{"id":2133,"date":"2019-07-23T15:13:00","date_gmt":"2019-07-23T14:13:00","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2133"},"modified":"2019-08-08T10:53:47","modified_gmt":"2019-08-08T09:53:47","slug":"safon-ansawdd-6-gweithio-gyda-phobl-au-cefnogi-i-gyflawni-gwell-lles-economaidd-cael-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2018-19\/safon-ansawdd-6-gweithio-gyda-phobl-au-cefnogi-i-gyflawni-gwell-lles-economaidd-cael-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 6 &#8211; Gweithio gyda phobl a&#8217;u cefnogi i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy&#8217;n diwallu eu hanghenion"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth a ddysgom ni o\u2019r Arolwg Dinasyddion?<\/strong><strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Roedd 81% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur ac 85% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno <strong>mai bod gartref a oedd yn hybu eu lles fwyaf<\/strong>.&nbsp; Roedd llawer o\u2019r sylwadau ychwanegol yn s\u00f4n mor bwysig oedd addasiadau i\u2019w gwneud yn haws mynd o le i le, gan alluogi\u2019r unigolyn i aros gartref yn hwy.&nbsp; Roedd bod yn agos at deulu, ffrindiau a chyfleusterau lleol yn ddymunol hefyd.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Hoffwn fyw&#8217;n nes at gludiant cyhoeddus.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae trosi\u2019r ystafell ymolchi a gwella\u2019r fynedfa tu allan wedi gweddnewid fy mywyd yn llwyr.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae Tai \u00e2 Chymorth Ychwanegol yn dda gan mod i\u2019n treulio cymaint o amser mewn cadair olwyn, ac mae\u2019n addas ar gyfer hynny.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 86% o Ofalwyr yn cytuno mai bod gartref a oedd yn hybu eu lles fwyaf.&nbsp; Roedd y sylwadau ategol gan y garfan hon yn dangos mor niweidiol y gall\ncartref anaddas fod i rywun sy\u2019n gofalu, a bod cartref pwrpasol neu addasiadau\nyn medru gwneud byd o wahaniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 74% o blant yn cytuno eu bod yn byw mewn cartref lle\u2019r oeddent yn hapus.&nbsp; Roedd y sylwadau ychwanegol yn awgrymu y gallai natur y berthynas bersonol rhwng pawb ar yr aelwyd gael mwy o effaith ar hapusrwydd y plentyn na\u2019r eiddo ei hun, ond gallai arwahanrwydd cymdeithasol fod yn broblem mewn ardaloedd gwledig.&nbsp; Dywedodd 77% o blant a phobl ifanc eu bod yn hapus gyda\u2019r bobl y maent yn byw \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Maen nhw\u2019n anhygoel o dda.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae fy nheulu\u2019n garedig a gofalgar.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gofynnwyd i bobl a oeddent yn derbyn gofal a chymorth yn yr <strong>iaith o\u2019u dewis <\/strong>ac ymhob carfan roedd\ndros 90% yn cytuno.<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnwyd i bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gofal preswyl ai hwy eu hunain oedd wedi dewis byw yno.&nbsp; Cytunodd 77% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur, a rhai ohonynt wedi seilio\u2019u penderfyniad i symud ar gyngor pobl eraill.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe fyddwn wedi bod wrth fy modd yn aros gartref, ond gan fy mod yn anabl dyma oedd y peth gorau imi, ac mae gennyf atgofion melys o fy hen gartrefi.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe wnaed y penderfyniad ar fy rhan gan fy mod yn rhy s\u00e2l ar y pryd.  Rwy\u2019n hapus i fod yma rwan.  Mae fy iechyd wedi gwella gan fy mod yn y lle iawn ac yn cael gofal da.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 58% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen o\u2019r holiadur\nwedi dewis byw mewn cartref gofal preswyl, ond ni chafwyd unrhyw sylwadau\nychwanegol i ehangu ar hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2018-19 rydym wedi bod yn ymchwilio i gyfleoedd i ddarparu llety modern, graenus ac addas i bobl sy\u2019n h\u0177n, yn fregus, yn anabl neu\u2019n dechrau cynllunio ar gyfer bod yn oedolion annibynnol.