{"id":2254,"date":"2020-11-02T16:57:00","date_gmt":"2020-11-02T16:57:00","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2254"},"modified":"2020-11-02T16:59:00","modified_gmt":"2020-11-02T16:59:00","slug":"yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn yr adran hon, byddwn yn cyflwyno\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd yn y meysydd gwaith allweddol yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni yn ystod 2019-20.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cymru Iachach<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad 2018-2019, bu i ni gyfeirio at \u2018Gymru Iachach\u2019 a sut mae\u2019r cynllun hwn yn gosod gweledigaeth glir o sut y bydd gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael eu darparu yng Nghymru dros y blynyddoedd sydd i ddod. &nbsp;O fewn Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy, rydym wedi cymryd camau breision o ran cyflawni\u2019r weledigaeth a amlinellwyd o fewn cynllun \u2018Cymru Iachach\u2019, gymaint felly fel ei fod bellach yn cwmpasu popeth rydym yn ei wneud fel gwasanaeth ac wedi dod yn rhan o\u2019n gwaith arferol. &nbsp;Er enghraifft, rydym yn darparu gwasanaethau sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau ac unigolion, rydym yn cyd-gynhyrchu mewn perthynas \u00e2 gwasanaethau ac rydym yn symud tuag at weithlu mwy generig.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygu Timau Adnoddau Cymunedol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Y llynedd, bu i ni siarad am ddatblygu Timau Adnoddau Cymunedol (TACau) ar gyfer Gwasanaethau Oedolion. &nbsp;Mae hon wedi bod yn rhaglen waith, yn defnyddio cyllid CGI, i\u2019n galluogi i integreiddio gwasanaethau rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol cymunedol. &nbsp;Mae\u2019r Gronfa Gofal Integredig (CGI) yn cael ei dyrannu gan Lywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru. &nbsp;Nod y gronfa yw ysgogi a galluogi gweithio integredig rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Tai, y Trydydd Sector a darparwyr annibynnol, er mwyn datblygu gwasanaethau cynaliadwy. &nbsp;Gall y gronfa gefnogi mentrau (neu brosiectau) newydd yn ogystal ag ehangu gwasanaethau presennol. &nbsp;Bydd datblygu\u2019r TACau bellach yn parhau dan raglen ehangach o Drawsnewid ac Integreiddio Cymunedol, gan ddefnyddio grant trawsnewid Llywodraeth Cymru sydd ar gael drwy\u2019r cynllun \u2018Cymru Iachach\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn dal i ganolbwyntio ar ddatblygu hunaniaeth t\u00eem cymunedol a ffyrdd o weithio sy\u2019n caniat\u00e1u ymateb \u2018un t\u00eem\u2019 i gymunedau lleol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gwaith a wnaed hyd yma<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cafwyd adolygiad o ffiniau er mwyn sicrhau bod dalgylchoedd timau unigol yn cydweddu.<\/li><li>Cafwyd cynllun peilot a gyflwynwyd fesul cam i bob TAC, sy\u2019n rhoi mynediad i ddata byw am gleifion mewnol.<\/li><li>Cychwynnwyd prosiect \u2018mewngymorth\u2019 drwy recriwtio \u2018olrheinwyr cynnydd\u2019. &nbsp;Eu r\u00f4l yw gwella cyfathrebu rhwng yr ysbyty a gwasanaethau cymunedol o ran trefnu cymorth gofal i unigolion cyn eu derbyn i\u2019r ysbyty, a helpu i gynllunio i\u2019w rhyddhau oddi yno.<\/li><li>Mae\u2019r gwaith o recriwtio Gweithwyr Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi parhau. &nbsp;Mae\u2019r r\u00f4l hon yn treialu integreiddiad swyddogaethau gofal a gyflawnir yn draddodiadol naill ai gan weithwyr iechyd neu gan weithwyr gofal cymdeithasol.<\/li><li>Mae angen i dimau integredig rannu ethos am ofal a chymorth. &nbsp;Mae hyn yn cael ei ddatblygu drwy hyfforddiant \u2018seiliedig ar asedau\/cryfderau&#8217; ar gyfer rheolwyr gwasanaeth a Thimau Adnoddau Cymunedol.<\/li><li>Mae gwelliannau i\u2019r amgylchedd gwaith yn parhau i gael eu datblygu. &nbsp;Bydd clinig Abergele yn cael ei adnewyddu, a hynny\u2019n cael ei gwblhau cyn diwedd Mawrth 2020.