{"id":1763,"date":"2018-08-07T12:27:08","date_gmt":"2018-08-07T11:27:08","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1763"},"modified":"2018-08-07T16:32:32","modified_gmt":"2018-08-07T15:32:32","slug":"safon-ansawdd-4-annog-a-chefnogi-pobl-i-ddysgu-datblygu-a-chymryd-rhan-yn-y-gymdeithas","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/safon-ansawdd-4-annog-a-chefnogi-pobl-i-ddysgu-datblygu-a-chymryd-rhan-yn-y-gymdeithas\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 4 &#8211; Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas"},"content":{"rendered":"<p><em>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym<\/em><\/p>\n<p><strong>Pobl yn dweud y gallant wneud yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt<br \/>\n<\/strong>Rhoddodd 44% o ofalwyr a 54% o oedolion wybod y gallant wneud y pethau sydd yn bwysig iddynt. \u00a0Mae sylwadau cefnogol gan ofalwyr yn benodol yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr effaith y bydd cyfrifoldebau gofalu yn ei gael ar ryddid gofalwyr i fwynhau\u2019r hob\u00efau a\u2019r gweithgareddau y maent yn eu hoffi. \u00a0Mae gan lawer gyfleoedd cyfyngedig i ymgymryd \u00e2\u2019u diddordebau ac mae\u2019n rhaid iddynt gydbwyso eu hanghenion eu hunain gydag anghenion y person y maent yn gofalu amdano. \u00a0Ar gyfer y gr\u0175p oedolion mae cyfyngiadau oherwydd salwch, anabledd a dibyniaeth ar eraill ar gyfer cludiant. \u00a0Mae nifer yn profi rhwystredigaeth gyda\u2019r hyn a oedd yn arfer bod yn dasgau syml iddynt.<\/p>\n<blockquote><p>Rwyf weithiau yn ei chael yn anodd gwneud fy ngwaith t\u0177 a thasgau syml \u2013 agor tuniau, codi, plygu<\/p>\n<p>Ni allaf arddio na glanhau fy nh\u0177 bellach, &#8211; mae hyn yn rhwystredig iawn<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pobl yn dweud eu bod yn fodlon gyda\u2019u rhwydweithiau cymdeithasol<br \/>\n<\/strong>Rhoddodd 66% o ofalwyr, 85% o blant a 82% o oedolion wybod eu bod yn teimlo\u2019n hapus gyda\u2019r gefnogaeth y maent yn ei chael gan eu teulu, ffrindiau a chymdogion, ond bod nifer yn teimlo wedi\u2019u hynysu oddi wrth eu teulu sy&#8217;n byw ymhell i ffwrdd a ddim yn gallu darparu cefnogaeth ymarferol. \u00a0O ganlyniad, mae rhai yn dibynnu ar gyfeillgarwch cymdogion neu wasanaethau gofalwyr cyflogedig. \u00a0Mae\u2019r rhai sydd \u00e2 theulu yn yr ardal yn aml yn teimlo eu bod yn fwrn ar blant sy\u2019n oedolion ac sydd \u00e2 bywydau prysur a\u2019u cyfrifoldebau eu hunain.<\/p>\n<blockquote><p>Mae ein genethod yn ein helpu pan mae\u2019n bosibl ond mae ganddynt eu bywydau eu hunain ac nid ydynt bob amser yn gallu helpu. Maent yn ceisio ein cefnogi<\/p>\n<p><span style=\"color: #808080;\">Does gen i ddim teulu na ffrindiau yng Ngogledd Cymru; Rwy\u2019n dibynnu ar fy ngofalwr a\u2019r wardeiniaid am gefnogaeth.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pa mor dda ydym ni&#8217;n gwneud?<br \/>\n<\/strong>Rydym yn gwella \u2013 cyflawnodd 56% o blant a oedd dan ofal, yn cael eu hystyried yn blant mewn angen neu ar y gofrestr diogelu plant y dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 (PMC29a). \u00a0Mae hyn yn welliant ar y llynedd, ac mae\u2019n debyg i gyfartaledd Cymru. \u00a0Yng Nghyfnod Allweddol 4, cyflawnodd 12% o blant y dangosydd pwnc craidd (PMC29b), sydd eto yn welliant ar y llynedd, ac rydym bron \u00e2 chyrraedd cyfartaledd Cymru. \u00a0Hoffem wneud hyd yn oed yn well.<\/p>\n<p>Dim ond 1% o blant dan ofal oedd wedi gorfod symud ysgol unwaith neu fwy, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o fod dan ofal, oedd ddim o ganlyniad i drefniadau pontio &#8211; fel mynd i&#8217;r ysgol uwchradd &#8211; yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth (PMC32). Eto, mae hyn yn welliant, ac rydym yn gwneud yn well na chyfartaledd Cymru.