{"id":1751,"date":"2018-08-07T12:18:19","date_gmt":"2018-08-07T11:18:19","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1751"},"modified":"2018-08-07T12:22:24","modified_gmt":"2018-08-07T11:22:24","slug":"safon-ansawdd-2-gweithio-gyda-phobl-a-phartneriaid-i-ddiogelu-a-hyrwyddo-iechyd-corfforol-a-meddyliol-pobl-au-lles-emosiynol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/safon-ansawdd-2-gweithio-gyda-phobl-a-phartneriaid-i-ddiogelu-a-hyrwyddo-iechyd-corfforol-a-meddyliol-pobl-au-lles-emosiynol\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 2 &#8211; Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a\u2019u lles emosiynol"},"content":{"rendered":"<p><strong>Rhaglen Codymau Conwy<br \/>\n<\/strong>Codymau yw\u2019r achos mwyaf cyffredin o anaf difrifol mewn pobl h\u0177n, a\u2019r rheswm mwyaf cyffredin o orfod mynd i\u2019r ysbyty. Mae Arolwg Llywodraeth Cymru yn dangos bod ofn syrthio yn ffactor arwyddocaol wrth leihau gweithgarwch corfforol a chyfranogiad mewn cymdeithas ymysg oedolion. Rydym yn teimlo nad oes rhaid i godymau fod yn rhan anorfod o fynd yn h\u0177n, ac mae\u2019r t\u00eem Atal Codymau&#8217;n gweithio gyda phobl dros 65 oed i helpu i leihau eu perygl o lithro, baglu a chael codwm.<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-1674 alignright\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Elderly-Lady-in-Hospital.png\" alt=\"\" width=\"215\" height=\"156\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Elderly-Lady-in-Hospital.png 364w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Elderly-Lady-in-Hospital-300x218.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Elderly-Lady-in-Hospital-20x15.png 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 215px) 100vw, 215px\" \/><\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn cynnwys pedwar swyddog arbenigol, wedi\u2019u lleoli yn adain Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth (IAA) Conwy gyda thimau perthnasol eraill. Maent yn sgrinio\u2019r holl atgyfeiriadau newydd, cynnal asesiadau yn y cartref, nodi ffactorau risg yr unigolyn a gwneud argymhellion. Gall hyn gynnwys cyfeirio at asiantaethau\/gwasanaethau priodol, gan roi cyngor ar beryglon yn y cartref neu awgrymu ymarferion i wella gwytnwch.<\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn gweithio gyda phartneriaid yn Iechyd, y Gwasanaeth T\u00e2n ac asiantaethau gwirfoddol i wella ymwybyddiaeth a rhoi gwybodaeth yn y gymuned. Hyd at ddiwedd 2017, roedd 25% o gartrefi gofal wedi cael hyfforddiant ar y pecyn asesiadau risg codymau, ac mae\u2019r holl fferyllfeydd yng Nghonwy wedi cael taflenni, a sefydlwyd cysylltiadau gwerthfawr gydag elusennau a grwpiau cefnogi.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithio yn agos gyda\u2019n cydweithwyr iechyd i sicrhau rhyddhau yn gyflym o&#8217;r ysbyty. Y gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal \u2013 pobl yn methu gadael yr ysbyty gan nad oes cefnogaeth iddynt gartref \u2013 yw 0.3% &#8211; am bob 1000 o\u2019r boblogaeth sy\u2019n 75 oed neu\u2019n h\u0177n.<\/p>\n<p><strong><em>Astudiaeth achos<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Atgyfeiriwyd dynes at y gwasanaeth codymau ar \u00f4l cael codwm a bod yn agos at gael codwm sawl gwaith. Roedd risg y byddai hefyd yn datgymalu aelodau wrth wneud rhai symudiadau. Roedd ei symudedd wedi lleihau yn sylweddol ac roedd mewn perygl o ddioddef codymau pellach.