{"id":2328,"date":"2020-11-03T13:04:00","date_gmt":"2020-11-03T13:04:00","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2328"},"modified":"2020-11-04T15:08:23","modified_gmt":"2020-11-04T15:08:23","slug":"safon-ansawdd-2-gweithio-gyda-phobl-a-phartneriaid-i-ddiogelu-a-hybu-iechyd-corfforol-a-meddyliol-pobl-au-lles-emosiynol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/safon-ansawdd-2-gweithio-gyda-phobl-a-phartneriaid-i-ddiogelu-a-hybu-iechyd-corfforol-a-meddyliol-pobl-au-lles-emosiynol\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 2: Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hybu iechyd corfforol a meddyliol pobl a\u2019u lles emosiynol"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Prosiect Datblygu\u2019r Gwasanaethau Plant<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, bu i ni gyflwyno prosiect newydd sbon sydd wedi bod yn cael ei gynnal yn 2019-20. Nod y prosiect yw atal y duedd o gynnydd yn niferoedd y Plant Sy&#8217;n Derbyn Gofal, ymateb yn rhagweithiol i\u2019r argyfwng gofal a nodwyd ledled Cymru a\u2019r DU a chyflawni gwell canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd. &nbsp;Gwnaed llawer o gynnydd cadarnhaol dros y deuddeng mis diwethaf gyda holl ffrydiau gwaith y prosiect cyfan. &nbsp;Dyma ragor o wybodaeth:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sicrhau gweithlu ac arferion digonol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Un o nifer o nodau Prosiect Datblygu\u2019r Gwasanaethau Plant yw cynyddu nifer y Plant sy\u2019n Derbyn Gofal sy\u2019n cael eu lleoli naill ai gydag aelodau teulu neu ffrindiau&#8217;r teulu. &nbsp;Gelwir y math hwn o leoliad yn Unigolion Cysylltiedig. &nbsp;Mae\u2019r math hwn o leoliad yn osgoi\u2019r angen i leoli plant naill ai gyda gofalwyr maeth y mae\u2019r awdurdod lleol wedi\u2019u cymeradwyo neu o fewn y sector gofal maeth annibynnol. &nbsp;Rydym wedi datblygu ein t\u00eem Unigolion Cysylltiedig o fewn ein hadran Maethu drwy recriwtio rheolwr t\u00eem newydd. &nbsp;Mae gennym hefyd Gydlynydd Unigolion Cysylltiedig. &nbsp;Bydd model gwasanaeth newydd hefyd yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol agos.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Niferoedd Cynyddol y Plant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gennym Strategaeth Plant sy\u2019n Derbyn Gofal uchelgeisiol sy\u2019n edrych ar bopeth y gallwn ei wneud i leihau nifer y Plant sy\u2019n Derbyn Gofal a gwella ansawdd bywydau\u2019r plant hynny y mae&#8217;n rhaid iddynt dderbyn gofal. Hyd yma, rydym wedi bod yn rhan o\u2019r Adolygiad o\u2019r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol er mwyn datblygu cymorth ar \u00f4l mabwysiadu yn unol \u00e2 chanllawiau cenedlaethol. &nbsp;Rydym wedi bod yn gweithio ar ddarparu model o gymorth i Warchodwyr Arbennig. &nbsp;Gorchymyn llys yw Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig (GGA), sy&#8217;n penodi unigolyn neu unigolion i fod yn Warchodwr Arbennig i blentyn. &nbsp;Mae\u2019n rhoi cyfrifoldeb rhiant arbennig i unigolyn wneud pob penderfyniad mewn perthynas \u00e2\u2019r plentyn. &nbsp;Dan GGA, diddymir yr angen i blentyn dderbyn gofal ffurfiol gan yr Awdurdod Lleol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Y cynnydd hyd yma:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae\u2019r t\u00eem Unigolion Cysylltiedig wedi bod wrthi\u2019n cysylltu ag unigolion \u00e2 GGA. &nbsp;Anfonwyd newyddlen ragarweiniol i bob Gwarchodwr Arbennig (GA) presennol gydag enw person cyswllt penodedig. &nbsp;<\/li><li>Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda GA presennol i ganfod unrhyw anghenion neu gymorth ychwanegol. &nbsp;<\/li><li>Rydym yn cynnig hyfforddiant ar sut i ddatblygu sgiliau. &nbsp;Gall GA ddefnyddio\u2019r Canolbwynt Gofalwyr Maeth ar y rhyngrwyd i&#8217;w cofrestru eu hunain ar gyrsiau hyfforddi oedd yn arfer bod ar gael i ofalwyr maeth yn unig.<\/li><li>Mae\u2019r t\u00eem wedi cysylltu \u00e2 GA i ganfod pwy fyddai \u00e2 diddordeb mewn bod yn rhan o gr\u0175p ffocws i ddarparu adborth ar yr hyn y mae ei angen fel rhan o\u2019r cynnig GGA.