{"id":2074,"date":"2019-07-22T17:25:50","date_gmt":"2019-07-22T16:25:50","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2074"},"modified":"2019-08-06T16:31:15","modified_gmt":"2019-08-06T15:31:15","slug":"safon-ansawdd-3-amdiffyn-a-diogelu-pobl-rhag-camdriniaeth-esgeulustod-neu-niwed","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2018-19\/safon-ansawdd-3-amdiffyn-a-diogelu-pobl-rhag-camdriniaeth-esgeulustod-neu-niwed\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 3 &#8211; Amdiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth a ddysgom ni o&#8217;r Arolwg Dinasyddion?<\/h2>\n\n\n\n<p>Dywedodd 75% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur eu bod yn <strong>teimlo\u2019n ddiogel<\/strong>.&nbsp; Fel yn y blynyddoedd o\u2019r blaen, y pwnc llosg i\u2019r gr\u0175p hwn o bobl oedd bod ag ofn syrthio, ynghyd \u00e2\u2019r diffyg hyder a ddaw yn sgil hynny wrth fynd o le i le yn annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy&#8217;n gwybod sut mae fy nghorff yn fregus.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Yn ddiogel rhag eraill, ond bydd yno wastad berygl o syrthio.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><em>Rydym yn gweithio\u2019n agos \u00e2 Th\u00eem Atal Codymau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi\nCadwaladr wrth ddarparu cymorth o bobl sydd mewn perygl o syrthio.<\/em><em>&nbsp;\n<\/em><em>Gallai hynny gynnwys:<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>Darparu deunydd darllen priodol<\/em><em><\/em><\/li><li><em>Dosbarthiadau ymarfer corff<\/em><em><\/em><\/li><li><em>Ffisiotherapi personol yn y gymuned<\/em><em><\/em><\/li><li><em>Gweithgareddau yn y gymuned<\/em><em><\/em><\/li><li><em>Asesu diogelwch yn y cartref<\/em><em><\/em><\/li><li><em>Adolygu meddyginiaeth gyda Meddyg Teulu neu\nFferyllydd<\/em><em><\/em><\/li><li><em>Atgyfeirio at wasanaethau podiatreg neu\noptometreg.<\/em><em><\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><em>Cefnogir Cynllun Atal Codymau Gogledd Cymru gan bartneriaid yn y Gwasanaeth\nIechyd Gwladol, Cyngor Conwy a\u2019r trydydd sector gydol y sir.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd 88% o\u2019r oedolion a gwblhaodd\ny fersiwn hawdd ei ddarllen o\u2019r holiadur eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel.&nbsp; Roedd y gweddill yn fwy tueddol o deimlo nad oeddent yn ddiogel yn y nos\nneu mewn torfeydd o bobl.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 83% o Ofalwyr yn teimlo\u2019n ddiogel.&nbsp; Yn \u00f4l y sylwadau ychwanegol mae amrywiaeth o resymau dros beidio \u00e2 theimlo\u2019n ddiogel, gan gynnwys cyfyngiadau corfforol, bod ag ofn syrthio, gofalu am rywun \u00e2 dementia sy\u2019n medru bod yn ymosodol neu ymddwyn fel bwli, neu bryderu am ddyfodol y sawl sy\u2019n derbyn gofal os c\u00e2nt eu gadael ar eu pennau\u2019u hunain.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n s\u00e2l fy hun, mewn dim cyflwr i ofalu am neb arall.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n poeni weithiau pe byddwn i\u2019n cael damwain\u2026 beth fyddai\u2019n digwydd i fy ng\u0175r?<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 85% o blant yn teimlo\u2019n ddiogel, a 10% arall yn teimlo\u2019n ddiogel weithiau.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n teimlo\u2019n ddiogel gartref ond rwy\u2019n pryderu am bobl y tu allan.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Maen nhw bob tro\u2019n gwneud yn si\u0175r fy mod i\u2019n ddiogel, ble bynnag rwy\u2019n mynd.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mae Diogelu\u2019n Fusnes Pawb<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau fod pob aelod o staff yng Nghonwy\u2019n cael hyfforddiant yngl\u0177n \u00e2 diogelu.&nbsp; Yn 2017-18 fe gyflwynom gyrsiau hyfforddiant ar-lein ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Camdriniaeth Domestig a Rhywiol a Diogelu Oedolion a Phlant mewn Perygl.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyrsiau hyn yn rhai gorfodol i bob aelod o staff a\u2019r Aelodau\nEtholedig.