{"id":2038,"date":"2019-07-22T16:16:30","date_gmt":"2019-07-22T15:16:30","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2038"},"modified":"2019-07-22T16:16:34","modified_gmt":"2019-07-22T15:16:34","slug":"crynodeb-o-berfformiad-gan-y-cyfarwyddwr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2018-19\/crynodeb-o-berfformiad-gan-y-cyfarwyddwr\/","title":{"rendered":"Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr"},"content":{"rendered":"\n<p>Croeso i Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar\ngyfer 2018-19. Mae\u2019n braf gweld ffocws cryf ar ddechrau\u2019r adroddiad ar y\ngweithgarwch sylweddol i feithrin cyswllt \u00e2 phobl gydol y flwyddyn trwy\narolygon, siarad gyda phobl a chefnogi digwyddiadau o bwys. Rydym wedi\nllunio adroddiad ymgysylltu y byddwn yn ei rannu\u2019n eang er mwyn dangos ein\nhymrwymiad go iawn i barchu barn a safbwyntiau ein cwsmeriaid. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r adroddiad eleni yn datgan ein hymrwymiad i iechyd a lles emosiynol\nein preswylwyr wrth i ni symud at fodel sy\u2019n cydnabod \u2018help cynnar ar yr amser\nsydd ei angen arnom&#8217; fel cysyniad allweddol sy\u2019n bwysig i bobl. Mae cadw\u2019n\nbrysur, cael mynediad at gyfleoedd chwarae a datblygu grwpiau targed i hyrwyddo\ngweithgarwch corfforol i\u2019r rheiny sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau i gyd yn\nallweddol yn hyn o beth. Rydym yn gweithio\u2019n galed gyda\u2019n\npartneriaid i hybu gwytnwch emosiynol ac iechyd meddwl \u2018da\u2019 ar draws nifer o\nfeysydd gwasanaeth mewn gwahanol ffyrdd, ac mae llawer o enghreifftiau da i\u2019w\ngweld yn yr ail ran o\u2019r adroddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae diogelu yn dal i fod yn ymrwymiad corfforaethol ac rydym yn falch ein\nbod wedi llwyddo i ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn am ein\nhymgyrch i atal Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant, wrth i ni gydweithio \u00e2\u2019n\npartneriaid allweddol a phobl ifanc sydd wedi byw trwy&#8217;r profiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gweithio i hybu annibyniaeth a gwytnwch yn un o\u2019n haddewidion ac mae\u2019r\nadroddiad yn cyfeirio at amryw o weithgareddau sy\u2019n cefnogi hyn, gan gynnwys\nymyriadau i gefnogi teuluoedd, datblygu a hyfforddi gofalwyr maeth, a\nchynlluniau i hybu sgiliau pobl i gael gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe soniom am ein darpariaeth o ran ymyrraeth gynnar yn adroddiad y llynedd\nac rydym yn falch o weld bod y datblygiadau wedi dwyn ffrwyth, gan gynnwys ein\nmosaig cefnogaeth, canolfannau teuluoedd a thimau cefnogi teuluoedd wedi&#8217;u\nsefydlu mewn cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni allaf s\u00f4n am y llwyddiannau hyn heb dalu teyrnged i\u2019r t\u00eem ardderchog\nsy\u2019n ein galluogi i gyflawni ein dyheadau a rhagori arnynt, gan gynnwys y\ngweithlu cyfan, ein t\u00eem ansawdd a monitro, y t\u00eem comisiynu a\u2019n t\u00eem cymorth\nbusnes. Mae yno heriau inni hefyd wrth i ni ddal i wynebu prinder\nadnoddau sy\u2019n golygu bod yn rhaid i ni ddarparu mwy gyda llai flwyddyn ar \u00f4l\nblwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Sut ydym ni\u2019n gwybod a ydym ar y trywydd cywir?\nMae\u2019r atodlen berfformiad ar ddiwedd\nyr adroddiad yn dangos patrwm sefydlog a chyson, ac mae hynny\u2019n dod i\u2019r amlwg\npan fydd cyrff rheoleiddio\u2019n ymweld \u00e2 ni gydol y flwyddyn i gynnal amryw\narolygon.<\/p>\n\n\n\n<p>I gloi, hoffwn ddiolch i\u2019r t\u00eem a gefnogodd y gwaith o greu\u2019r adroddiad hwn\na hefyd am y gefnogaeth ddemocrataidd yr ydym yn dal i\u2019w derbyn wrth i ni\ngeisio darparu gofal cymdeithasol o safon dda i drigolion Conwy.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"228\" height=\"304\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2019\/07\/Jenny-Williams-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2039\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Jenny-Williams-1.jpg 228w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Jenny-Williams-1-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 228px) 100vw, 228px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Jenny Williams<\/strong><br>Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg<br>Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Croeso i Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018-19. Mae\u2019n braf gweld ffocws cryf ar ddechrau\u2019r adroddiad ar y gweithgarwch sylweddol i feithrin cyswllt \u00e2 phobl gydol y flwyddyn trwy arolygon, siarad gyda phobl a chefnogi digwyddiadau o bwys. Rydym wedi llunio adroddiad ymgysylltu y byddwn yn ei rannu\u2019n eang er mwyn dangos [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2034,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2038","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2038","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2038"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2038\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2038"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}