<\/li><li>Mae brysbennu boreol sy\u2019n cynnwys cyfarfodydd timau amlddisgyblaethol wedi cael eu trefnu mewn rhai TACau, i&#8217;w gwneud yn haws atgyfeirio i\u2019r timau o\u2019r t\u00eem Un Pwynt Mynediad, ac i sicrhau y cysylltir \u00e2\u2019r gweithiwr proffesiynol cywir o gychwyn cyntaf taith y dinesydd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Ar lefel t\u00eem, mae\u2019r gwaith o recriwtio i swyddi Un Pwynt Mynediad a Chysylltu wedi bod yn llwyddiannus ar \u00f4l anawsterau cychwynnol, ac mae timau datblygu lleol wedi\u2019u sefydlu i yrru blaenoriaethau TACau lleol ymlaen drwy ymgysylltu \u00e2 thimau y tu hwnt i\u2019r TAC craidd, grwpiau cymunedol a gweithgareddau lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae clinig Abergele wedi cyfarfod \u00e2\u2019r Gymdeithas Str\u00f4c ac yn canolbwyntio ar atal codymau er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 rhestrau aros o fewn y Gwasanaeth Atal Codymau.<\/li><li>Mae Bae Colwyn wedi meithrin cysylltiad \u00e2 Gwasanaethau Teleofal a Mind Aberconwy. &nbsp;&nbsp;Mae Nyrsys Ardal wedi bod yn paratoi i roi system gofrestru newydd ar brawf.<\/li><li>Mae Llanrwst wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ac maent yn canolbwyntio ar weithgareddau datblygu t\u00eem a mynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau storio ar gyfer eu cydweithwyr therapi.<\/li><li>Mae t\u00eem y TAC Arfordirol wedi ailedrych ar gynllun swyddfeydd a sut y mae hyn yn creu rhwystrau i weithio mewn ffordd fwy integredig. &nbsp;Mae cynllun i wneud newidiadau wedi cael ei gytuno \u00e2 landlordiaid yr adeilad.<\/li><li>Mae Llandudno wedi defnyddio profiad y Bws Dementia, a groesawyd yn fawr. Mae\u2019r gr\u0175p datblygu yn parhau i ymgysylltu \u00e2 thimau a gwasanaethau eraill fel y Llyw-wyr Cymunedol ac Age Connect.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae heriau&#8217;n parhau gyda rhai o\u2019r adeiladau lleol fel Plas Menai yn y TAC Arfordirol. Mae\u2019r timau wedi\u2019u lleoli ar wah\u00e2n ond mae yna gynlluniau i\u2019w had-drefnu er mwyn eu lleoli o fewn yr un ardal o dan y cynllun gwaith newydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd datblygiad parhaus yn canolbwyntio ar:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fodelau o lwybrau gofal a gofal integredig er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gofal di-dor.<\/li><li>Diffinio\u2019r rolau a\u2019r model darparu gwasanaeth o fewn TAC i gefnogi darpariaeth gofal integredig, sy\u2019n cynnwys gwasanaethau cymorth busnes.<\/li><li>Integreiddio a moderneiddio technegol fydd yn galluogi dulliau o gydweithio.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymarfer yn seiliedig ar gryfder <\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Bwrdd Rhaglen y Timau Adnoddau Cymunedol wedi cymeradwyo pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gofal integredig. &nbsp;Bydd yr hyfforddiant ar y cyd yn galluogi staff i fabwysiadu \u2018arferion seiliedig ar gryfder\u2019, sef dull y profwyd ei fod yn gwella canlyniadau unigol ac yn lleihau costau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Y T\u00eem Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant fydd yn darparu\u2019r hyfforddiant, sef sefydliad sydd \u00e2 hanes blaenorol cadarn o helpu darparwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymwreiddio dulliau seiliedig ar gryfder a gwella cydweithio ar draws gwahanol sefydliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn galw ar sefydliadau i feddwl a gweithio\u2019n wahanol; mae\u2019r rhaglen hon wedi\u2019i dylunio i&#8217;n galluogi i fabwysiadu arferion arloesol ac ymatebol sy&#8217;n rhoi&#8217;r unigolyn wrth wraidd y cymorth a&#8217;r driniaeth y maent yn eu derbyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Community-Resource-Team-1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2255\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Community-Resource-Team-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Community-Resource-Team-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Community-Resource-Team-1-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Community-Resource-Team-1-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Community-Resource-Team-1.