{"id":2294,"date":"2020-11-03T10:45:45","date_gmt":"2020-11-03T10:45:45","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2294"},"modified":"2020-11-03T14:06:44","modified_gmt":"2020-11-03T14:06:44","slug":"safon-ansawdd-1-gweithio-gyda-phobl-i-ddiffinio-a-chyd-gynhyrchu-canlyniadau-lles-personol-y-mae-pobl-am-eu-cyflawni","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/safon-ansawdd-1-gweithio-gyda-phobl-i-ddiffinio-a-chyd-gynhyrchu-canlyniadau-lles-personol-y-mae-pobl-am-eu-cyflawni\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 1: Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl am eu cyflawni"},"content":{"rendered":"\n<p>Dywedodd 73% o\u2019r unigolion a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion eu bod wedi cael y wybodaeth a\u2019r cyngor iawn pan oedd arnynt ei angen.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i mewn cysylltiad rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol a sefydliadau cymorth allweddol.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Ar y cyfan, dywedodd 76% o\u2019r bobl eu bod yn rhan weithredol o\u2019r penderfyniadau am sut i ddarparu eu gofal a\u2019u cymorth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Darpariaeth seibiant newydd cyffrous ar gyfer pobl anabl<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynlluniau i greu gwasanaeth seibiant preswyl newydd oherwydd y cynnydd mewn pobl ag anableddau sydd \u00e2 Gofalwyr sydd angen seibiant yn rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr adeilad newydd, ym Mron y Nant, Bae Colwyn, yn darparu lle byw preifat ac ardal gyffredinol fawr i gymdeithasu i bawb sy\u2019n dod i aros. Bydd ei leoliad yn ei wneud yn hygyrch i&#8217;r rhan fwyaf o bobl ei gyrraedd ac yn hawdd iddynt ddefnyddio\u2019r amwynderau a\u2019r gwasanaethau y maent eu hangen ac yn eu mwynhau yn yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"782\" height=\"273\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Bron-y-Nant-Respite-Plans-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2295\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Bron-y-Nant-Respite-Plans-1.png 782w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Bron-y-Nant-Respite-Plans-1-300x105.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Bron-y-Nant-Respite-Plans-1-768x268.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 782px) 100vw, 782px\" \/><figcaption>Cynlluniau gan Dewis Architecture<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Bu i ni rannu ein cynlluniau drwy ymarfer ymgynghori a digwyddiad agored gyda phobl sy\u2019n defnyddio ein cyfleusterau seibiant presennol, pobl allai ddefnyddio\u2019r gwasanaeth yn y dyfodol a phobl sy\u2019n byw gyda Gofalwyr. &nbsp;Yn y noson agored yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella, cafwyd sesiwn galw heibio a chyfle i siarad \u00e2\u2019r pensaer, Rheolwr y Gwasanaeth, y rheolwyr anableddau a chynrychiolwyr o\u2019r maes Iechyd. &nbsp;Buom yn ateb ymholiadau ac yn cofnodi unrhyw bryderon, gan roi sicrwydd o ran parhad y ddarpariaeth seibiant.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"992\" height=\"494\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Consultation-Group-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2297\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Consultation-Group-1.png 992w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Consultation-Group-1-300x149.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Consultation-Group-1-768x382.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 992px) 100vw, 992px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Dywedodd 79% o\u2019r bobl wrthym eu bod yn gwybod gyda phwy i gysylltu yngl\u0177n \u00e2\u2019u gofal a&#8217;u cymorth.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n teimlo cysur dim ond o wybod bod cymorth ar gael i mi.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r gofalwyr wedi bod yn wych ac yn hawdd cael gafael arnyn nhw.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae rhai ymatebwyr yn teimlo\u2019n rhwystredig nad yw gweithwyr cymorth neu weithwyr proffesiynol cyfarwydd yn cael ymweld \u00e2 hwy bob tro. Rydym yn ceisio bod yn gyson lle bynnag y bo\u2019n bosib, ond nid yw wastad yn bosib sicrhau bod yr un gweithwyr ar gael drwy gydol y cyfnod gofal a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gall oedolion sydd eisiau gwybodaeth, cyngor neu gymorth gysylltu \u00e2 ni o ddydd Llun i dydd Gwener ar 0300 456 1111, a gall unrhyw un sy\u2019n ffonio yngl\u0177n \u00e2 phlentyn gysylltu \u00e2 01492 575 111.