{"id":2367,"date":"2020-11-03T15:00:33","date_gmt":"2020-11-03T15:00:33","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2367"},"modified":"2020-11-04T15:07:54","modified_gmt":"2020-11-04T15:07:54","slug":"safon-ansawdd-4-annog-a-chefnogi-pobl-i-ddysgu-datblygu-a-chymryd-rhan-mewn-cymdeithas","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/safon-ansawdd-4-annog-a-chefnogi-pobl-i-ddysgu-datblygu-a-chymryd-rhan-mewn-cymdeithas\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 4: Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae 50% o\u2019r bobl a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod yn gallu gwneud yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt hwy.<br><br>Gall hyn fod oherwydd amryw o ffactorau sy\u2019n cyfyngu, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol gwael, problemau symud neu oherwydd dyletswyddau gofalu a\u2019r holl gyfrifoldebau a ddaw yn sgil hynny.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r ffaith na allaf i gerdded yn fy rhwystro rhag gwneud nifer o bethau rydw i&#8217;n dyheu am gael eu gwneud<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae yna lawer o bethau na allaf i eu gwneud oherwydd fy r\u00f4l fel gofalwr<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Hwb yr Hen Ysgol \u2013 Flwyddyn yn ddiweddarach<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Ym mis Mehefin 2019, bu i\u2019r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, agor Hwb yr Hen Ysgol, sef y cyfleuster iechyd a lles newydd yn Llanrwst. Mae\u2019r safle&#8217;n cynnig ystafelloedd ffitrwydd, gweithgareddau a chyfarfod sydd wedi cael eu defnyddio gan bobl leol ers agor ei ddrysau ym mis Ionawr 2019. Felly beth sydd wedi bod yn digwydd yn yr Hwb dros y deuddeng mis diwethaf?<br><br>Bu\u2019r cyfleuster yn llwyddiant o\u2019r cychwyn cyntaf, gyda dros 80 o wahanol fathau o sesiynau cyflwyno wedi\u2019u cynnal yn yr ystafell ffitrwydd yn y pythefnos cyntaf. Erbyn Ionawr 2020, roedd yna 154 o aelodau Ffit newydd, gydag aelodau\u2019n cael cymryd rhan ym mhob un o\u2019r gweithgareddau ar y safle. Mae dros 15,000 o bobl wedi mynychu\u2019r hwb, a dros 5,000 wedi mynychu un o\u2019r deuddeg dosbarth ffitrwydd dan arweiniad hyfforddwr a&#8217;r tri dosbarth ffitrwydd rhyngweithiol a gynhelir bob wythnos.<br><br>Mae 68 o wahanol unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun wedi mynychu tri dosbarth wythnosol prysur yn sgil atgyfeiriad gan Feddyg Teulu, yn ogystal \u00e2 phedwar ymgynghoriad Meddyg Teulu yr wythnos, sesiynau adfer y galon a\u2019r ysgyfaint wythnosol yn y gampfa a dosbarth atal codymau, gyda lle i fwy!<br><br>O safbwynt lles, mae clybiau, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn cyfarfod yn yr hwb yn rheolaidd i ddawnsio, cymdeithasu a thrafod materion lleol. Mae cymuned Llanrwst a\u2019r cyffiniau yn elwa&#8217;n fawr o gael yr hwb yn eu hardal leol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Dancing-Older-People-2-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2379\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Dancing-Older-People-2-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Dancing-Older-People-2-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Dancing-Older-People-2-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Dancing-Older-People-2.png 1230w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gweithio ar y Cyd \u2013 Mwy o Gymorth i Unigolion ag ASD<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol o ran helpu ein dinasyddion sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD). &nbsp;Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws amrywiaeth o wasanaethau Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys Anableddau a\u2019r Canolfannau Teuluoedd, i ddatblygu llwybrau i\u2019r plant hynny sydd heb anabledd na salwch meddwl difrifol. &nbsp;Hefyd, mae\u2019r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Rhanbarthol bellach wedi\u2019i sefydlu ac yn cael ei ariannu\u2019n barhaol gan CLlLC. &nbsp;Bydd y gwasanaeth yn darparu asesiadau diagnostig i oedolion awtistig (ar y cyd \u00e2 gwasanaethau eraill weithiau), a chymorth a chyngor i oedolion awtistig a rhieni sy\u2019n ofalwyr. &nbsp;Mae yna gysylltiadau gwych gyda\u2019r Canolfannau Teuluoedd yng Nghonwy, ac mae nifer dda o bobl yn mynychu\u2019r grwpiau rhieni.