{"id":2261,"date":"2020-11-02T17:20:43","date_gmt":"2020-11-02T17:20:43","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2261"},"modified":"2020-11-02T17:20:46","modified_gmt":"2020-11-02T17:20:46","slug":"sut-mae-pobl-yn-dylanwadu-ar-ein-gwasanaethau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/sut-mae-pobl-yn-dylanwadu-ar-ein-gwasanaethau\/","title":{"rendered":"Sut mae pobl yn dylanwadu ar ein gwasanaethau?"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae gofyn i\u2019r bobl rydym yn eu helpu am yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt hwy yn rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae\u2019r adborth y byddwn yn ei gael yn ein galluogi i weld lle mae angen gwneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau rydym yn eu darparu.<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy gydol yr adroddiad hwn, fe welwch chi ystadegau ac adborth a gafwyd drwy ein hymarferion ymgynghori, yn enwedig yr arolwg dinasyddion blynyddol a gynhaliwyd yn ystod hydref 2019. Bydd adborth o\u2019r arolwg hwn a gwerthusiadau eraill yn cael ei gynnwys drwy gydol yr adroddiad dan y safon ansawdd berthnasol, er mwyn dangos pa mor effeithiol ydym ni wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy, o safbwynt yr unigolion sy&#8217;n eu derbyn. \u00a0Fel bob amser, byddwn yn mynd ati i wella pethau pan dderbynnir ymateb negyddol, neu pan mae pobl yn awgrymu newidiadau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pwy sy\u2019n cymryd rhan yn yr arolwg dinasyddion?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2019 fe anfonom gyfanswm o 2,000 o holiaduron at yr holl Ofalwyr, plant a phobl ifanc a detholiad o oedolion oedd yn derbyn gofal a chymorth gennym. Anfonwyd cop\u00efau o\u2019r holiadur mewn arddull hawdd ei ddarllen at rai pobl oedd eu hangen, ac felly rydym yn ymdrin yn wahanol \u00e2\u2019r ymatebion i\u2019r rheiny.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Faint o bobl a ymatebodd i\u2019r arolwg?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Ein cyfradd ymateb gyffredinol oedd 34%, wedi\u2019i ddadansoddi fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td><strong>Pwy gafodd holiadur?<\/strong><\/td><td><strong>Anfonwyd<\/strong><\/td><td><strong>Dychwelyd<\/strong><\/td><td><strong>% ymateb<\/strong><\/td><\/tr><tr><td>Oedolion<\/td><td>1427<\/td><td>515<\/td><td>36%<\/td><\/tr><tr><td>Gofalwyr<\/td><td>206<\/td><td>104<\/td><td>50%<\/td><\/tr><tr><td>Plant a Phobl Ifanc (dan 25 oed)<\/td><td>367<\/td><td>53<\/td><td>14%<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwybodaeth ystadegol arall<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>O dan y Cod Ymarfer ar gyfer Mesur Perfformiad Gofal Cymdeithasol, mae\u2019n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gasglu data ar ffurf Dangosyddion Perfformiad. \u00a0Byddwn yn cynnwys y rhain yn yr adroddiad er mwyn dangos yn ystadegol pa mor llwyddiannus ydym ni wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy. \u00a0Mae Llywodraeth Cymru\u2019n monitro\u2019r dangosyddion perfformiad hyn yn flynyddol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"782\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Computer-Screen-with-graphs-1-1024x782.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2262\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Computer-Screen-with-graphs-1-1024x782.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Computer-Screen-with-graphs-1-300x229.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Computer-Screen-with-graphs-1-768x587.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Computer-Screen-with-graphs-1.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwaith ymgynghori, ymgysylltu a chymryd rhan<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Canolfannau Teuluoedd Conwy<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn 2019, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori i ganfod barn teuluoedd am waith Canolfannau Teuluoedd Conwy. &nbsp;Anfonwyd arolwg i 1,300 o deuluoedd oedd yn derbyn gwasanaethau gan y T\u00eem o Amgylch y Teulu a Dechrau&#8217;n Deg. &nbsp;Roedd ar gael ar lein i alluogi teuluoedd i ymateb yn ddigidol.