{"id":1703,"date":"2018-08-07T11:01:05","date_gmt":"2018-08-07T10:01:05","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1703"},"modified":"2018-08-07T11:01:05","modified_gmt":"2018-08-07T10:01:05","slug":"edrych-ymlaen-at-2018-19-a-thu-hwnt","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2017-18\/edrych-ymlaen-at-2018-19-a-thu-hwnt\/","title":{"rendered":"Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt"},"content":{"rendered":"<h2>Comisiynu<\/h2>\n<p>Rydym newydd gynhyrchu ein <a href=\"http:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Policies-Plans-and-Reports\/How-we-Commission-Services.aspx\">strategaeth gomisiynu<\/a> sy\u2019n nodi sut y bydd Gofal Cymdeithasol Conwy yn cydweithio gyda dinasyddion, staff, cymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid i gomisiynu gwasanaethau sy\u2019n darparu canlyniadau, gwell iechyd a lles, gweithlu y gofalir amdanynt a gwell gwerth am arian. Mae\u2019n ceisio darparu&#8217;r hyn sy\u2019n bwysig i ddinasyddion a rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu bywydau, yn ogystal \u00e2 chyflawni ein gweledigaeth, \u201ccydweithio gyda\u2019n cymunedau i sicrhau bod pawb yn gallu cael y gorau allan o fywyd\u201d.<br \/>\nMae\u2019n rhaid i ni newid y modd y byddwn yn comisiynu a gweithio, gan fod galw cynyddol ar wasanaethau a bod anghenion dinasyddion yn dod yn fwy cymhleth. Mae\u2019n rhaid i ni ddarparu gwasanaethau lleol, o ansawdd gyda llai o adnoddau.<br \/>\nRydym wedi datblygu wyth amcan strategol a\u2019n cynllun comisiynu, sy\u2019n nodi beth yr ydym yn bwriadu ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi eu seilio ar y Nodau Pedwarplyg, a nodwyd yn yr Adolygiad Seneddol o Ofal Cymdeithasol (Ionawr 2018), ac ymchwil, data a\u2019r hyn y mae dinasyddion a phartneriaid wedi\u2019i ddweud wrthym trwy Sgwrs y Sir ac ymgynghoriad.<\/p>\n<h2>Amcanion Strategol<\/h2>\n<h3><strong>Amcan Strategol 1 \u2013 Canolbwyntio ar ganlyniadau lles<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio\u2019r canlyniadau llesiant cenedlaethol (Adran 10) a byddwn yn parhau i weithio tuag at gynnwys y rhain ym mhob agwedd o\u2019n gwaith a chefnogi darparwyr i wneud yr un fath.<\/li>\n<li>Mae\u2019r canlyniadau hyn yn cynnwys cyfrifoldebau y bydd y dinasyddion eu hunain yn ymgymryd \u00e2 nhw i\u2019w helpu i gyflawni eu llesiant eu hunain.<\/li>\n<li>Mae\u2019r Iaith Gymraeg a\u2019n cynnig gweithredol yn sylfaenol i ddarparu\u2019r canlyniadau hyn.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 2 &#8211; Atal<\/h3>\n<ul>\n<li>Rydym eisiau i ddinasyddion fod yn iach, aros yn iach am hirach ac atal neu oedi eu hangen am ofal a chefnogaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 3 &#8211; Ymyrraeth gynnar<\/h3>\n<ul>\n<li>Byddwn yn cydweithio i nodi meysydd ar gyfer ymyrraeth gynnar a gweithredu cyn gynted \u00e2 phosibl fel bod dinasyddion yn aros yn annibynnol, bod teuluoedd yn wydn a bod anghenion plant yn lleihau.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 4 \u2013 Cydweithio<\/h3>\n<p><strong>Byddwn yn cydweithio:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Gydag unigolion, teuluoedd a chymunedau gan ddefnyddio agwedd wedi\u2019i chyd-gynllunio a\u2019i chyd-gynhyrchu fel y bydd gan ddinasyddion fwy o farn, dewis a rheolaeth. Sicrhau ymglymiad cyfartal.<\/li>\n<li>Gydag ystod eang o bartneriaid a phartneriaid corfforaethol yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol i ddatblygu modelau newydd o ofal a gwneud defnydd gorau o lywodraethu ac adnoddau ar y cyd.<\/li>\n<li>Defnyddio cryfderau cymunedol cyfredol i greu cymunedau cryfach, mwy cynaliadwy.<\/li>\n<li>Canolbwyntio ein darpariaeth ar lefel leol fel bod anghenion dinasyddion yn cael eu diwallu yn lleol, r\u0175an ac yn y dyfodol.<\/li>\n<li>Trwy ddefnyddio ffyrdd arloesol o gynnwys dinasyddion, yn enwedig y rhai anodd i\u2019w cyrraedd.<\/li>\n<li>Datblygu perthnasau da gyda\u2019n holl bartneriaid a dysgu gyda\u2019n gilydd.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 5 \u2013 Deall ein cwsmeriaid, ein gweithlu a\u2019n marchnadoedd<\/h3>\n<ul>\n<li>Byddwn yn parhau i ddefnyddio ystod eang o ddata a gwybodaeth i ddatblygu arferion seiliedig ar dystiolaeth fel ein bod yn adnabod ein dinasyddion, ein gweithlu a\u2019r marchnadoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw r\u0175an ac yn y dyfodol.