{"id":1713,"date":"2018-08-07T11:15:09","date_gmt":"2018-08-07T10:15:09","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1713"},"modified":"2018-08-07T11:15:09","modified_gmt":"2018-08-07T10:15:09","slug":"sut-ydym-nin-cyflawni-yr-hyn-rydym-nin-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/sut-ydym-nin-cyflawni-yr-hyn-rydym-nin-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Sut Ydym ni\u2019n Cyflawni yr Hyn Rydym ni\u2019n ei Wneud"},"content":{"rendered":"<p><strong>Ein Gweithlu a Sut Rydym ni\u2019n Cefnogi eu Rolau Proffesiynol<\/strong><\/p>\n<p>Yn 2016-17 cynhaliwyd dadansoddiad o\u2019r gweithlu a nododd nifer o risgiau:<\/p>\n<ul>\n<li>Trosiant uchel o staff sy\u2019n gweithio mewn gwasanaethau preswyl a gofal cartref yng Nghonwy.<\/li>\n<li>Roedd cyfraddau cymwysterau gweithwyr gofal ychydig yn uwch na 50%.<\/li>\n<li>Mae\u2019r sector Gofal Cymdeithasol yn profi heriau sylweddol wrth recriwtio staff i\u2019r sector.<\/li>\n<li>Roedd gan reolwyr Gofal Cymdeithasol newydd ddiffyg cyfleoedd dysgu i ddatblygu eu sgiliau rheoli.<\/li>\n<\/ul>\n<p>I liniaru\u2019r risgiau, gwnaethom ymgymryd \u00e2\u2019r camau gweithredu a ganlyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Creu Partneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Conwy; mae\u2019r bartneriaeth wedi\u2019i chefnogi drwy Raglen Datblygu&#8217;r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac mae\u2019n cynnwys cynrychiolwyr o\u2019r sector annibynnol, y trydydd sector, y sector cyhoeddus, addysg a darparwyr hyfforddiant.<\/li>\n<li>Dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi\u2019r nifer sy\u2019n ymgymryd \u00e2\u2019r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) yn y gweithlu gofal preswyl a gofal cartref, gan arwain at gynnydd o 11% yn nifer y gweithwyr gofal sydd \u00e2 chymhwyster cyfredol.<\/li>\n<li>Gan weithio gyda darparwyr Gofal Cymdeithasol a Choleg Llandrillo, byddwn yn lansio rhaglen Profiad Gwaith Gofal Cymdeithasol Conwy.<\/li>\n<li>Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, rydym wedi darparu rhaglen addysgu rheolwyr newydd.<\/li>\n<li>Cefnogi Rhaglen Cam i Fyny i Reoli Cymru Gyfan<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Heriau:<\/strong> Mae Partneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Conwy wedi llwyddo i ymgysylltu \u00e2 darparwyr gofal oedolion. Ond, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ymgysylltu a chynnwys darparwyr gwasanaethau plant o\u2019r trydydd sector.<\/p>\n<p><strong>Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2014 (RISCA).<\/strong><\/p>\n<p>Thema sylfaenol gofynion RISCA yw rhoi tystiolaeth o &#8216;ansawdd\u2019 ym mhob agwedd o ddarpariaeth gwasanaeth. Trwy weithio gyda Choleg Llandrillo rydym wedi datblygu rhaglen ddysgu achrededig ar gyfer rheolwyr Gofal Cymdeithasol. Bydd hyn yn eu galluogi i arddangos pwysigrwydd y broses gwella ansawdd yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol a llesiant, gwella darpariaeth gwasanaethau a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth.<\/p>\n<p>Rydym wedi cynnal gweithdai a briffiau ar draws y sector i sicrhau bod rheolwyr yn hollol ymwybodol o ofynion RISCA.<\/p>\n<p><strong>Heriau:<\/strong> Cefnogi\u2019r sector gofal yn y cartref i ymgymryd \u00e2\u2019r cofrestriad. I gyflawni hyn bydd angen i ni ddyrannu rhagor o adnoddau i\u2019r sector ar draul rhaglenni dysgu eraill.<\/p>\n<p><strong>Cyflawni Canlyniadau <\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>I gefnogi\u2019r gweithlu i weithio i\u2019r canlyniadau rydym wedi darparu hyfforddiant canlyniadau a bydd hyn yn parhau drwy gydol 2018. Er bod yr hyfforddiant yn rhoi\u2019r wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i\u2019r gweithiwr i gefnogi darparu canlyniadau, yr her ar gyfer T\u00eem Datblygu a Dysgu\u2019r Gweithlu yw cefnogi\u2019r sector wrth drosglwyddo dysg yn arferion. \u00a0Felly yn 2018, byddwn yn gwneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Darparu sesiynau byr i staff yn canolbwyntio ar ddysgu elfennau allweddol o\u2019r cwrs hyfforddiant \u2013 bydd y sesiynau yn rhai byr ac yn cynorthwyo wrth atgyfnerthu\u2019r dysg a gafwyd o\u2019r cwrs hyfforddiant.