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dad-uwchgyfeirio Plant ag Anghenion Cymhleth &nbsp;<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn recriwtio a hyfforddi o fewn y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd (TCT) ar gyfer Anghenion Cymhleth ac Ar Ffiniau Gofal. &nbsp;Mae\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd bellach yn defnyddio iPads i fesur cynnydd teuluoedd. &nbsp;Hefyd, mae gwaith wedi\u2019i wneud ar adnoddau seiliedig ar dystiolaeth i roi canlyniadau i rieni. &nbsp;Rydym wrthi\u2019n cwblhau\u2019r broses o ddatblygu a chyflwyno\u2019r Model Therapiwtig Cam i Fyny \/ Cam i Lawr ar gyfer anghenion cymhleth. &nbsp;Penodwyd Seicolegydd i\u2019r swydd hon. &nbsp;Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ymchwil yn edrych ar fodelau cymorth amgen. &nbsp;Cynhaliwyd trafodaethau cynnar a datblygwyd proses bontio i bobl ifanc o\u2019r ddarpariaeth bresennol i\u2019r model newydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mewn cydweithrediad \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru (HGC), cynigir bod Cyngor Conwy\u2019n treialu t\u00eem Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth (CDA). &nbsp;Bydd y t\u00eem hwn yn cyfuno swyddogion o\u2019r gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, y Gwasanaethau Integredig Oedolion a Chymunedau, y gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol a HGC i ddarparu un pwynt ar gyfer sgrinio a phrosesu pob adroddiad diogelu ar hyd a lled Conwy. Bydd gweithio mewn amgylchedd mwy integredig yn helpu gwella\u2019r broses o rannu gwybodaeth. &nbsp;Bydd casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau\u2019n creu darlun cyfoethocach o amgylchiadau\u2019r achos a\u2019r peryglon cysylltiedig i\u2019r plentyn neu\u2019r oedolyn, neu\u2019r pryder camdriniaeth domestig risg uchel. &nbsp;Gellir mynd ati\u2019n weithredol i wneud mwy o benderfyniadau cytbwys am ba gamau i&#8217;w cymryd, a chefnogi&#8217;r achosion mwyaf brys. &nbsp;Drwy weithio fel un t\u00eem, byddant mewn gwell sefyllfa i nodi atgyfeiriadau lefel isel sy\u2019n digwydd dro ar \u00f4l tro na fyddai, o\u2019u hystyried yn unigol, yn ymddangos yn destun pryder, ond a allai, gyda\u2019i gilydd, awgrymu mwy o risg i\u2019r unigolyn. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Family-Group-in-Park-2-1024x389.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2329\" width=\"575\" height=\"319\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Canolfan Asesu Breswyl Isranbarthol i Blant <\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mewn partneriaeth \u00e2 Chyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae Cyngor Conwy wedi cyflwyno cais ar y cyd i ddatblygu Canolfan Asesu Breswyl Is-ranbarthol i Blant ar gyfer gwasanaethu Conwy a Sir Ddinbych. &nbsp;Ni fwriedir i\u2019r Ganolfan fod yn lleoliad preswyl parhaol. &nbsp;Bydd yn lleoliad lle gall y t\u00eem ar y safle ofalu am y plant a\u2019u meithrin yn ddiogel. &nbsp;Ar yr un pryd, gall y t\u00eem therapiwtig ar y safle asesu&#8217;r plant a&#8217;u rhieni\/Gofalwyr amgen, ac hefyd ddarparu ymyrraeth therapi systematig yn ystod eu harhosiad yno.<\/p>\n\n\n\n<p>R\u00f4l a swyddogaeth y lleoliad yw galluogi anghenion i gael eu meithrin gyda mewnbwn seicolegol, er mwyn sicrhau bod y cynllun gofal a chymorth a gynigir ar gyfer y dyfodol yn hybu siawns y plentyn o ddychwelyd adref i\u2019r eithaf ac osgoi\u2019r angen iddynt dderbyn gofal. &nbsp;Bydd amrediad eang o wasanaethau therapiwtig yn cael eu cynnig, gan gynnwys &#8216;therachwarae&#8217;, gwaith ar daith bywyd a gwaith ar hunan-barch\/ hunan-werth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>CANOLBWYNTIO AR: Datblygiadau Iechyd Meddwl ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yng Nghymru, mae yna nifer o ofynion deddfwriaethol a sbardunau lleol rhanbarthol sy\u2019n rhoi pwyslais allweddol ar atal ac ymyrryd yn gynnar. &nbsp;Yn genedlaethol, un o\u2019r rhain yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.&nbsp; Yn lleol, mae gan y Strategaeth \u2018Law yn Llaw at Iechyd Meddwl\u2019 uchelgeisiau a nodau tebyg i gynnig amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau.&nbsp; Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Hybu iechyd a lles pawb, canolbwyntio ar atal salwch meddwl a darparu ymyrraeth gynnar yn \u00f4l yr angen;<\/li><li>Darparu tystiolaeth seiliedig ar ymyriadau i bobl gyda chyflyrau iechyd meddwl cyffredin yn y gymuned cyn gynted ag y bo modd;<\/li><li>Sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn y gymuned lle bynnag y bo\u2019n bosib, gan leihau ein dibyniaeth ar ofal cleifion mewnol;<\/li><li>Adnabod a darparu gofal a chymorth seiliedig ar dystiolaeth i bobl gyda salwch meddwl difrifol cyn gynted ag y bo modd;<\/li><li>Rheoli cyfnodau ac\u00edwt a difrifol o salwch meddwl yn ddiogel, yn dosturiol ac yn effeithiol;<\/li><li>Helpu pobl i adfer, ailennill a dysgu\u2019r sgiliau y maent eu hangen ar \u00f4l salwch meddwl;<\/li><li>Asesu a darparu ymyriadau effeithiol seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer yr ystod lawn o broblemau iechyd meddwl, gan weithio ochr yn ochr \u00e2 gwasanaethau i bobl gydag anghenion iechyd corfforol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"836\" height=\"761\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Young-Men-in-group-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2332\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Young-Men-in-group-1.png 836w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Young-Men-in-group-1-300x273.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Young-Men-in-group-1-768x699.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 836px) 100vw, 836px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Mae Asesiad Anghenion y Boblogaeth yn adrodd bod 10% o oedolion yng Nghonwy yn cael eu trin am salwch meddwl ar hyn o bryd. Ma hynny\u2019n 12,000 o bobl.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"321\" height=\"236\" src=\"\">Mewn partneriaeth \u00e2 Th\u00eem Gweithredu Lleol y strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, mae\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi ymrwymo i ddatblygu canolfan gymunedol yn adeilad Mind Conwy yn Llandudno. Bydd y ganolfan yn bwynt ffocws i Feddygon Teulu atgyfeirio cleifion ato, fel na fydd angen i bobl aros i weld y t\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol, a&#8217;i nod yw atal dirywiad yn lles meddyliol pobl a lliniaru trallod\/argyfwng cymdeithasol. Caiff ei redeg gan gyfuniad o wirfoddolwyr a staff gwasanaethau statudol ac anstatudol, all wrando ar bobl a\u2019u helpu i ganfod a rheoli materion sy\u2019n effeithio ar eu iechyd meddwl a\u2019u gwytnwch emosiynol. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol a Gweithiwr Ymyrraeth o\u2019r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn gweithio\u2019n sesiynol o\u2019r ganolfan i ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bartneriaeth yn ymestyn i wasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, ac mae gwaith wedi parhau i hyrwyddo\u2019r cynllun Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl (Llyfrau ar Bresgripsiwn gynt) a datblygu staff y llyfrgell i fod yn weithlu sy&#8217;n deall iechyd meddwl ac yn gallu gweithredu fel adnodd lles o fewn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Y nod tymor hwy yw cynnig rhaglen gymorth ar gonglfeini adferiad er mwyn galluogi pobl i ddeall a rheoli eu symptomau, gwneud cysylltiadau cymdeithasol, datblygu sgiliau bywyd a bod yn hyderus y gallant gael diwrnod ystyrlon a chyfrannu i gymdeithas. Bydd y ganolfan hefyd yn cynnal \u2018dyddiau lles\u2019 unwaith yr wythnos, lle bydd consortiwm o weithwyr proffesiynol yn mynychu sesiwn siop un stop i gynnig cymorth a chyngor ar faterion fel tai, hawliau lles, Canolfan Cyngor Ar Bopeth, Iechyd, cymorth i Ofalwyr ac ati.<\/p>\n\n\n\n<p>Agorwyd y ganolfan yn ffurfiol ar 3 Chwefror 2020, ond mae\u2019r datblygiad eisoes wedi creu perthnasoedd gwaith cryfach \u00e2 phartneriaid a bydd yn newid y model gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl. Mae Bwrdd Rhaglen yn cael ei sefydlu i oruchwylio gwaith y Ganolfan Gymunedol er mwyn sicrhau ei bod yn datblygu ac yn parhau drwy i\u2019r gymuned o bobl fydd yn ei defnyddio gymryd perchnogaeth ohoni.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"668\" height=\"501\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Rabbit-Hole-Cafe-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2334\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Rabbit-Hole-Cafe-1.png 668w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Rabbit-Hole-Cafe-1-300x225.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 668px) 100vw, 668px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Wynebwyd amrywiol heriau yn sgil ymgynnull amrediad o bartneriaid i weithio\u2019n wahanol a darparu&#8217;r gallu i gefnogi\u2019r ganolfan, gan barhau i ddarparu eu gwasanaethau cyfredol ar yr un pryd. Bydd angen cyfnod o amser i ymwreiddio\u2019r ganolfan a thrwy hynny ailgyfeirio gwasanaethau statudol i\u2019r gymuned, a bydd angen rheoli\u2019r pontio hwn o ddarpariaeth ymatebol i ddarpariaeth ataliol. &nbsp;Mae newid diwylliannol yn broses hirdymor ac mae\u2019r heriau\u2019n dal i gael eu datrys, felly byddwn yn parhau i weithio ar feithrin hyder yn y model newydd. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, mae&#8217;r dirwedd wedi newid yn gyflym yn ystod y broses. &nbsp;Er enghraifft, roeddem wedi bwriadu defnyddio\u2019r Rabbit Hole Caf\u00e9 yn Llandudno (y fenter gymdeithasol sydd ynghlwm wrth adeilad Conwy Mind) fel drws ffrynt y cynllun yn wreiddiol, gan gynnig amgylchedd caffi croesawus heb stigma i bobl. &nbsp;Yn anffodus, caewyd y caffi hwn yn ystod 2019 a bu&#8217;n rhaid adolygu a diwygio&#8217;r cynlluniau yn unol \u00e2 hynny. Fodd bynnag, mae\u2019r man hwnnw bellach yn ardal bwrpasol therapiwtig ddisylw fydd yn gwella profiad y defnyddwyr o\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y broses gyllido o grant Trawsnewid Cymru Iachach hefyd yn heriol gan fod y terfynau amser ar gyfer cyflwyno cynigion yn dynn iawn, a dim ond yn \u00f4l-weithredol y byddai\u2019r costau\u2019n cael eu talu, oedd yn golygu bod partneriaid yn cymryd risg ariannol drwy dalu ymlaen llaw am gostau cysylltiedig. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Parhau i dyfu a datblygu\u2019r ganolfan er mwyn cryfhau perchnogaeth y gymuned ohoni, a gwneud yn si\u0175r eu bod yn cael ymateb cymesur, priodol a phrydlon i\u2019w hanghenion iechyd meddwl.<\/li><li>Y nod yw sicrhau bod gwasanaethau pob oedran yn cefnogi ac yn gysylltiedig \u00e2\u2019r ganolfan, a hyrwyddo llwybrau a phroses bontio ddi-dor rhwng gwasanaethau o\u2019r fath.<\/li><li>Ehangu\u2019r model ar draws pob ardal leol er mwyn helpu holl ddinasyddion Conwy fel ei gilydd, gan gydnabod anghenion amrywiol pob ardal, e.e. addasu&#8217;r model ar gyfer y gymuned ffermio.<\/li><li>Cydweithio \u00e2\u2019r T\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol a Meddygon Teulu lleol i ddarparu dewis amgen ymarferol i atgyfeirio at Ofal Iechyd Sylfaenol ac Eilaidd.<\/li><li>Treialu model newydd o gymorth mewn argyfwng er mwyn lleihau\u2019r ddibyniaeth ar wasanaethau cleifion mewnol ac\u00edwt a chynnig dull \u2018t\u00eem o amgylch yr unigolyn\u2019 sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau.<\/li><li>Datblygu elfen Addysg Adfer y ddarpariaeth er mwyn helpu pobl a\u2019u Gofalwyr i hunan-reoli eu diagnosis a\u2019u symptomau, er mwyn eu grymuso i adennill rheolaeth dros eu taith bywyd eu hunain a chael diwrnod ystyrlon ag iddo bwrpas.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Byddwn yn rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr adnodd cymunedol pwysig hwn yn Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y Bws Dementia \u2013 Digwyddiad Staff<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bu i ni gynnal digwyddiadau Bws Dementia yn ddiweddar a oedd ar agor i gydweithwyr o\u2019r adrannau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a\u2019r Sector Annibynnol. &nbsp;Cynhaliwyd y digwyddiadau dros nifer o ddyddiadau mewn amrywiol &nbsp;leoliadau. &nbsp;Profwyd yn feddygol ac yn wyddonol mai\u2019r Bws Dementia\/y Daith Ddementia Rithwir yw\u2019r profiad agosaf y gallwn ei roi i unigolyn sydd ag ymennydd iach o sut deimlad yw dioddef o ddementia.&nbsp; &nbsp;&nbsp;Drwy ddeall dementia o safbwynt yr unigolyn, gallwn newid arferion, lleihau problemau a gwella eu bywydau. &nbsp;Drwy \u2018gerdded yn esgidiau\u2019 person \u00e2 dementia, gall unigolion gychwyn deall y problemau y maent yn eu cael bob diwrnod. &nbsp;Yn y sesiynau, bydd y mynychwyr yn cael profiad o deimlo\u2019n ddryslyd, yn unig, ar goll ac yn ddiamddiffyn a llawer mwy. &nbsp;Felly, drwy\u2019r profiadau hyn bydd staff a Gofalwyr anffurfiol yn dod i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei newid i wella ansawdd y gofal.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Bws Dementia\/y Daith Ddementia Rithwir yn defnyddio offer arbenigol i greu amgylchedd efelychiadol. &nbsp;Bydd disgwyl i\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan gyflawni tasgau syml er mwyn dod i ddeall yr heriau y mae pobl sy\u2019n byw gyda dementia yn eu hwynebu.