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr argymhellion a gafwyd o\u2019r arolwg yn cynnwys:<br><br><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwneud yn si\u0175r bod teuluoedd yn cael enw a manylion cyswllt eu gweithiwr allweddol<\/li><li>Cynnal gweithgareddau\u2019r Canolfannau Teuluoedd dros y gwyliau ysgol<\/li><li>Cyflwyno pecyn croeso<\/li><li>Parhau ac ymestyn y cyrsiau sydd ar gael<\/li><li>Gwell gwasanaethau ar gyfer lleoliadau gwledig<\/li><li>Mwy o gymorth i dadau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Oherwydd y cafwyd cyfoeth o wybodaeth gan Ganolfan Deuluoedd Llanrwst, awgrymwyd ein bod yn dychwelyd at y gwaith ymgynghori ar \u00f4l sefydlu\u2019r canolfannau newydd yng ngogledd y sir.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfleusterau chwarae yn Sir Conwy<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Bu i\u2019n T\u00eem Cyfranogi gydweithio \u00e2\u2019r T\u00eem Grant Cyllido Hyblyg a\u2019r Gwasanaeth Comisiynu i ganfod barn rhieni a phlant am y cyfleusterau chwarae presennol. &nbsp;Bu i ni ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau ieuenctid lleol a dwy o\u2019n Canolfannau Teuluoedd (dwyrain a gorllewin). &nbsp;Gofynnwyd hefyd i lyfrgelloedd ac ysgolion lleol gymryd rhan drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd rhieni wrthym:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Yr hoffent i ddyddiau chwarae gael eu trefnu yn eu hardaloedd lleol<\/li><li>Y dylid hysbysebu gweithgareddau chwarae yn ehangach<\/li><li>Y dylai rhai gweithgareddau gael eu cynnal yn ystod yr wythnos<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Dywedodd pobl ifanc wrthym:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Yr hoffent weld mwy o weithgareddau\u2019n cael eu trefnu drwy glybiau ieuenctid<\/li><li>Yr hoffent fwy o wersylloedd p\u00eal-droed, beicio, ioga, gymnasteg a bocsio<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymgynghori gyda phobl mewn lleoliadau gofal preswyl<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2019, treuliodd y Gweithiwr Cyfranogiad Oedolion amser yn ymweld \u00e2 dau gartref gofal yng Nghonwy, yn sgwrsio \u00e2\u2019r trigolion am yr hyn roeddent yn ei hoffi fwyaf am eu cartref, a pha newidiadau yr hoffent eu gweld. Cododd y trigolion faterion fel y diffyg cysgod rhag yr haul i gael eistedd allan yn yr ardd, lliw y platiau a ddefnyddir i weini eu bwyd a\u2019r angen am fwydlenni mwy gweledol i helpu pobl sy\u2019n byw gyda dementia.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd yr adborth i reolwyr y cartrefi a&#8217;i drafod \u00e2&#8217;n Gwasanaeth Monitro er gwybodaeth at y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gofal Cartref<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2019, bu i\u2019r Arolygiaeth Safonau Gofal adolygu dau faes gwasanaeth: Gwasanaethau Cartref i Oedolion a Gwasanaethau i Blant ag Anableddau Conwy.  Adroddodd yr Arolygiad Gofal Cartref bod yr AGC wedi cael adborth cadarnhaol gan bobl a\u2019u perthnasau, oedd yn fodlon ar y cyfan gyda\u2019r gwasanaeth a\u2019r cymorth a ddarparwyd. Dywedodd yr adroddiad hefyd bod ein staff yn cydweithio\u2019n dda ac wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd da. Wrth symud ymlaen, ein nod yw gwella ein systemau cadw cofnodion ymhellach er mwyn nodi cynnydd unigolion, a gweithio i ddarparu gofal a chymorth ar amseroedd o\u2019u dewis hwy pan fydd hynny\u2019n bosib.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Plant ag Anableddau<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Roedd yr arolygiad hwn yn rhan o Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau i Blant ag Anableddau yng Nghymru yn 2019-20. Dywed yr adroddiad wrthym fod gan yr awdurdod lleol weledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer plant anabl. Mae teuluoedd wedi dweud y gallant feithrin perthnasoedd ystyrlon gydag ymarferwyr y Gwasanaeth Anableddau, ac ymddiried ynddynt, a bod y plant yn cael ymateb prydlon i geisiadau am gyfarpar ac addasiadau. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wrth symud ymlaen, mae cael digon o adnoddau\u2019n parhau\u2019n her ac mae pobl wedi dweud wrthym eu bod angen mwy o wasanaethau fel gofal seibiant. Mae angen i ni hefyd barhau i sicrhau ein bod yn cynnwys llais plant anabl a\u2019r canlyniadau yr hoffent eu gweld o fewn ein prosesau asesu. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Adolygiadau Sicrhau Ansawdd<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae adolygiadau sicrhau ansawdd yn ffordd o amlygu tystiolaeth o arferion da. Gallant hefyd fod o fudd er mwyn canfod angen nas diwallwyd neu amrywiad annerbyniol mewn gofal, ac ysgogi gwelliant yn \u00f4l yr angen. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2019, roedd y meysydd i\u2019w hadolygu yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Atgyfeiriadau Diogelu Oedolion<\/li><li>Prosesau\u2019r Asesiadau Integredig ar gyfer Oedolion<\/li><li>Cynlluniau Gofal a Chymorth<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Roedd yr adolygiadau a gynhaliwyd o\u2019r Gwasanaeth Oedolion yn dangos bod tystiolaeth dda o gyd-gynhyrchu a chysylltiad \u00e2\u2019r unigolyn o fewn y broses asesu. &nbsp;Mewn dros ddau draean o&#8217;r achosion, roedd cyswllt gan asiantaethau eraill ac\/neu wasanaethau ataliol. &nbsp;Mae defnyddio gwasanaethau eirioli yn faes yr hoffem weld gwelliant ynddo. &nbsp;Er fod ein hadolygiadau\u2019n dangos tystiolaeth bod unigolion yn elwa ar gymorth drwy eiriolaeth anffurfiol, hoffem weld mwy o bobl yn derbyn y cynnig i gael eu hatgyfeirio at y Gwasanaethau Eirioli, a bydd hyn yn cael ei hyrwyddo wrth symud ymlaen yn 2020.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr adolygiadau sicrhau ansawdd o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a gynhaliwyd yn 2019 yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y Broses Asesu Gychwynnol<\/li><li>Asesiadau Cymhleth\/Cynhwysfawr<\/li><li>Gwasanaethau Maethu<\/li><li>Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Adolygiadau Sicrhau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 2019<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd ar gyfer cynlluniau gofal Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal er mwyn adolygu\u2019r Asesiad Cymhleth, adolygu\u2019r drefn gynllunio canlyniadau personol a chynnwys llais y plentyn o fewn y prosesau. &nbsp;Dangosodd yr adolygiad brosesau gweithio amlasiantaeth da er mwyn diogelu plant, a bod mwyafrif yr asesiadau\u2019n cynnwys gwybodaeth fanwl. &nbsp;Argymhellodd yr adolygiad y dylid canolbwyntio ymhellach ar gynnwys llais y plentyn a chanlyniadau\u2019r rhiant wrth gynllunio gofal yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd pellach o broses yr Asesiadau Cymhleth\/Cynhwysfawr ar draws timau gwaith maes allweddol yn nes ymlaen yn 2019, gan gynnwys y T\u00eem Anableddau dan 25 oed, y T\u00eem Asesu a Chymorth, y T\u00eem Diogelu a Chyfreithiol a\u2019r T\u00eem Sefydlogrwydd a Llwybrau.\u00a0 Argymhellodd yr adolygiad hwn y dylid hyrwyddo ymhellach y dull Sgyrsiau Cydweithredol, a chynnwys llais y plentyn wrth ddarparu tystiolaeth o ganlyniadau lles plant a\u2019u teuluoedd. Mae rhagor o adolygiadau sicrhau ansawdd ar y gweill ar gyfer 2020.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cwynion a chanmoliaeth am ein gwasanaethau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Credwn yn gryf bod delio\u2019n effeithiol \u00e2 chwynion yn rhan hollbwysig o\u2019n cyfrifoldebau o fewn yr Adran Gofal Cymdeithasol, ac yn elfen hanfodol o sicrhau bod ein dinasyddion yn derbyn y gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt. &nbsp;Mae ein gweithdrefn gwyno yn seiliedig ar ddwy egwyddor:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae hawl gan bawb sy&#8217;n gwneud cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i gael eu clywed. Rhaid gwrando ar eu barn, eu dymuniadau a&#8217;u teimladau; a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.<\/li><li>Gall cwynion dynnu sylw at y newidiadau sydd eu hangen yn y gwasanaethau. Mae\u2019n bwysig bod yr awdurdodau lleol yn dysgu o gwynion, er mwyn canfod sut y dylid newid a gwella\u2019r gwasanaethau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae cwynion yn ein galluogi i gydnabod camgymeriadau, eu cywiro ac ymddiheuro pan fo hynny\u2019n briodol. &nbsp;Gallwn hefyd ddysgu gwersi ohonynt a mynd ati i wneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau rydym yn eu darparu.<\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r modd y byddwn yn rhoi gwybod am gwynion, mae\u2019r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ymwneud \u00e2\u2019r flwyddyn 2018-19.