{"id":1771,"date":"2018-08-07T12:33:28","date_gmt":"2018-08-07T11:33:28","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1771"},"modified":"2018-08-07T13:10:17","modified_gmt":"2018-08-07T12:10:17","slug":"safon-ansawdd-3-amddiffyn-a-diogelu-pobl-rhag-camdriniaeth-esgeulustod-neu-niwed","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/safon-ansawdd-3-amddiffyn-a-diogelu-pobl-rhag-camdriniaeth-esgeulustod-neu-niwed\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 3 &#8211; Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed"},"content":{"rendered":"<p><em>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym<\/em><\/p>\n<p><strong>Pobl yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel<\/strong><\/p>\n<p>Mae 79% o ofalwyr, 90% o blant a 77% o oedolion yn teimlo\u2019n ddiogel rhag unrhyw fath o gamdriniaeth, niwed corfforol neu godwm y tu mewn neu\u2019r tu allan i\u2019w cartref. \u00a0Mae llawer o\u2019r sylwadau cefnogi gan ofalwyr ac oedolion yn cyfeirio at ofn cael codwm oherwydd cartref anaddas, salwch, oedran neu oherwydd eu bod eisoes wedi cael codwm.<\/p>\n<blockquote><p>Ofn syrthio y tu allan i\u2019m cartref<\/p><\/blockquote>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n baglu yn aml ac rwyf ofn y gallaf frifo fy hun trwy syrthio eto<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pa mor dda ydym ni&#8217;n gwneud?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Rydym yn dal i weithio ar gynnwys ein harferion mewn perthynas ag ymholiadau diogelu oedolion, a chadw llygad ar ein perfformiad (PMA18)<\/li>\n<li>Roedd 11% o\u2019r plant ar y Gofrestr Diogelu Plant wedi\u2019u hailgofrestru (PMC27)<\/li>\n<li>Roedd plant ar y Gofrestr Diogelu Plant am gyfartaledd o 216 diwrnod (PMC28)<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Sut mae Conwy yn cefnogi blaenoriaethau Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cam-fanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant (CSE)<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Conwy wedi buddsoddi amser ac ymdrech sylweddol i wella ymwybyddiaeth a sicrhau cyfathrebu ar draws asiantaethau yn y 12 mis diwethaf. Mae\u2019r Fforwm Camfanteisio&#8217;n Rhywiol ar Blant yn cael ei arwain gan ofal cymdeithasol, ac yn parhau i gael ei gynnal yn rheolaidd gyda chyfraniad amlasiantaeth a chynghorau eraill. Mae Conwy hefyd yn gweithio yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig PC\/PCSO gan mai dyma\u2019r gweithwyr proffesiynol sy\u2019n ymdrin \u00e2 Chamfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, cynhaliwyd gweithdy amlasiantaeth i helpu i wella ymwybyddiaeth ynghylch Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant. Roedd y prynhawn yn cynnwys cynhyrchiad drama \u2018Mirror Mirror\u2019 gan Collingwood Learning Solutions Ltd, cynhyrchiad a ddangoswyd mewn ysgolion uwchradd yng Ngogledd Cymru i wella ymwybyddiaeth ar gyfer pobl ifanc. Cafodd hyn ei ddilyn gan gyflwyniad fideo gan Ms. Gladman, a oedd ynghlwm \u00e2 datgelu\u2019r hyn a ddigwyddodd yn Rotherham. \u00a0Roedd cyfle hefyd i rwydweithio a thrafod beth mwy y gellir ei wneud i helpu i leihau risgiau o\u2019r fath yng Nghonwy. \u00a0Roedd presenoldeb yn cynnwys dros 100 o gynrychiolwyr o aelodau\u2019r Cyngor, adrannau\u2019r Awdurdod Lleol, Arweinwyr Diogelu, Penaethiaid Ysgolion Cynradd, Unedau Atgyfeirio Disgyblion, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd, Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a\u2019r rhai o\u2019r sector preifat neu\u2019r trydydd sector.<\/p>\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Ymyriadau Teuluol [FIT] wedi datblygu rhaglen waith gr\u0175p Camfanteisio&#8217;n Rhywiol ar Blant a elwir yn <strong>\u201cRhaglen Arfogaeth\u201d.