<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy gymryd rhan yn y dull hyfforddi hwn, bydd y mynychwyr yn gallu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Egluro sut y gall yr amgylchedd fod yn rhwystr i berson sy&#8217;n byw gyda dementia;<\/li><li>Canfod ffyrdd o wella cyfathrebu;<\/li><li>Deall sut i herio stereoteipio a labelu;<\/li><li>Deall pwysigrwydd dulliau a gofal sy&#8217;n canolbwyntio ar yr unigolyn;<\/li><li>Disgrifio sut y gellir addasu gofal a chymorth o fewn arferion i wella bywydau pobl sy\u2019n byw gyda dementia, a\u2019u helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Cafwyd adborth gwych o\u2019r digwyddiadau, gyda mwyafrif y mynychwyr yn nodi eu bod yn bendant wedi cyflawni eu canlyniadau dysgu a bod y digwyddiad wedi cynyddu lefel eu gwybodaeth a\u2019u hempathi.<br><br>Dywedodd y mynychwyr hefyd:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gwnaeth y profiad i mi sylweddoli go iawn sut beth ydi byw gyda dementia.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Profiad gwych. Cipolwg o ychydig yn unig o&#8217;r ofn, dryswch ac anawsterau y gall pobl [\u00e2 dementia] eu hwynebu.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dod yn Sefydliad sy\u2019n Deall Dementia<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio tuag at ddod yn sefydliad sy\u2019n deall dementia, sef statws a ddyfernir gan y Gymdeithas Alzheimer&#8217;s. &nbsp;Mae \u2018Cyfeillion Dementia\u2019 yn ffordd i sefydliad gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia, ac fel awdurdod lleol, bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o ddementia yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac ar gyfer staff ein sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnom i gynrychiolwyr o amrywiol adrannau ar draws yr Awdurdod lunio gr\u0175p prosiect, oedd hefyd yn cynnwys unigolyn sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019i wraig. &nbsp;Mae cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal am flwyddyn bellach, ac mae\u2019r gr\u0175p wedi bod yn gweithio ar gynllun gweithredu a&#8217;n cais am statws &#8216;gweithio tuag at fod yn sefydliad sy&#8217;n deall dementia&#8217; gan y Gymdeithas Alzheimer\u2019s. &nbsp;Mae pobl sy\u2019n byw gyda dementia wedi arolygu dau o\u2019n hadeiladau ac rydym wedi datblygu poster i adael i\u2019r cyhoedd wybod am y gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis. &nbsp;Rydym hefyd wedi cynyddu nifer yr Eiriolwyr Dementia sy\u2019n gallu cynnal sesiynau Cyfeillion Dementia, gan arwain at gynnydd yn nifer y Cyfeillion Dementia o fewn yr awdurdod a thu hwnt.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y T\u00eem Gofalwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein T\u00eem Gofalwyr mewnol yn cynnwys rheolwr a thri Swyddog Gofalwyr llawn amser sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol ar draws Conwy. &nbsp;Mae\u2019r t\u00eem yn cynnig cymorth i nifer fawr o Ofalwyr gydag anghenion cymorth eang. &nbsp;Yng Nghonwy, rydym yn cynnig cyfuniad o wasanaethau mewnol ac ystod o wasanaethau\u2019r trydydd sector a gomisiynir i helpu gofalwyr. &nbsp;Mae\u2019r cydbwysedd hwn o wasanaethau yn creu rhwydwaith mwy effeithiol o gymorth i Ofalwyr.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Cynnydd dros y flwyddyn<\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Lansiwyd cardiau argyfwng Gofalwyr yn ystod yr Wythnos Gofalwyr ym mis Mehefin 2018. Mae\u2019r rhain wedi bod yn fuddiol iawn, gydag adborth cadarnhaol gan ein hasiantaethau partner. &nbsp;Rydym wedi archebu rhagor o gardiau oherwydd y galw uchel. &nbsp;<\/li><li>Bu i ni dreialu sesiynau galw heibio mewn tri ysbyty lleol ond ni fu hyn yn llwyddiannus, ac mae\u2019r canolbwynt wedi symud yn \u00f4l at lyfrgelloedd. &nbsp;Mae Swyddogion Gofalwyr yn cynnal sesiynau galw heibio bob mis yn llyfrgelloedd Llanrwst, Penmaenmawr a Bae Colwyn.<\/li><li>Cynhelir cyfarfodydd Safbwynt Gofalwyr yn rheolaidd, gan roi cyfle i Ofalwyr gyfarfod a chael gwybodaeth a chyngor gwerthfawr. Mae\u2019r rhain wedi cynnwys sesiynau Cymorth Cyntaf, mewnbwn gan y T\u00eem Lles, arweiniad i wefan CBSC mewn perthynas \u00e2 Gofalwyr yng Nghonwy yn benodol, a chyfraniad gan y Gymdeithas Alzheimer\u2019s yngl\u0177n \u00e2\u2019u gwasanaeth gwybodaeth\/cyngor Dementia Connect.<\/li><li>Mae\u2019r T\u00eem Gofalwyr hefyd wedi cefnogi amrywiol ddigwyddiadau yng Nghonwy, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Wythnos y Gofalwyr, Diwrnod y Gofalwyr a Diwrnod y Lluoedd Arfog, i enwi ychydig yn unig.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae pwysau sylweddol yn y t\u00eem o ran cynnal asesiadau ac adolygiadau o Asesiadau Gofalwyr. &nbsp;Yn ystod cyfnodau arbennig o brysur, anfonir llythyrau allan i egluro pam fod yna oedi, gan ddarparu manylion cyswllt pe bai\u2019r angen yn dod yn fwy o argyfwng. &nbsp;Caiff ymholiadau eu sgrinio\u2019n ddyddiol a chaiff achosion brys eu codi ar unwaith drwy system ddyletswydd y T\u00eem Gofalwyr.