{"id":2106,"date":"2019-07-23T14:25:08","date_gmt":"2019-07-23T13:25:08","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2106"},"modified":"2019-08-07T16:47:05","modified_gmt":"2019-08-07T15:47:05","slug":"sut-ydym-nin-cyflawnir-hyn-a-wnawn-ni","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/sut-ydym-nin-cyflawnir-hyn-a-wnawn-ni\/","title":{"rendered":"Sut ydym ni&#8217;n cyflawni&#8217;r hyn a wnawn ni"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Recriwtio ein Gweithlu<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er mwyn denu pobl i weithio yn y sector, efallai heb iddynt erioed ystyried gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol, rydym wedi cynnal ffeiriau swyddi ar y cyd \u00e2 chyflogwyr Gofal Cymdeithasol, Coleg Llandrillo, a Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg Conwy.&nbsp; Yn sgil y digwyddiadau hynny fe wnaeth darparwyr Gofal Cymdeithasol recriwtio gweithwyr newydd <strong>yn uniongyrchol <\/strong>o blith y bobl y cwrddasant \u00e2 hwy yn y ffeiriau swyddi. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/OT-Person-with-Walking-Frame-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2107\" width=\"164\" height=\"303\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/OT-Person-with-Walking-Frame-1.png 343w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/OT-Person-with-Walking-Frame-1-162x300.png 162w\" sizes=\"auto, (max-width: 164px) 100vw, 164px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><br>Wedi llwyddo gyda\u2019r dull hwn, bydd ein T\u00eem Datblygu a Dysgu\u2019r Gweithlu yn cynnal rhaglen reolaidd o ffeiriau swyddi yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan weithio gyda darparwyr Gofal\nCymdeithasol a Choleg Llandrillo, byddwn yn darparu rhaglen profiad gwaith\nledled Conwy.&nbsp; Byddwn yn manteisio ar ymgyrch recriwtio\ngenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru yn lleol er mwyn helpu cyflogwyr gofal\ncymdeithasol i ddenu pobl i\u2019r maes. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Darparu gwasanaethau yn Gymraeg<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mwy na Geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.&nbsp; Amcanion y fframwaith yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwella ansawdd gofal, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar anghenion y\ndefnyddwyr;<\/li><li>Cynnal safonau proffesiynol;<\/li><li>Bodloni anghenion iaith y defnyddwyr, yn enwedig felly plant a phobl ifanc,\npobl h\u0177n, pobl ag anableddau dysgu a phobl \u00e2 phroblemau iechyd meddwl;<\/li><li>Cydymffurfio \u00e2 gofynion cyfreithiol a statudol, gan gynnwys Safonau\u2019r Iaith\nGymraeg.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i Gyngor Bwrdeistref\nSirol Conwy gynnig a darparu gwasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny\ni\u2019r un safon \u00e2 gwasanaethau gofal drwy gyfrwng y Saesneg; gelwir hyn yn \u2018y\nCynnig Gweithredol\u2019.&nbsp;\nRydym yn gwneud\nein gorau glas i ddatblygu\u2019r gwasanaethau a gynigiwn i siaradwyr Cymraeg yng\nNghonwy, ac yn cadw golwg yn gyson ar ein gallu i ddarparu gofal a chymorth\ndrwy gyfrwng y Gymraeg.&nbsp;\nMae\u2019r data\nblynyddol ar ein gweithlu\u2019n dangos fod 42% o\u2019r staff mewnol sy\u2019n gweithio mewn\ngofal preswyl neu ofal cartref yn medru cyfathrebu\u2019n effeithiol yn Gymraeg.&nbsp; Yn y gweithlu allanol mae\u2019r ffigwr yn is, gyda dim ond 16% yn medru\ncyfathrebu\u2019n effeithiol yn Gymraeg.&nbsp; Mae ein Gwasanaeth Monitro\u2019n cynnal ymweliadau rheolaidd \u00e2 chartrefi\npreswyl ac wedi canfod yn y deuddeg mis diwethaf fod yno 177 o staff Cymraeg ar\ngyfer 98 o breswylwyr Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn dal i ddarparu hyfforddiant\ni\u2019n staff yngl\u0177n \u00e2 Mwy na Geiriau a\u2019r Cynnig Gweithredol; mae 16 o sesiynau\nwedi\u2019u comisiynu tan fis Chwefror 2020.