{"id":2052,"date":"2019-07-22T16:51:54","date_gmt":"2019-07-22T15:51:54","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2052"},"modified":"2019-08-06T16:19:45","modified_gmt":"2019-08-06T15:19:45","slug":"hyrwyddo-a-hybu-llesiant-y-bobl-syn-cael-cymorth-gennym","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2018-19\/hyrwyddo-a-hybu-llesiant-y-bobl-syn-cael-cymorth-gennym\/","title":{"rendered":"Hyrwyddo a hybu llesiant y bobl sy\u2019n cael cymorth gennym"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Safon Ansawdd 1 &#8211; Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant personol y dymuna pobl eu cyflawni<\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth a ddysgom ni o\u2019r Arolwg Dinasyddion?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><br>Fe holon ni bobl a oeddent wedi derbyn y <strong>wybodaeth a\u2019r cyngor iawn<\/strong> pan roedd angen hynny arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 73% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur a 72% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno eu bod wedi cael y wybodaeth a\u2019r cyngor iawn, a chytunodd 23% arall fod hynny wedi digwydd weithiau.&nbsp; Fe sylwom fod rhai ymatebwyr wedi cyfeirio at gyswllt a gawsant ag asiantaethau a sefydliadau heblaw am Ofal Cymdeithasol, ac felly mae\u2019n anodd dehongli\u2019r ymatebion i ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol Conwy yn benodol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gall cyfathrebu fod yn wael pan mae gofalwyr yn hwyr.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rhaid dweud, os gewch chi&#8217;r person iawn maen nhw&#8217;n dda.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Hapus fy mod yn medru cael yr wybodaeth a&#8217;r cyngor iawn pan oeddwn ei angen.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 68% o\u2019r Gofalwyr a ymatebodd i\u2019r holiadur yn cytuno eu bod wedi derbyn gwybodaeth a chyngor pan roedd angen hynny arnynt, a 25% wedi cael gwybodaeth a chyngor weithiau.&nbsp; Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn dangos cymysgedd o rwystredigaeth a gwerthfawrogiad yngl\u0177n \u00e2\u2019r cymorth a dderbyniwyd.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Nid yw bron dim o&#8217;r gwasanaethau&#8217;n ei gwneud yn amlwg sut i gysylltu a nhw, as fe fyddai rhifau ff\u00f4n wedi bod yn ddefnyddiol.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n teimlo fod yno dipyn o beryglon, a\u2019ch bod yn colli rheolaeth o ran eich dymuniadau.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><em>Rydym yn cydnabod fod cyfathrebu\u2019n rhywbeth y gallwn bob amser ei wella, ac mae ein timau\u2019n gwneud eu gorau glas i roi manylion cyswllt uniongyrchol i bobl sy\u2019n cael gofal a chymorth gennym. Mae gan ein timau brofiad helaeth o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a gweithio gyda phobl i ganfod beth sy\u2019n bwysig iddynt a pha ganlyniadau y dymunant eu cyflawni. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan i bobl sy\u2019n dymuno cysylltu \u00e2 ni, p\u2019un a ydym yn gwybod amdanynt neu beidio.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Fe holon ni a oedd pobl wedi cael eu <strong>trin \u00e2 pharch ac urddas <\/strong>wrth dderbyn gofal a chymorth gennym.&nbsp; Roedd 95% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur a 91% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rhoddwyd cyngor mewn fford garedig bob amser.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Yn ddi-eithriad roedd y t\u00eem yn barod eu cymwynas ac yn barchus.  Rydyn ni\u2019n eu gweld nhw fwy fel ffrindiau na swyddogion.  Mae\u2019n braf gwybod fod rhywun yn malio.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ydw, rwy\u2019n cael fy nhrin \u00e2 pharth ac urddas yma bob amser.  Nid felly\u2019r oedd hi bob tro yn y cartref diwethaf neu\u2019r ysbyty.  Rwy\u2019n falch o fod yma.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 94% o Ofalwyr yn cytuno y\ncawsant eu trin \u00e2 pharch ac urddas, ac 84% o blant.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe holon ni bobl \u00e2 chynlluniau gofal a chymorth a oeddent yn <strong>gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw <\/strong>yn y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol.&nbsp; Roedd 82% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol ac 85% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw, ond yn \u00f4l rhai o\u2019r sylwadau ychwanegol gallem wneud yn well o ran galluogi i ddefnyddwyr ein gwasanaethau i gysylltu \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019n annheg iawn eu bod nhw\u2019n newid gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol mor aml, a byth yn dweud dim i ni.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Dim bob amser.  Fe gefais amryw rifau ff\u00f4n ond oherwydd materion staffio a gwaith dydych chi bron byth yno.  Dim bai arnoch chi, dim ond un o ffeithiau bywyd yn anffodus.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 70% o blant yn cytuno eu bod yn\ngwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw, ond roeddent fel arfer yn gwneud hynny drwy eu\nrhieni, rhieni maeth neu\u2019r ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe holon ni bobl a oeddent yn teimlo\u2019n <strong>rhan o unrhyw benderfyniadau<\/strong> a wnaethpwyd am eu gofal a\u2019u cymorth.&nbsp; Roedd 78% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur a 73% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno y buont yn rhan o\u2019r penderfyniadau.&nbsp; Roedd 77% o Ofalwyr yn cytuno hefyd, ond yn \u00f4l rhai o\u2019r sylwadau ategol mae pobl yn rhwystredig yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn y gellir ei gyflawni o fewn eu pecynnau gofal a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019n ymddangos imi fod pobl \u00e2 dementia\u2019n ei chael yn haws derbyn gofal gan rywun cyfarwydd \u2013 ond mae\u2019r wynebau\u2019n newid o hyd.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Pam na fedrwn gael seibiant ar y penwythnos o bryd i\u2019w gilydd?<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><em>Mae ein t\u00eem o Weithwyr Cymorth Cymunedol yn arbennig mewn gweithio \u00e2 phobl\na dementia er mwyn sicrhau y c\u00e2nt ofal a chymorth o\u2019r radd flaenaf.<\/em><em>&nbsp;\n<\/em><em>Mae panel yn cwrdd yn rheolaidd i ystyried ceisiadau am\nofal seibiant, ac mae\u2019r penderfyniadau\u2019n seiliedig ar y polisi seibiant\nrhanbarthol, gan ystyried amgylchiadau pob unigolyn hefyd.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 69% o blant yn cytuno y gwrandawyd ar eu safbwyntiau, ac roedd y sylwadau ychwanegol yn gymysgedd o rai cadarnhaol a negyddol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn gwrando.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae nhw\u2019n gwrando os oes angen cymorth arnaf.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gofynnwyd yn yr arolwg a oedd pobl <strong>yn fodlon gyda\u2019r gofal a chymorth<\/strong> yr oeddent wedi\u2019i dderbyn.&nbsp; Dywedodd 86% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur eu bod yn fodlon, ac roedd 84% o\u2019r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r diolch i\u2019r gofal a chymorth a gefais yma am fod fy iechyd meddwl wedi gwella cymaint.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gan amlaf \u2013 ond angen gwybod pwy fydd yn fy nghefnogi \u2013 yn aml mae\u2019n rhywun gwahanol bob dydd. <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Dywedodd 73% o Ofalwyr eu bod <strong>yn hapus gyda\u2019r gofal a chymorth<\/strong> a dderbyniont.&nbsp; Ymddengys bod Gofalwyr yn dibynnu ar amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer cyngor a chymorth, a gall ymyriadau priodol wedi\u2019u targedu wneud byd o wahaniaeth o ran ansawdd eu bywydau.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd beth a gynigiwyd mor gefnogol \u00e2 phosib, ond roedd y terfyn amser yn creu pwysau.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd y gweithwyr gofal a ddaeth i mewn yn rhy ifanc\/dibrofiad i ddarparu\u2019r \u2018cwmpeini\u2019 y\u2019u penodwyd i ddarparu.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Dywedodd 76% o blant eu bod yn hapus gyda\u2019r gofal a chymorth a roddwyd, ac ar sail y sylwadau ychwanegol mae\u2019n amlwg ei bod yn bwysig iddynt fod yn ganolog i\u2019r broses fel unigolion. <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe ges i fy nhrin fel rhif ar restr, yn hytrach nag unigolyn.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r rhestr aros yn rhy hir, ac wedyn mae\u2019r gwasanaeth ei hun yn gyfyng iawn, dim ond awr yr wythnos efallai.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><em>Mae gweithio\u2019n unol \u00e2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn golygu ein bod yn gosod yr unigolyn yn ganolog i\u2019r drefn asesu, ac yn sicrhau y gallant fynegi eu safbwyntiau a\u2019u dymuniadau ar bob cam wrth iddynt dderbyn gofal a chymorth.