\u00a0 Yn ystod y flwyddyn, cafwyd a deliwyd \u00e2 25 o gwynion ffurfiol, sydd bedwar yn llai na\u2019r flwyddyn adrodd flaenorol ac yn sylweddol is na thair blynedd yn unig yn \u00f4l. Gellir gweld y duedd dros amser yn y graff isod.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"631\" height=\"286\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Complaints-Graph-Welsh.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2264\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Complaints-Graph-Welsh.png 631w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Complaints-Graph-Welsh-300x136.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 631px) 100vw, 631px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>O\u2019r 24 o gwynion a gafwyd ar lefel Cam 1, un yn unig oedd angen ei uwchgyfeirio i Gam 2 (lle mae angen defnyddio ymchwilydd annibynnol). &nbsp;Datryswyd y gweddill ar lefel leol (Cam 1), sy\u2019n dangos yr ymdrech a roddwyd i\u2019r ymatebion. &nbsp;Mae yna hefyd fantais ariannol i beidio a bod angen cyflogi ymchwilwyr annibynnol; gostyngodd y gwariant o \u00a317,966 yn 2017-18 i ddim ond \u00a33,540 yn 2018-19 oherwydd y gostyngiad mewn cwynion Cam 2. &nbsp;Yn 2018-19 bu i ni sicrhau bod 96% o\u2019r unigolion oedd yn cwyno yn cael cydnabyddiaeth o fewn dau ddiwrnod gwaith, a bod dros hanner y cwynion Cam 1 yn cael eu datrys o fewn 15 diwrnod gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Ystyrir canmoliaeth yn wybodaeth bwysig y gellir ei defnyddio i ganfod meysydd lle mae gennym arferion da. \u00a0Caiff unrhyw ganmoliaeth ei chofnodi a rhoddir gwybod i\u2019r rheolwyr amdani er mwyn iddynt gael rhannu adborth cadarnhaol gyda\u2019u timau. \u00a0Yn ystod 2018-19, cafodd yr Adran Gofal Cymdeithasol 216 o ganmoliaethau, sef cynnydd o 36 dros y flwyddyn flaenorol, sy\u2019n dangos fod nifer y canmoliaethau\u2019n fwy o lawer na nifer y cwynion a gafwyd. \u00a0Y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Ysbytai a Phobl H\u0177n sy\u2019n cael y gyfran fwyaf o ganmoliaethau (53% o\u2019r cyfanswm).<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Yn yr amser byr rydw i wedi dy \u2018nabod di, fe ddois di i mewn i fy mywyd i fel llygedyn o heulwen i oleuo fy niwrnod.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pecyn Cymorth Hawliau Plant Conwy <\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bu i ni gyflwyno\u2019r Pecyn Cymorth Hawliau Plant am y tro cyntaf yn 2014 a chafodd ei hyrwyddo ar ein gwefan, gan egluro perthnasedd hawliau plant a phwysigrwydd meithrin cyswllt \u00e2 phlant a phobl ifanc ym mhob agwedd ar ein gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2019, bu i ni benderfynu adolygu\u2019r pecyn cymorth i\u2019w wneud yn haws cael gafael arno a&#8217;i ddefnyddio ac, mewn ymateb i&#8217;r hyn a ddywedodd plant a phobl ifanc wrthym, ei gynnig ar lein am y tro cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd angen i ni greu pecyn cymorth oedd yn apelio at blant ac oedolion fel ei gilydd. Bu i ni ymgynghori \u00e2 staff, aelodau Cyngor yr Ifanc Conwy a\u2019n hasiantaethau partner er mwyn casglu eu barn yn ystod y broses adolygu. Cawsom gymorth gan gwmni dylunio gwefannau lleol i wneud yn si\u0175r bod y pecyn cymorth yn ddeniadol, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn rhoi\u2019r wybodaeth gywir i amrywiaeth o bobl. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn falch iawn gyda\u2019r canlyniad a byddwn yn lansio ein pecyn cymorth ar ei newydd wedd yn gynnar yn 2020, yn ogystal ag yn gwerthuso ei ddefnyddioldeb gyda gwasanaethau eraill y Cyngor.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"626\" height=\"228\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Sofa-Group-Gathering-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2266\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Sofa-Group-Gathering-1.png 626w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Sofa-Group-Gathering-1-300x109.