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rheoleiddio ac Arolygu<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu\nGofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu\nharolygu, sut rydym yn gwella ansawdd y gofal a chefnogaeth yr ydym yn ei\nddarparu, a\u2019r modd yr ydym yn rheoleiddio\u2019r gweithlu.&nbsp; Bydd yn rhoi ansawdd a gwelliannau gwasanaeth wrth galon rheoleiddio;\ncryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y rhai sydd eu hangen a sicrhau bod\ngwasanaethau yn darparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2018 dechreuodd Gwasanaethau Oedolion ledled Cymru gofrestru rheolwyr yn\ny sector cartrefi gofal, yn unol \u00e2\u2019r rheoliadau o dan y Ddeddf newydd. Rydym wedi\ncynnal cyfres o fforymau rheolwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno\u2019r Ddeddf. Hefyd yn\nddiweddar fe gynhaliom weithdai Cofrestru \u00e2 Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn\nhelpu\u2019r gweithlu gofal cartref i gofrestru.\nRydym wedi sefydlu gr\u0175p polisi ar\ngyfer y Ddeddf sy\u2019n cwrdd bob mis er mwyn adolygu\u2019r polis\u00efau sy\u2019n ofynnol o dan\ny rheoliadau newydd. Gyda\u2019n partneriaid rydym hefyd yn cynnal Gr\u0175p\nHyfforddiant Darparwyr Conwy er mwyn hybu datblygiad a dysg y gweithlu gydol y\nSector. <\/p>\n\n\n\n<p>Ym maes gwasanaeth Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, mae Arolygiaeth Gofal Cymru\nwrthi\u2019n cynnal prosiect drwy Gymru i feithrin dealltwriaeth o brofiadau plant,\npobl ifanc sy\u2019n gadael gofal a\u2019u Gofalwyr, a pha fath o gymorth sydd ar gael\niddynt. Estynnwyd gwahoddiad i Gonwy gymryd rhan yn y prosiect\nfis Medi 2018, a chynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gyda phlant, Gofalwyr Maeth a\nphobl ifanc sy\u2019n gadael gofal. Roedd yr ymateb gan y bobl ifanc sy\u2019n\ngadael gofal yn galonogol, ac yn dangos mor werthfawr yw eu perthnasau \u00e2\u2019u\nCynghorwyr Personol a\u2019u Gofalwyr Maeth, ynghyd \u00e2\u2019r hwb y mae plant mewn gofal\nyn ei gael gan grwpiau cymorth a chyfleoedd i gymdeithasu wedi\u2019u trefnu gan y\nCyngor. Dywedodd plant \u00e2 phrofiad o fod mewn gofal i\u2019r arolygydd\neu bod yn fodlon ar eu Gweithwyr Cymdeithasol ac yn teimlo fod pobl yn gwrando\narnynt. Fe soniont hefyd am feithrin perthynas \u00e2 phlant eraill yn\ny gymuned, a sut roedd Gweithwyr Cymdeithasol yn eu cefnogi i wneud hynny. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ein hadnoddau ariannol a sut rydym ni\u2019n\ncynllunio at y dyfodol <\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er mor heriol yw\u2019r hinsawdd ariannol,\nrydym yn dal i ddiogelu gwasanaethau uniongyrchol.&nbsp; Ein nod yw darparu\u2019r gwerth gorau am arian, bod yn effeithlon a pheidio \u00e2\ndyblygu gwaith.&nbsp;\nBu\u2019n rhaid i\u2019r\ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol ddod o hyd i \u00a32.4 miliwn mewn arbedion yn\n2018-19, ond rydym yn dal i ddarparu\u2019r gwasanaeth gorau y gallwn i\u2019n\npreswylwyr.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Llywodraethu ac atebolrwydd<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r\nDyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau\ncenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu\ncynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau.&nbsp; Mae\u2019r Ddeddf yn sicrhau fod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac\neconomaidd yn ganolog i benderfyniadau.&nbsp; Yng Nghonwy rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn y Cynllun Corfforaethol.