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn parhau i symud ymlaen a datblygu dros y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn bodloni anghenion Gofalwyr yng Nghonwy, yn arbennig mewn perthynas \u00e2 chynnal asesiadau ac adolygiadau. &nbsp;Byddwn yn parhau i hyrwyddo hawliau Gofalwyr a chanfod a darparu cymorth i Ofalwyr newydd ledled y sir.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Digwyddiadau\u2019r T\u00eem Gofalwyr<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd Wythnos y Gofalwyr rhwng 10 a 14 Mehefin 2019. Roedd yna nifer o stondinau gwybodaeth yma ac acw yng Nghonwy i hyrwyddo hawliau Gofalwyr a rhannu gwybodaeth. &nbsp;Trefnwyd digwyddiad arall hefyd i staff Cyngor Conwy sydd hefyd yn Ofalwyr. &nbsp;Roedd hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau lles, gan gynnwys Soffroleg a ioga. &nbsp;Gwahoddwyd asiantaethau partner hefyd i rannu gwybodaeth a&#8217;r cymorth sydd ar gael i Ofalwyr. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn ddiolchgar i\u2019n hasiantaethau partner a fu\u2019n ein helpu gyda\u2019r digwyddiad hwn drwy gydol yr wythnos.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd y digwyddiad staff ym Mhorth Eirias yn y gorffennol. &nbsp;Ond yn sgil symud i Goed Pella, penderfynwyd symud y digwyddiad i\u2019r Ystafell Arddangos ar y safle. &nbsp;Galluogodd hyn y staff i fynychu yn ystod eu diwrnod gwaith. &nbsp;&nbsp;Bu hyn yn llwyddiannus, a chafwyd adborth cadarnhaol gan y staff a fynychodd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"699\" height=\"495\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Staff-Carer-Event-Welsh.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2336\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Staff-Carer-Event-Welsh.png 699w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Staff-Carer-Event-Welsh-300x212.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 699px) 100vw, 699px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Digwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Trefnodd Gr\u0175p Gofalwyr Partneriaeth Pobl Conwy ddigwyddiad Hawliau Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth ymysg Gofalwyr o\u2019r gwasanaethau all ddarparu cymorth iddynt. &nbsp;Cynhaliwyd y digwyddiad ar 21 Tachwedd (Diwrnod Hawliau Gofalwyr) yng Nghoed Pella. &nbsp;Digwyddiad galw heibio i Ofalwyr oedd hwn, gydag amrywiol stondinau\u2019n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth. &nbsp;Cafodd ei hysbysebu ar lein, drwy ein rhestrau dosbarthu, drwy staff CBSC, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a drwy\u2019r sefydliadau oedd yn cymryd rhan. &nbsp;Mynychwyd y digwyddiad gan sawl sefydliad Gofalwyr, gan gynnwys ein t\u00eem Gofalwyr mewnol, yn ogystal \u00e2\u2019r t\u00eem Hawliau Lles, Refeniw a Budd-daliadau, Treth y Cyngor, Llyfrgelloedd, Cymru Gynnes, Hafal a Chymorth a Luniwyd gan yr Unigolyn. &nbsp;Roedd y Cynghorydd Cheryl Carlisle yn bresennol ac roedd gwybodaeth bellach gan sefydliadau a thimau oedd yn methu bod yno hefyd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Mynychodd nifer fechan o Ofalwyr y digwyddiad, a chafodd pob unigolyn gyfle i gael sylw unigol ym mhob un o\u2019r stondinau, a chymorth a chyngor personol. &nbsp;Teimlai\u2019r sefydliadau ei fod yn fuddiol, gan na chawsant eu llorio gan niferoedd mawr o Ofalwyr ar yr un pryd, felly cawsant gyfle i ymateb i bob person yn unigol. &nbsp;Roedd yr adborth a gafwyd gan y sefydliadau a\u2019r Gofalwyr yn gadarnhaol:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Diolch yn fawr iawn i chi am edrych ar \u00f4l fy Mam a minnau ddoe; roedden ni\u2019n dwy yn ei werthfawrogi\u2019n arw\u2026 gallai hyn wneud cymaint o wahaniaeth i fy rhieni, croesi bysedd.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roeddwn i\u2019n falch o gael bod yn rhan o\u2019r digwyddiad.