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Adborth gan staff y T\u00eem Adnoddau Cymunedol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Bu i ni ofyn i\u2019r staff sy\u2019n gweithio yn ein Timau Adnoddau Cymunedol am adborth i fesur pa mor llwyddiannus yw\u2019r trefniadau gweithio ar y cyd ar hyn o bryd. &nbsp;Roedd 70% o\u2019r rheiny a ymatebodd yn hapus neu\u2019n eithaf hapus yngl\u0177n \u00e2 gweithio o fewn TAC. &nbsp;Roedd rhai o\u2019r rhwystrau y daethpwyd ar eu traws yn cynnwys cysylltiad cyfrifiadurol araf, signal ff\u00f4n gwael a diffyg cydlyniant llawn ymysg aelodau\u2019r t\u00eem. &nbsp;Ond tynnwyd sylw at sawl mantais hefyd:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae yna lawer mwy o gyfathrebu llafar r\u0175an ein bod ni i gyd yn gweithio yn yr un lle, fydd yn bendant yn arwain at well canlyniadau ar gyfer y bobl rydym yn eu helpu.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ardderchog o ran cyfathrebu ac effeithlonrwydd wrth roi gofal y claf wrth wraidd yr hyn a wnawn ni fel t\u00eem.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 71% o\u2019r ymatebwyr yn teimlo bod gweithio o fewn y TAC wedi helpu eu dysg a\u2019u gwybodaeth am alwedigaethau\/gwasanaethau eraill ac roedd rhai\u2019n gwerthfawrogi swyddi cydweithwyr eraill yn llawer mwy ers cydweithio \u00e2 hwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 68% o&#8217;r ymatebwyr yn credu bod y TACau yn gwella\u2019r gwasanaeth i\u2019r dinasyddion oherwydd mwy o gyd-drefnu gwasanaethau, llai o ddyblygu tasgau a\u2019r gallu i rwydweithio rhwng timau i gynyddu effeithlonrwydd. &nbsp;Roedd 74% yn teimlo\u2019n gadarnhaol yngl\u0177n a gweithio yn amgylchedd y TAC wrth symud ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae yna ddynameg da i\u2019r t\u00eem a llawer o gyfathrebu, sy\u2019n gwneud i bob t\u00eem deimlo\u2019n hyderus yng ngallu\u2019r naill a\u2019r llall ac yn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at y canlyniadau lles [a nodwyd].<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Taflen Ganllawiau Asesu Risg o Hunan-esgeulustod<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn ein hadroddiad blaenorol, dywedom fod ein harweinwyr diogelu gofal cymdeithasol yn gweithio ar y cyd \u00e2\u2019n T\u00eem Iechyd a Diogelwch i ddatblygu taflen ganllawiau asesu risg, er mwyn sicrhau bod unigolion sy\u2019n hunan-esgeuluso neu\u2019n celcio\u2019n cael asesiad risg trwyadl. &nbsp;Mae rhagor o wybodaeth am y diweddariad hwn i\u2019w weld yn yr adroddiad o dan Safon Ansawdd 3.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Canolbwyntio ar Namau ar y Synhwyrau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Y llynedd, bu i ni adrodd ein bod yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu ar gyfer pawb, ac yn benodol ar gyfer ein dinasyddion sydd \u00e2 nam ar y synhwyrau, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau&#8217;r Cyngor yn yr un modd \u00e2 phob dinesydd arall. &nbsp;Dyma rai o\u2019n datblygiadau:<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Lansiwyd y gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain digidol. &nbsp;Mae\u2019r peilot deuddeng mis wedi dod i ben ac mae bellach yn cael ei gynnig fel mater o drefn.<\/li><li>Mae Gwasanaeth Cymorth Cyfieithu i\u2019r Byddar Conwy bellach wedi\u2019i leoli yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, ac yn cyfarfod bob pythefnos.