&nbsp; Mae\u2019r saith nod a\u2019r pum ffordd o weithio yn cyfateb i\u2019r wyth o Ganlyniadau\nDinasyddion Conwy. <\/p>\n\n\n\n<p>Ceir camau gweithredu yn y Cynllun Corfforaethol sy\u2019n\nataliol yn hytrach nag ymatebol, sydd \u00e2\u2019r nod o weithio tuag at effaith tymor\nhirach, wedi cael eu hintegreiddio wrth ystyried sut maent yn cyfrannu at y\nSaith Nod Llesiant.&nbsp;\nMae\u2019r camau\ngweithredu hyn yn gydweithredol hefyd o ran canolbwyntio ar weithio\u2019n agos gyda\nchymunedau fel bod ganddynt berchnogaeth dros y Canlyniadau Dinasyddion a\u2019u bod\nyn rhan o\u2019r gwaith a wneir ar y cyd i\u2019w cyflawni.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"829\" height=\"769\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/CCBC-priorities-Welsh-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2112\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/CCBC-priorities-Welsh-1.png 829w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/CCBC-priorities-Welsh-1-300x278.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/CCBC-priorities-Welsh-1-768x712.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 829px) 100vw, 829px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Chwaraeodd cymunedau ran bwysig iawn\nwrth bennu\u2019r blaenoriaethau, a byddant yn dal i gael eu cynnwys. &nbsp;Mae ein them\u00e2u trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd\nasesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar\ndrechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo\u2019r Gymraeg. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ddeddf hefyd yn diffinio Datblygu Cynaliadwy fel proses o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.&nbsp; Mae\u2019n gwneud i ni ystyried beth rydym ni\u2019n ei wneud, sut rydym yn ei gyflawni a sut rydym ni\u2019n cyfathrebu.&nbsp; Mae\u2019r gwasanaeth yn cyfrannu drwy fyfyriol ynghylch y modd yr ydym yn defnyddio&#8217;r pum ffordd o weithio yn ein Hadolygiadau o Berfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis.&nbsp; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cynllun Ariannu Hyblyg<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Nod y Cynllun Ariannu Hyblyg yw sicrhau gwell canlyniadau i\u2019r rhai hynny sydd fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, a hynny drwy ddulliau ymyrryd yn gynnar ac atal, gan annog pobl i fyfyrio ynghylch eu hunain a chryfhau eu cymhelliant. Y bwriad yw chwalu\u2019r rhwystrau sy\u2019n atal pobl rhag newid er gwell, drwy ddatblygu dulliau blaengar sydd wedi\u2019u dylunio i atal pobl rhag mynd yn fwy diamddiffyn yn y dyfodol. Mae\u2019r rhaglen yn cyfuno deg o ffrydiau cyllid mewn dau \u2018bot\u2019 o grantiau er mwyn cryfhau ein gallu i ddarparu gwasanaethau ataliol, gan ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar gyda&#8217;r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae\u2019r \u2018pot\u2019 cyntaf yn canolbwyntio ar Dai a\u2019r ail ar Blant a Chymunedau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"151\" height=\"136\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Piggy-Bank-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2118\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Piggy-Bank-3.jpg 151w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Piggy-Bank-3-150x136.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 151px) 100vw, 151px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym wedi adolygu ein trefniadau\nllywodraethu fel bod modd dod \u00e2 phawb sy\u2019n ymwneud \u00e2 grantiau ynghyd, gan\ngynnwys hwyluso trafodaethau ymysg uwch-reolwyr yngl\u0177n ag amcanion cyffredin,\nyn ogystal \u00e2\u2019r gwaith manwl y mae\u2019r swyddogion wedi\u2019i wneud yn y grwpiau\nprosiect.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi dylunio a chadarnhau pum\nardal ddarparu, ac wedi dechrau ystyried yn fanwl yr anghenion ymhob un o\u2019r\ncymunedau hynny. Mae swm enfawr o ddata ac ymchwil ar gael ac rydym wedi\u2019i\ngasglu ynghyd yn sail ar gyfer adnabod yr angen am y ddarpariaeth.