&nbsp; Fe wnawn ein gorau glas i ddarparu\u2019r gwasanaeth gorau posib gyda\u2019r adnoddau sydd gennym, a chyfeirio pobl at sefydliadau neu wasanaethau eraill perthnasol a fedrai gynnig mwy o gymorth.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ym mha ffyrdd eraill ydym ni\u2019n cyflawni\u2019r Safon Ansawdd hon?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Meithrin Cyswllt \u00e2 Gwasanaethau i Bobl H\u0177n<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Monitro Ansawdd y Gwasanaethau Ailalluogi<\/strong><br>Mae ein T\u00eem Pobl H\u0177n yn arbenigo mewn gwasanaethau ailalluogi sy\u2019n cefnogi pobl am gyfnodau byr i adennill eu hannibyniaeth.&nbsp; Wedi i\u2019n gwaith ni ddod i ben byddwn yn gofyn am ymateb gan bawb sydd wedi cael cymorth, gan holi i ba raddau y cawsant eu cynnwys wrth bennu canlyniadau personol, i ba raddau y cyflawnwyd y canlyniadau hynny, a sut brofiad oedd gweithio gyda\u2019r t\u00eem yn gyffredinol.&nbsp; Dyma fraslun o\u2019r ymateb a gafwyd ers mis Hydref 2018:<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 98% o bobl a dderbyniodd\nwasanaeth ailalluogi\u2019n cytuno eu bod wedi\u2019u cynnwys yn y drefn o gytuno ar eu\ncymorth a\u2019i gynllunio.<\/p>\n\n\n\n<p>Teimlai 98% y bodlonwyd eu\ndisgwyliadau o\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd 97% fod Gofal Cymdeithasol\nConwy wedi pennu eu canlyniadau gyda nhw pan ddechreuodd y gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Teimlai 96% eu bod wedi cyflawni\u2019r\ncanlyniadau a bennwyd erbyn i\u2019r cymorth ddod i ben.<\/p>\n\n\n\n<p>Teimlai 67% y rhoddwyd ystyriaeth i\u2019w\ndymuniadau diwylliannol\/crefyddol yn ystod yr ymyrraeth, ond nid oedd hynny\u2019n\nberthnasol i 32% o\u2019r rhai hynny a dderbyniodd y gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Teimlai 96% fod y cymorth a roddwyd\nyn hyblyg, er enghraifft, o ran amserau ymweld, hyd pob ymweliad ac yn y blaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 93% yn cytuno fod y cymorth a\ngawsant yn gyson, hynny yw, mai\u2019r un aelod o staff a fu\u2019n ymweld \u00e2 hwy gydol y\ncyfnod ymyrryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Teimlai 97% fod y cymorth a gawsant\nwedi\u2019u galluogi i wneud cymaint \u00e2 phosib drostynt eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd 100% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Elderly-Assessment-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2053\" width=\"258\" height=\"279\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Elderly-Assessment-1.png 865w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Elderly-Assessment-1-277x300.png 277w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Elderly-Assessment-1-768x831.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 258px) 100vw, 258px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe wnaethon nhw&#8217;n fendigedig.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cymorth gwych.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Caredig a gofalgar dros ben.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p><strong>Gweithio\u2019n fwy effeithlon gyda\u2019n partneriaid Iechyd<\/strong><br>Yn y flwyddyn aeth heibio rydym wedi adolygu\u2019r drefn atgyfeirio ar gyfer cleifion sy\u2019n trosglwyddo o Ysbyty Glan Clwyd i wasanaethau Gofal Cymdeithasol Conwy.&nbsp; Yn y gorffennol byddai pob atgyfeiriad o Ysbyty Glan Clwyd yn mynd yn syth at Weithiwr Cymdeithasol, a gallai hynny beri ychydig o oedi i bobl.&nbsp; Wedi penderfynu bwrw golwg ar bob un o\u2019r achosion hyn fe welom nad oedd angen Gweithiwr Cymdeithasol o gwbl ar lawer iawn o\u2019r bobl dan sylw. <\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i hyn, y Therapydd Galwedigaethol Iechyd yn Ysbyty Glan Clwyd\nsydd bellach yn cymryd yr awenau gyda chynlluniau pobl ar gyfer dod allan o\u2019r\nysbyty.&nbsp; Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn gwneud\nasesiad ac yn nodi unrhyw anghenion, er enghraifft, o ran ailalluogi.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r broses newydd yn symlach, yn fwy effeithlon ac yn fwy prydlon i\u2019r unigolyn.&nbsp; Caiff unigolion hefyd eu hasesu gyda\u2019r nod o bennu canlyniadau y dymuna\u2019r unigolyn eu cyflawni yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Meithrin Cyswllt \u00e2 Phlant sy\u2019n Derbyn Gofal a Phobl Ifanc sy\u2019n Gadael Gofal<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Fforwm Lleisiau Cryf<\/strong><br>Er mwyn sicrhau fod llais gan Blant a Phobl Ifanc sy\u2019n derbyn gofal gennym, rydym wedi hwyluso dau fforwm ymgynghorol rheolaidd yng Nghonwy.