<\/p>\n<p>Trafododd y Swyddog Codymau ei sefyllfa yn drylwyr gyda hi a chytunwyd y byddai atgyfeiriad i ddosbarthiadau PSI (Hyfforddiant Sadrwydd Osgo) yn fanteisiol. Yn ystod yr adolygiad ff\u00f4n rhai wythnosau yn ddiweddarach, rhoddodd y ddynes wybod iddi ei bod yn mwynhau\u2019r dosbarthiadau yn fawr a dywedodd bod awyrgylch dda yn y gr\u0175p, ac ychwanegodd bod y sesiynau wedi tynnu sylw at gryfder a gwendidau sicr yn ei haelodau\/cyhyrau. Mynegodd ddiddordeb mewn sesiynau nofio am ddim hefyd er mwyn ymarfer ei hymarferion hydrotherapi ar gyfer ei chlun dde. Mewn gwirionedd, mae ei hiechyd cyffredinol wedi gwella cymaint nes ei bod yn ystyried gwyliau gyda\u2019i phartner sy\u2019n rhywbeth nad oedd hi wedi gallu ei wneud ers sawl blwyddyn. Dywedodd hefyd ei bod yn argymell y gwasanaeth i\u2019w ffrindiau sydd wedi cael codwm, gan roi rhif y SPOA iddynt fel y gallant ofyn am asesiad gan y t\u00eem.<\/p>\n<h3><strong>Canolfannau Teuluoedd Conwy<\/strong><\/h3>\n<p>Rydym yn datblygu Canolfannau Teuluoedd ledled Conwy, i ddarparu cefnogaeth gymunedol a hygyrch, sydd ar gael yn gynharach i deuluoedd, ac yn agored i bob teulu. Mae gennym eisoes Ganolfan Deuluoedd yn Llanrwst sy\u2019n gwasanaethu\u2019r gymuned wledig. Yn seiliedig ar brofiadau\u2019r ganolfan hon, ac ymchwil gyda theuluoedd a darparwyr gwasanaeth, rydym wedi datblygu\u2019r model hwn i\u2019w ledaenu ledled y sir, gyda chyfanswm o bump o Ganolfannau Teuluoedd.<br \/>\nBydd gan bob Canolfan Deuluoedd d\u00eem craidd o Weithwyr Cefnogi Teuluoedd a fydd yn dod i adnabod y cymunedau lleol a chreu perthynas gyda phobl a grwpiau eraill sy&#8217;n gweithio gyda theuluoedd yn yr ardal. Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu darparu o\u2019r Canolfannau Teuluoedd, fel cwnsela teuluoedd a chamdriniaeth ddomestig, gan wneud yn si\u0175r bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen yn gynharach. Byddwn yn cydweithio i wneud yn si\u0175r ein bod yn cefnogi\u2019r teulu cyfan yn effeithiol. Byddwn yn defnyddio gwirfoddolwyr ac yn rhoi cyfle i gymunedau gymryd rhan. Bydd y Canolfannau Teuluoedd yn cynnal gweithgareddau ac yn darparu bob math o bethau i ddiwallu anghenion y cymunedau. Er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>Cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor ar gyfer teuluoedd o bob oed<\/li>\n<li>Dosbarthiadau a grwpiau rhianta<\/li>\n<li>Sesiynau babanod a phlant bach<\/li>\n<li>Cefnogaeth i bobl ifanc<\/li>\n<li>Sesiynau coginio a bwyta<\/li>\n<li>Chwarae<\/li>\n<li>Galw heibio<\/li>\n<\/ul>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1753\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Conwy-Family-Centres-W.jpg\" alt=\"\" width=\"918\" height=\"344\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Conwy-Family-Centres-W.jpg 918w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Conwy-Family-Centres-W-300x112.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Conwy-Family-Centres-W-768x288.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 918px) 100vw, 918px\" \/><\/p>\n<p>Rhan bwysig o\u2019r prosiect yw ymgysylltiad ac ymglymiad cymunedol. Bydd Gr\u0175p Cynghori Rhieni yn cyfarfod yn fisol i gymryd rhan yn natblygiad y prosiect. Rydym hefyd wedi ymgynghori \u00e2 theuluoedd, plant a phobl ifanc yn yr ardaloedd lle rydym yn datblygu. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ac ymateb i\u2019r hyn y mae teuluoedd ei angen ym mhob cymuned.<\/p>\n<p><strong>Hyd yma<\/strong><strong>\u00a0\u00a0 <\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Dwyrain y sir yw\u2019r ardal gyntaf i weld datblygiad Canolfan Deuluoedd newydd. Rydym yn ailwampio adain adeilad y drws nesaf i Ysgol Sefydledig Emrys Ap Iwan, a bydd hwn yn agor yn ystod haf 2018. Rydym wedi bod yn cynnal rhai gweithgareddau yn yr ardal Ddwyreiniol i\u2019n helpu i ddysgu beth sy\u2019n gweithio yn dda a beth y mae teuluoedd ei angen yn yr ardal Ddwyreiniol. Rydym wedi creu <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=OvcQykb7m1w\">fideo<\/a> i ddweud wrth bobl amdano.<\/p>\n<p><em>Rydym wedi cael adborth gwych!<\/em><\/p>\n<blockquote><p><span style=\"color: #808080;\">Pan ddes i yma gyntaf, nid oeddwn yn teimlo fy mod yn diwallu anghenion y bechgyn o gwbl, roeddwn yn teimlo fel y rhiant mwyaf diwerth ar y blaned\u2026\u2026 rydym yn sicr wedi gwneud cynnydd ac roedd pethau yn bositif iawn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #808080;\">Cyn gynted ag y cysylltodd y [T\u00eem o Amgylch y Teulu] \u00e2 fi, roeddwn yn teimlo bod rhywun sy\u2019n gwirioneddol wrando ar fy anghenion, ac oherwydd eu bod mor gymhleth, cymaint ohonynt. Roedd yn anhygoel oherwydd roedd cymaint o bobl wedi dweud \u201co, dydyn ni ddim yn ymdrin \u00e2 hynny\u201d, ond\u2026.mae rhywun yno sy\u2019n gwybod ac sy\u2019n gallu ei wneud i chi hefyd.<\/span><\/p>\n<p>Oherwydd gall roi cyfle i rieni anhapus ddod \u00e2 theuluoedd ynghyd eto \u2026.mae\u2019n cysylltu teuluoedd.\u201d<br \/>\nBachgen blwyddyn 10<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Byddwn yn edrych ar y Ganolfan Deuluoedd yn yr ardal ganolog (Bae Colwyn a\u2019r cymunedau cyfagos). Rydym yn ystyried lleoliadau posibl ar hyn o bryd, ac rydym yn ymgynghori gyda theuluoedd. Byddwn yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o\u2019r prosiect arbrofol yn Abergele ac yn gweithio i weithredu\u2019r rhain yn y ganolfan pan fydd ar agor, ac ystyried y negeseuon yn ein datblygiadau pellach. <img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1676 alignright\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Family-Group.png\" alt=\"\" width=\"248\" height=\"146\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Family-Group.png 639w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Family-Group-300x176.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Family-Group-20x12.png 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 248px) 100vw, 248px\" \/><\/p>\n<p><strong>Pa mor dda ydym ni\u2019n cefnogi ein plant?<\/strong><\/p>\n<p>Canran y plant sydd yn gweld deintydd cofrestredig o fewn tri mis ar \u00f4l derbyn gofal ydi 78% (PMC30)<\/p>\n<p>Roedd 100% o blant dan ofal yn cofrestru gyda Meddyg Teulu o fewn 10 diwrnod gwaith i ddechrau eu lleoliad (ar 31 Mawrth, PMC31)<\/p>\n<p><strong>Gweithio i wella Iechyd Meddwl<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Rydym wedi bod yn gweithio gyda\u2019n cydweithwyr iechyd drwy gyfres o gyfarfodydd i greu model cefnogi Iechyd Meddwl Integredig ar gyfer Plant Dan Ofal. Rydym hefyd yn symleiddio model Gofal Parhaus Amlasiantaeth i gefnogi\u2019r broses Panel Amlasiantaeth Strategol. \u00a0Bydd hyn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o anghenion plant a chynllunio yn fwy effeithiol i ddiwallu&#8217;r anghenion hynny. Y nod yw darparu ymyrraeth gynnar i atal problemau rhag gwaethygu, cefnogaeth wedi\u2019i dargedu yn well ar gyfer Gofalwyr Maeth a Mabwysiadwyr a gwell sefydlogrwydd mewn lleoliadau. Bydd hwn yn cael ei lansio ddiwedd Mehefin. Y flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd canfod pa mor effeithiol yw\u2019r model.