{"id":1721,"date":"2018-08-07T11:35:14","date_gmt":"2018-08-07T10:35:14","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1721"},"modified":"2018-08-07T11:35:14","modified_gmt":"2018-08-07T10:35:14","slug":"safon-ansawdd-6-gweithio-gyda-a-chefnogi-pobl-i-gyflawni-gwell-lles-economaidd-cael-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/safon-ansawdd-6-gweithio-gyda-a-chefnogi-pobl-i-gyflawni-gwell-lles-economaidd-cael-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 6 &#8211; Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy\u2019n diwallu eu hanghenion"},"content":{"rendered":"<p><em>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym<\/em><em>\u00a0\u00a0\u00a0 <\/em><em><br \/>\n<\/em><\/p>\n<p><strong>Pobl yn dweud eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw <\/strong><\/p>\n<p>Mae 87% o ofalwyr, 86% o blant a 86% o oedolion yn cytuno eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw. \u00a0I lawer, mae\u2019n bwysig y gallant aros yn eu cartref eu hunain am cyn hired \u00e2 phosibl, ac i ofalwyr, mae\u2019n rhaid bod yr amgylchedd cartref yn gallu hwyluso eu swyddogaeth, e.e. ar gyfer gweithgareddau symud a lleoli, lle bydd angen addasiadau yn aml. \u00a0Mae aros gartref yn cyd-fynd \u00e2 chadw rhwydwaith o deulu, ffrindiau, cymdogion a\u2019r gymuned ehangach ac felly mae\u2019n ffactor pwysig wrth fesur llesiant.<\/p>\n<p><strong>Plant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn hapus gyda\u2019r bobl y maent yn byw \u00e2 nhw <\/strong><\/p>\n<p>Rhoddodd 78% o blant a phobl ifanc wybod eu bod yn hapus gyda\u2019r bobl y maent yn byw gyda nhw, mewn nifer o leoliadau.<\/p>\n<blockquote><p>Mae pawb yn fy nh\u0177 yn fy ngharu ac rwyf i\u2019n eu caru nhw<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Pobl yn rhoi gwybod eu bod wedi cael gofal a chefnogaeth yn eu hiaith ddewisol<\/p>\n<p><\/strong>Cytunodd 97% o ofalwyr, 97% o blant a 96% o oedolion y gallant gyfathrebu gyda Gofal Cymdeithasol yn eu hiaith eu hunain.<\/p>\n<blockquote><p>Rydym yn siarad Cymraeg a Saesneg. Mae\u2019n bwysig iawn i ni ein bod yn cael cyfle i siarad Cymraeg weithiau gyda phobl yn y Gwasanaethau Cymdeithasol<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Oedolion ifanc yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth i\u2019w paratoi i fod yn oedolyn <\/strong><strong>\u00a0<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p>Roedd 68% o blant 16 neu 17 oed a 73% o oedolion 18-24 oed yn cytuno gyda\u2019r datganiad hwn, gyda\u2019r sylwadau ychwanegol yn awgrymu bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi cefnogaeth eu rhieni\/gofalwyr i\u2019w harwain a gallant deimlo ar goll a heb gyfeiriad os nad yw hyn yn cael ei ddarparu neu ei gymryd.<\/p>\n<p><strong>Pobl yn dweud eu bod yn dewis byw mewn cartref gofal preswyl<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p>Roedd 78% o oedolion yn cytuno mai eu dewis nhw oedd byw mewn cartref preswyl, gyda sylwadau yn awgrymu bod y penderfyniad hwn yn cael ei wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda\u2019r teulu a chyngor gan weithwyr proffesiynol wedi i gyflyrau meddygol neu ddirywiad corfforol ddod yn anodd ymdopi \u00e2 nhw.<\/p>\n<p><strong>Pa mor dda ydym ni&#8217;n gwneud?<\/strong><\/p>\n<p>Mae 43% o\u2019r holl adawyr gofal mewn addysg, hyfforddiant neu waith 12 mis ar \u00f4l gadael gofal (PMC34a), a 26% 24 mis ar \u00f4l gadael gofal (PMC34b). \u00a0Nid yw hyn gystal \u00e2\u2019r llynedd, a hoffem wneud yn well. \u00a0Nid yw bob unigolyn sy\u2019n gadael gofal yn cadw mewn cysylltiad \u2013 mae hyn yn seiliedig ar y rhai sydd dal mewn cysylltiad \u00e2 ni.<\/p>\n<p>Mae 5% o unigolion sy\u2019n gadael gofal wedi profi digartrefedd yn ystod y flwyddyn (PMC35). Mae hyn yn well na\u2019r llynedd, ac yn llai na hanner y cyfartaledd ar gyfer Cymru (data 2016\/17).