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn ailsefydlu Gr\u0175p Budd-Ddeiliad ASD Conwy a Sir Ddinbych gyda Chylch Gorchwyl diwygiedig a Chadeirydd Annibynnol. &nbsp;Byddwn hefyd yn cyflogi Rheolwr Prosiect i ganolbwyntio ar ysgrifennu cynllun gweithredu lleol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhaglen y T\u00eem Lles Cymunedol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rhwng mis Ebrill a diwedd Rhagfyr 2019, mae\u2019r rhaglen Lles Cymunedol wedi darparu 275 o sesiynau ar draws y sir, gyda 3,260 o bobl yn eu mynychu.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nod y t\u00eem yw codi ymwybyddiaeth o\u2019r ymagwedd Pum Ffordd at Les drwy ei raglenni. &nbsp;Ers mis Ebrill 2019, darparwyd 30 o wahanol raglenni, ac o\u2019r rhain bu i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>76.5% ymgorffori elfen \u2018Bod yn fywiog&#8217; y 5 ffordd tuag at les<\/li><li>100% ymgorffori\u2019r elfen \u2018Cysylltu\u2019<\/li><li>86.1% ymgorffori\u2019r elfen \u2018Rhoi\u2019<\/li><li>100% ymgorffori\u2019r elfen \u2018Dal ati i ddysgu\u2019<\/li><li>100% ymgorffori\u2019r elfen \u2018Bod yn sylwgar\u2019<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>O\u2019r rhai hynny a lenwodd ffurflenni gwerthuso ar \u00f4l mynychu un o\u2019n rhaglenni, dywedodd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>100% eu bod wedi mwynhau\u2019r gweithgaredd<\/li><li>100% y byddent yn argymell y gweithgaredd i eraill<\/li><li>100% eu bod wedi cyfarfod pobl newydd\/wedi gwneud ffrindiau newydd<\/li><li>61% eu bod wedi gallu rheoli eu cyflwr iechyd eu hunain yn well\/eu bod yn teimlo\u2019n hapusach\/iachach o ganlyniad i fynychu\u2019r gweithgaredd<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rhan o waith y t\u00eem yw canolbwyntio ar raglenni sy\u2019n targedu cyflyrau penodol fel salwch meddwl, a chydweithio&#8217;n agos \u00e2 Meddygon Teulu lleol i dargedu unigolion a fyddai&#8217;n elwa o fynychu&#8217;r rhaglenni hyn. Mae prosiectau diweddar sydd wedi\u2019u datblygu fel hyn yn cynnwys Soffroleg a Chelf a\u2019r Meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019n rhaglen Soffroleg ddeg wythnos o hyd, gofynnwyd i\u2019r cyfranogwyr gwblhau\u2019r adnodd gwerthuso lles meddyliol Warwick-Edinburgh byr cyn ac ar \u00f4l y rhaglen. Dangosodd y canlyniadau bod 100% o\u2019r cyfranogwyr wedi gweld gwelliant yng nghyfanswm eu sg\u00f4r. Ar sail y canlyniadau hyn, fe lwyddom i gyfrifo ein henillion cymdeithasol ar fuddsoddiad. Amcangyfrifodd y canlyniadau mai gwerth ein henillion cymdeithasol oedd \u00a38.68 am bob \u00a31 a fuddsoddwyd yn y rhaglen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi helpu cymunedau ledled Conwy i ddatblygu a darparu amrywiaeth o weithgareddau, yn dibynnu ar anghenion y bobl h\u0177n sy\u2019n byw yn y cymunedau yng Nghonwy. &nbsp;Mae\u2019r rhaglenni wedi cynnwys dosbarthiadau ballet Silver Swans i bobl dros 50 oed, p\u00eal-droed cerdded, canu hwyliog a grwpiau cymdeithasol fel y gr\u0175p Panad a Sgwrs yn Llangernyw.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"528\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Walking-Football-Bilingual-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2370\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Walking-Football-Bilingual-1.png 743w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Walking-Football-Bilingual-1-300x213.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 743px) 100vw, 743px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"678\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Silver-Swans-CYM.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2372\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Silver-Swans-CYM.jpg 960w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Silver-Swans-CYM-300x212.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Silver-Swans-CYM-768x542.