&nbsp;&nbsp; Yn ogystal ag ystyried yr anghenion ymhob ardal, mae\u2019n hanfodol ein bod yn\nadnabod them\u00e2u trawsbynciol y bydd angen eu cydlynu ledled y sir.<\/p>\n\n\n\n<p>O dan y thema <em>Ymyrryd yn Gynnar ac Atal<\/em>, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil i\narfarnu\u2019r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghonwy er mwyn datblygu\u2019r dull\nnewydd o gynllunio a chomisiynu. Roedd yr astudiaeth honno\u2019n cynnwys: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyfweliadau \u00e2 darparwyr prosiectau; <\/li><li>Hanesion Teulu i nodi\u2019r them\u00e2u a ddaeth i\u2019r amlwg yn y prosiectau; <\/li><li>Ymchwil ansoddol gyda theuluoedd. <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Trosglwyddir yr hyn a ddysgwyd o\u2019r\nastudiaeth i\u2019n gwaith ymyrryd yn gynnar ac atal yn y Canolfannau Teuluoedd, ac\nrydym wedi sefydlu pump o dimau Cymorth i Deuluoedd (y T\u00eem o Amgylch y Teulu a\nDechrau\u2019n Deg, gynt). <\/p>\n\n\n\n<p>O dan y thema <em>Cyflogadwyedd<\/em>, mae ein Swyddogion Ymgysylltu \u00e2 Chyfranogwyr a Chyflogwyr bellach yn hyrwyddo\u2019r holl raglenni cyflogadwyedd yng Nghonwy er mwyn osgoi dyblygu gwaith, ac er mwyn cydlynu gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus\/marchnata a deunydd hyrwyddo er mwyn hybu cyflogadwyedd. Cr\u00ebwyd cysylltiadau ffurfiol rhwng y rhaglen hon a gwaith arall sydd wedi\u2019i ariannu gan gyllid Ewropeaidd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><br>Yn 2019-20 byddwn yn ail-gomisiynu prosiectau fesul tipyn o dan nifer o them\u00e2u, gan gynnwys datblygu chwarae ac agweddau allweddol ar Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod, er enghraifft, trais domestig, profedigaeth, camfanteisio&#8217;n rhywiol ar blant a chwnsela i deuluoedd.&nbsp; Mae\u2019r datblygiadau hyn yn ategu\u2019r farn gyffredinol fod Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn her allweddol yn y sir, ac yn rhan bwysig o\u2019r Strategaeth Ymyrryd yn Gynnar ac Atal ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghonwy.&nbsp; Mae\u2019r dull yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd yng Nghonwy sydd wedi adrodd eu hanesion yngl\u0177n \u00e2\u2019r cymorth oedd ar gael iddynt. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019n cydweithwyr yn y trydydd sector<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>&nbsp;<\/strong>Rydym yn gweithio\u2019n agos \u00e2 Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (<a href=\"http:\/\/cvsc.org.uk\/cy\/\">CVSC<\/a>) sy\u2019n darparu hyfforddiant sylfaenol i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ar ein rhan.&nbsp; Er enghraifft, maent yn darparu gwasanaeth diogelu, gan gynnig gwybodaeth, adnoddau, cyngor a hyfforddiant i sefydliadau yn y trydydd sector.&nbsp; Cynhaliwyd digwyddiad <strong>Diogelu \u2013 Gwneud Pethau\u2019n Iawn, Gyda\u2019n Gilydd <\/strong>ym mis Tachwedd 2018 yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu, a daeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwya Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghyd i arddangos y cydweithio oedd yn digwydd a hyrwyddo\u2019r ethos fod diogelu\u2019n fater i bawb, lle bynnag y maent yn gweithio.&nbsp; Roedd 53 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad yn cynrychioli 40 o sefydliadau, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, y Cyngor Sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru.&nbsp; Roedd y pynciau dan sylw\u2019n cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwaith Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru<\/li><li>Agwedd y Comisiwn Elusennau at ddiogelu<\/li><li>Cefnogaeth ar gyfer \u2018gwneud pethau\u2019n iawn\u2019<\/li><li>Cymuned Ymarfer ar gyfer Diogelu<\/li><li>Cyfrifoldebau ymddiriedolwyr.