{"id":1509,"date":"2017-11-14T16:12:47","date_gmt":"2017-11-14T16:12:47","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1509"},"modified":"2017-12-18T14:29:48","modified_gmt":"2017-12-18T14:29:48","slug":"gweithio-gyda-a-chefnogi-pobl-i-gyflawni-gwell-lles-economaidd-cael-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion-safon-ansawdd-6","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/gweithio-gyda-a-chefnogi-pobl-i-gyflawni-gwell-lles-economaidd-cael-bywyd-cymdeithasol-a-byw-mewn-llety-addas-syn-diwallu-eu-hanghenion-safon-ansawdd-6\/","title":{"rendered":"&#8220;Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy\u2019n diwallu eu hanghenion&#8221; Safon Ansawdd 6"},"content":{"rendered":"<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r gefnogaeth y soniwyd amdano yn safon ansawdd 4, rydym hefyd yn cefnogi pobl drwy\u2019r cynlluniau canlynol:<\/p>\n<p><strong>Gr\u0175p Cyfeillgarwch Cyswllt Conwy: <\/strong>Mae\u2019r Gr\u0175p Cyfeillgarwch ar agor i bob oedolyn gydag anableddau dysgu sy\u2019n byw yng ngogledd Cymru ac mae\u2019n darparu cefnogaeth gyda gweithgareddau cymdeithasol. Mae enghreifftiau o weithgareddau sy\u2019n cael eu trefnu yn cynnwys canlyn cyflym, disgos, teithiau cerdded, teithiau i&#8217;r sinema neu theatr.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu cyfeillion:<\/strong> Y nod yw paru gwirfoddolwyr gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu i fynd i ddigwyddiadau gyda nhw megis y theatr, tafarndai, clybiau a gigs cerddoriaeth.<\/p>\n<p><strong>Cludiant:<\/strong> Mae\u2019r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau dydd ac yn cefnogi unigolion i fynd i siopau a rhwydweithiau\/gweithgareddau gr\u0175p. \u00a0Mae hyn yn hyrwyddo annibyniaeth, yn annog symudedd a rhyngweithio cymdeithasol.<\/p>\n<h2>Mynediad at gyngor ariannol a chymorth<\/h2>\n<p>Pan fydd asesiad gofal yn cael ei gynnal, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn egluro\u2019r goblygiadau ariannol a chost y gofal.\u00a0 Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan. Caiff y mater ei atgyfeirio i\u2019n t\u00eem hawliau lles i ystyried a oes modd i\u2019r unigolyn elwa o hawlio\u2019r budd-dal llawn.<\/p>\n<p>Yna fe gynhelir asesiad ariannol sydd yn ystyried faint o gyfraniad y gall y defnyddiwr gwasanaeth ei fforddio tuag at eu gofal.\u00a0 Fe benderfynir faint fydd cyfraniad yr unigolyn drwy ddefnyddio canllaw Llywodraeth Cymru yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae gennym ymgynghorwyr arbenigol ar gyfer pobl sy&#8217;n gadael gofal, ac mae gennym swydd benodol i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc o dan 25 oed sydd yn cyd-fynd \u00e2&#8217;r t\u00eem presennol drwy gefnogi unigolion sydd anghenion ychwanegol.<\/p>\n<h2>Mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg ac ieithoedd dewisol eraill<\/h2>\n<p>Caiff iaith ddewisol unigolyn ei bennu yn ystod \u2018Sgwrs Beth sy\u2019n Bwysig\u2019 fel rhan o\u2019r cynnig gweithredol. Bydd unrhyw ohebiaeth neu asesiad dilynol yn cael ei gynnal yn eu dewis iaith. Yng Nghonwy, mae darpariaeth gwasanaethau yn eu dewis iaith yn heriol, yn enwedig pan fydd darpariaeth yn cael ei anfon allan. Serch hynny, mae ein Cytundebau Lefel Gwasanaeth bellach yn cynnwys datganiad sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r Gymraeg, ac rydym yn ceisio cynyddu siaradwyr Cymraeg yn rhan o\u2019r broses recriwtio. Ein bwriad yw cynyddu\u2019r Cynnig Gweithredol, ac mae ein Cynllun Gweithredu 3 blynedd yn ystyried amcanion y fframwaith. Caiff y Gymraeg ei hyrwyddo ar e-bost ac mae staff yn gwisgo llinynnau gwddf gan gynnwys llinynnau gwddf i ddysgwyr Cymraeg. Yn ogystal \u00e2 hyn, mae rhaglen &#8216;Cysill\u2019 ar gael i staff yng Nghonwy. Fe deimlir fod Conwy ar y blaen o ran y cwrs meistr dwyieithog sydd ar gael drwy Brifysgol Bangor.