&nbsp; Darparwyd hyfforddiant diogelu hefyd i\nweithwyr yn y trydydd sector a\u2019r gweithwyr gofal uniongyrchol sy\u2019n ein helpu i\ngynnal ein gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod Wythnos Diogelu (12-17 Tachwedd 2018) buom yn hyrwyddo cyfres o <strong><a href=\"https:\/\/www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru\/adnoddau\/briffiau-7-munud\/\">Sesiynau Briffio Saith Munud<\/a><\/strong> ar gael ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd\nCymru. Roedd y\nrhain yn rhoi blas i staff ar amrywiaeth o them\u00e2u diogelu, yn codi eu\nhymwybyddiaeth ac yn eu cyfeirio at fwy o wybodaeth. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Webcast-on-iPad-01-1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2076\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Webcast-on-iPad-01-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Webcast-on-iPad-01-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Webcast-on-iPad-01-1-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Webcast-on-iPad-01-1.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae gennym Reolwyr Diogelu Dynodedig sy\u2019n gyfrifol am faterion diogelu\nymhob maes gwasanaeth yn y Cyngor. &nbsp;Er mwyn sicrhau dull cyson gydol y Cyngor o ran diogelu, trefnwyd diwrnodau\ndatblygu ar gyfer deiliaid y swyddi hynny.&nbsp; Hyd yn hyn mae\u2019r sesiynau wedi canolbwyntio ar gam-drin domestig a\ncham-drin rhywiol, a gwahoddwyd arbenigwyr yn y meysydd hynny i roi\ncyflwyniadau. Rydym yn dal i ddatblygu ein <strong><a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Im-worried-about-somebody\/I-am-worried-about-somebody.aspx\">gwe-dudalennau yngl\u0177n \u00e2 diogelu<\/a><\/strong> sy\u2019n galluogi pobl i adrodd ynghylch mater\ndiogelu os ydynt yn poeni am rywun.&nbsp; Mae ein <strong><a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Im-worried-about-somebody\/Corporate-Safeguarding-Policy.aspx\">Polisi Diogelu Corfforaethol<\/a><\/strong> yn datgan cyfrifoldebau\u2019r Cyngor o ran\ndiogelu ac yn nodi\u2019r broses ar gyfer codi pryderon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ydi hyrwyddo Diogelu\u2019n gweithio?<\/strong><strong>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; <\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Drwy godi proffil diogelu oedolion a gwella\u2019r ffordd y mae asiantaethau\u2019n gweithio gyda\u2019i gilydd, mae nifer y cynlluniau diogelu ar gyfer oedolion wedi codi o 76 yn 2017-18 i 114 yn 2017-18.<\/li><li>Mae&#8217;r risg y bydd oedolion diamddiffyn yn dioddef neu&#8217;n destun camdriniaeth neu esgeulustod yn cael ei leihau ac mae&#8217;r cyhoedd yn deall yn iawn fod angen diogelu pobl, ac yn gwybod beth i&#8217;w wneud os oes rhywbeth yn codi o ran diogelu. <\/li><li>Daw diogelu yn rhan annatod o\u2019n harferion gwaith a diwylliant y Cyngor.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfranogi a Chydweithio<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Cynrychiolir pob rhan o\u2019r gwasanaeth\nmewn grwpiau diogelu lleol a rhanbarthol sy\u2019n ymdrin \u00e2 phlant ac oedolion.&nbsp; Mae\u2019r rhain yn cynnwys Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru (oedolion a\nphlant), Gr\u0175p Cyflawni Ymarfer Conwy a Sir Ddinbych, grwpiau gweithlu a grwpiau\nhyfforddiant ymysg eraill.&nbsp;\nRydym hefyd yn\ncadw golwg ar ein prosesau gweithredol drwy baratoi adroddiadau perfformiad\nrheolaidd, trafod pethau yn y Fforwm Diogelu a cheisio cyngor cyfreithiol ar yr\nadeg iawn os oes ei angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n dal yn anodd sicrhau ymgysylltu\na chyfranogiad ystyrlon. Eleni, fodd bynnag, cynhaliodd Cyngor Conwy\ngynllun peilot i arbrofi \u00e2\u2019r dull <em>sgiliau\ncydweithredol <\/em>o ymdrin \u00e2 gwaith achos yn y T\u00eem Asesu a Chefnogi.&nbsp; Cafwyd ymateb cadarnhaol gan rieni, gofalwyr a phobl ifanc am y gwasanaeth\na dderbyniwyd, a bydd hynny\u2019n cyfrannu at ddatblygu\u2019r gwasanaeth Gofal\nCymdeithasol i Blant.<\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r heriau cyson yw\u2019r angen i\nwella cyfranogiad tadau mewn prosesau Cynadleddau Amddiffyn Plant a Grwpiau\nCraidd, gan fod lefelau cyfranogiad yn gostwng fesul dipyn.