<\/li>\n<li>Ar \u00f4l cwblhau bob cwrs hyfforddiant <em>darparu canlyniadau <\/em>byddwn yn darparu adroddiad yn crynhoi\u2019r adborth gan hyfforddeion, yr heriau y maent wedi\u2019u wynebu ac yn argymell camau gweithredu i gefnogi trosglwyddo dysg.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Dementia<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Rydym wedi comisiynu gweithiwr proffesiynol arweiniol dementia i weithio gyda staff cartrefi gofal i asesu arferion dementia \u2013 gan weithio gyda staff, preswylwyr a\u2019r teulu.\u00a0 Mae\u2019r agwedd o gyflwyno dysg i\u2019r cartref yn hwyluso dysg yn y gweithle, ac yn cynnwys preswylwyr yn y broses ddysgu yn hytrach na&#8217;r theori.\u00a0 Byddwn yn ailymweld \u00e2\u2019r cartref y flwyddyn nesaf i asesu lefel y newid ac effaith y newid diwylliant.<\/p>\n<p><strong>Diogelu<br \/>\n<\/strong>Mae cynlluniau newydd yn ystod 2017-18 wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu sylfaenol i wirfoddolwyr yng Nghonwy. Rydym yn cefnogi\u2019r Gr\u0175p Partneriaeth Gofal Plant Datblygiad Blynyddoedd Cynnar i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelu. Mae hyn hefyd yn cefnogi ein targed corfforaethol, bod pobl yn ddiogel ac yn teimlo yn ddiogel, a\u2019r ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod diogelu yn fusnes i bawb.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-1687\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/\/2018\/08\/Safe-at-Night-Corporate-Image-W.jpg\" alt=\"\" width=\"1054\" height=\"382\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Safe-at-Night-Corporate-Image-W.jpg 1054w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Safe-at-Night-Corporate-Image-W-300x109.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Safe-at-Night-Corporate-Image-W-768x278.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/08\/Safe-at-Night-Corporate-Image-W-1024x371.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1054px) 100vw, 1054px\" \/><\/p>\n<p><strong>Heriau:<\/strong> Mae\u2019r gwaith gyda CGGC wedi tynnu sylw at ddiffyg sylweddol ar gyfer y 3ydd sector wrth gael mynediad i hyfforddiant diogelu. Hefyd, pwysleisiodd gwerthusiad y rhaglen hyfforddiant yr angen i hyfforddi\u2019r rhai hynny sy\u2019n rheoli gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod yn hollol ymwybodol o\u2019u cyfrifoldebau diogelu. I fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, rydym wedi comisiynu CGGC i ddarparu hyfforddiant i reolwyr gwirfoddol ac yn ystod Wythnos Diogelu 2019 byddwn yn cynnal digwyddiad Diogelu a Gwirfoddoli ar y cyd gyda CGGC.<\/p>\n<p><strong>Ein hadnoddau ariannol a sut rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol<br \/>\n<\/strong>Er y pwysau ariannol presennol, mae Conwy yn parhau i ddarparu\u2019r gwasanaeth gorau y gallwn ar gyfer ein preswylwyr. \u00a0Mae Gofal Cymdeithasol hefyd wedi gorfod canfod gwerth \u00a32.4m o arbedion yn 2017\/18. Rydym yn parhau i ddiogelu darpariaeth gwasanaeth uniongyrchol a cheisio sicrhau gwerth am arian, bod yn effeithlon a pheidio dyblygu.<\/p>\n<p><strong>Ein gwaith partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd<br \/>\n<\/strong>Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd penderfyniadau. \u00a0Dylai fod yn egwyddor trefnu canolog i ystyried effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd penderfyniadau. \u00a0Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol. \u00a0Mae\u2019r 7 nod a 5 ffordd o weithio wedi\u2019u halinio i 8 Canlyniadau Dinasyddion Conwy.<\/p>\n<p>Mae meysydd blaenoriaeth eraill sydd wedi cael eu hystyried yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Creu Cymunedau Cryf Llywodraeth Cymru<\/li>\n<li>Symud Cymru Ymlaen<\/li>\n<li>Amcanion Lles Llywodraeth Cymru (2016-2021)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys camau gweithredu sydd yn rhagweithiol nid yn ymatebol, sydd \u00e2\u2019r nod o weithio tuag at effaith tymor hirach, wedi cael eu hintegreiddio wrth ystyried sut maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles ac maent yn gydweithredol o ran y ffocws ar weithio\u2019n agos gyda chymunedau &#8211; felly maent yn rhan o berchen a gweithio ar y cyd i ddiwallu Canlyniadau Dinasyddion. Mae blaenoriaethau\u2019r Cynllun Corfforaethol wedi cael eu hystyried gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych er mwyn edrych lle mae blaenoriaethau yn effeithio ar sefydliadau cyhoeddus eraill a lle mae yna gyfleoedd ar gyfer cydweithio.