<\/p>\n<h2>Mynediad i lety preswyl<\/h2>\n<h2>Strategaeth Rhianta Corfforaethol<\/h2>\n<p>Gyda\u2019n partneriaid, rydym wedi datblygu Strategaeth &#8216;Rhianta Corfforaethol&#8217;. \u00a0Mae\u2019r strategaeth yn nodi gweledigaeth a chynlluniau Conwy i gyflawni ei ddyletswyddau a chyfrifoldebau fel Rhiant Corfforaethol i\u2019r holl Blant sy\u2019n Derbyn Gofal yng Nghonwy, ac mae\u2019n cysylltu \u00e2 nifer o ddogfennau pwysig.<\/p>\n<p>Er mwyn i &#8216;Rianta Corfforaethol&#8217; gop\u00efo ansawdd y gofal a roddir gan &#8221;riant da&#8221;, mae angen i bob asiantaeth a gweithiwr proffesiynol ystyried sut y gallant fod yn rhagweithiol, o fewn eu cylch gwaith eu hunain, ar ran plant sy&#8217;n derbyn gofal, a\u2019r holl asiantaethau, i ymdrechu i gydweithio\u2019n gryf fel y gall y &#8216;rhiant corfforaethol&#8217; cyfan fod yn fwy na chyfanswm ei rannau.<\/p>\n<p>Caiff cyfrifoldeb rhianta corfforaethol ei rannu gan y Cyngor cyfan. Mae pob aelod, nid y rhai sydd \u00e2 diddordeb yn y Gwasanaethau Plant yn unig, yn \u2018Rieni Corfforaethol\u2019. Mae gan bob Aelod fandad cyfiawn i ofyn \u201ca fyddai hyn yn ddigon da i fy mhlentyn i?\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r Strategaeth yn gosod y safonau uchel rydym yn gobeithio eu cyflawni fel Rhieni Corfforaethol, ac yn rhestru\u2019r saith addewid sydd wedi cael eu blaenoriaethu:<\/p>\n<ol>\n<li>Atal ac Ymyrryd yn Fuan<\/li>\n<li>Cartref<\/li>\n<li>Iechyd<\/li>\n<li>Addysg<\/li>\n<li>Hamdden<\/li>\n<li>Gadael Gofal<\/li>\n<li>Diogelu<\/li>\n<\/ol>\n<p>Ein nod yw gwella cyfleoedd bywyd y plant a phobl ifanc rydym yn gofalu amdanynt yn sylweddol, a sicrhau bod ein strategaeth yn cyfrannu at y saith addewid o fewn y Strategaeth Gorfforaethol 2016-2019. Rydym yn cydnabod amrywiaeth plant a phobl ifanc yn ein gofal a byddwn yn sicrhau bod anghenion unigol o ran eu hoedran, ethnigrwydd, credoau, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol ac anableddau gwahanol yn cael eu diwallu.<\/p>\n<p>Tra y bydd plentyn neu berson ifanc yn ein gofal ac yn derbyn gofal, rydym eisiau i&#8217;w profiadau fod yn rhai cadarnhaol a phleserus, gan alluogi iddynt deimlo\u2019n ddiogel, yn iach ac i gael dysgu &#8211; i roi sylfaen gadarn iddynt ar gyfer gweddill eu bywydau.<strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h2>Strategaeth Llety Anabledd<\/h2>\n<p>Nod y Strategaeth Llety Anabledd yw adolygu pawb sydd wedi cael eu lleoli mewn prosiectau 24\/7 \u2013 sef y mwyafrif o\u2019n cleientiaid. Y nod yw ystyried addasrwydd, angen yn y dyfodol, a defnyddio adnoddau gyda\u2019r bwriad o greu arbedion a rhoi mwy o ffocws ar ganlyniadau. Un opsiwn ydi edrych ar ddarpariaeth sy\u2019n seiliedig ar ardal.<\/p>\n<h2>Pan fydda i\u2019n barod<\/h2>\n<p>Fe lansiwyd &#8216;Pan fydda i\u2019n Barod\u2019 ym mis Ebrill, a chafodd cam allweddol ei nodi yn ystod adolygiad mis Hydref yn ymwneud \u00e2 datblygu hyfforddiant ar gyfer gofalwyr maeth a staff, gan sefydlu\u2019r cytundeb tenantiaeth a sefydlu prosesau allweddol gyda chyllid.