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwasanaeth integredig i blant a phobl ifanc ag anableddau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gronfa Gofal Integredig wedi hwyluso ffrwd waith i ganolbwyntio ar blant ag anableddau ac anghenion cymhleth, oedolion ag anableddau dysgu a Gofalwyr, ac wedi darparu ffordd o gyd-gomisiynu gwasanaethau&nbsp; sydd ar gael i blant ag anableddau. &nbsp;Mae elfen sylweddol o\u2019r cyllid yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal a helpu plant i wneud cynnydd. &nbsp;Mae\u2019r Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc (CALDS) wedi cefnogi\u2019r Gwasanaeth Anableddau i gynnal clwb gwyliau anghenion cymhleth peilot ar gyfer plant sydd angen cymorth gan Iechyd a Gofal Cymdeithasol. &nbsp;Bu\u2019r peilot yn llwyddiannus ac mae wedi\u2019i ymestyn i bob gwyliau ysgol. &nbsp;Mae prosiect arall wedi galluogi plentyn ag anghenion iechyd cymhleth gael gofal seibiant yn Llys Gogarth. &nbsp;Caiff gymorth gan weithiwr gofal iechyd sy\u2019n gallu cynnal ymyriadau iechyd pan fydd hi yn Llys Gogarth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygiadau Cyngor yr Ifanc<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gr\u0175p o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yw Cyngor yr Ifanc, sy\u2019n ceisio rhoi cyfle i bob person ifanc sy\u2019n byw yn y sir gael dweud eu dweud am yr hyn sy\u2019n effeithio arnynt. &nbsp;Mae yna nifer o gynrychiolwyr ar Gyngor yr Ifanc o wahanol ysgolion uwchradd, colegau a\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid. &nbsp;Dros y deuddeng mis diwethaf, mae Cyngor yr Ifanc wedi cymryd rhan mewn gwaith anhygoel. &nbsp;Dyma rai enghreifftiau:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Hyrwyddo Diogelwch Ar-lein<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda Phartneriaeth Pobl Conwy, dewisodd Cyngor yr Ifanc archwilio thema diogelwch y rhyngrwyd. &nbsp;Yn fwy penodol, bu iddynt benderfynu canolbwyntio ar y peryglon a\u2019r risgiau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 radicaleiddio ar-lein fel pwnc dewisol am y flwyddyn i ddod. &nbsp;Er mwyn dysgu mwy am y pwnc, aeth y gr\u0175p i gyfarfod \u00e2 Swyddog Gwybodaeth Ddigidol y Gwasanaethau Ieuenctid. &nbsp;Aeth Cyngor yr Ifanc hefyd am ddiwrnod dysgu i ymchwilio ymhellach i&#8217;r pwnc a phenderfynu ar yr agwedd iawn sy&#8217;n berthnasol i bobl ifanc. &nbsp;Bu iddynt hefyd gyfarfod \u00e2 chynrychiolwr o Heddlu Gogledd Cymru sy\u2019n darparu hyfforddiant mewn perthynas \u00e2 gwrth-radicaleiddio. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gan ddilyn ymlaen o ymchwil Cyngor yr Ifanc i\u2019r pwnc, bu iddynt benderfynu edrych ar ymyrraeth gynnar mewn perthynas \u00e2 meithrin perthynas amhriodol a dylanwadu ar bobl ifanc ar lein. &nbsp;Maent bellach wedi llunio poster fydd yn cael ei rannu \u00e2 gwahanol wasanaethau, ac sy\u2019n cynnwys pwyntiau cyswllt ar gyfer plant a phobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"668\" height=\"929\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Extremism-Poster-Welsh.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2299\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Extremism-Poster-Welsh.png 668w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Extremism-Poster-Welsh-216x300.png 216w\" sizes=\"auto, (max-width: 668px) 100vw, 668px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Senedd Ieuenctid Cymru Gyfan<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae aelodaeth Cyngor yr Ifanc wedi tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae\u2019n bleser mawr gennym gyhoeddi bod tri o aelodau Cyngor yr Ifanc wedi cael eu hethol i fod yn rhan o\u2019r Senedd Ieuenctid Cymru Gyfan gyntaf. Roedd yr etholiadau\u2019n cynnwys cynrychiolwyr ar gyfer Pobl Ifanc Anabl Cymru ac ardaloedd Aberconwy a Gorllewin Clwyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Youth-Parliament-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2301\" width=\"576\" height=\"341\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Youth-Parliament-1.jpg 363w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Youth-Parliament-1-300x178.