<\/p>\n<p><strong>Llwybr Cefnogaeth a Llety Cadarnhaol Pobl Ifanc<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Rydym yn gweithio yn galed iawn i wella canlyniadau i bobl ifanc. \u00a0Datblygwyd cynllun i greu agwedd newydd i helpu pobl ifanc i aros yn eu rhwydweithiau teuluol lle bynnag y bo&#8217;n bosibl, neu i gael mynediad i dai addas a&#8217;u cynnal. \u00a0Mae\u2019r cynllun yn canolbwyntio ar anghenion pobl ifanc 16-34 oed ac unigolion sy\u2019n gadael gofal hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.<\/p>\n<p>Nod y cynllun yw gweithio yn effeithiol ledled y Cyngor, a gyda phartneriaid i ddarparu agwedd integredig sy\u2019n canolbwyntio ar:<\/p>\n<ul>\n<li>Sicrhau bod pobl ifanc, eu teuluoedd a\u2019r rhai sy\u2019n gweithio gyda nhw yn cael gwybodaeth ac arweiniad i ddeall dewisiadau tai.<\/li>\n<li>Atal argyfwng tai yn rhagweithiol.<\/li>\n<li>Gwneud yn si\u0175r bod ein prosesau, gan gynnwys asesu a dyrannu tai, yn glir i bobl ifanc.<\/li>\n<li>Ystod addas o ddewisiadau llety a chefnogi sy&#8217;n rhoi gwerth am arian i ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc.<\/li>\n<li>Helpu pobl ifanc i gael mynediad i lety sefydlog a\u2019i gynnal.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y prosiect yn targedu digartrefedd ieuenctid trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn fuan trwy agwedd amlddisgyblaeth ac asiantaeth.<\/p>\n<p>Hyd yma, mae datblygiadau wedi arwain at sicrhau fflat gadael gofal fel adnodd symud ymlaen, gan ganolbwyntio ar gefnogi unigolion sy\u2019n gadael gofal i baratoi ar gyfer annibyniaeth, rheoli cyllid yn llwyddiannus a chynnal tai sefydlog.<\/p>\n<p><strong>Nesaf<br \/>\n<\/strong>Rydym yn bwriadu ceisio datblygu darpariaeth anghenion llety ar gyfer pobl ifanc trwy weithredu \u2018siop un alwad\u2019 ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef digartrefedd a fflatiau un ystafell wely a fflatiau stiwdio fforddiadwy.<\/p>\n<p><strong>T\u0177 Gofal Ychwanegol<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae ein Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol yn rhoi cyfle i breswylwyr fyw mewn amgylchedd modern, addas i oedran, sy\u2019n rhoi cyfle iddynt fyw yn annibynnol ac ymwneud yn gymdeithasol yn rheolaidd. \u00a0Mae\u2019r adborth a ganlyn yn dangos cyfleustod a hyblygrwydd bywyd un dynes wedi iddi symud i Llys y Coed yn Llanfairfechan.<\/p>\n<p><strong><em><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-medium wp-image-1680\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Llys-y-Coed-Lounge-300x214.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"214\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Llys-y-Coed-Lounge-300x214.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Llys-y-Coed-Lounge-20x14.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Llys-y-Coed-Lounge.jpg 681w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Astudiaeth achos<\/em><\/strong><\/p>\n<blockquote><p>Mae fy nain wedi bod yn Llys y Coed ddwywaith ar gyfer gofal seibiant ac roedd wrth ei bodd. Bellach mae ganddi ei fflat ei hun yma ac mae\u2019n symud i mewn heddiw, ac mae hi wedi gwirioni. Ar \u00f4l byw yn ei th\u0177 am 60 mlynedd, nid oeddem yn meddwl y byddai eisiau gadael ei chartref, ond mae cael \u2018blas\u2019 o Llys y Coed wedi ei chyffroi. Mae hi\u2019n ddynes gymdeithasol iawn, ond mae hi angen gofal a chefnogaeth, felly mae Llys y Coed yn berffaith; mae hi\u2019n cael cinio gyda\u2019r preswylwyr eraill, yn chwarae bingo a gweithgareddau eraill, ond pan mae hi eisiau bod ar ei phen ei hun gall hi fynd i\u2019w fflat lle bydd gofalwr hefyd yn coginio bwyd iddi.<\/p>\n<p>Mae\u2019r staff yn Llys y Coed yn wych ac yn mynd o\u2019u ffordd i nain. Maen nhw wedi rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i ni drwy gydol y broses hefyd. Mae\u2019r fflatiau yn hyfryd, mae gweithiwr trin gwallt ar y safle, lolfeydd a llyfrgell. \u00a0Does dim byd y gallwn ei feirniadu am y lle<\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Cynnydd ar Mwy na Geiriau<\/strong><br \/>\nNod hwn yw cryfhau darpariaeth gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, gan ddefnyddio sgiliau ac adnoddau cyfredol.