<\/li><li>Lansiwyd modiwl e-ddysgu dwyieithog ar ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar ym mis Mai 2019. Mae sawl sesiwn wyneb-yn-wyneb hefyd wedi cael eu cynnal.<\/li><li>Cynhaliwyd cyfarfodydd \u00e2 fforymau nam ar y golwg er mwyn adolygu pa mor hygyrch yw gwefan y Cyngor.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dysgu er Adferiad a Lles<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Roedd y rhaglen Dysgu er Adferiad a Lles yn cynhyrchu taflen wybodaeth a gyhoeddwyd bob chwarter i ddwyn ynghyd y cyfleoedd i bobl \u00e2 phroblemau iechyd meddwl ddysgu sut i reoli eu symptomau, datblygu sgiliau bywyd newydd a llunio cysylltiadau cymdeithasol er mwyn datblygu eu gwytnwch a\u2019u rhwydweithiau cymorth. &nbsp;Yn ystod 2019-20, ein nod oedd ymwreiddio\u2019r rhaglen yn yr arferion rheolaidd a pharhau i gynhyrchu taflen wybodaeth bob chwarter i hyrwyddo\u2019r cyrsiau oedd ar gael o fewn y rhaglen. &nbsp;Yn anffodus, collwyd ein gallu i gynnal a chynhyrchu&#8217;r rhaglen a daeth y gwaith o argraffu\u2019r daflen i ben ar \u00f4l y pedwerydd chwarter.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, prif elfen y rhaglen oedd darparu cyrsiau \u2018Hunan-eiriolaeth ar gyfer Grymuso\u2019 (SAFE), a llwyddom i gynnal y sesiynau hyfforddi hyn oedd yn helpu pobl i ddysgu am adnoddau a thechnegau i\u2019w rheoli a gofalu amdanynt eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein nod hirdymor oedd cydweithio \u00e2 defnyddwyr y gwasanaeth i ddylunio a datblygu&#8217;r mathau o gyrsiau rydym yn eu cynnwys yn y rhaglen. Er na pharhawyd i argraffu\u2019r daflen, llwyddom i ymrwymo i ddarn o waith gyda defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid i\u2019n helpu i nodi a llunio gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol yn y gymuned. Cynhaliom ddigwyddiad lansio ym mis Medi 2019, gan archwilio gyda phobl sut mae \u2018da\u2019 yn edrych a pha gymorth y byddai unigolion ei angen i gynnal eu lles hirdymor. Parhaodd y gwaith hwn dros fisoedd y gaeaf gyda mwy o sesiynau budd-ddeiliaid trylwyr gydag amrywiaeth o grwpiau sy\u2019n helpu pobl \u00e2 salwch meddwl. Roedd y wybodaeth a\u2019r syniadau a gynhyrchwyd yn y sesiynau hyn yn werthfawr iawn.&nbsp; Byddant o fudd i benderfynu sut i weithredu gwasanaethau a chanfod beth y gallwn ni fel Awdurdod ei wneud i weithio ar y cyd ac yn greadigol \u00e2 phartneriaid i sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso ac yn gallu byw bywydau ystyrlon, er gwaethaf diagnosis iechyd meddwl. Bydd yr adroddiad a\u2019r adborth yn cael eu cyflwyno mewn noson uwchgynhadledd yn y gwanwyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Atal Camfanteisio&#8217;n Rhywiol ar Blant<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Dywedom y byddem yn cynnal peilot Llysgenhadon Lles mewn dwy ysgol uwchradd yng Nghonwy a datblygu ar y cydweithio da rhwng nifer o asiantaethau, gweithwyr proffesiynol a\u2019r sector gwirfoddol. &nbsp;Mae un ysgol wedi llwyddo i gychwyn ar y daith hon, gyda\u2019r Llysgennad Lles yn trefnu sesiynau galw heibio i gyfoedion, rhoi cyflwyniadau a hyrwyddo diwrnodau ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn. &nbsp;Rydym bellach wedi cynnal cynllun peilot tebyg yn y Canolfannau Teuluoedd i rieni ac yn gobeithio y bydd, gyda digon o hyrwyddo a phobl yn cymryd rhan, yn fodel gwerthfawr i\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein Fforwm Camfanteisio yn parhau ar sail rhaglen dreigl chwe wythnos a drefnir gan weithwyr cymdeithasol y T\u00eem Asesu a Chymorth, a hefyd gyda chydweithiwr o\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. &nbsp;Anogir y fforwm i gynnwys amrywiol asiantaethau mewn lleoliad y gellir ei ddefnyddio i gyfnewid gwybodaeth am bryderon am gamfanteisio yng Nghonwy.