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cefnogi pobl h\u0177n a\u2019u teuluoedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Cymorth hyblyg i bobl \u00e2 dementia a\u2019u teuluoedd<\/strong> <br>Rydym wedi dechrau cynllunio ar gyfer gwella\u2019r ffordd yr ydym yn darparu gofal a chymorth i bobl \u00e2 dementia a\u2019u teuluoedd.&nbsp; Dymunwn wella Llys Elian, sef ein canolfan fewnol ar gyfer yr henoed bregus eu meddwl, a\u2019i datblygu\u2019n ganolfan ragoriaeth ar gyfer yr ardal.&nbsp; Byddwn hefyd yn cyflwyno T\u00eem Cymorth Dementia er mwyn darparu gwasanaeth allgymorth hyblyg sy\u2019n ffurfio \u2018t\u00eem o amgylch yr unigolyn\u2019 ar gyfer pobl \u00e2 dementia.&nbsp; Bydd y gwasanaeth yn darparu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cymorth i alluogi pobl i gael bywydau da gyda dementia o\u2019r adeg y ceir y\ndiagnosis cyntaf, a hynny yn eu cartrefi eu hunain;<\/li><li>Y gallu i gyfeirio pobl at wasanaethau eraill a chynnig eiriolaeth i bobl \u00e2\ndementia a\u2019u gofalwyr;<\/li><li>Y gallu i gyflawni dyletswyddau gofal iechyd wedi\u2019u dirprwyo;<\/li><li>Man cyswllt allweddol i deuluoedd sydd angen cymorth gyda chymhlethdodau\u2019r\nsystem iechyd a gofal;<\/li><li>Cymorth i gael mynediad at wasanaethau seibiant dros nos ac yn y dydd yn\nLlys Elian;<\/li><li>Cymorth a hyfforddiant i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnwys hyrwyddo\ntechnoleg ddigidol;<\/li><li>Cysylltiadau gwaith agos \u00e2\u2019r t\u00eem Adnoddau Cymunedol a\u2019r amryw dimau ardal;<\/li><li>Cysylltiadau \u00e2\u2019r nyrsys ardal o ran gofal diwedd oes.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rhaid fydd bod yn hyblyg, a bydd y gweithwyr yn ymateb i anghenion yn hytrach na darparu cymorth yn \u00f4l amserlenni gwaith.&nbsp; Yn unol \u00e2 <strong><a href=\"https:\/\/gweddill.gov.wales\/topics\/health\/nhswales\/mental-health-services\/policy\/dementia\/?skip=1&amp;lang=cy\">Strategaeth Dementia Llywodraeth Cymru<\/a><\/strong> byddwn yn datblygu a darparu rhaglen hyfforddiant mewn partneriaeth \u00e2 phobl y mae dementia wedi effeithio arnynt, er mwyn sicrhau bod staff yn meddu ar sgiliau i\u2019w helpu i adnabod pobl \u00e2 dementia, a theimlo\u2019n hyderus a chymwys i fodloni anghenion pobl wedi iddynt gael diagnosis.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Sector Gofal a Llety Priodol<\/strong><br>Fis Mehefin 2018, cymeradwywyd <strong><a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Darllen-hawdd.-Datganiad-Siapor-Farchnad-GC.-Cartrefi-Gofal-i-Bobl-Hyn.-2018.pdf\">Datganiad Siapio\u2019r Farchnad ar Gartrefi Gofal i Bobl H\u0177n yng Ngogledd Cymru<\/a><\/strong>, a oedd yn dangos sut rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu sector cartrefi gofal a fedr ymdopi \u00e2\u2019r galw yn y dyfodol a darparu gofal i bobl yn nes at adref.\u00a0 Bydd mwy o bobl dros 85 oed yn byw ar eu pennau\u2019u hunain gydag iechyd gwael, a bydd mwy o bobl dros 65 yn\u00a0 byw \u00e2 dementia.\u00a0 Felly bydd y galw am leoedd mewn cartrefi gofal yn cynyddu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"678\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Care-Home-01-1-1024x678.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2143\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Care-Home-01-1-1024x678.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Care-Home-01-1-300x200.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Care-Home-01-1-768x508.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Care-Home-01-1.png 1077w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Y nod yw gweithio gyda chartrefi gofal er mwyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyfrifo\u2019r pris iawn am ofal, gan sicrhau ei fod yn fforddiadwy ond bod y costau wedi\u2019u talu;<\/li><li>Eu cefnogi i arfer y dulliau gorau o weithio;<\/li><li>Cefnogi busnesau bach lleol i aros yn gynaliadwy;<\/li><li>Canfod faint o staff Cymraeg sydd mewn cartrefi gofal;<\/li><li>Canfod faint o bobl sy\u2019n derbyn gofal yn yr iaith o\u2019u dewis;<\/li><li>Gwella\u2019r gofal iechyd a ddarperir mewn cartrefi gofal.