{"id":1775,"date":"2018-08-07T12:34:09","date_gmt":"2018-08-07T11:34:09","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1775"},"modified":"2018-08-13T11:05:36","modified_gmt":"2018-08-13T10:05:36","slug":"safon-ansawdd-1-gweithio-gyda-phobl-i-ddiffinio-a-chyd-gynhyrchu-canlyniadau-lles-personol-y-mae-pobl-yn-dymuno-eu-cyflawni","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/safon-ansawdd-1-gweithio-gyda-phobl-i-ddiffinio-a-chyd-gynhyrchu-canlyniadau-lles-personol-y-mae-pobl-yn-dymuno-eu-cyflawni\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 1 &#8211; Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni"},"content":{"rendered":"<p><em>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym<\/em><\/p>\n<p><strong>Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn yr wybodaeth a\u2019r cyngor cywir pan roeddynt ei angen<\/strong><\/p>\n<p>Roedd 72% o ofalwyr, 77% o blant a 79% o oedolion yn cytuno gyda\u2019r datganiad hwn. Nid oedd rhai pobl yn si\u0175r beth oedd ar gael iddynt ac felly nid oeddent yn teimlo y gallant ofyn y cwestiynau cywir. Roedd eraill yn ei chael yn anodd cael mynediad i wybodaeth ac yn teimlo y byddant yn manteisio o gyswllt amlach a mwy cyson gyda ni pan fydd eu cynllun gofal a chymorth ar waith.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-1694 alignnone\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/My-Wellbeing-Circle-W.jpg\" alt=\"\" width=\"447\" height=\"399\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/My-Wellbeing-Circle-W.jpg 447w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/My-Wellbeing-Circle-W-300x268.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 447px) 100vw, 447px\" \/><\/p>\n<p><strong>Pobl yn dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch<br \/>\n<\/strong>Roedd 98% o ofalwyr, 80% o blant a 93% o oedolion yn cytuno eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #333333;\">Mae gen i d\u00eem gwych o ofalwyr sydd bob amser yn gl\u00ean a gofalus ohonof<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #333333;\">Bob amser, ac mae dealltwriaeth ein gweithwyr cymdeithasol wedi gwneud y broses o ofalu yn haws.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pobl sydd \u00e2 chynllun gofal a chymorth yn dweud eu bod wedi cael gwybodaeth ysgrifenedig am eu gweithiwr penodedig yn y gwasanaethau cymdeithasol<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae 83% o ofalwyr, 85% o blant a 81% o oedolion yn cytuno eu bod yn gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw am eu gofal a chefnogaeth, ond, mae sylwadau ychwanegol yn datgelu bod rhai yn teimlo rhwystredigaeth gyda&#8217;r broses o gael cefnogaeth ac yn teimlo eu bod yn cael eu pasio o un adran i\u2019r llall. Nododd rhai gofalwyr pa mor werthfawr oedd aelodau staff penodol wrth gefnogi eu dyletswyddau gofalu a gwahaniaeth mor gadarnhaol y mae wedi\u2019i wneud i\u2019w bywydau.<\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #333333;\">Cymorth gyda gofal seibiant yw\u2019r unig beth sydd wedi ein cadw yn gall a\u2019n galluogi i fynd ar wyliau gyda theulu a ffrindiau heb boeni \u2013 cefnogaeth ardderchog, Diolch.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pobl yn rhoi gwybod eu bod yn teimlo yn rhan o unrhyw benderfyniadau yngl\u0177n \u00e2\u2019u gofal a chymorth<br \/>\n<\/strong>Roedd 81% o ofalwyr, 76% o blant a 76% o oedolion yn cytuno, gydag ymatebwyr o bob gr\u0175p yn nodi bod hwn yn gyfrifoldeb ar y cyd, neu ar ran aelodau eraill o\u2019r teulu.<\/p>\n<p><strong>Pobl sydd yn fodlon gyda\u2019r gofal a chymorth y maent wedi\u2019i dderbyn <\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Roedd 70% o ofalwyr, 78% o blant a 87% o oedolion yn fodlon gyda\u2019r gofal a chymorth y maent wedi\u2019i dderbyn gan Gonwy. Mae\u2019r sylwadau ychwanegol a gafwyd yn arddangos ystod o safbwyntiau; hoffai rhai gael mwy o gefnogaeth ond yn cydnabod bod adnoddau yn gyfyngedig. Roedd eraill yn gwerthfawrogi bod angen cefnogaeth ar gyfer eu llesiant ac yn canmol y staff oedd ynghlwm \u00e2\u2019u gofal.<\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #333333;\">Os oes un peth roeddwn yn hapus gydag o, y merched oedd yn gofalu amdanaf oedd hynny, roedd pob un ohonynt yn A1.