&nbsp; Mae\u2019r Fforwm Lleisiau Cryf yn agored i bob plentyn sy\u2019n derbyn gofal rhwng 5 a 15 mlwydd oed.&nbsp; Caiff y Fforwm ei gefnogi a\u2019i gydlynu gan Swyddog Cyfranogi Ieuenctid a Swyddogion Adolygu Annibynnol, a chynhelir y cyfarfodydd mewn clwb ieuenctid lleol yn rheolaidd.&nbsp; Nod y fforwm yw dysgu gan ein plant a phobl ifanc beth sy\u2019n digwydd yn eu bywydau a gweld beth arall y gallwn ni, fel gweithwyr proffesiynol, ei ddysgu ganddynt.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p wedi trafod a lleisio barn yngl\u0177n \u00e2 chreu proffil un tudalen ar gyfer pob gweithiwr \u2013 taflen wybodaeth \u2018Popeth Amdanaf I\u2019.&nbsp; Roedd y plant yn rhan o benderfynu pa gwestiynau y dylid eu cynnwys, a\u2019r wybodaeth y dymunant i\u2019r Gweithwyr Cymdeithasol ei darparu<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Siapio Dyfodol<\/strong><br>Siapio Dyfodol yw\u2019r gr\u0175p sy\u2019n cynrychioli pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sy\u2019n derbyn gofal ac yn paratoi i adael gofal.&nbsp; Mae\u2019r gr\u0175p yn gweithio ar bynciau a syniadau y mae\u2019r bobl ifanc eu hunain yn eu cynnig.&nbsp; Dan sylw mae pethau fel cynlluniau gofal, adolygiadau, cyfweliadau ymadael ac ymgyngoriadau allanol rheolaidd.&nbsp; Y nod yw rhoi llais i\u2019r holl blant a phobl ifanc yng Nghonwy sy\u2019n derbyn gwasanaeth Gofal Cymdeithasol, a mynegi eu hanghenion a\u2019u safbwyntiau.&nbsp; Yn y flwyddyn aeth heibio bu\u2019r gr\u0175p yn gweithio\u2019n galed wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymgyngoriadau a gweithdai.&nbsp; Dyma rai enghreifftiau: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy;<\/li><li>Sesiwn Deall dy Hawliau, Deall dy Fudd-daliadau;<\/li><li>Cwrdd ag Arolygiaeth Gofal Cymru fis Medi 2018;<\/li><li>Gweithdai ymgynghori gyda <em>Voices from\nCare<\/em>;<\/li><li>Rhoi sylwadau i Gomisiynydd Plant Cymru ar yr Adroddiad Breuddwydion Cudd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Beth Nesaf?<\/strong><br>Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffyrdd inni feithrin cyswllt \u00e2 phlant a phobl ifanc.&nbsp; Bydd y gwaith yn cynnwys ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol a gweithio\u2019n agos \u00e2 phobl ifanc sy\u2019n gadael gofal er mwyn sicrhau y gallant gael gafael ar y wybodaeth iawn.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynadleddau Amddiffyn Plant<\/strong><br>Pan fyddwn yn cynnal Cynadleddau Amddiffyn Plant rydym yn annog plant i fod yn bresennol os ydyn nhw\u2019n ddigon hen, ac os ydynt yn dymuno bod yno.&nbsp; Cyn y cyfarfod bydd ein Cydlynydd Amddiffyn Plant yn cynnig cwrdd \u00e2\u2019r plentyn i glywed ei safbwyntiau a sicrhau y clywir llais y plentyn ac y caiff dymuniadau\u2019r plentyn eu hystyried.&nbsp; Gobeithiwn gryfhau pethau ymhellach yn y maes hwn drwy greu swyddi Diogelu ac Adolygu Annibynnol a byddwn yn s\u00f4n am y cynnydd yn hyn o beth yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diwrnod Dathlu i Blant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/strong> <br>Yn yr haf fe gynhaliom ddiwrnod o ddathlu ac adloniant i blant a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal.&nbsp; Fe fuom yn ymgynghori \u00e2 hwy ymlaen llaw i gael gwybod pa fath o weithgareddau y dymunant eu gweld ar y diwrnod, gan sicrhau fod yno rywbeth at ddant plant a phobl ifanc o bob oed.&nbsp; Roedd y plant h\u0177n yn arbennig o hoff o\u2019r gweithgareddau \u2018<em>Boom Box<\/em>\u2019 a oedd yn gyfle iddynt arddangos eu sgiliau rapio!&nbsp; Hefyd fe gynhaliom sesiynau crefft er mwyn annog y plant i gyd i gymryd rhan, a mynd \u00e2\u2019u creadigaethau adref.&nbsp; Yn y prynhawn cafodd y plant dystysgrifau i gydnabod beth oeddent wedi\u2019i gyflawni.  <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Safon Ansawdd 1 &#8211; Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant personol y dymuna pobl eu cyflawni Beth a ddysgom ni o\u2019r Arolwg Dinasyddion? Fe holon ni bobl a oeddent wedi derbyn y wybodaeth a\u2019r cyngor iawn pan roedd angen hynny arnynt. Roedd 73% o\u2019r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o\u2019r holiadur [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2034,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2052","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2052"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2052"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}