<\/p>\n<p>Roedd cymunedau yn rhan o ddatblygu&#8217;r blaenoriaethau, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig trwy gysylltu trafodaethau cymunedau lleol drwy ddatblygu cynlluniau lleoedd. Mae ein them\u00e2u trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>Mae Cynghorwyr yn herio achosion busnes a gwerthusiadau trefniadau monitro newid i wasanaethau yn gadarn er mwyn asesu bod yr effaith yn effeithiol. Mae proses ymgysylltu \u00e2 budd-ddeiliaid Conwy yn gynhwysfawr, ac mae\u2019r Cyngor yn adolygu a gwella effeithiolrwydd ei drefniadau gwneud penderfyniadau yn rhagweithiol. \u00a0Y llynedd, gwnaethom adolygu ein Swyddogaeth Drosolwg a Chraffu i ystyried a oedd yn dal i weithio yn effeithiol ac i ystyried unrhyw welliannau. \u00a0O ganlyniad, mae gan Gofal Cymdeithasol ei Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ei hun bellach.<\/p>\n<p><strong>Rhaglen Integreiddio\u2019r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar y Rhaglen Integreiddio Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg, sy\u2019n cynnwys staff gwasanaeth a budd-ddeiliaid eraill. Mae\u2019r rhaglen wedi\u2019i chynnal dros y 17 mis diwethaf, gyda\u2019r gwaith yn cael ei wneud trwy dasgau neu brosiectau gyda\u2019r nod o gyflawni\u2019r buddion a ganlyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Staff yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn ymrwymo i un weledigaeth ac un t\u00eem Gofal Cymdeithasol ac Addysg<\/li>\n<li>Gwell dealltwriaeth\/tryloywder ar draws y gwasanaeth mewn perthynas \u00e2 chyfrifoldebau, rolau a swyddogaethau<\/li>\n<li>Cydnabod a defnyddio arbenigedd ar draws y gwasanaeth i wella arferion ac i gyflwyno gwelliannau i\u2019r gwasanaeth<\/li>\n<li>Cyfrannu at ffyrdd mwy effeithlon o weithio; a <strong>thrwy gyflawni&#8217;r manteision uchod<\/strong>,<\/li>\n<li>Gwella darpariaeth gwasanaeth a deilliannau ar gyfer plant, oedolion a theuluoedd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Er ei bod yn rhy fuan ar hyn o bryd i weld tystiolaeth bod y buddion yn cael eu cyflawni, mae\u2019r newidiadau ar waith yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae\u2019r newidiadau hyn yn amrywio, o arferion ac arbenigedd gwaith ar y cyd, hyfforddiant a rhannu gwybodaeth a lleihau dyblygu, i ddatblygu modelau gwaith newydd i gefnogi teuluoedd. Mae rhai enghreifftiau wedi\u2019u cynnwys isod:<\/p>\n<ul>\n<li>Staff yn deall swyddogaethau a chyfrifoldebau ei gilydd yn well ar draws y gwasanaeth, gan ddatblygu perthnasau a chyfleoedd integreiddio.<\/li>\n<li>Cydweithio e.e. trwy\u2019r Gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Gwasanaethau Anabledd:<br \/>\nHyfforddiant ar y Cyd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Datblygu canlyniadau a chamau gweithredu Gwasanaethau Addysg a Gofal Cymdeithasol ar y cyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ein Gweithlu a Sut Rydym ni\u2019n Cefnogi eu Rolau Proffesiynol Yn 2016-17 cynhaliwyd dadansoddiad o\u2019r gweithlu a nododd nifer o risgiau: Trosiant uchel o staff sy\u2019n gweithio mewn gwasanaethau preswyl a gofal cartref yng Nghonwy. Roedd cyfraddau cymwysterau gweithwyr gofal ychydig yn uwch na 50%. Mae\u2019r sector Gofal Cymdeithasol yn profi heriau sylweddol wrth recriwtio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":12,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1713","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1713","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1713"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1713\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1713"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}