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019n bwysig i ni bod pobl sy\u2019n cael gofal a chefnogaeth yng Nghonwy yn cael eu trin ag urddas, parch a charedigrwydd, felly mae\u2019n bleser derbyn adborth a diolch gan ddefnyddwyr gwasanaeth a\u2019u teuluoedd sy\u2019n cadarnhau hyn. Mae ein t\u00eem ailalluogi Pobl H\u0177n yn derbyn llythyrau a chardiau yn rheolaidd sy\u2019n dangos y rhyddhad a\u2019r gwerthfawrogiad bod gofal o ansawdd yn cael ei ddarparu. Dyma rai enghreifftiau o\u2019r sylwadau a gafwyd:<\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #333333;\">Roedd fy ngwraig yn gwerthfawrogi\u2019r modd cyfeillgar, proffesiynol ac ymroddedig y gwnaeth [y gofalwyr] eu dyletswyddau \u2026\u2026.hoffwn innau hefyd ddiolch i\u2019r merched am dawelu unrhyw bryder oedd gennym, gan fod y rhain yn brofiadau newydd i ni.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #333333;\">Roedd gan y staff berthynas hyfryd gyda fy mam a gwnaethant ddiwallu ei hanghenion gyda chyfeillgarwch a chynhesrwydd \u2026..hoffwn i chi wybod pa mor werthfawr yw\u2019r gwasanaeth hwn i bobl fel fy niweddar fam a gofynnaf i chi basio ein gwerthfawrogiad i\u2019r t\u00eem bendigedig o staff gofal a wnaeth eu gorau iddi.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #333333;\">Hoffwn ddiolch yn fawr i bob dynes ddaeth ataf yn ystod fy nghyfnod gofal o chwech wythnos. Roeddech i gyd mor hyfryd a charedig, ni fyddwn wedi gallu ymdopi heboch chi. Rwy\u2019n eich caru chi i gyd.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Perfformiad Arall<br \/>\n<\/strong>Nid oedd 81% o oedolion a gafodd gyngor a chefnogaeth gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth angen cysylltu \u00e2\u2019r gwasanaeth eto o fewn 6 mis. Rydym yn falch o\u2019r llwyddiant hwn gan ein bod yn sylweddol uwch na Chyfartaledd Cymru gyda\u2019r canlyniad hwn. (PMA23)<\/p>\n<p>Gwnaethom gwblhau 100% o asesiadau ar gyfer plant o fewn y graddfeydd amser statudol (PMC24)<\/p>\n<h3><strong>Rhaglen Timau Adnoddau Cymunedol<\/strong><\/h3>\n<p>Rydym wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019n partneriaid i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac ystyried ffyrdd o wella ein hygyrchedd i ddinasyddion ledled Conwy. Rydym yn bwriadu sefydlu Timau Adnoddau Cymunedol a fydd yn cynnwys timau o weithwyr proffesiynol, yn gweithio <strong>mewn <\/strong>cymunedau i ddarparu cefnogaeth iechyd, lles a gofal cymdeithasol i ardaloedd dynodedig.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu i drafod sut y gall timau amrywiol weithio mewn ffordd mwy integredig a sicrhau bod y model gwasanaeth newydd yn addas ar gyfer ei bwrpas ac yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mae adborth wedi tynnu sylw at them\u00e2u ailadroddus mewn perthynas \u00e2 thechnoleg gwybodaeth, yr angen am gydlyniad a chyfathrebu lleol, symleiddio prosesau cyfredol a phwysigrwydd defnyddio arbenigedd y staff cywir ym mhob lleoliad.<\/p>\n<p>Amcanion y Rhaglen T\u00eem Adnoddau Cymunedol yw sicrhau:<\/p>\n<ul>\n<li>Model darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer bob cymuned<\/li>\n<li>Gwasanaethau wedi\u2019u cydlynu ac yn canolbwyntio ar y person ar gyfer pob dinesydd sydd eu hangen<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Gwaith partneriaeth ynghylch yr unigolyn<\/li>\n<li>Agwedd ataliol i wneud y gorau o annibyniaeth a gwytnwch<\/li>\n<li>Model gwaith effeithlon ac integredig<\/li>\n<li>Gwasanaethau sy\u2019n gweithredu 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-1692 alignright\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Community-Resource-Team-W.jpg\" alt=\"\" width=\"330\" height=\"215\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Community-Resource-Team-W.jpg 468w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Community-Resource-Team-W-300x196.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 330px) 100vw, 330px\" \/><\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd gwaith yn parhau i archwilio\u2019r cyfleoedd i adeiladu ar y trefniadau gwaith partneriaeth cyfredol a sefydlu\u2019r model gwaith mwyaf effeithiol. Yn syml, dylai edrych fel y model hwn ar y dde:<\/p>\n<h3><strong>Sgyrsiau sy\u2019n Canolbwyntio ar Ganlyniadau<br \/>\n<\/strong><\/h3>\n<p>Mae sgyrsiau seiliedig ar ganlyniadau yn ganolog i brosiect arbrofol yng Ngwasanaeth Plant a Theuluoedd Conwy ac eisoes wedi\u2019i sefydlu yn y Gwasanaeth Pobl H\u0177n. Pwrpas y prosiect arbrofol yw archwilio cyfleoedd a heriau gweithredu ffocws ar ganlyniadau personol a theuluoedd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1664 alignleft\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Collaboration-Chalky-People-Circle.png\" alt=\"\" width=\"197\" height=\"131\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Collaboration-Chalky-People-Circle.png 1920w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Collaboration-Chalky-People-Circle-300x200.