<\/p>\n<p><strong>Agwedd Cynnydd<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r T\u00eem Teleofal yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaethau i nodi technolegau sy\u2019n galluogi pobl i fyw bywydau annibynnol am cyn hired ag y gallant. Er enghraifft, yn y Gwasanaethau Anabledd, rydym wedi bod yn adolygu ein pecynnau gofal 24\/7 a nodi cyfleoedd i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau i fod yn fwy annibynnol, fel cymryd risgiau cadarnhaol trwy ddefnyddio Systemau Teleofal i sefydlu angen gwirioneddol.<\/p>\n<p>Gan ddefnyddio\u2019r System Teleofal i fonitro gweithgareddau gyda\u2019r nos, mae defnyddwyr gwasanaeth wedi cael hyder ac wedi sylweddoli nad ydynt angen i aelod staff fod ar gael yn y nos. O ganlyniad, mae dau ddefnyddiwr gwasanaeth wedi symud i\u2019w fflat eu hunain gyda llawer llai o gefnogaeth. Yn ogystal, mae\u2019r oriau yn ystod y dydd a ddefnyddiwyd i gefnogi tri o bobl r\u0175an yn cefnogi saith o bobl, a phob un ohonynt wedi profi canlyniadau llesiant cadarnhaol drwy\u2019r ymarfer hwn.<\/p>\n<p><strong>Cymorth i Blant ag Anableddau<\/strong><br \/>\nYn y blynyddoedd diwethaf, mae&#8217;r T\u00eem Anableddau Integredig wedi\u2019i sefydlu ac o ganlyniad mae ein staff cefnogaeth sesiynol mewnol r\u0175an wedi\u2019u cofrestru i ddarparu gofal personol i blant. Mae gan y Gwasanaeth Anabledd hefyd ystod o glybiau a gweithgareddau sy\u2019n cael eu defnyddio gan blant sydd angen cefnogaeth ychwanegol.<\/p>\n<p>Dyma rai enghreifftiau o\u2019r gweithgareddau a gynigiwyd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Snapdragons (5-11oed)<\/em><\/strong><br \/>\nCynhelir yn wythnosol am 2 awr mewn amryw o leoliadau ledled y sir; rhaglen strwythuredig o chwarae a datblygu sgiliau byw\u2019n annibynnol.<\/li>\n<li><strong><em>Clwb 13+ <\/em><\/strong><br \/>\nCynhelir bob yn ail dydd Sadwrn am gyfnod o 3 awr yng Nghanolfan Riviere. Cynhelir amryw o weithgareddau, er enghraifft, nofio, bowlio deg ayyb.<\/li>\n<li><strong><em>Gr\u0175p Pontio (17-19 oed)<\/em><\/strong><br \/>\nMae hwn yn gr\u0175p 3 awr sy\u2019n cael ei gynnal bob yn ail dydd Gwener. Sefydlwyd y gr\u0175p hwn i roi\u2019r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc i\u2019w paratoi ar gyfer bod yn oedolyn, er enghraifft, paratoi bwyd, cynllunio teithiau, siopa bwyd.<\/li>\n<li><strong><em>Gwersyll Plant (5-14 oed)<\/em><\/strong><br \/>\nHyd at ddau ddiwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau\u2019r ysgol. Bydd Gofal Cymdeithasol yn darparu cefnogaeth un i un os oes angen.<\/li>\n<li><strong><em>Clwb Gwyliau Diwrnod Allan (13-19 oed)<\/em><\/strong><br \/>\nMae\u2019r clwb yn cynnig diwrnod llawn unwaith yr wythnos yn ystod gwyliau\u2019r ysgol. Mae gweithgareddau a theithiau yn cael eu cynnwys, gan fynd \u00e2 phlant a phobl ifanc allan i&#8217;r gymuned leol ac ymhellach.<\/li>\n<li><strong><em>Sgiliau Byw\u2019n Annibynnol <\/em><\/strong><br \/>\nCynhelir tri gr\u0175p yn ystod gwyliau\u2019r ysgol i blant yn y gr\u0175p oedran 5-8 oed, rhai sy\u2019n 9-12 oed a phlant a phobl ifanc 13+ oed. Cynhelir y sesiynau dwy awr yng Nghanolfan Gymunedol Tan Lan ac maent yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau unigolion fel coginio, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gweithgareddau seibiant yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a phobl ifanc ag anableddau fel y dengys y sylwadau a ganlyn gan weithwyr cymdeithasol:<\/p>\n<blockquote><p>Mae\u2019r gwasanaeth yn Llys Gogarth wedi helpu \u2018C\u2019 i ddod yn fwy annibynnol wrth fod i ffwrdd o\u2019i deulu ac mae wedi rhoi cyfle i\u2019w rieni ymlacio ac ymweld \u00e2 llefydd nad yw wedi bod yn bosibl iddynt ymweld \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Mae \u2019B\u2019 yn mynd ar y cwrs Sgiliau Byw Annibynnol oedran h\u0177n ac yn mwynhau dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd cymdeithasol<\/p>\n<p>\u201cMae \u2019A\u2019 yn mynd i\u2019r clwb Diwrnod Allan ac yn edrych ymlaen ato. Mae\u2019n rhoi gweithgaredd cymdeithasol iddi gyda phobl o\u2019i hoedran a\u2019i gallu hi ei hun, ac mae hefyd yn rhoi seibiant i mam yn y gwyliau.