gynigir fel arfer i Ofalwyr yng Nghonwy, defnyddiwyd cyllid y Gronfa Gofal Integredig (CGI) i gynnig darpariaeth ychwanegol i gefnogi gwytnwch a lles y Gofalwyr. Cynhaliwyd rhaglen beilot o gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar ar ddechrau 2019 ar gyfer gofalwyr pobl sy\u2019n byw gyda dementia. Yn dilyn adborth cadarnhaol iawn, ail gomisiynwyd y cwrs ar gyfer diwedd 2019\/20 ar gyfer pob Gofalwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyllid dementia CGI hefyd wedi cael ei gymeradwyo i sefydlu t\u00eem o weithwyr cymorth dementia, a gweithwyr cymorth dementia sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol ym mhob un o\u2019r pum ardal leol. Mae\u2019r timau hyn wedi cael eu recriwtio a byddant yn cael effaith sylweddol ar helpu pobl sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u Gofalwyr. \u00a0Yn olaf, rydym wedi sicrhau cyfle i ddarparu rhai cynlluniau peilot newydd i gynnig seibiannau byr, sy\u2019n hyblyg a phersonol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cytunodd 80% o\u2019r Gofalwyr eu bod wedi bod yn rhan o bob penderfyniad am sut i ddarparu\u2019r gofal a\u2019r cymorth i\u2019r person y maent yn gofalu amdanynt.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cafwyd sgyrsiau da gyda gweithwyr proffesiynol allweddol a sefydliadau cymorth.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rhan allweddol o helpu Gofalwyr yw ein gallu i adnabod a chlustnodi Gofalwyr, a her barhaus yn y maes hwn yw nad yw cyfran sylweddol ohonynt yn adnabod eu hunain fel Gofalwr, ond yn hytrach, fel rhywun sy\u2019n cyflawni eu dyletswydd fel partner. Mae pobl hefyd yn aml yn wyliadwrus o&#8217;r derminoleg, ac i lawer, mae\u2019r syniad o &#8220;asesiad\u201d yn dod \u00e2 rhagdybiaeth yn ei sgil y bydd ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu yn cael ei feirniadu, gyda\u2019r posibilrwydd o ganlyniadau negyddol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Bu i\u2019r hunanasesiad yn erbyn y strategaeth ranbarthol ganfod meysydd i\u2019w gwella, ac mae gr\u0175p cynllunio amlasiantaeth ar gyfer gwasanaethau Gofalwyr bellach yn cymryd camau mewn perthynas \u00e2\u2019r canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cydweithio \u00e2 th\u00eem y gweithlu wrth symud ymlaen i gyflwyno adnoddau Pecyn Cymorth i Ofalwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ein trefniadau hyfforddi a sefydlu mewn swyddi.<\/li><li>Archwilio ffyrdd o fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r gyfran helaeth o Ofalwyr sy\u2019n gwrthod asesiadau. Mae nifer y bobl sy\u2019n gwrthod asesiad yn gyson uwch na nifer yr holl asesiadau a gwblheir bob chwarter.<\/li><li>Datblygu cynigion i greu amrywiaeth mwy hyblyg o seibiannau byr\/gofal seibiant.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn rhanbarthol, rydym wrthi&#8217;n datblygu fframwaith canlyniadau a rennir, fydd yn monitro agweddau allweddol ar gefnogi Gofalwyr y gwyddom ei bod yn bwysig i ni eu gwneud yn gywir. Bydd hyn yn hybu cydweithrediad ac arloesedd pellach ar draws y sector, gydag asiantaethau\u2019n cydweithio \u00e2 Gofalwyr i helpu cyd-gynhyrchu\u2019r gwasanaethau sy\u2019n helpu cefnogi lles Gofalwyr a chynnal eu r\u00f4l ofalu.<\/p>\n\n\n\n<p>Cytunodd 62% o\u2019r Gofalwyr eu bod yn teimlo\u2019u bod yn cael cefnogaeth i barhau yn eu r\u00f4l ofalu<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n eithaf hapus i barhau yn fy r\u00f4l ofalu o wybod bod yna gymorth ar gael i mi os bydda\u2019 i ei angen.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n teimlo\u2019n unig iawn yn fy r\u00f4l ofalu y rhan fwyaf o\u2019r amser, er fy mod i\u2019n cael cymorth.