<\/p>\n<p><strong>Darparwyr Gofal Allanol<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Rydym wedi bod yn ystyried gallu ein Darparwyr Gofal Allanol a staff gofal cartref i gyfathrebu yn effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. \u00a0O ganlyniad, byddwn yn ymweld \u00e2 chartrefi gyda lefelau isel o staff sy\u2019n siarad Cymraeg i hyrwyddo Mwy na Geiriau.<\/p>\n<p><strong>Gweithlu Mewnol<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar faint o\u2019r staff mewnol sy\u2019n gallu cyfathrebu yn Gymraeg, ac mae nifer uchel o staff Conwy wedi mynegi ddiddordeb mewn gwersi Cymraeg trwy\u2019r cynllun Cymraeg yn y Gwaith sy\u2019n cael ei ddarparu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg; bydd y gwersi yn cychwyn ym mis Medi 2018. Bydd pob gweithiwr newydd r\u0175an yn cael gwybodaeth am weithio yn ddwyieithog trwy ein ffurflen sefydlu newydd. Cam gweithredu allweddol ar gyfer 2018 fydd monitro a rhoi gwybod am y nifer sy\u2019n derbyn hyfforddiant Cymraeg Gwaith.<\/p>\n<p><strong>Cynnig Gweithredol<br \/>\n<\/strong>Rhoddir gwybod i\u2019r Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr Gwasanaeth am ddata chwarterol ar y cynnig gweithredol, ac mae perfformiad yn dangos cynnydd da.<\/p>\n<p><strong>Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol \u2013 Prifysgol Bangor<\/strong><strong> \u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Adolygwyd y Cytundeb Partneriaeth Tri gyda Phrifysgol Bangor (Gwynedd, Ynys M\u00f4n a Chonwy) yn 2017 fel rhan o broses ailddilysu\u2019r Rhaglen MA. Sefydlwyd cytundeb partneriaeth newydd i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau y mae partneriaid yn eu profi wrth recriwtio gweithwyr cymdeithasol sy\u2019n siarad Cymraeg. \u00a0Bydd y garfan myfyrwyr 2018 sy\u2019n ymgymryd \u00e2 lleoliadau yn yr awdurdodau lleol yn ddwyieithog a rhagwelir, ar \u00f4l iddynt gymhwyso, y byddant yn cael eu recriwtio gan bartneriaid i gynyddu nifer y gweithwyr cymdeithasol Cymraeg yn y gweithlu.<\/p>\n<p><strong>Gwirfoddoli yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/strong><\/p>\n<p><strong><em>Astudiaeth achos<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mae ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wrthi\u2019n gweithio gyda pherson ifanc (P) sydd wedi\u2019i wahardd o sawl ysgol prif ffrwd ac Unedau Atgyfeirio Disgyblion oherwydd ymddygiad heriol tuag at staff dysgu a disgyblion eraill. \u00a0O ganlyniad, roedd ei gyfnodau mewn addysg yn achlysurol a threuliodd amser sylweddol heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). \u00a0Tuag at ddiwedd 2017, cytunodd yr Awdurdod Lleol y gallai P fynychu hyfforddiant un i un ddau fore yr wythnos ar yr amod bod oedolyn priodol hefyd yn mynychu i leihau unrhyw risgiau. Nid oedd prif ofalwr P yn gallu rhoi cefnogaeth oherwydd ei broblemau iechyd ei hun, felly dechreuodd y Rheolwr Achos a\u2019r Cydlynydd Gwirfoddolwyr broses gydweddu i ddod o hyd i wirfoddolwr gyda\u2019r sgiliau a\u2019r profiad perthnasol i gefnogi P.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l dod o hyd i rywun addas, a chynnal cyfarfodydd cyflwyno, cytunodd P a\u2019r gwirfoddolwr y byddant yn cyfarfod tiwtor mewn man canolog yn y gymuned ddwywaith yr wythnos. Dros y misoedd, dechreuodd P a&#8217;r gwirfoddolwr adeiladu perthynas a threulio amser cyn neu ar \u00f4l y gwersi yn trafod agweddau eraill o fywyd P, gan gynnwys dyheadau a chymhelliant, teulu, perthnasau a throseddu. Darparodd y gwirfoddolwr y model rhag-gymdeithasol yr oedd P ei angen. Pum mis i mewn i\u2019r hyfforddiant, adolygodd yr Awdurdod Lleol y trefniant. Cytunwyd bod y risgiau gan P yn flaenorol wedi\u2019u lleihau ac roedd y tiwtor yn hapus i symud ymlaen heb oedolyn priodol yn bresennol. \u00a0Er mwyn dod \u00e2\u2019r berthynas broffesiynol i ben yn briodol ar gyfer P a\u2019r gwirfoddolwr, cynhaliwyd sawl cyfarfod cau gan roi cyfle iddynt ddweud hwyl fawr.