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi helpu cleifion o fewn ein hysbytai cymunedol lleol, gan roi hwb lles iddynt drwy brofiadau yn-y-foment. Mae sesiynau a gyflwynwyd fel rhan o&#8217;n prosiect &#8216;Lles Cleifion&#8217; wedi cynnwys garddwriaeth, canu, sesiynau pontio\u2019r cenedlaethau gydag ysgolion lleol, tylino\u2019r dwylo, celf a chrefft a llawer mwy. Dyfarnwyd gwobr \u2018Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan\u2019 i\u2019r prosiect dan y categori awdurdod lleol. Nod y prosiect yw mynd i\u2019r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd a helpu cleifion i ailgysylltu \u00e2\u2019u cymuned ar \u00f4l gadael yr ysbyty.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Prosiectau cymunedol sy\u2019n helpu pobl \u00e2 dementia<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi llwyddo i gynnal grwpiau a sesiynau cymunedol i helpu pobl sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u Gofalwyr. &nbsp;Dyma rai yn unig o enghreifftiau:<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae\u2019r t\u00eem wedi sefydlu Caffi Cyfeillgarwch yn Llanrwst ar gyfer unigolion sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u Gofalwyr. Mae\u2019r sesiynau wedi bod yn boblogaidd ac yn cael eu cynnal yn Hwb yr Hen Ysgol, Ffordd Tan yr Ysgol, ar ddydd Mawrth olaf y mis.<\/li><li>Mae\u2019r t\u00eem yn cymryd rhan weithgar ac wedi helpu sefydlu tri gr\u0175p sy\u2019n deall dementia yn y sir, gan gynnwys Gr\u0175p sy\u2019n Deall Dementia Stella Maris yn Llandudno, Caffi Dementia Deganwy a Chaffi\u2019r Cof ym Mae Cinmel.<\/li><li>Rydym yn parhau i gynnig cymorth i gartrefi gofal yn ein sir ac wedi bod yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 thri cartref preswyl Henoed Bregus eu Meddwl ym Mae Cinmel i ddatblygu sesiynau pontio\u2019r cenedlaethau. Mae cyswllt wedi\u2019i lunio rhwng Ysgol Maes Owen a Kinmel Lodge ac Alistair House, a rhwng meithrinfa Chwarae Teg ym Mhensarn a Bay Court; mae sesiynau\u2019n cael eu cynnal yn rheolaidd erbyn hyn.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Roedd 81% o\u2019r bobl a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion yn fodlon gyda\u2019r cymorth y maent yn ei gael gan deulu, ffrindiau a chymdogion.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae fy nheulu\u2019n gefnogol iawn&#8230; fe fyddwn i ar goll hebddyn nhw.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae gan deulu, ffrindiau a chymdogion eu bywydau eu hunain, felly alla\u2019 i ddim galw arnyn nhw am gymorth bob amser.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae pwysigrwydd cymuned yn dod i\u2019r amlwg, yn enwedig pan nad yw pobl yn byw\u2019n agos at eu teuluoedd mwyach. &nbsp;Mae gofalwyr yn benodol yn gwerthfawrogi cymorth a charedigrwydd eraill, gan ei fod yn gallu lleddfu rhywfaint ar y pwysau y maent yn ei deimlo mewn r\u00f4l sy\u2019n gofyn cymaint ohonyn nhw. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dysgu a Chyfranogiad Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal (LAC)<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Grant Datblygu Plant sy\u2019n Derbyn Gofal wedi ein galluogi i helpu plant o fewn a thu hwnt i\u2019r sir gael gafael ar addysg a chyfleoedd i reoli eu lles eu hunain. &nbsp;Rydym wedi helpu ysgolion gyda Diploma Ysgolion sy\u2019n Wybodus am Drawma, cyrsiau llythrennedd emosiynol, rhaglenni anogaeth a therapi celf a chwarae. &nbsp;Mae Cynlluniau Addysg Personol (CAP) ar gyfer LAC yn parhau i gael eu datblygu drwy hyrwyddo ac ymgysylltu ysgolion, ac mae cynllun newydd yn cael ei ddatblygu yn unol \u00e2\u2019r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). &nbsp;Mae adolygiadau rheolaidd yn sicrhau cysylltiad \u00e2 phob darparwr addysg y tu allan i\u2019r broses adolygu, a chyswllt amlwg rhwng yr Awdurdod Lleol ac ysgolion.