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen yn cynnwys perthnasau iach, iechyd rhywiol, meithrin a chamelwa rhywiol, seiberdroseddu\/cyfryngau cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, datgelu a gwaith \u2018cadw\u2019n ddiogel&#8217;, ac mae pwynt cyswllt gydag Addysg, Iechyd, heddlu lleol a gwasanaethau ieuenctid os oes angen cefnogaeth ar \u00f4l y rhaglen.<\/p>\n<p>Cafodd Conwy eu cynrychioli mewn Cynhadledd cenedlaethol Camfanteisio&#8217;n Rhywiol ar Blant yn Llundain, ac maent wedi ychwanegu CSE i\u2019r Llwybr Dysgu Gofalwyr Maeth.<\/p>\n<p><strong>Blaenoriaeth Allweddol:<\/strong> I\u2019r dyfodol, cynhelir Setiau Dysgu bob chwech i wyth wythnos ar gyfer achosion Camfanteisio&#8217;n Rhywiol ar Blant i staff mewnol a gweithwyr proffesiynol allanol sydd ynghlwm. Byddwn hefyd yn gweithredu\u2019r cynllun gweithredu rhanbarthol, ac ychwanegu at y canllawiau statudol, trwy Gr\u0175p Tasg a Gorffen Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong>Ymddygiad Rhywiol Niweidiol<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Darparodd Conwy gwrs Ymddygiad Rhywiol Niweidiol ar gyfer Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol a Staff Cefnogi ac mae wedi comisiynu G Map i ddarparu hyfforddiant arbenigol i Weithwyr Cymdeithasol ar y model asesu \u2018Nod 2\u2019. Mae hwn yn faes lle rydym wedi nodi\u2019r angen am wybodaeth ac arbenigedd penodol. Rydym hefyd yn cyfrannu at archwiliad ymddygiad rhywiol yr NSPCC.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong>Ymateb Rhanbarthol Strategol Ymddygiad Cymryd Risgiau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Arweiniodd Conwy wrth ddatblygu&#8217;r ymateb strategol i blant a phobl ifanc sydd ynghlwm \u00e2\u2019r ymddygiad cymryd risgiau mwyaf cyffredin, fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ymddygiad rhywiol niweidiol, mynd ar goll, agored i gael eu radicaleiddio\/eithafiaeth ayyb. \u00a0Mae\u2019r polisi yn cynnig agwedd holistaidd at ddiogelu\u2019r plant mwyaf diamddiffyn neu mewn perygl, i liniaru\u2019r gofynion cynyddol ar adnoddau rheng flaen yn y sector cyhoeddus a thrydydd sector.<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong>Cam-drin domestig<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Conwy yn cyfrannu at y Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaeth (MARAC) sy\u2019n cefnogi diogelu plant trwy ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol, rhannu gwybodaeth yn amserol ac asesu risgiau i blant. Bydd effaith camdriniaeth domestig ar blant yn lleihau oherwydd y gallant hwy, eu teuluoedd a throseddwyr gael mynediad at ystod ddigonol o wasanaethau lleol wedi\u2019u comisiynu.<\/p>\n<p>Mae modiwl dysgu ar-lein, Trais yn erbyn Merched, Camdriniaeth Ddomestig a Chamdriniaeth Rhywiol (VAWDASA), wedi\u2019i gyflwyno i holl staff y Cyngor ac mae\u2019n ddysg gorfodol ar gyfer staff newydd a phresennol yn yr Awdurdod Lleol. \u00a0Yn rhanbarthol, mae Conwy yn cyfrannu at ddatblygu cwrs \u2018Gofyn a Gweithredu\u2019 VAWDASA Lefel 2.<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong>Addysg yn y Cartref<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Conwy wedi sefydlu arferion mewn perthynas ag Addysg yn y Cartref. \u00a0Bob tymor ysgol, mae Conwy yn cynnal Panel Addysg Cartref sy\u2019n amlasiantaeth. Mae\u2019r Panel yn adolygu unrhyw deuluoedd sydd ddim wedi rhoi tystiolaeth o\u2019r gwaith a gwblhawyd gartref o fewn y cyfnod amser o ddeuddeg mis ac yn ystyried a oes unrhyw bryderon diogelu. \u00a0Os oes pryderon diogelu, bydd gofal cymdeithasol yn gwneud ymholiadau priodol.<\/p>\n<p>Rydym yn aros am ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas \u00e2\u2019r Adroddiad Cascade \u2013 adolygiad seiliedig ar dystiolaeth o\u2019r risgiau i blant a phobl ifanc sy\u2019n cael addysg yn y cartref a\u2019r argymhellion sydd wedi\u2019u cyflwyno.