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cadeirydd bob amser yn cynnig cwrdd \u00e2 thadau absennol i drafod y prosesau, ac yn gofyn iddynt am sylwadau ysgrifenedig os nad oes modd iddynt ddod i gynadleddau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Diogelu Plant<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant<\/strong><br>Mae Conwy wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn y deuddeg mis diwethaf wrth godi ymwybyddiaeth a sicrhau trefniadau cyfathrebu da rhwng gwahanol asiantaethau. Cynhelir y Fforwm Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant bob chwe wythnos lle mae Gofal Cymdeithasol yn cymryd yr awenau ac amrywiaeth o asiantaethau\u2019n cyfrannu, yn ogystal ag adrannau eraill o\u2019r Cyngor. Wedi pob fforwm mae Gweithwyr Cymdeithasol a\u2019u Rheolwyr T\u00eem yn cyhoeddi bwletin i reolwyr yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i s\u00f4n am bobl ifanc (dioddefwyr honedig), oedolion (troseddwyr honedig), lleoliadau, tueddiadau a them\u00e2u.&nbsp; Yn ddiweddar bu Gweithiwr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Plant yn cynnal cynllun peilot gan hwyluso set ddysgu ar gyfer achos o Gamfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant, a oedd yn cynnwys cyfraniadau nid yn unig gan y Gweithiwr Cymdeithasol dan sylw, ond hefyd y gweithwyr proffesiynol eraill yn fewnol ac yn allanol a fu\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r achos.&nbsp; Cafwyd ymateb da, ac mae trafodaethau\u2019n mynd rhagddynt i weld a ellid cynnig hyn i\u2019n cydweithwyr eto yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yno ddiwylliant iach yng Nghonwy o weithio\u2019n dda drwy bartneriaeth\nrhwng Gweithwyr Cymdeithasol a Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig felly\nCwnstabliaid a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gan mai\u2019r rhain yw\u2019r\ngweithwyr proffesiynol sy\u2019n ymdrin \u00e2 Chamfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant o ddydd i\nddydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ail-lansiwyd y Fforwm ym mis Ionawr 2019, a bellach fe\u2019i gelwir yn \u2018Fforwm\nCamfanteisio\u2019 er mwyn cynnwys mathau eraill o gamfanteisio, gan gynnwys\nCamfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant Cynradd a Chamfanteisio\u2019n Droseddol ar Blant.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfrannodd staff Conwy at y ddrama \u2018<em>Mirror\nMirror<\/em>\u2019 (Prosiect Gwella) a fu ar daith ledled gogledd Cymru.&nbsp; Bu gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn meithrin cyswllt \u00e2 chydweithwyr yn y\ngwasanaeth Addysg er mwyn sicrhau fod pob ysgol uwchradd yng Nghonwy\u2019n cymryd\nrhan. &nbsp;Anelwyd y prosiect at blant ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd\nledled gogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Enillodd Conwy <strong><a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/gwella-gwasanaethau\/y-gwobrau\">Wobr Gofal Cymdeithasol<\/a><\/strong> fis Medi 2018 am arwain cynllun\namlasiantaethol i atal camfanteisio&#8217;n rhywiol ar blant.&nbsp; Buom yn gweithio gyda\u2019n partneriaid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi\nCadwaladr, Addysg, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Ieuenctid Conwy, ynghyd\n\u00e2 busnesau preifat yng Nghonwy. Dywedodd y beirniaid mai dyma\u2019r esiampl\norau o gydweithio yr oeddent wedi ei gweld yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><br>Rydym yn cynnal cynlluniau peilot ar gyfer \u2018Llysgenhadon Lles\u2019 mewn dwy ysgol uwchradd yng Nghonwy.&nbsp; Mae\u2019r gwaith yn seiliedig ar gydweithredu da rhwng gwahanol asiantaethau, gweithwyr proffesiynol a\u2019r sector gwirfoddol.&nbsp; Bydd dwy elfen wahanol i\u2019r swyddogaeth hon i ddisgyblion, ond rydym yn bwriadu ymdrin \u00e2 them\u00e2u sydd a wnelont \u00e2 Chamfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant a Chamfanteisio\u2019n Droseddol ar Blant, yn ogystal \u00e2 phynciau llosg fel iechyd meddwl, hunan-niweidio, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau.&nbsp; Rydym hefyd yn ystyried cynnal cynllun peilot amlasiantaethol arall ar thema lles, gyda rhieni yn y Canolfannau Teuluoedd newydd yng Nghonwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Cawsom wahoddiad hefyd i gyflwyno ein\ngwaith yn y maes hwn i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn\nsgil ein llwyddiant yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol.\n<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ymdrin ag achosion cymhleth<\/strong><br>Ffurfiwyd Panel Trothwy Gofal er mwyn sicrhau fod rheolwyr gydol y gwasanaeth yn cael gorolwg dros achosion mwy cymhleth gyda phobl ifanc a allai fod mewn perygl o ddod yn blant sy\u2019n derbyn gofal ac yn cyflawni swyddogaeth sicrhau ansawdd, gan sicrhau fod trefniadau diogelu ar waith i amddiffyn y plant.&nbsp; Fe gynhaliom archwiliad a dod i\u2019r casgliad fod y Panel Trothwy Gofal yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol llai profiadol ac yn rhoi cyfleoedd i ymchwilio i fathau eraill o gymorth gyda chyfraniad gan bartneriaid.&nbsp;&nbsp; Daethpwyd i\u2019r casgliad fod oddeutu 80% o blant a drafodwyd mewn panel wedi cael cefnogaeth i aros gyda\u2019u teuluoedd.&nbsp; Mae\u2019r panel yn dal i ddatblygu a bydd yn ymateb i\u2019r newidiadau arfaethedig yn y Gwasanaeth Trothwy Gofal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"514\" height=\"421\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Building-Blocks-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2078\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Building-Blocks-2.png 514w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Building-Blocks-2-300x246.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 514px) 100vw, 514px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym wedi nodi rhai ffactorau\nallweddol sy\u2019n cyfrannu at ymyrraeth lwyddiannus: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darparu oedolyn caredig y gall yr unigolyn ifanc ymddiried ynddo\/ynddi<\/li><li>Rhannu gwybodaeth<\/li><li>Meithrin perthynas rhwng pawb sy\u2019n rhan o\u2019r broses<\/li><li>Cynlluniau trefnus ac eglur a gaiff eu hadolygu\u2019n gyson<\/li><li>Swyddogaethau a disgwyliadau pendant<\/li><li>Canolbwyntio ar ysgogi newid o ran y rhieni hefyd<\/li><li>Dull rhagweithiol sy\u2019n canolbwyntio ar faterion penodol<\/li><li>Dyfalbarhad a chysondeb<\/li><li>Presenoldeb a chyfraniad amlasiantaethol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygiadau o ran Diogelu Oedolion<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Gweithgor Hunan-esgeuluso<\/strong><br>Sefydlwyd y Gweithgor Hunan-esgeuluso ym mis Chwefror 2017. Diben y gr\u0175p yw gwella ymarfer, a chefnogi gweithwyr cymdeithasol sy\u2019n ymdrin \u00e2 phobl sy\u2019n esgeuluso eu hunain.&nbsp; Y Gweithiwr Cymdeithasol yn aml oedd yr unig weithiwr proffesiynol ynghlwm wrth unrhyw achos fel hyn, ac yn aml iawn roedd yr unigolion dan sylw\u2019n gyndyn o feithrin cyswllt, ac yn byw mewn sefyllfaoedd \u00e2 risg uchel.&nbsp; Dros y flwyddyn aeth heibio mae\u2019r Gweithgor wedi tyfu i gynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau Iechyd Meddwl, Tai, Ambiwlans Cymru, Diogelwch T\u00e2n, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a\u2019r Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ogystal \u00e2 Gofal Cymdeithasol.&nbsp; Pan fydd y gweithgor yn cwrdd bob mis bydd yno siaradwr gwadd yn rhannu gwybodaeth am hunan-esgeuluso.&nbsp; Er enghraifft, cafwyd sgyrsiau gan Therapydd Galwedigaethol sy\u2019n arbenigo mewn celcio, a chyfreithiwr a fu\u2019n rhoi cyngor yngl\u0177n \u00e2\u2019r gyfraith ar hunan-esgeuluso a chelcio.&nbsp; Mae Gweithwyr Cymdeithasol hefyd yn dod i gyflwyno\u2019u hachosion i\u2019r Gweithgor, ac yn cael cynnig cyngor, arweiniad a chymorth asiantaethol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfranogiad<\/strong><br>Caiff unrhyw un y credir sydd mewn cryn berygl oherwydd hunan-esgeuluso wahoddiad i gyfarfod amlasiantaethol ynghyd ag aelodau o\u2019r teulu\/gofalwr.&nbsp; Drwy wneud hyn gellir sicrhau fod yr unigolyn yn ganolog i\u2019r broses drwy\u2019r amser.