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>T\u00eem Cryfhau Teuluoedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, bu i ni siarad am waith y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd gyda theuluoedd mewn perygl o chwalu. &nbsp;Yn ystod 2019-20, mae\u2019r t\u00eem wedi datblygu ymhellach, gan recriwtio t\u00eem cyflawn a sicrhau ei fod yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ac arbenigol i\u2019r teuluoedd sydd ei angen. &nbsp;Mae aelodau\u2019r t\u00eem wedi cael hyfforddiant wedi\u2019i dargedu mewn perthynas ag anghenion penodol unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth.&nbsp; Mae hyn yn cynnwys effaith camddefnyddio sylweddau o fewn teuluoedd, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut i gynnal sgyrsiau cydweithredol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir atgyfeiriadau drwy\u2019r panel Ar Ffiniau Gofal, a chytunir ar ymyriadau cydweithredol priodol i gefnogi\u2019r teulu. &nbsp;Mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), sy\u2019n sicrhau bod yr ymyriadau\u2019n cael eu cynnal yn amserol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae aelodau\u2019r t\u00eem yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 theuluoedd, gan ddefnyddio technegau cyfweld ysgogiadol seiliedig ar gryfderau, ac mae eu dull wedi bod yn hynod llwyddiannus. &nbsp;O&#8217;r 58 atgyfeiriad i&#8217;r gwasanaeth a effeithiodd ar 106 o blant, dengys dadansoddiad bod 103 wedi parhau i fyw gartref neu yn yr un lleoliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llwyddiant y fforwm Ar Ffiniau Gofal wedi arwain at bresenoldeb mwy rheolaidd ac ymrwymiad gan asiantaethau eraill. &nbsp;O ran darparu gwasanaethau, mae mwy o waith yn cael ei rannu gyda\u2019r Canolfannau Teuluoedd, yn enwedig o ran rheoli achosion mwy cymhleth, ac mae Proffil y Teulu yn cael ei addasu fel adnodd i ganfod beth sy\u2019n bwysig i deuluoedd. &nbsp;Mae\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd wedi dynodi gweithwyr therapiwtig yn ddiweddar i gysylltu \u00e2 phob Canolfan Deuluoedd er mwyn cynnig cyngor a chyfarwyddyd am ymyriadau therapiwtig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r model gofalu am Blant sy\u2019n Derbyn Gofal a rennir wedi cael ei roi ar waith rhwng y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd a CAMHS, ac yn cynnwys Holiadur Cryfderau ac Anawsterau i fesur lles meddyliol plant mewn gofal. &nbsp;Mae timau eraill yn cael eu hannog i\u2019w ddefnyddio, a darparwyd hyfforddiant gan CAMHS mewn perthynas \u00e2 dehongli\u2019r data.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Parhau i weithio gyda\u2019r T\u00eem Dyletswydd ac Asesu i gynnal ymyriadau yn gynharach er mwyn osgoi\u2019r angen am wasanaethau cymorth a gofal a reolir parhaus<\/li><li>Datblygu ein partneriaeth waith gyda\u2019r T\u00eem Ailuno newydd<\/li><li>Cryfhau\u2019r cysylltiadau \u00e2\u2019r t\u00eem Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig<\/li><li>Parhau i ddatblygu perthnasoedd a darparu sesiynau clinig o fewn Canolfannau Teuluoedd<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygu ein gwasanaethau llety<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Y llynedd, bu i ni adrodd am amrywiaeth o ddatblygiadau mewn perthynas \u00e2\u2019n prosiectau ar gyfer llety. &nbsp;Mae Cam 1 prosiect Datblygu Llety i Bobl Anabl Canolfan Marl wedi\u2019i gwblhau a chafodd ei drosglwyddo yn 2018. Mae Cam 2 y prosiect hwn, sy\u2019n cynnwys safle cyn Ysgol Maelgwyn yng Nghyffordd Llandudno, yn mynd rhagddo, gyda disgwyl i\u2019r gwaith adeiladu fod wedi&#8217;i gwblhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn. &nbsp;Mae gwaith wedi dechrau o fewn y Gwasanaeth Anableddau i ganfod darpar denantiaid, ac rydym yn cydweithio \u00e2\u2019r unigolion hynny dan sylw. &nbsp;Rydym hefyd yn falch o gael adrodd bod y darpariaethau canlynol wedi cael eu cynnig i deuluoedd ac unigolion o ganlyniad uniongyrchol i&#8217;n prosiectau llety ni:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae teulu mawr sydd ar y Gofrestr Anabledd ac sydd wedi bod yn aros am lety addas yn barod i gymryd tenantiaeth yn un o&#8217;r tai teulu mawr sydd wedi&#8217;u haddasu&#8217;n llwyr.