{"id":2250,"date":"2020-11-02T16:37:06","date_gmt":"2020-11-02T16:37:06","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2250"},"modified":"2021-08-17T15:00:56","modified_gmt":"2021-08-17T14:00:56","slug":"crynodeb-o-berfformiad-gan-y-cyfarwyddwr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-19-20\/crynodeb-o-berfformiad-gan-y-cyfarwyddwr\/","title":{"rendered":"Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr"},"content":{"rendered":"\n<p>Rwy\u2019n ysgrifennu\u2019r crynodeb hwn o\u2019r adroddiad yn ystod argyfwng cenedlaethol digynsail ledled y Byd. Mae pandemig Covid-19 wedi taro\u2019r boblogaeth a thrawsnewid ein bywydau bob dydd y tu hwnt i bob amgyffred. &nbsp;Ers canol mis Mawrth, mae ein byd Gofal Cymdeithasol yn edrych ac yn teimlo\u2019n wahanol iawn, er fy mod yn falch o gael dweud bod popeth yn cael ei wneud yn \u00f4l yr arfer hyd yma, a lle bu\u2019n rhaid i ni wneud addasiadau, y gobaith yw nad yw hynny wedi cael effaith rhy llym ar ein staff na defnyddwyr ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae edrych yn \u00f4l ar weithgarwch 2019\/20 ar ei hyd wedi bod yn brofiad gwerth chweil ar adeg mor anodd i\u2019r genedl. &nbsp;Mae\u2019n teimlo fel bod mwy na deuddeg mis wedi mynd heibio ers nifer o\u2019n cerrig milltir a\u2019n cyflawniadau, ond fe fyddaf yn cyfeirio at rai o\u2019r uchafbwyntiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna ddatblygiadau sylweddol wedi digwydd yn ein gwaith yn weithredol gyda\u2019r Bwrdd Iechyd, yn enwedig o ran gwasanaethau Pobl H\u0177n, gyda chronfa trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i hyrwyddo mwy o integreiddio ac ystyried modelau rheoli ar y cyd. &nbsp;Rydym wedi rhoi rhywfaint o hyn ar brawf gyda staff a bwriadwn archwilio&#8217;r manteision o safbwynt dinasyddion hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Canolbwyntiwyd hefyd ar amrediad o ddatblygiadau llety \u00e2 chymorth yn ystod y flwyddyn, sydd wedi bod yn rhan o\u2019n dull cynllunio fel gwasanaeth ers rhai blynyddoedd. &nbsp;Mae gennym gynlluniau ar gyfer y Gwasanaethau Plant, Anableddau a Phobl H\u0177n, a gobeithiwn weld y rhain yn datblygu ymhellach yn ystod 2021.<\/p>\n\n\n\n<p>Un maes gwasanaeth yn benodol sy\u2019n wynebu amodau gwaith gwirioneddol heriol yn ystod y pandemig yw ein gweithwyr cymorth cymunedol, sy\u2019n rhoi gofal yng nghartrefi pobl ac yn cael eu cyflogi gan Gonwy a\u2019u comisiynu drwy fusnesau. &nbsp;Dyma weithlu hanfodol a phenderfynol sydd, er gwaethaf rhwystrau ac anawsterau di-rif dros y blynyddoedd, fel eira, llifogydd a nawr y pandemig, wedi dal ati i sicrhau gofal parhaus, ac mae hynny\u2019n dipyn o gamp. Rydym yn cyfeirio at eu gwaith gwych yn yr adroddiad ac yn rhannu adborth hyfryd a gawsom gan ddinasyddion. Diolchwn o waelod ein calonnau i&#8217;r gr\u0175p hwn o staff wrth iddynt barhau i roi gofal i&#8217;r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein sir.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn parhau i hyrwyddo llais y dinesydd ac roeddem wrth ein boddau\u2019n gweld tri o gynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc Conwy wedi\u2019u hethol i Senedd Ieuenctid Cymru y llynedd. Rydym hefyd wedi dathlu agor ein canolfan gymunedol iCan gyntaf yn y sir, a ddatblygwyd gan ddinasyddion ac unigolion sydd wedi byw gyda phrofiadau iechyd meddwl. Er mwyn canolbwyntio o ddifrif ar brofiadau pobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau, rydym wedi comisiynu\u2019r Bws Dementia poblogaidd ar gyfer staff, aelodau teulu a gofalwyr sydd wedi cael profiad o Dementia yn eu bywydau. &nbsp;Fe fynychais i sesiwn yn bersonol, ac mae wedi newid fy marn a fy ffordd o feddwl yn fwy nag unrhyw hyfforddiant arall rwyf wedi\u2019i fynychu; mae\u2019r profiad yn gadael i\u2019r cyfranogwr ymgolli\u2019n llwyr ym mywyd rhywun sy\u2019n dioddef o ddementia.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer mwy o uchafbwyntiau nad wyf wedi eu crybwyll, felly gobeithio y gallwch chi roi rhywfaint o&#8217;ch amser i ddarllen cynnwys yr adroddiad. Y cyfan sydd ar \u00f4l i mi ei wneud yw diolch i&#8217;r t\u00eem anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghonwy, a diolch hefyd i ddarparwyr y gwasanaethau rydym yn cydweithio \u00e2 nhw yn y trydydd sector a&#8217;r sector annibynnol. Heb os, bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn edrych yn \u00f4l ar y cyfnod hwn ac yn gweld sut y bu i ni gael ein cefn atom a dychwelyd at ryw lefel o normalrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Diolch i chi oll a chadwch yn ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"228\" height=\"304\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Jenny-Williams-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2251\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Jenny-Williams-1.jpg 228w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/Jenny-Williams-1-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 228px) 100vw, 228px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Jenny Williams<\/strong><br>Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg<br>Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rwy\u2019n ysgrifennu\u2019r crynodeb hwn o\u2019r adroddiad yn ystod argyfwng cenedlaethol digynsail ledled y Byd. Mae pandemig Covid-19 wedi taro\u2019r boblogaeth a thrawsnewid ein bywydau bob dydd y tu hwnt i bob amgyffred. &nbsp;Ers canol mis Mawrth, mae ein byd Gofal Cymdeithasol yn edrych ac yn teimlo\u2019n wahanol iawn, er fy mod yn falch o gael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2209,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2250","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2250"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2250\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2209"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}