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"497\" height=\"332\" src=\"\">Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i ddatblygu perthnasoedd gwaith integredig rhwng gweithwyr proffesiynol Gofal Cymdeithasol ac Addysg, gyda nodau amlwg i gefnogi addysg LAC drwy sicrhau dealltwriaeth o brosesau\u2019r ddau. Cafwyd datblygiad penodol yn y maes hwn ar gyfer plant sydd ar hyn o bryd yn byw y tu allan i Gonwy mewn gofal preifat. Mae mwy o ymgysylltiad ar lefel strategol a gweithredol wedi ein helpu i fonitro\u2019r addysg a\u2019r dysgu sy\u2019n digwydd yn fwy manwl, sydd wedi arwain at well canlyniadau wedi\u2019u targedu. Rydym wedi helpu plant i gael mynediad i leoliadau prif ffrwd y tu allan i\u2019r lleoliad gofal, gan ddefnyddio dulliau pontio a chymorth wedi\u2019u cynllunio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cymorth parhaus gan GwE a\u2019r Awdurdodau cyfagos mewn perthynas ag ymarfer a datblygu darpariaeth wedi sicrhau ein bod yn cynllunio\u2019n effeithiol ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, ac hefyd yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i\u2019n Plant sy\u2019n Derbyn Gofal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"899\" height=\"600\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/School-Children-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2374\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/School-Children-1.png 899w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/School-Children-1-300x200.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/School-Children-1-768x513.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 899px) 100vw, 899px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Yn ddi-os, y cam cyntaf o\u2019r camau nesaf fydd recriwtio i swydd barhaol sy\u2019n cymell ac yn annog creadigrwydd yn y maes hwn. Rydym wedi clustnodi meysydd gwaith amlwg, yn y tymor byr a\u2019r hirdymor, er mwyn sicrhau bod addysg a chyrhaeddiad LAC yng Nghonwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac hefyd yn cyd-fynd \u00e2 newidiadau deddfwriaethol ehangach o fewn y maes hwn drwy&#8217;r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae hwn yn gam gyffrous yn natblygiad y cymorth rydym yn ei ddarparu i&#8217;n LAC i feithrin cyswllt a dysgu, gyda\u2019r cyfle i groesawu&#8217;r newidiadau a gynigir drwy\u2019r Ddeddf, ac hefyd gychwyn ar y rhaglen waith a glustnodwyd. Bydd meysydd allweddol y gwaith yn cynnwys cychwyn Rhith-ysgol, datblygu Cynlluniau Addysg Personol yn unol \u00e2\u2019r Cynllun Datblygu Unigol [Deddf ADY CDU], ymgysylltu\u2019n ehangach gyda darpariaeth addysg yr awdurdod lleol, a datblygu adnoddau o fewn lleoliadau i helpu dysgwyr.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Helpu pobl ifanc sy\u2019n gadael gofal i gyflawni eu potensial<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gweithio ar sawl menter i roi pob cyfle i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal ffynnu pan fyddant wedi dod yn annibynnol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Canolbwyntio ar brentisiaethau a chyrsiau, a&#8217;r rhwystrau sy&#8217;n atal pobl ifanc rhag manteisio arnynt.<\/li><li>Cyllid Kickstart i gynnig cymorth 24 awr i blant sy\u2019n derbyn gofal a phobl ifanc sy\u2019n gadael gofal gydag anghenion cymhleth.<\/li><li>Cyllid ar gyfer cymorth camu i lawr o ofal preswyl ar ffurf 2 fflat byw\u2019n annibynnol gyda chymorth ynghlwm.<\/li><li>Cydweithrediad rhwng y t\u00eem Cynghorwyr Personol a\u2019r Swyddog Llwybrau Cadarnhaol er mwyn lleihau digartrefedd o lety \u00e2 chymorth.<\/li><li>Elfen atal digartrefedd Cronfa Dydd G\u0175yl Dewi, er mwyn helpu gyda rhent a blaendaliadau i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal gael gafael ar lety preifat pan fyddant yn barod am hynny.<\/li><li>Gweithio gyda darparwyr llety preswyl \u00e2 chymorth preifat i sicrhau cymorth cyson i bobl ifanc.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Cynnwys pobl ifanc sy\u2019n gadael gofal ar baneli cyfweld ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chynghorwyr Personol y Brifysgol Agored.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Y brif her oedd meithrin cyswllt \u00e2 phobl ifanc mewn sefyllfa gr\u0175p. Er bod y t\u00eem Cynghorwyr Personol wedi datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol iawn ar sail un-i-un, yr adborth a geir o&#8217;r digwyddiadau yw nad yw pobl ifanc yn aml yn hoffi mynychu sesiynau gr\u0175p.<\/p>\n\n\n\n<p>Er ein bod yn ymdrechu i oresgyn rhwystrau sy\u2019n atal pobl ifanc rhag ymgymryd \u00e2 phrentisiaethau, gosodir y graddau mynediad ar safon genedlaethol, ac ni all darparwyr addysg wyro oddi wrth hyn (2 radd TGAU yw\u2019r gofyniad ar hyn o bryd).