<\/p>\n<p><strong>T\u00eem Ymyrraeth Gynnar ac Atal \u2013 Monitro ein Perfformiad<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae ein T\u00eem Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn y Gwasanaeth Anabledd yn cynnig ymateb cyntaf i unigolion sydd wedi eu cyfeirio atom ac sydd:<\/p>\n<ul>\n<li>Dan 65 oed ac ag anabledd corfforol<\/li>\n<li>Unrhyw oedran, gydag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn cynnig cefnogaeth gyda therapi galwedigaethol, cyfathrebu, ail sefydlu ac eirioli ac mae\u2019n bwysig bod yr holl bart\u00efon perthnasol yn cydweithio i ddarparu\u2019r lefel orau o gefnogaeth i\u2019r unigolyn. \u00a0Mae archwiliad diweddar o weithgaredd atgyfeirio therapi galwedigaethol (OT) y t\u00eem yn awgrymu <strong>bod <\/strong>hyn yn digwydd.<\/p>\n<ul>\n<li>O fewn cyfnod o ddeuddeg mis, cafwyd 482 o atgyfeiriadau therapi galwedigaethol.<\/li>\n<li>Roedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau yn gofyn am asesiad o lety byw, preifat a phreswyl, neu broblemau eraill yn ymwneud \u00e2 thai ac addasiadau.<\/li>\n<li>Yn ystod y cyfnod deuddeg mis, caewyd 241 achos ac ar \u00f4l adolygu, <strong>nid<\/strong> oedd 82% wedi\u2019u hail atgyfeirio.<\/li>\n<li>Roedd yr 18% a gafodd eu hail atgyfeirio o fewn deuddeg mis r\u0175an wedi eu lleoli gyda gwahanol therapyddion yn y Gwasanaeth Anableddau Integredig, heb un therapydd unigol yn gyfrifol am nifer anghymesur o ailatgyfeiriadau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae canlyniadau\u2019r archwiliad yn awgrymu bod y Therapyddion Galwedigaethol yn diwallu canlyniadau personol y defnyddwyr gwasanaeth yn llwyddiannus am o leiaf deuddeg mis ar \u00f4l dod i ben, ac ar gyfer tua 8 allan o bob 10 o bobl a aseswyd.<\/p>\n<p><strong>Cymorth gyda gwaith<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae prosiect OPUS Conwy wedi dathlu ei flwyddyn gyntaf o gefnogi dinasyddion 25 oed a h\u0177n i ddod o hyd i waith. \u00a0Mae\u2019r t\u00eem yn cynnwys mentoriaid, cyngor ar hawliau lles a therapi galwedigaethol, ac yn cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau i ddod o hyd i waith, cyfleoedd gwirfoddoli neu gymwysterau gwaith. \u00a0Hyd yma mae 100 o bobl wedi\u2019u cefnogi ar eu taith i waith.<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiect ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed i symud i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli a chyflawni eu nodau.<\/p>\n<p><strong><em>Astudiaeth achos<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Daeth \u2018A\u2019 i OPUS heb gymwysterau ac roedd wedi bod yn ddiwaith ers dros flwyddyn. Roedd wedi bod yn gwneud cais am swyddi adeiladu ond nid oedd \u00e2\u2019r tystysgrif Iechyd a Diogelwch angenrheidiol i weithio ar safle adeiladu bellach. Roedd ganddo flynyddoedd o brofiad ond nid oedd yn gallu fforddio&#8217;r hyfforddiant gan ei fod yn ddiwaith; roedd y teulu hefyd yn disgwyl eu babi cyntaf.<\/p>\n<p>Gwnaethom lwyddo i gefnogi \u2018A\u2019 i ymgymryd \u00e2 hyfforddiant a chwblhau arholiad ysgrifenedig i gael y dystysgrif Iechyd a Diogelwch angenrheidiol. Cafodd \u2018A\u2019 swydd yn fuan wedyn a dywedodd wrth y t\u00eem:<\/p>\n<blockquote><p>Rwyf wrth fy modd ac yn gyffrous yngl\u0177n \u00e2 dyfodol fy nheulu<\/p><\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi\u2019i ddweud wrthym\u00a0\u00a0\u00a0 Pobl yn dweud eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw Mae 87% o ofalwyr, 86% o blant a 86% o oedolion yn cytuno eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw. \u00a0I lawer, mae\u2019n bwysig y gallant aros yn eu cartref eu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":11,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1721","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1721","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1721"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1721\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1721"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}