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun hwn yn bwysig gan ei fod yn galluogi pobl ifanc i gael mynediad i ragor o gefnogaeth nes eu bod mewn sefyllfa well i symud ymlaen.\u00a0 Rydym yn gweithio gyda\u2019r adran Tai i ganfod unrhyw anghenion llety posibl yn fuan er mwyn gallu cynllunio unrhyw drefniadau trosglwyddo.\u00a0 Fe fydd y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys adolygiad ffurfiol o gynllun \u2018Pan fydda i\u2019n Barod\u2019 yn lleol, ac mae gweithdy rhanbarthol wrthi&#8217;n cael ei gyd-drefnu.<\/p>\n<h2>Llwybr Cadarnhaol<\/h2>\n<p>Mae gennym brosiect corfforaethol yng Nghonwy sydd yn edrych ar anghenion llety pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Rydym yn mabwysiadu\u2019r model llwybr cadarnhaol, a fydd yn canolbwyntio ar 5 maes allweddol.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1553 size-full\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Positive-Pathway-Model-3.png\" alt=\"\" width=\"476\" height=\"642\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Positive-Pathway-Model-3.png 476w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Positive-Pathway-Model-3-222x300.png 222w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Positive-Pathway-Model-3-15x20.png 15w\" sizes=\"auto, (max-width: 476px) 100vw, 476px\" \/><\/p>\n<h2>Kickstart<\/h2>\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio\u2019n agos gyda darparwyr tai cymdeithasol Wales and West i sefydlu rhaglen gefnogi Kickstart, sydd yn cynnig t\u0177 pedwar ystafell wely i bobl iau (18-30 oed) a 6 fflat un ystafell wely gyda\u2019r nod o helpu pobl ddiamddiffyn i ennill y sgiliau maent eu hangen i fod yn annibynnol, delio \u00e2 bywyd bob dydd ac yna mynd ati i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain. \u00a0Mae\u2019n rhan o gynllun tai fforddiadwy yn Abergele sydd \u00e2 staff cymorth wrth law i gynorthwyo\u2019r preswylwyr i fod yn annibynnol.<\/p>\n<p>Fe agorodd y cynllun yn 2016 ac mae wedi bod yn llawn ers hynny. Mae cael amgylchedd cartref diogel a chroesawgar yn fantais enfawr i\u2019r preswylwyr ac mae\u2019n agwedd sylfaenol o allu symud ymlaen tuag at olau bywyd a byw\u2019n annibynnol. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, daith o amgylchedd y cynllun ym mis Rhagfyr 2016, ac roedd yn hapus iawn gyda\u2019r datblygiad a chafodd y bobl ifanc yn y t\u0177 gyfle i ddisgrifio wrtho yr effaith roedd symud i Kickstart wedi ei gael ar eu bywydau.<\/p>\n<p>Roedd un preswylydd oedd yn 20 oed wedi bod mewn 17 t\u0177 gwahanol cyn symud i\u2019r t\u0177 yma ac roedd wedi cael trafferth \u00e2 sawl agwedd o fywyd. Dywedodd, \u201cWeithiau gall fod yn anodd hyd yn oed mynd i\u2019r siop, ond ers i mi symud yma dwi wedi setlo i lawr a dwi&#8217;n gallu mynd allan i weld fy ffrindiau a theulu. Dwi newydd ennill cymhwyster NVQ mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Llandrillo\u201d.<\/p>\n<p>Mae tai addas digonol yn bwysau allweddol o fewn y gwasanaeth ac mae gweithio gyda\u2019n partneriaid tai cymdeithasol ar gynlluniau megis Kickstart yn creu mantais enfawr drwy gynnig lleoliadau priodol i bobl sy\u2019n gadael gofal a defnyddwyr Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn. Mae cael cefnogaeth barhaol ar y safle yn sicrhau y gall pobl ennill y sgiliau bywyd sydd ei angen i fyw\u2019n annibynnol, ac yn sgil eu cyfnod mewn lleoliad Kickstart mae preswylwyr eisoes wedi symud ymlaen i\u2019w fflatiau eu hunain.