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Collaboration-Chalky-People-Circle-768x512.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Collaboration-Chalky-People-Circle-1024x683.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Collaboration-Chalky-People-Circle-20x13.png 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 197px) 100vw, 197px\" \/>Mae agwedd seiliedig ar ganlyniadau yn dechrau trwy dreulio amser yn deall beth sy\u2019n bwysig i\u2019r unigolyn a\u2019u teulu. Mae hyn yn annog sefydliadau i symud oddi wrth agweddau a arweinir gan wasanaethau a\u2019u herio i feddwl mewn modd sy\u2019n canolbwyntio ar y person. Ni ellir cyflawni canlyniadau trwy ddarparwr gwasanaeth sengl bob amser. Mae elfennau cadarnhaol yr agwedd hon yn cynnwys gwelliannau mewn perthnasau rhwng gweithwyr cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaeth, a materion craidd yn cael eu nodi mewn modd newydd, a defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a&#8217;u grymuso i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r agwedd hon yn cydnabod bod canlyniadau yn cael eu cyflawni o fewn rhwydwaith ehangach y teulu, y gymuned leol a systemau gofal Cymdeithasol.<\/p>\n<p><em>Mae\u2019r adborth wedi bod yn gadarnhaol:<\/em><\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #333333;\">Pan oeddwn yn cwffio gyda fy mrawd byddai hi [Gweithiwr Cymdeithasol] yn siarad gyda mi ac yn fy mhwyllo. Ceisiodd hefyd fy helpu cymaint \u00e2 phosibl, a gwrando arnaf.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #333333;\">Mae hi [Gweithiwr Cymdeithasol] yn fy mhwyllo pan fyddaf yn ei gweld hi. Mae\u2019n hawdd siarad gyda hi hefyd. Mae hi wir wedi ein helpu.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p>Rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i weithredu\u2019r newid agwedd hwn. Bydd hefyd yn gofyn am drafodaethau medrus i gael cydbwysedd rhwng darparu gofal a diogelu rhag niwed, tra\u2019n parchu\u2019r gwahanol aelodau o\u2019r teulu.<\/p>\n<p><strong>I\u2019r dyfodol, <\/strong>y nod yw i unigolion ymgysylltu \u00e2&#8217;r canlyniadau sy\u2019n bwysig, tra bod ymarferwyr yn gweithio tuag at newidiadau cynaliadwy. Gobeithir y bydd yr agwedd hon yn arwain at leihad mewn atgyfeiriadau, lleihad mewn llwyth achosion a lleihad yn nifer y plant sydd dan ofal neu ar y Gofrestr Diogelu Plant. Yn seiliedig ar yr effaith, bydd cyflwyniad parhaus yn y Gwasanaeth Pobl H\u0177n a\u2019r holl wasanaethau eraill yn 2018-19.<strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3><strong>T\u00eem Ymylon Gofal<\/strong><\/h3>\n<p>Yng Nghonwy rydym yn ceisio cefnogi teuluoedd i gadw pobl ifanc yn ddiogel, gartref, ac atal plant a phobl ifanc rhag gorfod mynd i\u2019r system ofal. Mae ein T\u00eem Ymylon Gofal wedi\u2019i greu i helpu i atal rhwyg mewn teuluoedd, lleihau\u2019r angen i dderbyn plant i ofal a gwella profiadau plant sydd eisoes dan ofal. Trwy ddarparu cefnogaeth ddwys ac ymarferol i\u2019r teulu yn eu hamgylchedd cartref, mae gwaith y t\u00eem yn canolbwyntio ar anghenion unigol y teulu ac yn mabwysiadu agwedd integredig i osgoi argyfwng yn y cartref. Mae staff yn brofiadol ac wedi\u2019u hyfforddi i safon uchel i gydbwyso\u2019r angen am ymyrraeth uniongyrchol ac wedi\u2019i dargedu, ac mae gweithio gyda theuluoedd ar nodau tymor hir yn ceisio datblygu sgiliau datrys problemau, gwella gwytnwch a chyflawni newid ymddygiad cadarnhaol a chynaliadwy.<\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn gweithio ochr yn ochr \u00e2 thimau ac asiantaethau eraill fel y T\u00eem o Amgylch y Teulu, y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau, Tai, gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, ac eraill, i sicrhau bod ymyraethau mor effeithiol \u00e2 phosibl.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn yr wybodaeth a\u2019r cyngor cywir pan roeddynt ei angen Roedd 72% o ofalwyr, 77% o blant a 79% o oedolion yn cytuno gyda\u2019r datganiad hwn. Nid oedd rhai pobl yn si\u0175r beth oedd ar gael iddynt ac felly nid oeddent [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1775","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1775","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1775"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1775\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1775"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}