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd i ddatblygu hyfforddiant penodol yngl\u0177n \u00e2 hunan-niwed i ofalwyr maeth, i\u2019w helpu i gefnogi&#8217;r plant yn eu gofal a chynnal y lleoliadau hyn. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn yr haf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Cymunedol Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn ceisio rheoli \u2019drws ffrynt&#8217; y gwasanaethau iechyd meddwl yn wahanol iawn a chynnig dewis arall sy\u2019n gadarn, yn effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth at \u2018fodel meddygol\u2019 Gofal Eilaidd h.y. gweithio gyda phobl \u00e2 phroblemau iechyd meddwl a\/neu sy\u2019n dioddef trallod oherwydd argyfwng cymdeithasol er mwyn meithrin a chynnal eu gwytnwch personol a\u2019u lles meddyliol, cymdeithasol a seicolegol. Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio yn hyblyg a chreadigol i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth; i fynd i\u2019r afael ag achosion argyfwng a cholli lles meddyliol, e.e. tai, llesiant, cynhwysiant ariannol, arwahanrwydd cymdeithasol, cyflogaeth. Byddant yn cynnal y broses Asesiad Integredig, gan gynnig gwybodaeth, cyngor a\/neu gefnogaeth yn unol \u00e2\u2019r canlyniadau dymunol a nodwyd o sgwrs \u2018Beth sy\u2019n Bwysig\u2019. Bydd unrhyw un sydd wedi\u2019i nodi fel rhywun sydd angen gwasanaeth meddygol ac asesiad dan y Mesur Iechyd Meddwl yn cael eu cyfeirio at y T\u00eem Iechyd Meddwl. Ond, gan y bydd y nifer achosion sy\u2019n cael eu pasio i\u2019r CMHT yn is, bydd gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth hynny sydd angen ymyrraeth meddygol arbenigol.<\/p>\n<p><strong>Dysgu ar gyfer Adferiad<\/strong><strong>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1678 alignright\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Learning-4-Recovery-Tree.jpg\" alt=\"\" width=\"156\" height=\"171\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Learning-4-Recovery-Tree.jpg 455w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Learning-4-Recovery-Tree-275x300.jpg 275w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Learning-4-Recovery-Tree-18x20.jpg 18w\" sizes=\"auto, (max-width: 156px) 100vw, 156px\" \/><\/strong><br \/>\nMae\u2019r <a href=\"http:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Adults\/Adult-mental-health\/Assets-Adults-Mental-Health\/documents\/Conwy-Learning-4-Recovery-and-Wellbeing.pdf\">llyfryn<\/a> \u2018Dysgu ar gyfer Adferiad a Lles\u2019 wedi\u2019i anelu yn benodol at bobl sy\u2019n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu sy\u2019n gofalu am rywun sydd. Bydd yn cael ei gynhyrchu yn chwarterol a bydd ar gael fel llyfryn wedi&#8217;i argraffu ac ar-lein. Cafodd ei roi at ei gilydd gan gr\u0175p Partneriaeth Pobl Conwy ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol, ac mae wedi bod yn gydweithrediad rhwng sefydliadau statudol a thrydydd sector.