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc a phobl ifanc sy\u2019n gadael gofal<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Llety i bobl iau<\/strong><br>Yn y gorffennol rydym wedi defnyddio Canolfan Marl ar gyfer lleoli pobl anabl.&nbsp; Fe gynigiom gyfle i \u2018B\u2019, unigolyn ifanc yn gadael gofal, i gael profiad o fyw\u2019n annibynnol yn un o fflatiau Canolfan Marl, gan na fedrai\u2019r Gofalwyr Maeth ymrwymo i fod yn \u2018Lleoliad Pan Fydda i\u2019n Barod\u2019.&nbsp; Nod y lleoliad hwn yw bod \u2018B\u2019 yn magu\u2019r profiad a\u2019r sgiliau angenrheidiol ar gyfer byw heb ofal.&nbsp; Darperir cymorth ar y safle, a bydd rhywun yn cadw golwg ar \u2018B\u2019 o 9am tan 5pm rhag ofn y bydd angen mwy o gefnogaeth arni.&nbsp; Mae \u2018B\u2019 hefyd wedi cael Cynghorydd Personol sy\u2019n goruchwylio\u2019r drefn o adael gofal a dechrau byw\u2019n annibynnol. Mae\u2019r Cynghorydd Personol wedi llunio Cynllun Llwybr ar ei chyfer ac yn darparu cymorth gydag amrywiaeth o wahanol bethau.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd \u2018B\u2019 gymorth gyda rheoli\ncyllideb a deall mor bwysig yw rhoi arian o\u2019r neilltu, gyda chymorth ei\nChynghorydd Personol. Ar \u00f4l cael cyfle i ddefnyddio Canolfan Marl fel hyn i\nhybu ei sgiliau byw\u2019n annibynnol, bydd \u2018B\u2019 yn gwneud cynlluniau ar gyfer symud\ni\u2019w chartref ei hun. Mae\u2019r Cynghorydd Personol yn darparu cymorth ychwanegol i\nsicrhau llety parhaol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellid defnyddio\u2019r fflat yn yr un\nmodd ar gyfer y bobl ifanc hynny nad ydynt yn hollol barod eto am lety annibynnol\nparhaol, ond sy\u2019n methu ag aros \u00e2\u2019i Gofalwyr Maeth mwyach.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><br>Mae\u2019r Gwasanaeth Anableddau\u2019n datblygu amryw fathau o lety yn y gymuned, gan gynnwys rhannu bywydau, rhannu llety \u00e2 chymorth, fflatiau unigol a llety tebyg i Ofal Ychwanegol.&nbsp; Yng Nghanolfan Marl gallwn asesu anghenion unigolion yn well o ran llety a chymorth.&nbsp; Rydym hefyd yn ymchwilio i ddatblygu darpariaeth seibiant amrywiol i gefnogi gofalwyr fel y gallant ddal i ddarparu gofal i\u2019w teuluoedd, gan gynnwys seibiannau byr Rhannu Bywydau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llwybr Cadarnhaol i Bobl Ifanc<\/strong><br>Yn yr adroddiad y llynedd fe soniom ein bod wedi gweithio\u2019n galed iawn i sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc, yn enwedig o ran dewisiadau llety.&nbsp; Dros y deuddeg mis diwethaf bu yno nifer o ddatblygiadau calonogol.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Datblygwyd hyfforddiant ar gyfer Gofalwyr Maeth er mwyn hybu gwell dealltwriaeth o\u2019r farchnad dai.<\/li><li>Estynnwyd yr hyfforddiant i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal, er mwyn hybu eu sgiliau dinasyddiaeth a chefnogi eu tenantiaethau.<\/li><li>Datblygwyd negeseuon allweddol i bobl ifanc, Gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd wedi\u2019u cyhoeddi ar y wefan Byw yn Annibynnol.&nbsp; Defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol i ledaenu negeseuon allweddol.&nbsp; Mae Gweithiwr Cymdeithasol <em>Byw yn Annibynnol<\/em> hefyd yn ymweld ag ysgolion a sefydliadau addysgol eraill i addysgu myfyrwyr yngl\u0177n \u00e2 dewisiadau tai ac agweddau ariannol ar fyw\u2019n annibynnol. <\/li><li>Buom yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd i olrhain cynnydd pobl ifanc mewn gofal o bymtheg oed ymlaen, er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn oedolion yn ddi-drafferth, a chael gwared ar y perygl o ddigartrefedd.<\/li><li>Rydym wedi gweithredu \u2018Lloches Dros Nos\u2019 ac mae Cynllun Tai Lloches \u00e2 Chymorth ar waith.