<\/li><li>Mae unigolyn sydd ar y Gofrestr Anabledd ac sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety dros dro (un o unedau Canolfan Marl), yn aros i gymryd tenantiaeth yn y byngalo arbenigol.<\/li><li>Bydd timau Plant a Phobl Ddiamddiffyn yn cymryd un p\u00e2r o&#8217;r tai p\u00e2r dwy ystafell wely mewn partneriaeth \u00e2 Cartrefi Conwy.<\/li><li>Mae&#8217;r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi clustnodi unigolion ar gyfer pob un o\u2019r 6 uned un ystafell wely o fewn y cynllun.<\/li><li>Bydd gweddill yr eiddo ar y safle yn cael eu dyrannu drwy\u2019r gofrestr Un Llwybr Mynediad At Dai (SARTH), gan gyfeirio at y Polisi Gosod Tai Lleol sydd wedi\u2019i sefydlu ar gyfer y safle hwn.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mynd i\u2019r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy chwaraeon<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Y llynedd, bu i ni siarad am ddatblygu rhaglen b\u00eal-droed beilot wedi\u2019i thargedu at bobl ifanc anodd eu cyrraedd ac sydd wedi ymddieithrio, ac sy\u2019n hysbys i, neu\u2019n ymwneud \u00e2 phobl ifanc sydd eisoes yn agored i\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) &nbsp;Yn aml, nid yw&#8217;r bobl ifanc hyn yn ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau a darpariaethau prif ffrwd fel clybiau ieuenctid\/ chwaraeon, gan fod eu hymddygiad yn creu rhwystr iddynt elwa ar wasanaethau, addysg a chyfleoedd hyfforddi. &nbsp;Rhoddodd y sesiynau hyn gyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol oedd yn ymwneud \u00e2 chwaraeon, a alluogodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ei dro i feithrin eu hyder ac edrych ar waith pellach gyda&#8217;r unigolion mewn perthynas \u00e2&#8217;u hymddygiad ac effaith troseddu. &nbsp;Y nod hirdymor oedd eu hymgysylltu unwaith eto \u00e2 gwasanaethau prif ffrwd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd cael gafael ar gyllid i sicrhau\u2019r ddarpariaeth hon yn her, gan nad oedd y GCI yn dod o fewn y meini prawf cymhwyso. &nbsp;Yn fewnol, mae diffyg adnoddau, amser staff a chytundeb meysydd gwasanaeth eraill i ddarparu cymorth staffio wedi bod yn heriol. &nbsp;O ran logisteg, mae cludo plant iau i&#8217;r cyfleuster hefyd wedi bod yn broblem.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd y canlyniad?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae yna lai o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu wedi bod yn yr ardal, a chredir mai\u2019r rheswm am hyn yw bod pobl ifanc yn benodol wedi cael eu targedu mewn partneriaeth \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru. Mae eu ffigurau a\u2019u cynlluniau plismona lleol yn adlewyrchu ac yn tystio i\u2019r gostyngiad hwn, felly mae\u2019r ymagwedd yn gweithio\u2019n dda.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Buddion i bobl ifanc<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adborth a gafwyd gan y bobl ifanc yn dangos buddion ychwanegol, parhaus y rhaglen, gan gynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cael pasys i\u2019r gampfa, na fydden nhw wedi ystyried ei wneud heb gymorth y GCI<\/li><li>Gostyngiad yn y defnydd o sylweddau, gan fod y mynychwyr yn canolbwyntio mwy ar wella a chynnal eu hiechyd a\u2019u ffitrwydd<\/li><li>\u00b7&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gwell ffitrwydd, gan alluogi rhai i ystyried gyrfa filwrol<\/li><li>Mae dau berson ifanc wrthi\u2019n cymryd rhan mewn hyfforddiant milwrol<\/li><li>Mae dau berson ifanc wedi ymuno \u00e2 choleg milwrol, am fod y rhaglen wedi rhoi hwb i\u2019w hyder<\/li><li>Cael rhywbeth adeiladol i\u2019w wneud a\u2019i fwynhau<\/li><li>Meithrin cyswllt \u00e2\u2019r gymuned a datblygu