<\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen yn 2018, ein nod yw parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol i gynnal y cynllun Kickstart ac edrych am gyfleoedd eraill i ailadrodd y model tai yma mewn mannau eraill er mwyn i ddefnyddwyr gwasanaeth gael eu cefnogi i gyflawni eu dyheadau, bod yn annibynnol ac i gysylltu \u00e2\u2019u cymunedau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1554\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-1-20x13.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-1.jpg 499w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<h2>Datblygiad Canolfan Marl<\/h2>\n<p>Rydym yn defnyddio cyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Canolraddol er mwyn ailwampio Canolfan Marl. Fe fydd yn lleoliad ar gyfer Canolfan Adnoddau Anableddau, Uned Asesu Therapi Galwedigaethol Anableddau, a naw Rhandy Byw\u2019n Annibynnol i Bobl Anabl. Fe fydd yna hefyd swyddfa a chyfleusterau lles ar gyfer y t\u00eem staff gofal a fydd ar gael i gefnogi\u2019r rhai sy\u2019n byw yn y rhandai yn ogystal \u00e2 gweithredu fel gwasanaeth allgymorth i bobl eraill sy\u2019n byw yn y gymuned ehangach.<\/p>\n<h3>Astudiaeth achos<\/h3>\n<p><em>Gofynnodd teulu am gymorth i symud t\u0177 am eu bod eisiau helpu eu plentyn oedd ag anableddau dysgu yn ystod y nos ac am fod ganddynt anawsterau gyda\u2019u llety presennol. Roedd y rhieni yn cymryd eu tro i gysgu yn yr un ystafell \u00e2\u2019u plentyn. <\/em><em>Cafodd botwm larwm Teleofal a galwr cymorth gofal eu rhoi i\u2019r plentyn, felly bellach mae\u2019r plentyn yn gallu galw am gymorth yn y nos heb fod rhywun yn gorfod bod yn yr ystafell gyda nhw.<\/em><em>\u00a0 <\/em><em>Ni fu\u2019n rhaid i\u2019r teulu symud (fe ragwelir y byddai hyn wedi cymryd cryn amser), felly fe allant barhau i ddefnyddio\u2019r rhwydweithiau cymorth presennol yn y gymuned, yn yr ysgol ac ati. Mae\u2019r rhieni\u2019n gallu cysgu yn yr un ystafell, ac mae gan y plentyn fwy o ymdeimlad o annibyniaeth. <\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1555\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-houses-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-houses-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-houses-1-20x13.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/kickstart-houses-1.jpg 500w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<h1>Data perfformiad sy\u2019n ategu\u2019r safon ansawdd yma<\/h1>\n<h3>Ansoddol<\/h3>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl yn dweud eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw<\/span> <\/em><\/strong>Mae 84% o <strong>oedolion<\/strong> yn cytuno bod eu cartref yn cefnogi eu lles. Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn dangos bod y mwyafrif llethol o ddinasyddion yn awyddus i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn hired \u00e2 phosibl a bod addasiadau megis cawodydd, mynediad i gadeiriau olau a rampiau yn cynorthwyo \u00e2 hynny. Pan mae pobl yn dweud eu bod yn dymuno symud, fe fyddai\u2019n well ganddynt gael byngalo fel nad yw grisiau yn broblem.<\/p>\n<p>Mae 88% o <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong> yn rhannu\u2019r farn hon; mae nifer yn byw gartref gyda rhieni\/aelodau eraill o\u2019r teulu.