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"354\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/HousePlans-01-1-1024x354.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2145\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/HousePlans-01-1-1024x354.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/HousePlans-01-1-300x104.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/HousePlans-01-1-768x265.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/HousePlans-01-1.png 1296w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>T\u00ceM ADTRAC<\/strong><strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae t\u00eem ADTRAC Gwasanaeth Lles\nCymunedol Conwy\u2019n cefnogi pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed i symud i waith,\nhyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli a chyflawni eu nodau. Hyd yma mae\u2019r\nt\u00eem wedi cefnogi mwy na chant o bobl ifanc sydd wedi ennill cymwysterau Lefel\n3, mynd ymlaen i addysg bellach a chael gwaith am dros 16 awr yr wythnos.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe gawsom ymateb da iawn gan rai o\u2019r bobl ifanc hynny\u2019r ydym wedi\u2019u cefnogi:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Diolch am fy helpu i fynd i\u2019r coleg.  Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wneud hynny, ac roeddwn i\u2019n poeni na fyddwn i\u2019n deall dim byd yn y gwersi.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><strong>Astudiaeth Achos<\/strong><br>Pan ymunodd \u2018A\u2019 \u00e2\u2019r prosiect roedd hi\u2019n anhrefn gartref, ac roedd yn gofalu am ei fam yn answyddogol.&nbsp; Roedd y teulu\u2019n dibynnu ar gyflog ei dad.&nbsp; Un tawel a dihyder oedd \u2018A\u2019.&nbsp; Mae wedi gweithio mewn swyddi tymhorol yn y gorffennol ac mae \u2018A\u2019 yn cael trafferth \u00e2\u2019i leferydd a\u2019i iaith, sy\u2019n golygu fod llunio CV\/ffurflenni cais\/cyfweliadau yn medru bod yn drech nag ef.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Growth-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2147\" width=\"206\" height=\"227\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Growth-1.png 275w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Growth-1-272x300.png 272w\" sizes=\"auto, (max-width: 206px) 100vw, 206px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ar y dechrau fe dreulion ni gryn\namser yn gweithio gyda Hawliau Lles a Chanolfan Byd Gwaith fel bod \u2018A\u2019 yn medru\nhawlio Lwfans Ceisio Gwaith wrth iddo chwilio am swyddi.&nbsp; Roedd \u2018A\u2019 yn awyddus iawn i gael gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymhen ychydig rhoddwyd cymorth i \u2018A\u2019\ngysylltu ag asiantaeth gyflogi leol, ac fe gafodd waith ar brawf ar loriau\nailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.&nbsp; Cafodd ychydig o drafferthion ar y cychwyn o ran cymdeithasu, ond gyda\nchymorth fe ddatryswyd hynny cyn diwedd yr wythnos gyntaf.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018A\u2019 wedi bod yn gweithio dros 16\nawr yr wythnos ers bron i ddau fis.&nbsp; Mae\u2019n llawn balchder a hyder bellach; yn ogystal \u00e2 bod yn annibynnol a\nchael mwy o incwm, mae \u2018A\u2019 wedi gwneud ffrindiau hefyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth a ddysgom ni o\u2019r Arolwg Dinasyddion? Roedd 81% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur ac 85% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno mai bod gartref a oedd yn hybu eu lles fwyaf.&nbsp; Roedd llawer o\u2019r sylwadau ychwanegol yn s\u00f4n mor bwysig oedd addasiadau i\u2019w gwneud yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2034,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2133","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2133","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2133"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2133\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}