cysylltiadau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gan fod y rhaglen wedi bod mor llwyddiannus, yng Nghonwy ac yn Sir Ddinbych, byddwn yn ei chychwyn eto yn Llandudno a Bae Colwyn yn ystod haf 2020. Dyma&#8217;r ardaloedd y mae mwyafrif y bobl ifanc a dargedir yn eu mynychu. &nbsp;Prosiect pedair wythnos fydd hwn i gychwyn, lle byddwn yn meithrin cyswllt \u00e2 phobl ifanc drwy ddarparu sesiynau wyneb yn wyneb ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a\u2019r potensial o droseddu. &nbsp;Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau p\u00eal-droed i ennyn eu diddordeb mewn chwaraeon a throi eu sylw oddi wrth droseddu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygu gwytnwch ymysg unigolion sy&#8217;n gadael gofal<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, bu i ni siarad am efelychu rhaglen a sefydlwyd gan glwb p\u00eal-droed Tottenham Hotspurs i ddatblygu gwytnwch a dulliau ymdopi. &nbsp;Nododd gwaith ymchwil a wnaed gan d\u00eem rheoli\u2019r Cynghorwyr Personol yr angen canlynol am gwrs byw\u2019n annibynnol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwytnwch emosiynol<\/li><li>Cyllidebu<\/li><li>Sgiliau DIY<\/li><li>Coginio<\/li><li>Sut i fod yn gymydog da<\/li><li>Sut i reoli tenantiaeth<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Roedd yr ymchwil yn seiliedig ar farn pobl ifanc a gasglwyd gan y t\u00eem Cynghorwyr Personol a gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan siroedd eraill.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"495\" height=\"414\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Cooking-Young-People-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2257\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Cooking-Young-People-1.png 495w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Cooking-Young-People-1-300x251.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 495px) 100vw, 495px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Treuliwyd llawer o amser yn canfod ffrydiau cyllid ar gyfer y cwrs hwn ynghyd \u00e2 ffordd o\u2019i wneud yn gynaliadwy. \u00a0Y canlyniad oedd cydweithio rhwng y gwasanaeth Cynghorwyr Personol a&#8217;r Gwasanaeth Ieuenctid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l gwyliau\u2019r Pasg, bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu hyfforddiant Sgiliau Byw&#8217;n Annibynnol i grwpiau bychain o unigolion sy&#8217;n gadael gofal, wedi\u2019i seilio ar y modiwlau a restrir uchod. &nbsp;Mae\u2019r hyfforddwr wedi cymhwyso i ddarparu hyfforddiant achrededig, sy\u2019n golygu y bydd pob unigolyn sy\u2019n gadael gofal sy&#8217;n cwblhau&#8217;r cwrs yn cael dwy radd TGAU. &nbsp;Bydd dwy lefel ar gael i sicrhau y gall unigolion sy\u2019n gadael gofal o bob gallu elwa o\u2019r cynllun.<\/p>\n\n\n\n<p>Peilot fydd hwn, a bydd unrhyw adborth o\u2019r cwrs hwn yn cael ei ddefnyddio i addasu\u2019r dull o gynnig cyrsiau yn y dyfodol. &nbsp;Gan ei fod yn cael ei gynnal ar y cyd \u00e2\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid, nid fu angen unrhyw gyllid ychwanegol, sy\u2019n golygu fod hwn yn gwrs cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn yr adran hon, byddwn yn cyflwyno\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd yn y meysydd gwaith allweddol yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni yn ystod 2019-20. Cymru Iachach Yn adroddiad 2018-2019, bu i ni gyfeirio at \u2018Gymru Iachach\u2019 a sut mae\u2019r cynllun hwn yn gosod gweledigaeth glir o sut y bydd gwasanaethau Iechyd a Gofal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2254","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2254","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2254"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2254\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2254"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}