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Cafwyd ymateb da i\u2019r digwyddiad, ac roedd 83% o\u2019r rhai hynny a gwblhaodd y\nffurflenni gwerthuso o\u2019r farn bod y digwyddiad yn rhagorol, ac 8% arall wedi\ndweud ei fod yn dda.&nbsp;\nMae\u2019r sylwadau\nategol yn dangos fod llawer o bobl wedi cael budd o\u2019r cyfle i rwydweithio, yn\nogystal \u00e2\u2019r adnoddau a ddarparwyd a\u2019r cyngor yngl\u0177n \u00e2 ble i gael mwy o gymorth\na chefnogaeth.&nbsp; Yn bwysicaf oll, roedd mwy na 75% o\u2019r rhai\noedd yn bresennol \u00e2 diddordeb yn y bwriad i sefydlu <strong>Cymuned Ymarfer ar gyfer Diogelu<\/strong>, a byddwn yn mynd ati i wneud\nhynny\u2019n awr.&nbsp; Mae Cymunedau Ymarfer yn cynnwys grwpiau o\nbobl sy\u2019n rhannu pryderon neu frwdfrydedd dros rywbeth maent yn ei wneud, ac yn\ndysgu sut i\u2019w wneud yn well drwy gwrdd yn rheolaidd i drafod.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwasanaethau yn y gymuned<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Y llynedd fe soniom am raglen flaenllaw ein T\u00eem Adnoddau Cymunedol ar gyfer iechyd a lles yng Nghonwy a Sir Ddinbych, sydd \u00e2\u2019r weledigaeth o ddarparu gwasanaethau amlasiantaethol cydweithredol, hyblyg ac ymatebol, wedi\u2019u seilio\u2019n lleol.&nbsp; Bydd hwn yn ddull mwy hygyrch o gynnal annibyniaeth gyda th\u00eem cadarn, amlddisgyblaethol yn canolbwyntio ar ofal cleifion ag anghenion cymhleth, a bydd yn sicrhau gwell canlyniadau i bobl yn y gymuned.&nbsp; Bydd y T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn medru darparu gwasanaeth cadarn, proffesiynol a pharhaus i bobl ymhob cymuned, a\u2019u galluogi i fyw mor annibynnol \u00e2 phosib yn eu cartrefi eu hunain.&nbsp; Bydd y T\u00eem hefyd yn atal pobl rhag mynd i ysbyty heb fod angen, ac yn cefnogi pobl sy\u2019n dod allan o\u2019r ysbyty.<\/p>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd naw o Dimau Adnoddau Cymunedol yn\ny ddwy sir; ymhob t\u00eem ceir amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys\nmeddygon teulu, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, Therapyddion, Ymwelwyr\nIechyd, Nyrsys Ysgol a gweithwyr eraill mewn gwasanaethau plant, ac maent yn\ngweithio gyda\u2019i gilydd i ddiwallu anghenion iechyd a lles eu cymunedau.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn adeiladu ar waith sydd\neisoes wedi\u2019i wneud, ond bydd yn creu llwybrau gofal newydd ac yn newid y modd\ny datblygir y sefydliad, sy\u2019n golygu y gellir gwneud gwaith amlddisgyblaethol\nystyrlon drwy rannu rheolaeth achosion, cydleoli, integreiddio technoleg a\ngwella cyfathrebu ar draws yr amrywiaeth helaeth o wasanaethau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pa gynnydd a wnaethpwyd?&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; <br><\/strong>Mae gan bob un o\u2019r naw T\u00eem Adnoddau Cymunedol swyddog arweiniol dynodedig sy\u2019n sbarduno\u2019r gwaith integreiddio yn ei flaen, yn arwain a chymell y gweithwyr, yn hyrwyddo newid diwylliant a helpu i ysgogi llwyddiant y prosiect drwy arwain a chefnogi\u2019r timau presennol drwy gyfnod o newid cyffrous.<\/p>\n\n\n\n<p>Ffurfiwyd Grwpiau Datblygu Lleol hefyd er mwyn sicrhau fod pob ardal yn\ndatblygu cynllun gweithredu, a hynny ar sail dull sector gyfan. Mae\u2019r Grwpiau\nDatblygu Lleol yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth helaeth o feysydd\ngwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn sgil datblygu\u2019r grwpiau hyn gwelwyd\ngwelliant syfrdanol mewn cysylltiadau proffesiynol a chyfathrebu, sy\u2019n hanfodol\nwrth geisio sefydlu t\u00eem integredig. <\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy, penodwyd swyddogion cyswllt ar gyfer y pum T\u00eem Adnoddau\nCymunedol i gefnogi\u2019r datblygiadau o ran gweithio integredig.