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 576px) 100vw, 576px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr 2020. Mae\u2019r tri sydd newydd eu hethol hefyd wedi mynychu eu cyfarfod cyntaf yng Nghaerdydd. &nbsp;Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, sef cymorth iechyd emosiynol a meddyliol, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm a thaflu sbwriel a gwastraff plastig.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>R\u00f4l y Swyddog Ailalluogi<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Cafodd r\u00f4l newydd y Swyddog Ailalluogi ei chreu i gefnogi\u2019r llif o unigolion drwy ein Gwasanaeth Ailalluogi. &nbsp;Mae\u2019r Swyddog Ailalluogi\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r t\u00eem i gefnogi camau nesaf unigolion yn dilyn diwedd y cyfnod ymyrraeth. &nbsp;Mae\u2019r unigolion hyn naill ai\u2019n cael eu helpu i symud ymlaen i\u2019r sector annibynnol os oes angen pecyn gofal a chymorth hirdymor arnynt i sicrhau eu bod yn cyflawni eu canlyniadau lles, neu eu cyfeirio at wasanaethau lles eraill yn y gymuned os nad oes angen cynllun gofal a chymorth ffurfiol arnynt. &nbsp;Mae hyn yn sicrhau llif cyson o unigolion drwy\u2019r gwasanaeth a gallwn gynnig cyfnod o ymyrraeth ailalluogi i fwy bobl.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw unigolion angen pecyn gofal hirdymor, cynhelir asesiad ariannol i bennu faint i\u2019w godi arnynt am y gwasanaeth hwn. &nbsp;Caiff y broses hon ei chwblhau\u2019n gyflym, sy\u2019n sicrhau y codir ffi yn brydlon ar unigolion am y gwasanaethau y maent eu hangen.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers i\u2019r swyddi newydd hyn gael eu cyflwyno, rydym wedi gweld gwelliant yn ein gallu i gynnig gwasanaeth ail-alluogi, yn ogystal \u00e2 throsglwyddo\u2019n fwy esmwyth i wasanaethau eraill. &nbsp;Mae\u2019r galw am, a\u2019r gallu i ddarparu cefnogaeth i boblogaeth h\u0177n Conwy yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. &nbsp;Mae ein gallu i ddarparu gwasanaeth ailalluogi effeithiol ac effeithlon yn allweddol i reoli\u2019r galw hwnnw. &nbsp;Mae creu\u2019r r\u00f4l hon wedi ein galluogi i wella effeithlonrwydd y gwasanaeth hanfodol hwn a sicrhau y gall y mwyaf posib o unigolion elwa ar gyfnod ailalluogi yn ogystal \u00e2 chadw neu adennill eu hannibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 77% o\u2019r bobl a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod yn fodlon gyda\u2019r gofal a\u2019r cymorth y maent yn ei dderbyn.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p><strong>Allai o ddim bod yn well<\/strong>.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gweithwyr Cymorth Dementia<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Drwy ddefnyddio\u2019r arian sydd ar gael drwy\u2019r Gronfa Gofal Integredig, rydym wedi gallu cyflawni\u2019r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-2022.&nbsp; Mae\u2019r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn nodi strategaeth glir i Gymru ddod yn genedl sy\u2019n deall dementia, sy\u2019n cydnabod hawl pobl \u00e2 dementia i deimlo\u2019u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol ag sy\u2019n bosib o fewn eu cymunedau. Mae\u2019r Cynllun yn cydnabod yr angen am gefnogaeth draws-lywodraethol, amlasiantaeth drwy\u2019r gymdeithas gyfan ar gyfer pobl \u00e2 dementia.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi cyflogi pum Gweithiwr Cymorth Dementia i weithio fel rhan o\u2019r pump o Dimau Adnoddau Cymunedol yng Nghonwy. &nbsp;Mae\u2019r unigolion hyn yn gwella ymdrechion y timau amlddisgyblaethol i gynnal a chefnogi unigolion sy\u2019n byw gyda dementia yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal \u00e2 darparu cymorth i\u2019w Gofalwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd wrth geisio recriwtio i\u2019r swyddi hyn, rydym eisoes yn cychwyn gweld y manteision y maent yn eu cyflwyno i fywydau unigolion sy&#8217;n byw gyda dementia.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Astudiaeth Achos<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Daeth Mr X i gysylltiad \u00e2\u2019r gwasanaeth drwy\u2019r t\u00eem bro. Mae Mr X yn byw ar ei ben ei hun a daeth yn amlwg fod ganddo nifer o broblemau gan gynnwys colli ei gof, problem iechyd gorfforol a\u2019i fod hefyd yn galaru oherwydd iddo golli ei wraig yn ddiweddar. &nbsp;Llwyddodd y Gweithiwr Cymorth Dementia i ddatblygu perthynas dda gyda Mr X ac aelod o\u2019i deulu. &nbsp;Trefnwyd apwyntiad ar ran Mr X i weld ei feddyg teulu, a roddodd ddiagnosis o broblemau sylweddol o ran colli ei gof, ac fe&#8217;i atgyfeiriwyd at glinig cof.