<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gronfa Dydd G\u0175yl Dewi newydd ryddhau cyllid pellach i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal, a byddant yn cael rhoi eu barn ar sut y caiff ei wario drwy arolwg ar-lein. &nbsp;Efallai y byddwn hefyd yn mabwysiadu dull \u2018senedd y bobl\u2019 o ddyrannu\u2019r cyllid, gan adael i garfan fechan o bobl ifanc eistedd ar y panel a phenderfynu a ddylid dyfarnu\u2019r cyllid i ymgeiswyr ai peidio.<\/p>\n\n\n\n<p>O ran llety, mae gennym sawl cynllun ar y gweill ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf fydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc \u00e2 gwahanol anghenion:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Prydlesu \u2018pod\u2019 gan Cartrefi Conwy i ddarparu llety i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal sy\u2019n dychwelyd o\u2019r brifysgol, neu yn ystod cyfnodau seibiant \u2018Pan Fydda\u2019 i\u2019n Barod\u2019.<\/li><li>Rydym yn edrych ymlaen at gael cwblhau safle Maelgwyn, fydd yn darparu uned \u00e2 phedair ystafell wely i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal.<\/li><li>Mae\u2019r t\u00eem Cefnogi Pobl wedi gweithio ar y cyd \u00e2 Hafan Cymru a\u2019r t\u00eem Pobl Ddiamddiffyn i edrych ar ddatblygu T\u0177 Coed Pella, sef uned \u00e2 chwech ystafell wely i bobl ifanc.<\/li><li>Bydd un o\u2019n Cynghorwyr Personol yn gweithio gyda&#8217;r adran Tai i gwblhau cwrs Parod i Rentu. &nbsp;Yna bydd y CP yn parhau \u00e2\u2019r gwaith hwn gyda\u2019r t\u00eem a\u2019r bobl ifanc sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth CP.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cymorth i blant ag anableddau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gallu defnyddio cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Dinorben i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion cymorth ymddygiadol cymhleth. &nbsp;Mae dau glwb ar \u00f4l ysgol i blant rhwng 5 a 19 oed wedi cael eu trosglwyddo yma, gan roi mynediad i fan awyr agored diogel, amgylchedd dan do tawel i\u2019r synhwyrau, digon o fannau chwarae i gyflwyno\u2019r lleoliad i blant ag anghenion mwy cymhleth, a staff profiadol mewn sefyllfaoedd heriol. &nbsp;Mae rhieni a theuluoedd wedi cael gweld yr amrywiaeth eang o wasanaethau eraill a gynigir gan y Canolfannau Teuluoedd, ac yn gwybod sut i gael gafael arnynt.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r clybiau ar \u00f4l ysgol, bydd plant ag anableddau sy\u2019n cael cymorth un-i-un ar benwythnosau bellach yn gallu defnyddio Canolfan Dinorben pan fydd hi\u2019n dywydd garw; doedd dim lleoliad ar gael iddynt cyn hyn. &nbsp;Mae\u2019r Ganolfan Deuluoedd yn darparu amgylchedd diogel lle gall plant ddysgu a datblygu sgiliau a gweithio tuag at gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned neu ymuno \u00e2 chlybiau gyda grwpiau o blant eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Y gobaith yw, pan fydd Canolfannau Teuluoedd yn agor ledled Conwy, e.e. ym Mae Colwyn, y bydd mwy o blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion cymhleth yn gallu eu defnyddio yn yr un modd, gan ddarparu budd iddynt hwy a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"270\" height=\"346\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Boy-leaning-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2376\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Boy-leaning-1.png 270w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Boy-leaning-1-234x300.png 234w\" sizes=\"auto, (max-width: 270px) 100vw, 270px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae 50% o\u2019r bobl a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod yn gallu gwneud yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt hwy. Gall hyn fod oherwydd amryw o ffactorau sy\u2019n cyfyngu, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol gwael, problemau symud neu oherwydd dyletswyddau gofalu a\u2019r holl gyfrifoldebau a ddaw yn sgil hynny. Mae\u2019r ffaith na [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2367","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2367","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2367"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2367\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2367"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}