<\/p>\n<p>Mae them\u00e2u i\u2019r cyrsiau fel y gall bobl ddod o hyd i sesiynau sy\u2019n berthnasol iddyn nhw, dim ots a ydynt yn dechrau deall eu problemau iechyd meddwl, eisiau meithrin sgiliau bywyd, eisiau dod o hyd i ffyrdd o fod yn weithgar yn gymdeithasol, neu eisiau dod o hyd i waith neu gyfleoedd gwirfoddoli.<\/p>\n<p><strong>Cefnogi pobl i fyw yn dda gyda dementia<\/strong><strong>\u00a0\u00a0 <\/strong><br \/>\nBydd y Map Dementia a ddatblygwyd gan weithwyr proffesiynol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a thrydydd sector (gweler isod) yn cael ei ddefnyddio i hwyluso sgyrsiau gyda phobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, a\u2019u gofalwyr. Y nod yw y bydd y map yn cefnogi pobl i ddeall eu taith dementia a&#8217;u helpu i gynllunio ar gyfer yr hyn sydd o&#8217;u blaen wrth i&#8217;w taith fynd rhagddo. Mae gwasanaethau i bobl \u00e2 diagnosis o ddementia cynnar mewn bywyd wedi\u2019i nodi gan y gr\u0175p fel bwlch mewn darpariaeth gwasanaeth cyfredol, a hwn fydd ffocws y gr\u0175p ar gyfer y flwyddyn i ddod.<\/p>\n<p>Mae trafodaethau gyda chydweithwyr iechyd hefyd wedi cychwyn mewn perthynas \u00e2&#8217;r posibilrwydd o gyd-gomisiynu darpariaeth seibiant mewn cyfleuster nyrsio, gan fod darparu gofal seibiant hefyd yn fwlch a gydnabyddir mewn darpariaeth gwasanaeth cyfredol. Byddwn yn gweithio gyda BIPBC a\u2019r trydydd sector ar gynigion newydd arloesol a fydd yn gysylltiedig \u00e2\u2019r rhaglen atal, gyda\u2019r nod o ddarparu cefnogaeth effeithiol i bobl \u00e2 dementia a\u2019u teuluoedd\/gofalwyr gynnal eu hannibyniaeth, a lleihau\u2019r tebygolrwydd o orfod cael mynediad i\u2019r ysbyty a gohirio\u2019r angen am ofal preswyl neu nyrsio. Bydd hyn hefyd yn lliniaru\u2019r pwysau ar y darparwyr sector annibynnol. Rhagwelir y bydd unrhyw gynigion gwasanaeth newydd yn ein cefnogi ni i ddarparu\u2019r camau gweithredu blaenoriaeth a nodwyd yng <a href=\"https:\/\/gov.wales\/about\/cabinet\/cabinetstatements\/2018\/dementiaactiomplan\/?lang=en\">Nghynllun Gweithredu Dementia Cymru 2018-2022<\/a>.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Y Map Dementia<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1670\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Dementia-Journey-Welsh.jpg\" alt=\"\" width=\"1120\" height=\"399\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Dementia-Journey-Welsh.jpg 1120w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Dementia-Journey-Welsh-300x107.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Dementia-Journey-Welsh-768x274.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Dementia-Journey-Welsh-1024x365.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1120px) 100vw, 1120px\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhaglen Codymau Conwy Codymau yw\u2019r achos mwyaf cyffredin o anaf difrifol mewn pobl h\u0177n, a\u2019r rheswm mwyaf cyffredin o orfod mynd i\u2019r ysbyty. Mae Arolwg Llywodraeth Cymru yn dangos bod ofn syrthio yn ffactor arwyddocaol wrth leihau gweithgarwch corfforol a chyfranogiad mewn cymdeithas ymysg oedolion. Rydym yn teimlo nad oes rhaid i godymau fod yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":6,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1751","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1751","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1751"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1751\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1751"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}