<\/p>\n\n\n\n<p>Darparwyd cymorth ymarferol rheolaidd i alluogi Mr X i fynd i siopa, mynychu apwyntiadau clinigol ac ymweld yn rheolaidd \u00e2 bedd ei ddiweddar wraig, sydd wedi helpu Mr X drwy\u2019r broses alaru. &nbsp;Gyda mewnbwn y Gweithiwr Cymorth Dementia, mae Mr X wedi cael ei atgyfeirio at asiantaeth allanol, ac mae\u2019r Gweithiwr Cymorth yn ei helpu gyda\u2019r broses bontio. &nbsp;Mae Mr X hefyd yn cael cymorth parhaus gyda\u2019r broblem iechyd gorfforol. &nbsp;Mae hyn wedi golygu na chododd unrhyw argyfwng meddygol ac mae wedi gallu cael rheolaeth dros y sefyllfa.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf byw gyda cholli ei gof a galar, mae Mr X yn parhau i fyw yn ei gartref ei hun. &nbsp;Mae\u2019n parhau i fwynhau ei annibyniaeth ac yn byw\u2019n dda iawn gyda chymorth y Gweithiwr Cymorth Dementia, ymweliadau gan ei deulu ac ymweliadau cartref hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae 89% o&#8217;r bobl a ymatebodd i&#8217;r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd y staff a alwodd draw a\u2019r rhai a ffoniodd yn gymwynasgar ac yn gwrtais<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Hyfforddiant Staff \u2013 Gweithio i gael Canlyniadau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein hadran Datblygiad a Dysg y Gweithlu wedi darparu hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn mewn perthynas \u00e2 darparu gwasanaeth sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn a chanlyniadau. Gweithio i gael canlyniadau yw canolbwynt arferion ac asesiadau a gynhelir gan ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol ar draws Gofal Cymdeithasol. &nbsp;Dyma nodau ac amcanion yr hyfforddiant:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mwy o ymwybyddiaeth o ddull ymarfer sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau<\/li><li>Mwy o hyder i ddefnyddio dull sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau<\/li><li>Nodi sut y mae deddfwriaeth yn newid y berthynas rhwng darparwyr a\u2019r unigolion sy\u2019n derbyn gwasanaethau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Y cynnydd hyd yma<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi darparu amryw o sesiynau hyfforddi i ddarparwyr gofal a chymorth mewnol ac allanol yng Nghonwy. &nbsp;Mae sesiynau hefyd wedi cael eu darparu i amrywiol adrannau ar draws Gofal Cymdeithasol, er enghraifft y t\u00eem Safonau Ansawdd, y gwasanaeth Plant Sy&#8217;n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, timau Iechyd Meddwl a thimau bro.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pa wahaniaeth a wnaeth hyn?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r sesiynau wedi gwneud gwahaniaeth o ran bod gan y staff a\u2019r ymarferwyr gwell dealltwriaeth o ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn sy\u2019n derbyn gofal a chymorth, ac mae yna ymrwymiad mwy cadarn i sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi clustnodi angen i integreiddio \u00e2\u2019n cydweithwyr Iechyd ar gyfer gweithgareddau dysgu yn y dyfodol. &nbsp;Byddwn yn datblygu gweithdai cydweithredol ar gyfer comisiynwyr a darparwyr er mwyn ehangu cwmpas yr hyfforddiant hwn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"774\" height=\"529\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Training-Session-around-table-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2303\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Training-Session-around-table-1.png 774w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Training-Session-around-table-1-300x205.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Training-Session-around-table-1-768x525.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 774px) 100vw, 774px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dywedodd 73% o\u2019r unigolion a ymatebodd i\u2019r Arolwg Dinasyddion eu bod wedi cael y wybodaeth a\u2019r cyngor iawn pan oedd arnynt ei angen. Rydw i mewn cysylltiad rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol a sefydliadau cymorth allweddol. Ar y cyfan, dywedodd 76% o\u2019r bobl eu bod yn rhan weithredol o\u2019r penderfyniadau am sut i ddarparu eu gofal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2294","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2294","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2294"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2294\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2294"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}