{"id":1767,"date":"2018-08-07T12:30:19","date_gmt":"2018-08-07T11:30:19","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1767"},"modified":"2018-08-13T10:56:09","modified_gmt":"2018-08-13T09:56:09","slug":"sut-mae-pobl-yn-siapio-ein-gwasanaethau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/sut-mae-pobl-yn-siapio-ein-gwasanaethau\/","title":{"rendered":"Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?"},"content":{"rendered":"<p>Mae darganfod yr hyn sy\u2019n bwysig i bobl yn rhan allweddol o ddatblygu gwasanaethau o ansawdd yng Nghonwy, felly gofynnwn am adborth gan y bobl yr ydym ynghlwm \u00e2 nhw, gan ddefnyddio\u2019r wybodaeth a gawn i wneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.\u00a0 Mae arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor, dros y blynyddoedd, wedi arddangos hygyrchedd ac ymrwymiad i gael barn dinasyddion trwy gynnal sesiynau galw heibio i ddinasyddion roi eu sylwadau a\u2019u barn ar faterion sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r gyllideb, y cynllun corfforaethol a strategaethau moderneiddio.<\/p>\n<p>Mae nifer o enghreifftiau o farn a sylwadau\u2019r cyhoedd yn dylanwadu ar bolis\u00efau a phenderfyniadau yn y Cyngor, er enghraifft, cynllunio cyllideb ar gyfer 16\/17 a 17\/18, penderfyniadau Moderneiddio, a chasgliadau rheoli gwastraff.\u00a0 Mae Rheolyddion wedi rhoi gwybod bod gwaith y Cyngor yn adlewyrchu blaenoriaethau dinasyddion a phartneriaid yn gryno a chlir.<\/p>\n<p>Mae Strategaeth Gyfranogi Gofal Cymdeithasol Conwy yn nodi ymrwymiad clir i ymgysylltu \u00e2 Phlant, Pobl Ifanc, Oedolion a Gofalwyr wrth ddatblygu, cynllunio, darparu ac adolygu&#8217;r gwasanaethau a ddarperir iddynt.\u00a0 Rydym yn gweithio i sicrhau y gwelir dinasyddion Conwy fel partneriaid cyfartal wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.<\/p>\n<p>Bydd barn, safbwyntiau, dymuniadau, teimladau a phrofiadau dinasyddion Conwy yn cael eu casglu trwy ein fforymau a thrwy ymgynghori yn unigol \u00e2 phobl i ategu ein hadolygiadau comisiynu.<\/p>\n<p>Mae dau swyddog cyfranogi llawn amser yn gweithio ar draws y meysydd gwasanaeth gofal cymdeithasol i sicrhau ein bod yn ymgynghori ac ymgysylltu \u00e2 phobl i ategu comisiynu gwasanaethau.<\/p>\n<p><strong>Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion yn gwahodd unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb mewn datblygu a dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghonwy i ymaelodi. Mae ein haelodau yn cynrychioli nifer o feysydd gwasanaeth; pobl h\u0177n, gwasanaethau anabledd, gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, gwasanaethau anabledd corfforol a gwasanaethau triniaeth canser. Mae\u2019r gr\u0175p yn cyfarfod yn fisol ac yn ymgymryd \u00e2\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwaith Ymgynghori Rheolaidd<\/li>\n<li>Testunau Gwaith Dewisol<\/li>\n<li>Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pobl Conwy<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r testunau rydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys camddefnyddio sylweddau a gwaith prosiect pontio\u2019r cenedlaethau.<\/p>\n<p><strong>Er mwyn ymgynghori \u00e2 phlant a phobl ifanc yng Nghonwy, mae gennym 3 fforwm:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Cyngor Ieuenctid Conwy (11-25 oed)<\/li>\n<li>Gr\u0175p Siapio\u2019r Dyfodol ar gyfer Oedolion Ifanc sy\u2019n Gadael Gofal (15-25 oed)<\/li>\n<li>Gr\u0175p Lleisiau Uchel ar gyfer plant dan ofal (7-14 oed)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym yn gweithio mewn cysylltiad \u00e2 Gwasanaethau Ieuenctid Conwy a\u2019r ysgolion uwchradd yng Nghonwy i annog aelodaeth ein grwpiau.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn ymgynghori \u00e2&#8217;r Prosiect Llety Isallt ar gyfer pobl ifanc a all ddod yn ddigartref neu a fydd angen symud llety, ac rydym hefyd yn cefnogi cynghorau ieuenctid yn Unedau Atgyfeirio Disgyblion Conwy.