&nbsp; Mae rhai o\u2019r adnoddau presennol wedi\u2019u trosglwyddo i\u2019r Timau Adnoddau\nCymunedol, sef Gweithredwyr Un Pwynt Mynediad, Swyddogion Cymorth Busnes Iechyd\na Gofal Cymdeithasol, a Swyddogion Hawliau Lles.\n<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Team-of-3-01-2-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2122\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Team-of-3-01-2-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Team-of-3-01-2-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Team-of-3-01-2-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Team-of-3-01-2.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae rhai o\u2019r timau\u2019n cynnal cyfarfodydd t\u00eem\namlddisgyblaethol yn rheolaidd, yn cael cyfarfodydd bach bob dydd ac wedi\ndatblygu ffyrdd newydd o weithio, ac o ganlyniad i hynny maent yn fwy\neffeithlon. <\/p>\n\n\n\n<p>Ffurfiwyd is-grwpiau technegol i roi arweiniad a chefnogaeth yn y broses o\nnewid y sefydliad.&nbsp;\nMae\u2019r is-grwpiau\nhynny\u2019n hwyluso a gweithredu\u2019r newidiadau angenrheidiol er mwyn gweithio\u2019n\nintegredig, gan gynnwys seilwaith, TG, prosesau a chyfathrebu.&nbsp; Ceir cynrychiolwyr technegol o\u2019r tri sefydliad yn y bartneriaeth sy\u2019n\ncynnig datrysiadau pan gyfyd problemau.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Bwriedir cynnal cynhadledd ranbarthol fis Gorffennaf 2019 fel y gall pob T\u00eem Adnoddau Cymunedol ddod ynghyd i rannu gwybodaeth ac arferion da. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut rydym yn comisiynu gwasanaethau<\/strong>&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn yr adroddiad y llynedd fe soniom am ein strategaeth gomisiynu, a oedd yn nodi sut byddai Conwy\u2019n cydweithio gyda dinasyddion, staff, cymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid i gomisiynu gwasanaethau sy\u2019n darparu canlyniadau, gwell iechyd a lles, gweithlu y gofalir amdanynt a gwell gwerth am arian.&nbsp; Y nod oedd darparu&#8217;r hyn sy\u2019n bwysig i ddinasyddion a rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu bywydau, yn ogystal \u00e2 chyflawni ein gweledigaeth:<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cCydweithio gyda\u2019n cymunedau i alluogi pawb i gael y gorau o fywyd\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p> Roedd gennym wyth o amcanion strategol: <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"595\" height=\"184\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/image-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2126\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/image-3.png 595w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/image-3-300x93.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 595px) 100vw, 595px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Sut hwyl gawsom ni arni?<\/strong>&nbsp;&nbsp; <br>Gwnaethpwyd cynnydd wrth weithredu\u2019r strategaeth gomisiynu, a bydd adroddiad ar hynny\u2019n mynd gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill fel sy\u2019n digwydd bob blwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bob tri mis byddwn yn cwrdd \u00e2\u2019n darparwyr annibynnol ar y cyd \u00e2\u2019n\ncydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.&nbsp; Diben y cyfarfodydd hynny yw meithrin gwell perthynas, rhoi cyfle i\nddarparwyr leisio\u2019u barn, a rhannu gwybodaeth.&nbsp; Cynhelir pob cyfarfod ar thema benodol, ac mae\u2019r pynciau trafod hyd yma\nwedi cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwersi a ddysgwyd a gwelliant parhaus (y broses o gau cartref gofal, polisi\nuwchgyfeirio pryderon, diogelu ac yn y blaen);<\/li><li>Pennu ffioedd;<\/li><li>Cydymffurfiaeth a rheoleiddio (ymadael \u00e2\u2019r Undeb Ewropeaidd, iechyd a\ndiogelwch, diogelwch bwyd, rheoliadau\u2019r gweithlu).