<\/li>\n<li>Bydd y gweithlu gofal wedi\u2019u hymgysylltu, eu cefnogi, eu hyfforddi ac ag agwedd o welliant parhaus. Rydym eisiau i Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy fod yn lle gwych i weithio.<\/li>\n<li>Bydd sefydlogrwydd a chynaladwyedd y farchnad yn sylfaenol i\u2019r gwaith yr ydym yn ei wneud a byddwn yn datblygu ein hagwedd at siapio&#8217;r farchnad, cyflenwi a&#8217;r galw am wasanaethau fel y gallwn ddatblygu ffyrdd arloesol o weithio i ddiwallu anghenion lleol a datblygu cadwyni cyflenwi moesol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 6 \u2013 Mae dinasyddion yn ddiogel<\/h3>\n<ul>\n<li>Bydd diogelu yn cael ei integreiddio ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, fel y gall ddinasyddion fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.<\/li>\n<li>Bydd y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu yn ddiogel.<\/li>\n<li>Mae arferion cyflogaeth moesegol yn ein gwasanaethau a gomisiynwyd yn bwysig a byddwn yn gweithio gyda\u2019n darparwyr i sicrhau bod ein holl arferion yn foesegol o fewn ein cadwyn gyflenwi mewn perthynas \u00e2 chaethwasiaeth fodern, cam-drin hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol. Mae gan Gomisiynu hefyd ran allweddol i\u2019w chwarae wrth ddweud NA i gaethwasiaeth fodern.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 7 \u2013 Ansawdd a gwerth am arian<\/h3>\n<ul>\n<li>Bydd ansawdd hefyd wedi\u2019i integreiddio ym mhopeth a wnawn.<\/li>\n<li>Rydym wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth gwasanaethau a gofal o ansawdd uchel, pwy bynnag sy\u2019n ei ddarparu.<\/li>\n<li>Byddwn yn comisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel ac wedi\u2019u personoleiddio a byddwn yn gwirio ansawdd ein gwasanaethau, profiadau dinasyddion a chynllun gwella ansawdd fel ein bod yn dysgu a gwella yn barhaus.<\/li>\n<li>Bydd gennym agwedd wedi\u2019i thargedu at ddefnyddio adnoddau a byddant yn cael eu defnyddio yn effeithlon ac effeithiol a byddwn yn canfod a dileu gwastraff a fydd yn moderneiddio ein hagwedd at gomisiynu.<\/li>\n<li>Byddwn yn dechrau edrych ar y Gwerth Cymdeithasol y gallwn ei greu trwy wasanaethau sy\u2019n cael eu darparu a\u2019r effaith y maent yn ei gael ar ein cymunedau.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Amcan Strategol 8 &#8211; Technoleg<\/h3>\n<ul>\n<li>Byddwn yn datblygu ymhellach ein defnydd o dechnoleg arloesol, er enghraifft trwy ymestyn teleofal\/technoleg gynorthwyol\/teleiechyd i wella ein gwasanaethau, i gynnal\/hyrwyddo annibyniaeth unigolion a lleihau\u2019r angen am ofal a chefnogaeth uniongyrchol.<\/li>\n<li>Byddwn yn archwilio lle y gallwn weithio yn fwy effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio technoleg, gan ganolbwyntio ar awtomatiaeth yn fewnol a gyda\u2019n darparwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Sut fyddwn ni\u2019n gwybod pa mor effeithiol rydym yn comisiynu?<\/h3>\n<ul>\n<li>Gan fod y strategaeth gomisiynu yn ceisio cyflawni canlyniadau i ddinasyddion Conwy, bydd yn cyfrannu at ddarpariaeth y canlyniadau llesiant, a bydd y rhain yn cael eu defnyddio fel mesurau i asesu llwyddiant y strategaeth, ochr yn ochr \u00e2 darpariaeth ein wyth amcan strategaeth a&#8217;n cynllun comisiynu.<\/li>\n<li>Yn flynyddol, byddwn yn rhoi gwybod sut bydd ein dinasyddion yn diwallu\u2019r canlyniadau llesiant hyn.<\/li>\n<li>Bydd y strategaeth gomisiynu yn cael ei hadolygu ar \u00f4l tair blynedd, neu\u2019n gynt os oes angen gwneud newidiadau.<\/li>\n<li>Bydd y cynllun comisiynu yn cael ei fonitro yn flynyddol a rhoddir gwybod i\u2019r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Comisiynu Rydym newydd gynhyrchu ein strategaeth gomisiynu sy\u2019n nodi sut y bydd Gofal Cymdeithasol Conwy yn cydweithio gyda dinasyddion, staff, cymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid i gomisiynu gwasanaethau sy\u2019n darparu canlyniadau, gwell iechyd a lles, gweithlu y gofalir amdanynt a gwell gwerth am arian. Mae\u2019n ceisio darparu&#8217;r hyn sy\u2019n bwysig i ddinasyddion a rhoi dewis a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":1647,"menu_order":13,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1703","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1703","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1703"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1703\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1703"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}