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth Nesaf?<\/strong><br>Byddwn yn gweithio gyda\u2019n t\u00eem Iechyd a Diogelwch i ddatblygu canllawiau cryno ar gyfer asesu risg. Bydd hynny\u2019n sicrhau fod unrhyw un sy\u2019n hunan-esgeuluso neu\u2019n celcio yn cael asesiad risg trwyadl.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Fforwm Diogelu Oedolion<\/strong><br>Ailsefydlwyd y Fforwm Diogelu Oedolion ac fe\u2019i cynhelir bob deufis. Ceir cynrychiolaeth o bob gwasanaeth perthnasol ym maes Gofal Cymdeithasol, ac mae hynny\u2019n cyfrannu at lwyddiant y Fforwm.&nbsp; Nod y Fforwm yw trafod unrhyw bolisiau a gweithdrefnau newydd a\u2019r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru.&nbsp; Mae\u2019r Fforwm hefyd yn darparu gwybodaeth am unrhyw hyfforddiant sydd ar y gweill neu sydd eisoes wedi digwydd.&nbsp; Caiff y timau oedolion gyfleoedd hefyd i godi unrhyw faterion a hyrwyddo arferion da ym maes Diogelu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 thrafod yr eitemau\nrheolaidd ar y rhaglen, mae\u2019r Fforwm hefyd yn estyn gwahoddiadau i siaradwyr\ngwadd. Hyd yn hyn\nrydym wedi gwahodd Heddlu Gogledd Cymru i drafod Llinellau Sirol a meddiannu\ncartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau.&nbsp; Mae trafodaethau am faterion eraill wedi\u2019u trefnu, gan gynnwys caethwasiaeth\nfodern, <em>Prevent<\/em> ac eiriolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sicrhau Ansawdd ein Prosesau Diogelu<\/strong>&nbsp;&nbsp; <br>Mae Conwy\u2019n ymrwymo i sicrhau ansawdd y gwasanaeth cyfan, gan sicrhau dull cynhwysfawr o reoli ansawdd.&nbsp;&nbsp; Un o\u2019r dulliau pennaf o sicrhau ansawdd yw cynnal adolygiadau ymarfer o fewn y gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau archwilio sy\u2019n gosod fframwaith trefnus ar gyfer y broses. Mae yno ddiwylliant wedi hen sefydlu lle mae gwaith achos yn cael ei adolygu\u2019n rheolaidd a\u2019i archwilio mewn ffordd systematig. <\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw hyn yn rhywbeth sy\u2019n digwydd\nunwaith neu ar ei ben ei hun, ond yn hytrach mae\u2019n gylch parhaus o gynllunio\ngwasanaethau, eu gweithredu a\u2019u hadolygu er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i\nblant a theuluoedd drwy ddatblygu gwybodaeth ac ymarfer proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r adolygiadau ffurfiol\nwedi\u2019u targedu, mae pob rheolwr ac aelod o staff yn gyfrifol am adolygu\ncofnodion achosion yn rheolaidd, gan sicrhau eu bod yn mynd ati\u2019n ddiymdroi i\nganfod unrhyw wybodaeth sydd ar goll.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae goruchwylio\u2019n arf allweddol wrth sicrhau atebolrwydd\na chefnogaeth yn ogystal \u00e2 dysgu a datblygu proffesiynol i bob aelod o staff\nGofal Cymdeithasol. Un agwedd bwysig ar oruchwyliaeth fyfyriol yw galluogi\nstaff i gwestiynu eu hymarfer, dadansoddi\u2019n feirniadol ac arfarnu eu profiadau,\na chael \u00f4l-drafodaeth wedi bod mewn sefyllfaoedd heriol neu ddirdynnol. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Woman-showing-laptop-screen-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2081\" width=\"199\" height=\"308\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Woman-showing-laptop-screen-1.png 309w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Woman-showing-laptop-screen-1-194x300.png 194w\" sizes=\"auto, (max-width: 199px) 100vw, 199px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth a ddysgom ni o&#8217;r Arolwg Dinasyddion? Dywedodd 75% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel.&nbsp; Fel yn y blynyddoedd o\u2019r blaen, y pwnc llosg i\u2019r gr\u0175p hwn o bobl oedd bod ag ofn syrthio, ynghyd \u00e2\u2019r diffyg hyder a ddaw yn sgil hynny wrth fynd o le [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2034,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2074","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2074","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2074"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2074\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2074"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}