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Eisteddfod Genedlaethol 2019<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Roeddem ni\u2019n llawn cyffro yngl\u0177n \u00e2 chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2019, ac roedd gan rai o&#8217;n timau stondinau ar y maes i arddangos y gwaith rydym ni&#8217;n ei wneud. &nbsp;Gofal Cymdeithasol a Lles oedd un o\u2019r pedair thema a fabwysiadwyd ar gyfer y digwyddiad wythnos o hyd, felly roedd aelodau ein gwasanaethau Maethu, Gofalwyr ac Anableddau ar y maes yn hyrwyddo ein gwasanaethau ac yn ateb ymholiadau aelodau\u2019r cyhoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymunodd Dr Catrin Hedd Jones o Brifysgol Bangor \u00e2 ni am gyflwyniad ar brofiadau personol byw gyda dementia a manteision dod \u00e2 phobl ynghyd. &nbsp;Ymunodd un o Ofalwyr Conwy \u00e2 hi, gan roi cipolwg ar fywyd person sy\u2019n byw gyda dementia, a\u2019r holl heriau sy\u2019n dod yn sgil hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Buom hefyd wrthi\u2019n hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel dewis gwerthfawr o yrfa drwy sgyrsiau anffurfiol ag aelodau staff sydd wrth eu boddau yn eu gwaith, ac sy\u2019n elwa ar y cyfleoedd a gyflwynir iddynt yn eu swyddi (yn y llun).<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"764\" height=\"573\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Eisteddfod-Chat-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2338\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Eisteddfod-Chat-1.jpg 764w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Eisteddfod-Chat-1-300x225.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 764px) 100vw, 764px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cydweithrediad rhwng T\u00eem Cymorth ac Asesu\u2019r Gwasanaeth Plant a Chanolfannau Teuluoedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Cymorth ac Asesu (TCA) yn cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Canolfannau Teuluoedd cyn ac ar \u00f4l dyraniad. Mae\u2019r t\u00eem yn gweithio ar bolisi \u2018does yna\u2019r un drws anghywir\u2019. Golyga hyn os bydd atgyfeiriad yn cyrraedd Canolfan Deuluoedd a ddylai fod wedi mynd at y TCA, yna bydd y Ganolfan Deuluoedd yn pasio\u2019r atgyfeiriad hwnnw ymlaen i\u2019r TCA. Gall y Ganolfan Deuluoedd hefyd gynnal trafodaethau \u00e2\u2019r TCA a cheisio meithrin cyswllt \u00e2\u2019r teulu er mwyn gweithio \u00e2 hwy os yw hynny\u2019n briodol. Os bydd pryderon yn gwaethygu a\u2019r teulu\u2019n cychwyn datgysylltu, yna bydd y Ganolfan Deuluoedd yn cysylltu \u00e2\u2019r TCA i geisio uwchgyfeirio\u2019r angen i ofal a reolir.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall y Canolfannau Teuluoedd sefydlu perthynas wych \u00e2 theuluoedd, felly os bydd achos yn cael ei ddyrannu i weithiwr cymdeithasol, rydym yn awyddus i weithio o fewn model y Ganolfan Deuluoedd. Mae\u2019r gwaith yn parhau ar y cyd \u00e2\u2019r gweithiwr teulu yn hytrach nac yn eu lle.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ffordd hon o weithio wedi gwneud gwahaniaeth o ran ein gallu i gau achosion. Mae\u2019r gweithiwr teulu wedi bod yn rhan gyson o\u2019r gwaith a bydd yn parhau i weithio gyda\u2019r teulu. Mae asiantaethau a theuluoedd yn teimlo\u2019n fwy hyderus i gau achosion o wybod bod y gwasanaeth hwn yn dal i fod ar gael iddynt.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae yna nifer o brosiectau ar y gweill yng Nghonwy dan nawdd y Rhaglen Drawsnewid AD. &nbsp;Mae\u2019r rhaglen wedi bod yn mynd rhagddi drwy gydol 2019-2020, ac mewn nifer o feysydd prosiect, mae ymagwedd gydweithredol ar y cyd \u00e2\u2019n partneriaid wedi cael ei mabwysiadu er mwyn cyflawni nodau\u2019r rhaglen gyfan. &nbsp;Mae manylion rhai o\u2019n prosiectau cyffrous i\u2019w gweld isod.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Parseli Synhwyraidd<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prosiect cyffrous ar gyfer pobl gydag Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog i&#8217;w gyflwyno drwy Gwmni Buddiannau Cymunedol Making Sense. Mae Making Sense yn gwmni buddiannau cymunedol sy\u2019n gweithio gydag amgueddfeydd, orielau a mannau cyhoeddus eraill i gynnal prosiectau creadigol sy\u2019n agor arddangosfeydd a chasgliadau i gynulleidfaoedd ehangach a mwy amrywiol. &nbsp;Defnyddir ymagwedd amlsynhwyraidd ar gyfer pob prosiect, gan weithio er budd pobl anabl neu bobl sy\u2019n teimlo\u2019n ynysig yn gymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a Gwasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych i ganfod gweithgareddau sy&#8217;n cael eu cynnal ledled y sir a allai fod o ddiddordeb mewn ffordd hygyrch, amlsynhwyraidd.&nbsp; Bob mis, bydd \u2018Parseli Synhwyraidd\u2019 yn cael eu creu a\u2019u hanfon i ganolfannau dydd sy\u2019n rhan o\u2019r prosiect.