<\/p>\n<ol start=\"6\">\n<li><strong>Codi Ymwybyddiaeth<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Bu ymdrech i sicrhau bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb yng Nghonwy. \u00a0Mae nifer o gamau gweithredu wedi\u2019u cymryd, gan gynnwys hyfforddiant staff ac Aelodau Etholedig, y 3ydd Sector a\u2019r Gweithlu Gofal Uniongyrchol, a gwella arferion rheoli, sicrwydd ansawdd a rhoi gwybod.<\/p>\n<p>Blaenoriaeth allweddol wrth symud ymlaen yw parhau ar y llwybr gwelliant.<\/p>\n<ol start=\"7\">\n<li><strong>Mae canlyniadau ar gyfer oedolion sy&#8217;n destun cynlluniau amddiffyn oedolion wedi gwella o ganlyniad i&#8217;r holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau amddiffyn oedolion o ansawdd yn gyson yn unol \u00e2&#8217;r arfer gorau a gytunwyd. <\/strong><strong> \u00a0\u00a0\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Trwy wella proffil diogelu oedolion a gwella gwaith amlasiantaeth, mae\u2019r nifer cynlluniau diogelu ar gyfer diogelu oedolion wedi codi o 76 yn 2016\/17 i 114 yn 2017\/18. Mae agwedd fwy cyson a dealltwriaeth gyffredin at ddiogelu oedolion trwy ymwybyddiaeth a darpariaeth hyfforddiant.<\/p>\n<ol start=\"8\">\n<li><strong>Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (BDGC) yn sicr o ansawdd gwasanaethau diogelu ar draws Gogledd Cymru <\/strong><strong><br \/>\n<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd achosion diogelu yn cael eu harchwilio a bydd canlyniad yr archwiliadau yn cael eu rhannu gyda BDGC<\/p>\n<ol start=\"9\">\n<li><strong>Mae&#8217;r risg y bydd oedolion diamddiffyn yn dioddef neu&#8217;n destun camdriniaeth neu esgeulustod yn cael ei leihau ac mae&#8217;r cyhoedd yn ymwybodol o&#8217;r angen i ddiogelu ac amddiffyn, ac yn gwybod beth i&#8217;w wneud os oes mater diogelu.<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Rydym yn darparu sesiynau hyfforddiant i staff, yn cynnal sesiynau goruchwylio un i un, yn annog trafodaethau cyfoedion, ac yn cefnogi mynd at reolwyr atebol a\u2019r arweinydd diogelu yn syth os bydd unrhyw bryderon diogelu yn codi yn ein grwpiau staff.<\/p>\n<p>Rydym yn atgoffa <strong>holl <\/strong>staff Conwy bod \u201cdiogelu yn fusnes i bawb\u201d a bod rheolwyr ymroddedig ar gyfer diogelu ym mhob maes gwasanaeth yn y cyngor. \u00a0Mae\u2019r rhain yn cael eu harddangos ar ein mewnrwyd.<\/p>\n<p>Mae ein <a href=\"http:\/\/www.conwy.gov.uk\/en\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Im-worried-about-somebody\/I-am-worried-about-somebody.aspx\">gwefan<\/a> yn rhoi cyfle i&#8217;r cyhoedd roi gwybod am bryderon diogelu ar gyfer oedolion a phlant trwy ein hadran \u2018Rwy\u2019n pryderu am rywun\u2019.<\/p>\n<ol start=\"10\">\n<li><strong> Datblygu ymagwedd amlasiantaeth Gogledd Cymru i ddeall digwyddiadau o hunan-esgeuluso ac anghenion y rhai yr effeithir arnynt<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae ein Polisi Hunan Esgeuluso wedi\u2019i ddyfeisio a\u2019i weithredu ymysg timau staff a\u2019i fabwysiadu fel y weithdrefn ranbarthol. \u00a0Roedd y Pennaeth Gwasanaeth ynghlwm \u00e2 darparu\u2019r hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth.<\/p>\n<p>Mae hefyd wedi\u2019i gyflwyno am wobr Acol\u00e2d.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym Pobl yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel Mae 79% o ofalwyr, 90% o blant a 77% o oedolion yn teimlo\u2019n ddiogel rhag unrhyw fath o gamdriniaeth, niwed corfforol neu godwm y tu mewn neu\u2019r tu allan i\u2019w cartref. \u00a0Mae llawer o\u2019r sylwadau cefnogi gan ofalwyr ac [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":7,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1771","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1771","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1771"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1771\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1771"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}