<\/p>\n<p><strong>Arolygon<br \/>\n<\/strong>Yn Gofal Cymdeithasol, bob blwyddyn bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni gasglu data cenedlaethol yngl\u0177n \u00e2 llesiant pobl sy\u2019n cael gwasanaethau gennym; eleni, gwnaethom anfon 2294 o holiaduron i sampl o oedolion, a phob gofalwr, plentyn a person ifanc, a chawsom gyfradd ymateb o 31% ar y cyfan. Gwnaeth 40% o oedolion a gofalwyr ymateb i ni a 12% o blant a phobl ifanc. Rydym wedi dadansoddi\u2019r canlyniadau cyn eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru i\u2019w cyhoeddi.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn gofyn cwestiynau manylach ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol. Er enghraifft, gwnaethom ofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth a\u2019u rhieni\/gofalwyr beth oedd eu barn am y gwasanaeth <strong>Anabledd<\/strong>, gan ganolbwyntio ar ansawdd yr wybodaeth yr ydym yn ei darparu a pha mor dda rydym yn cyfathrebu.<\/p>\n<p><strong>Dyma ddywedodd ein defnyddwyr gwasanaeth:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><i><em>Mae\u2019r rhan fwyaf yn dweud eu bod yn cael digon o wybodaeth am y gwasanaeth.<\/em><\/i><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Nid oedd pawb wedi clywed am ein tudalennau gwe Anabledd, nac wedi clywed am, na defnyddio\u2019r wefan Dewis.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Nid oedd pawb yn credu ei bod yn hawdd cysylltu \u00e2 ni, er bod rhai yn dibynnu ar eu teulu a gweithwyr cefnogi i wneud hyn ar eu rhan.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cytuno bod ein staff yn cysylltu yn \u00f4l \u00e2 nhw wedi iddynt geisio cysylltu ond y gall fod yn \u201canodd cael gafael ar bobl; gallaf aros am alwad yn \u00f4l sawl diwrnod yn ddiweddarach\u201d.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Roedd bron bob defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr yn cytuno y gallant ddefnyddio eu hiaith ddewisol wrth gysylltu \u00e2 ni, gyda rhai yn defnyddio Cymraeg, rhai yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac eraill yn defnyddio arwyddion ac ystumiau fel eu cyfrwng dewisol.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Roedd bron bob defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg a gyda pharch.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Dyma beth rydym yn bwriadu ei wneud<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><i><em>Byddwn yn cynhyrchu llythyr o groeso yn amlinellu\u2019r wybodaeth sylfaenol a manylion cyswllt.<\/em><\/i><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Byddwn yn helpu defnyddwyr gwasanaeth a\u2019u gofalwyr i gael mynediad i\u2019r rhyngrwyd yn ein swyddfa yng Nghanolfan Marl ac yn defnyddio iPad i ddangos iddynt beth i\u2019w wneud a pha wybodaeth sydd ar gael iddynt.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Byddwn yn cyflwyno targed perfformiad lleol o 24 awr i ffonio galwyr yn \u00f4l os na allwn siarad \u00e2 nhw yn syth.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><em>Mae gennym gynllun gweithredu drafft corfforaethol ar gyfer pobl \u00e2 nam ar y synhwyrau a byddwn yn darparu cyfleoedd i\u2019n staff fynychu dosbarthiadau Cymraeg a chynyddu\u2019r nifer sy\u2019n hyderus i siarad Cymraeg.<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym yn gofyn i bobl dros 65 oed sydd wedi cael pecyn ailalluogi i gwblhau holiadur ar safon y gwasanaeth rydym wedi\u2019i ddarparu. Mae\u2019n gofyn i unigolion am eu profiadau gyda ni, gan gynnwys a oedden nhw a\u2019u gr\u0175p cefnogi yn rhan o gytuno a chynllunio\u2019r pecyn cefnogi, a wnaeth y gefnogaeth gwrdd \u00e2\u2019u disgwyliadau ac a yw deilliannau personol yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y cyfnod. Gyda\u2019r rhan fwyaf o becynnau ailalluogi yn parhau am chwe wythnos, mae\u2019r holiaduron yn becynnau gwerthfawr ac arferol i gynorthwyo rheolwyr i gynllunio gofal a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.