&nbsp; Bydd y parseli\u2019n gweithio fel catalydd ar gyfer gweithgareddau synhwyraidd y mis dan arweiniad y staff gofal, gan gynnwys tripiau dydd, gweithdai synhwyraidd a chreu gwaith celf&nbsp; a gosodiadau synhwyraidd yn y canolfannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y parseli\u2019n cael eu datblygu\u2019n ofalus bob mis gan artistiaid proffesiynol ac artistiaid gwadd, a byddant yn cynnwys gwrthrychau synhwyraidd, synau ac arogleuon ynghyd ag awgrymiadau am weithgareddau a thripiau synhwyraidd. &nbsp;Byddwn yn gweithio\u2019n agos \u00e2 lleoliadau lleol sy\u2019n fodlon croesawu ymweliadau hygyrch, gan gynnig teithiau y tu \u00f4l i\u2019r llenni a gweithdai orielau fel rhan o\u2019r Gwasanaeth Parseli Synhwyraidd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Os bydd yn llwyddiannus, gallai\u2019r prosiect hwn ddod yn wasanaeth parseli misol parhaol, gyda chymorth a phartneriaeth lleoliadau celfyddydol a diwylliannol, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi i staff ac ymweliadau gan artistiaid.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygu Darpariaeth Dan 5 oed<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Nodwyd nad oes digon o weithgareddau addas yn cael eu darparu ar gyfer plant dan 5 oed ag anghenion cymhleth. &nbsp;Mae teuluoedd sy\u2019n defnyddio\u2019r Ganolfan Datblygiad Plant wedi dweud yn y gorffennol pa mor ynysig y maent yn teimlo, yn enwedig yn ystod yr haf cyn bod eu plentyn i fod i gychwyn yn yr ysgol yn llawn amser. &nbsp;Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyliau&#8217;r haf prif ffrwd fod yn anodd. &nbsp;Mae yna rai gweithgareddau ar gael i blant ag anghenion cymhleth, ond gall y rhain fod yn gyfyngedig ac yn annigonol yn aml.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn datblygu darpariaeth drwy fapio anghenion ledled Conwy, er mwyn cael darlun clir o&#8217;r hyn y mae teuluoedd ei eisiau a&#8217;r hyn sy&#8217;n rhwystro rhai plant rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau, er mwyn datblygu gweithgareddau a all fodloni anghenion yn briodol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l gorffen y gwaith mapio, byddwn yn defnyddio\u2019r wybodaeth a\u2019r adborth i lunio\u2019r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnig mewn prosiect peilot, gan ddefnyddio cyllid a gafwyd o\u2019r Rhaglen Drawsnewid AD. Rhagwelir y byddwn yn gweithio gyda\u2019r trydydd sector i gyflwyno prosiectau peilot.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhaglen Integredig Dysgu a Gweithgareddau Iechyd a Lles <\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Conwy wedi sicrhau cyllid o\u2019r Gronfa Gofal Integredig ac o\u2019r Rhaglen Drawsnewid i ddarparu rhaglen integredig dysgu a gweithgareddau iechyd a lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y rhaglen yn cynnig cyfleoedd dysgu a gweithgareddau pwrpasol yn benodol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a\u2019r bobl sy\u2019n eu helpu, gan ganolbwyntio ar agweddau penodol ar iechyd a lles. Nod y rhaglen yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth a newid ymddygiad, er mwyn gwella iechyd a lles. &nbsp;Mae hyn yn cynnwys (ond nid wedi\u2019i gyfyngu i) sesiynau sy\u2019n ymdrin \u00e2\u2019r meysydd pwnc canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Deiet ac ymarfer corff<\/li><li>Iechyd rhywiol<\/li><li>Y menop\u00f4s a heneiddio<\/li><li>Archwiliadau a sgrinio iechyd<\/li><li>Lles meddyliol<\/li><li>Cydberthnasau, cyfeillgarwch a gweithgareddau cymunedol<\/li><li>Arian<\/li><li>Diogelwch, gan gynnwys diogelwch ar y we<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Ymdrinnir hefyd \u00e2 meysydd pwnc a glustnodir o ganlyniad i anghenion a dewisiadau\u2019r cyfranogwyr yn ystod y rhaglen. &nbsp;Caiff y sesiynau eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Prosiect Datblygu\u2019r Gwasanaethau Plant Yn adroddiad y llynedd, bu i ni gyflwyno prosiect newydd sbon sydd wedi bod yn cael ei gynnal yn 2019-20. Nod y prosiect yw atal y duedd o gynnydd yn niferoedd y Plant Sy&#8217;n Derbyn Gofal, ymateb yn rhagweithiol i\u2019r argyfwng gofal a nodwyd ledled Cymru a\u2019r DU a chyflawni gwell [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2328","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2328","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2328"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2328\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2328"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}