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Helpu ein gofalwyr maeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adran Plant sy\u2019n Derbyn Gofal wedi bod yn rhan o ymgynghoriad \u00e2 seicotherapydd teulu a systemig ymgynghorol allanol, er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau clir i fodloni anghenion ein plant sy\u2019n derbyn gofal. &nbsp;Rydym yn datblygu ein sgiliau asesu i allu canfod anghenion ymddygiadol plant yn glir a\u2019u cydweddu \u00e2 gofalwyr y gellir eu helpu i ddatblygu eu sgiliau rhianta i ddiwallu &nbsp;anghenion y plentyn yn fwy effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gweithwyr cymdeithasol sy\u2019n asesu ac yn goruchwylio wedi cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi er mwyn parhau i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer nodi strategaethau ar gyfer y gofalwyr maeth y maent yn gweithio \u00e2 hwy, i roi&#8217;r gefnogaeth orau i\u2019r lleoliad maethu. &nbsp;Y nod yw ei gwneud yn llai tebygol i\u2019r lleoliad chwalu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi canolbwyntio ar y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>A yw anghenion y plant yn cael eu nodi\u2019n glir, gyda&#8217;r ddealltwriaeth o&#8217;r anghenion hynny\u2019n cael ei diweddaru dros amser?<\/li><li>A yw strategaethau clir yn cael eu datblygu i ddiwallu\u2019r anghenion hynny?<\/li><li>A yw gofalwyr ac aelodau staff yn cael hyfforddiant a chymorth priodol i gyflawni\u2019r strategaethau hynny?<\/li><li>A yw effeithiolrwydd y strategaethau\u2019n cael ei adolygu dros amser a\u2019i addasu fel y bo\u2019n briodol?<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae creu lle yn ein hwythnos waith i ganolbwyntio ar ddatblygu o fewn y gwasanaeth wedi bod yn her, yn ogystal \u00e2 chynyddu nifer y dyddiau hyfforddi a sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol perthnasol yn mynychu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gennym gynllun hyfforddi wedi\u2019i drefnu ar gyfer y deuddeng mis nesaf, fydd yn gwella&#8217;r cymorth a roddir i ofalwyr maeth, y plant a\u2019r bobl ifanc, a\u2019r lleoliadau eu hunain. \u00a0Byddwn yn adolygu ein hasesiad o anghenion ymddygiadol a strategaethau rhianta.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyflawniadau maethu<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/maethuconwyfostering\/videos\/460129811290169\/\">Gwyliwch ein fideo<\/a> i glywed Matilda\u2019n siarad am ei phrofiad o fod yn rhan o deulu maeth. \u00a0Enillodd wobr y Rhwydwaith Maethu am Gyfraniad Eithriadol Cenedlaethol gan Feibion a Merched.<\/p>\n\n\n\n<p><span class=\"has-inline-color has-luminous-vivid-orange-color\">Os oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu, cysylltwch \u00e2 ni ar\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 01492 576350 neu maethu@conwy.gov.uk<\/span> <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"141\" height=\"160\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Father-and-Daughter-used-in-banner-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2395\"\/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymorth i Deuluoedd Y llynedd, gwelwyd cynnydd mawr yn y gwaith o sefydlu ein model Cymorth i Deuluoedd newydd. \u00a0Mae\u2019r pum T\u00eem Cymorth i Deuluoedd wedi ymwreiddio\u2019n llwyr yn eu cymunedau lleol ac yn darparu cymorth gyda:\u00a0 Grwpiau mynediad agored Grwpiau wedi\u2019u targedu (er enghraifft cyrsiau rhianta, gweithdai ar them\u00e2u) Gwybodaeth a chyngor Cymorth gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2390","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2390","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2390"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2390\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2390"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}