<\/p>\n<p><em>Rhai ymatebion enghreifftiol:<\/em><\/p>\n<p><strong>Ar ddiwedd eich cyfnod ymyrraeth cefnogi, a oeddech wedi cyflawni eich nodau?<\/strong><\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #000000;\">Oeddwn, yn gorfforol roeddwn bron ar y lefel yr oeddwn cyn fy salwch.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #000000;\">Oeddwn. Diolch yn fawr \u2013 fyddwn i ddim wedi gallu gofyn am well gwasanaeth neu d\u00eem.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pa ran o\u2019r gwasanaeth oedd y mwyaf gwerthfawr i chi?<\/strong><\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #000000;\">Y cyfan ohono ond roeddwn yn gwerthfawrogi\u2019r cwrteisi, effeithlonrwydd a hiwmor.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #000000;\">Y cysur.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #000000;\">Cefais fy nghroesawu \u00e2 gw\u00ean bob amser, gyda geiriau o anogaeth a chyngor ymarferol.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><em>Rydym hefyd yn falch o\u2019n perfformiad:<\/em><\/p>\n<ul>\n<li>Y ganran o oedolion a gwblhaodd cyfnod o alluogi: Ac sydd \u00e2 phecyn gofal a chymorth llai \u2013 llai o gefnogaeth nag o\u2019r blaen &#8211; 6 mis yn ddiweddarach ydi 9.85% (PMA20a)<\/li>\n<li>Y ganran o oedolion a gwblhaodd cyfnod o alluogi: Ac sydd heb becyn gofal a chymorth 6 mis yn ddiweddarach = 71.52% (PMA20b)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae ymgynghoriadau gyda phobl sy\u2019n cael gwasanaethau gennym wedi\u2019u cynnwys yn yr adroddiad dan y safon ansawdd perthnasol.<\/p>\n<p><strong>Cwynion a Sylwadau \u2013 Gwersi a Ddysgwyd<br \/>\n<\/strong>Mae gan bawb sy\u2019n gwneud cwyn am Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru hawl i gael gwrandawiad. Rhaid i\u2019w barn a&#8217;u teimladau gael eu clywed; a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.\u00a0 Gall cwynion amlygu ble mae angen i wasanaethau newid. Mae&#8217;n bwysig ein bod yn dysgu o gwynion, er mwyn nodi lle y dylid newid a gwella gwasanaethau o ganlyniad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwersi mwyaf arwyddocaol sy&#8217;n deillio o gwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi dweud wrthym:<\/p>\n<ul>\n<li>Bod <strong>Cyfathrebu<\/strong> yn allweddol i ddinasyddion a&#8217;u teuluoedd gael gwasanaethau; mae angen cyfathrebu unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau yn effeithiol iddynt; mae dychwelyd galwadau neu ffonio pan rydych wedi\u2019i drefnu yn bwysig i sicrhau perthynas waith dda.<\/li>\n<li><strong>Ymgysylltiad rhagweithiol<\/strong> gan y Swyddog Cwynion ynghyd \u00e2 Rheolwyr T\u00eem ar ganlyniadau lefel (Datrysiad Lleol) Cam 1 wrth gael datrysiad cynnar o\u2019r cwynion<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae darganfod yr hyn sy\u2019n bwysig i bobl yn rhan allweddol o ddatblygu gwasanaethau o ansawdd yng Nghonwy, felly gofynnwn am adborth gan y bobl yr ydym ynghlwm \u00e2 nhw, gan ddefnyddio\u2019r wybodaeth a gawn i wneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.\u00a0 Mae arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor, dros y blynyddoedd, wedi arddangos [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1767","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1767","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1767"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1767\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1767"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}