<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Daeth nifer dda o bobl i\u2019r sesiynau a gweld gwerth ynddynt, ac roeddent yn\nsicrhau ein bod yn meithrin perthynas agos \u00e2\u2019n darparwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth nesaf?&nbsp;&nbsp; <\/strong><br>Un o\u2019r pethau mwyaf inni yn 2019\/20 fydd hwyluso a sicrhau gwerth cymdeithasol drwy ein gweithgarwch comisiynu.&nbsp; Bydd hynny\u2019n golygu ein bod yn hyrwyddo datblygiad sefydliadau dielw i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol. &nbsp; Bydd y rheiny\u2019n cynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau wedi\u2019u harwain gan ddefnyddwyr, a\u2019r trydydd sector.&nbsp; Byddwn yn canfod y nifer o sefydliadau yn y sir sy\u2019n rhoi gwerth cymdeithasol drwy ddarparu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn dadansoddi sut rydym yn comisiynu eu gwasanaethau, gan ystyried yn benodol sut allwn annog datblygiad dulliau newydd o ddarparu gwerth cymdeithasol a dulliau blaengar o ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfranogi<\/strong><strong> <\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn y flwyddyn aeth heibio fe gynhaliom\nnifer o ymgyngoriadau ynghylch amrywiaeth o bynciau ar ran y Gwasanaethau Plant\na Theuluoedd.&nbsp; Mae\u2019r ymateb a\u2019r wybodaeth a gawn ni yn ein\nhelpu i lunio ein gwasanaethau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cynnig Deddfwriaethol i Ddileu Cosb Resymol fel Amddiffyniad \u2013 Ymateb Adran\nGofal Cymdeithasol Conwy; <\/li><li>Drafft Ymgynghori o\u2019r Bil Awtistiaeth (Cymru) \u2013 Ymateb Adran Gofal\nCymdeithasol Conwy;<\/li><li>Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a\u2019r Fframwaith\nRheoleiddio newydd ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu;<\/li><li>Safonau Cenedlaethol Drafft ar gyfer Plant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid\n2019; <\/li><li>Arolygiaeth Gofal Cymru \u2013 Cwestiynau \u2013 Ymateb i Ymgynghoriad Arolygu\nCafcass Cymru;<\/li><li>Pobl Ifanc sy\u2019n Gadael Gofal \u2013 Eithrio rhag Treth y Cyngor \u2013 ymateb i\u2019r\nymgynghoriad gan Gr\u0175p Siapio\u2019r Dyfodol;<\/li><li>Ymgynghoriad ynghylch Rheoliadau Mabwysiadu 2019;<\/li><li>Addasiadau Tai \u2013 Safonau\u2019r Gwasanaeth \u2013 ymateb i\u2019r ymgynghoriad. <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi medru cynnwys pobl\nwrth ddatblygu ein Canolfannau Teuluoedd a\u2019r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ar\nwahanol lefelau.&nbsp;\nDatblygwyd y\ndull ar sail profiadau teuluoedd a\u2019r ymchwil ansoddol a wnaethpwyd ar y cyd \u00e2\nhwy. Mae Gr\u0175p\nCynghori\u2019r Prosiect yn cynnwys rhieni a phobl ifanc sy\u2019n gweithio ochr yn ochr\n\u00e2\u2019r Rheolwr Prosiect. Cynhaliwyd ymgyngoriadau mewn ysgolion a chymunedau,\ngrwpiau ffocws a digwyddiadau i randdeiliaid.\nBydd hynny\u2019n parhau wrth inni weithio\ni ddatblygu pob maes. <br><\/p>\n\n\n\n<p><br><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Recriwtio ein Gweithlu Er mwyn denu pobl i weithio yn y sector, efallai heb iddynt erioed ystyried gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol, rydym wedi cynnal ffeiriau swyddi ar y cyd \u00e2 chyflogwyr Gofal Cymdeithasol, Coleg Llandrillo, a Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg Conwy.&nbsp; Yn sgil y digwyddiadau hynny fe wnaeth darparwyr Gofal Cymdeithasol recriwtio gweithwyr newydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2106","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2106","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2106"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2106\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2106"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}