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Cymorth i Deuluoedd<br \/>\n<\/strong>Mae timau Dechrau\u2019n Deg, T\u00eem o Amgylch y Teulu a Theuluoedd Gwledig yn Gyntaf wedi bod yn cydweithio i roi cefnogaeth i deuluoedd yn eu cymunedau eu hunain.<\/p>\n<p>Maent yn cynnal sesiynau ymgysylltu, dysgu a gwybodaeth, fel cyrsiau rhianta, aros a chwarae, paned a sgwrs, chwarae egn\u00efol, cyrsiau cyn geni, grwpiau cefnogi bwydo ar y fron, a sesiynau cerdded \u00e2 phramiau mewn amryw o leoliadau cymunedol ledled y sir ar gyfer rhieni. \u00a0Nid yw nifer o\u2019r bobl rydym yn eu cyfarfod yn cael mynediad i wasanaethau traddodiadol, neu maent eu hofn.<\/p>\n<p>Mae\u2019r timau yn credu bod <em>&#8220;bob un ohonom angen cymorth ar ryw adeg yn ein bywydau, dim ots a yw&#8217;n wybodaeth i&#8217;n helpu ein hunain, neu gefnogaeth&#8221;.<\/em> \u00a0Mae ein Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd wedi cefnogi dros 1,000 o deuluoedd yn uniongyrchol eleni. \u00a0Mae\u2019r gefnogaeth wedi ymdrin ag ystod eang o faterion, er enghraifft: rhianta, anabledd, camddefnyddio sylweddau, tai, trais domestig, pryderon ariannol, cyngor ar fudd-daliadau, rhieni yn gwahanu, ac iechyd meddwl gwael. \u00a0Gall fod wedi bod ar sail un i un i helpu i oresgyn cyfnod o anhawster, neu efallai ein bod wedi trefnu cyfarfodydd amlasiantaeth ar ran teuluoedd i hwyluso gweithio ar y cyd gyda\u2019r teulu i greu cynllun sengl.<\/p>\n<p><strong><em>Astudiaeth achos<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Roedd \u2018B\u2019 yn 19 ac roedd ganddo blentyn yn byw gyda\u2019i gyn bartner; roedd y ddau yn cael trafferth ac roedd y gwasanaethau plant statudol ynghlwm.<\/p>\n<p>Roedd \u2018B\u2019 yn byw mewn eiddo gorlawn gyda\u2019i dad, llysfam a dau sibling ieuengach, gan achosi tensiynau.<\/p>\n<p>Roedd \u2018B\u2019 yn gwneud prentisiaeth mewn plymio a cafodd ei ferch ifanc fyw gydag o llawn amser. \u00a0Roedd \u2018B\u2019 mewn perygl o golli ei swydd, ac nid oedd yn gallu ymdopi ar gyflog prentis.<\/p>\n<p>Gwnaethom gefnogi \u2018B\u2019 gydag atgyfeiriad at Hawliau Lles, rhoi cymorth ymarferol gyda chyllidebu, helpu i ddod o hyd i lety addas, cael blaendal ar gyfer fflat gan NACRO a Datrysiadau Tai Conwy, cael cyllid am nwyddau gwyn a dodrefn, rhoi cefnogaeth emosiynol a chymorth ymarferol gyda rhianta plentyn bychan ac atgyfeiriad i\u2019r Gronfa Wyliau.<\/p>\n<p>Y canlyniad ar gyfer \u2018B\u2019 o\u2019r gwaith hwn yw bod \u2018B\u2019 mewn fflat newydd gyda\u2019i ferch. \u00a0Nid yw\u2019r gwasanaethau plant statudol ynghlwm bellach, mae budd-daliadau wedi\u2019u cywiro, mae gwyliau wedi\u2019i archebu i roi amser i deulu \u2018B\u2019 fondio, mae gofal plant wedi\u2019i drefnu ac mae \u2018B\u2019 yn gallu cyllidebu a pharhau \u00e2\u2019r brentisiaeth.<\/p>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n hapusach, yn rheoli fy mywyd yn well ac yn mwynhau bod yn dad<\/p><\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym Pobl yn dweud y gallant wneud yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt Rhoddodd 44% o ofalwyr a 54% o oedolion wybod y gallant wneud y pethau sydd yn bwysig iddynt. \u00a0Mae sylwadau cefnogol gan ofalwyr yn benodol yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr effaith y bydd cyfrifoldebau gofalu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":8,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1763","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1763","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1763"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1763\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1763"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}