<\/p>\n<p>Mae 78% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn teimlo bod eu cartrefi yn cefnogi eu lles orau, ac roedd sylwadau ychwanegol yn cyfeirio at yr angen am fyngalo ac addasiadau i ysgafnhau cyflyrau meddygol a chyfyngiadau ar symudedd. Unwaith eto, roedd nifer yn hapus i aros yn eu cartrefi eu hunain, gyda chefnogaeth.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Plant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn hapus gyda\u2019r bobl y maent yn byw \u00e2 nhw<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Dywedodd 85% o <strong>blant<\/strong> eu bod yn hapus gyda\u2019r bobl maent yn byw \u00e2 nhw.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn gofal a chymorth drwy eu dewis iaith<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Dywedodd 95% o <strong>oedolion<\/strong> eu bod yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith, ac roedd hyn yn cynyddu i 97% mewn <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong>, 98% ymysg <strong>gofalwyr<\/strong> a 100% ar gyfer <strong>plant<\/strong>.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Oedolion ifanc yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth i\u2019w paratoi i fod yn oedolyn<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>O\u2019r rhai a ymatebodd o\u2019r gr\u0175p oedran yma, roedd pawb yn cytuno \u00e2\u2019r datganiad hwn. Dywedodd un eu bod yn gwneud eu hymchwil eu hunain \u2018na fyddai\u2019n rhagfarnllyd\u2019 er mwyn iddynt ddod i\u2019w casgliadau eu hunain.<\/p>\n<p><span style=\"color: #008000;\"><strong><em>Pobl yn dweud eu bod yn dewis byw mewn cartref gofal preswyl<br \/>\n<\/em><\/strong><\/span>O garfan yr <strong>oedolion<\/strong>, dywedodd 76 o bobl eu bod yn byw mewn cartref gofal preswyl. O\u2019r rhain, roedd 47 yn cytuno mai eu dewis nhw oedd byw yna, gan gynrychioli 62%. \u00a0Roedd 22% yn teimlo nad eu penderfyniad nhw oedd hyn.<\/p>\n<p>O\u2019r garfan <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong>, dywedodd 12 o bobl eu bod yn byw mewn cartref gofal preswyl. Roedd 50% o\u2019r rhain yn teimlo mai eu dewis nhw oedd hyn, gyda 25% yn teimlo bod rhywun arall wedi gwneud y penderfyniad ar eu rhan.<strong> \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/p>\n<h3>Meintiol<\/h3>\n<ul>\n<li>Canran yr holl bobl sy&#8217;n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis a 24 mis ar \u00f4l gadael gofal ydi 50% a 44%.<\/li>\n<li>Canran yr holl bobl sy\u2019n gadael gofal sydd wedi bod yn ddigartref yn ystod y flwyddyn ydi 17.11%<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r gefnogaeth y soniwyd amdano yn safon ansawdd 4, rydym hefyd yn cefnogi pobl drwy\u2019r cynlluniau canlynol: Gr\u0175p Cyfeillgarwch Cyswllt Conwy: Mae\u2019r Gr\u0175p Cyfeillgarwch ar agor i bob oedolyn gydag anableddau dysgu sy\u2019n byw yng ngogledd Cymru ac mae\u2019n darparu cefnogaeth gyda gweithgareddau cymdeithasol. Mae enghreifftiau o weithgareddau sy\u2019n cael eu trefnu yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1509","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1509","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1509"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1509\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1509"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}