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 626px) 100vw, 626px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Monitro ansawdd ein gwasanaethau ail-alluogi<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gwasanaeth ail-alluogi Conwy yn cynnig cymorth tymor byr dwys ac wedi\u2019i dargedu i unigolion dros 65 oed sydd, oherwydd salwch neu gyfnod yn yr ysbyty, angen cymorth i adennill eu hannibyniaeth a\u2019u hyder. Gallai hyn fod ar ffurf cymorth i baratoi prydau bwyd, darparu gofal personol neu gymorth i fynd i\u2019r gwely neu godi ohono. Byddwn yn cysylltu \u00e2 phob unigolyn yn dilyn eu cyfnod o gymorth i gael adborth am eu profiad, o adeg eu hatgyfeirio i gyflawni eu canlyniadau personol. Mae hyn yn ein galluogi i fonitro ein perfformiad yn barhaus a sicrhau bod pawb sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth yn cael llais yn eu gofal a\u2019u cymorth eu hunain a, drwy adborth, i wella taith ailalluogi unigolion eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r ymatebion i\u2019n holiadur drwy gydol 2019-20 yn dangos cyfradd fodlonrwydd uchel, gyda\u2019r gwasanaeth yn rhagori ar y disgwyliadau mewn sawl achos. Bu i dros 300 o unigolion a dderbyniodd ein gwasanaeth ailalluogi yn ystod 2019-20 ymateb i\u2019n ffurflen adborth. Dyma rai enghreifftiau o\u2019r cyfraddau ymateb a gafwyd:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td><strong>Nododd 96% o\u2019r ymatebwyr eu bod wedi\u2019u cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio a chytuno ar eu cymorth, ynghyd ag aelodau teulu, ffrindiau, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Teimlai 98% y bodlonwyd eu disgwyliadau o\u2019r gwasanaeth ail-alluogi.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Dywedodd 94% ein bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar gychwyn y gwasanaeth.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Teimlai 91% eu bod wedi cyflawni\u2019r canlyniadau a bennwyd erbyn diwedd y cyfnod cymorth.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Teimlai 99% o\u2019r bobl a gafodd gymorth ailalluogi ei fod wedi cael ei ddarparu\u2019n hyblyg.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Teimlai 94% o\u2019r bobl fod y cymorth a gawsant yn gyson.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Teimlai 98% fod y cymorth a gawsant wedi\u2019u galluogi i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain.<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Roedd 100% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.<\/strong><\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ro\u2019n i\u2019n edrych ymlaen at weld yr holl ofalwyr \u2013 allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy i fy helpu i wella yn fy nghartref fy hun.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedden ni\u2019n cael digon o amser a chymorth<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe wnaethoch chi fy helpu i pan o&#8217;n i angen cymorth fwyaf.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><strong>Byddwn yn parhau i fonitro perfformiad y t\u00eem ailalluogi bob chwarter er mwyn sicrhau y cynhelir ein safonau uchel.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"679\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Care-Home-Resident-Carer-1-1024x679.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2268\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Care-Home-Resident-Carer-1-1024x679.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Care-Home-Resident-Carer-1-300x200.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Care-Home-Resident-Carer-1-768x509.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Care-Home-Resident-Carer-1-1536x1018.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Care-Home-Resident-Carer-1.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gofyn i\u2019r bobl rydym yn eu helpu am yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt hwy yn rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae\u2019r adborth y byddwn yn ei gael yn ein galluogi i weld lle mae angen gwneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Drwy gydol yr adroddiad hwn, fe welwch chi ystadegau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2261","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2261","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2261"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2261\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2261"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}