{"id":1482,"date":"2017-11-14T16:05:42","date_gmt":"2017-11-14T16:05:42","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1482"},"modified":"2017-12-18T15:00:46","modified_gmt":"2017-12-18T15:00:46","slug":"amddiffyn-a-diogelu-pobl-rhag-camdriniaeth-esgeulustod-neu-niwed-safon-ansawdd-3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/amddiffyn-a-diogelu-pobl-rhag-camdriniaeth-esgeulustod-neu-niwed-safon-ansawdd-3\/","title":{"rendered":"&#8220;Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed&#8221; Safon Ansawdd 3"},"content":{"rendered":"<h2>Datblygu Polisi Oedolion mewn Perygl<\/h2>\n<p>Yn rhan o\u2019r gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda Diogelu Oedolion, mae\u2019r Awdurdod Lleol wedi diweddaru ei Bolisi Oedolion mewn Perygl. Mae\u2019r polisi newydd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw&#8217;r oedolion yn ganolbwynt i\u2019r cyfan. Mae\u2019r oedolyn yn y sefyllfa orau i adnabod risgiau, darparu manylion yngl\u0177n \u00e2&#8217;i effaith ac a ydynt yn ystyried fod y mesurau lliniaru yn dderbyniol. Mae gweithio gyda\u2019r oedolyn i arwain a rheoli lefel y risg y maent yn nodi sy\u2019n dderbyniol yn creu diwylliant lle:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae oedolion yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth;<\/li>\n<li>Mae oedolion yn cael eu grymuso ac mae ganddynt berchnogaeth dros y risg;<\/li>\n<li>Mae gwell effeithiolrwydd a gwydnwch wrth ddelio \u00e2 sefyllfa;<\/li>\n<li>Mae gwell perthnasau gyda gweithwyr proffesiynol;<\/li>\n<li>Mae rhannu gwybodaeth yn dda i reoli risg, gan gynnwys yr holl fudd-ddeiliaid allweddol;<\/li>\n<li>Gellir diogelu agweddau allweddol o ansawdd bywyd a lles y person.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn y rhan fwyaf o achosion, oni bai ei bod yn anniogel gwneud hynny, bydd pob ymchwiliad yn dechrau drwy sgwrsio \u00e2\u2019r oedolyn mewn perygl. Bydd y Swyddog Ymholiadau yng Nghonwy yn sicrhau os oes sgyrsiau eisoes wedi cael eu cynnal a&#8217;u bod yn ddigonol, ni ddylai\u2019r oedolyn a\/neu eu heiriolwr orfod ailadrodd eu stori. Mewn sawl achos mae\u2019n bosibl iawn mai staff \/ sefydliadau sydd eisoes yn adnabod yr oedolyn yn dda fydd yn y sefyllfa orau i arwain yr ymchwiliad. Efallai eu bod yn weithiwr cefnogi tai, Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd arall fel y nyrs gymunedol neu weithiwr cymdeithasol. Er y bydd angen mewnbwn sylweddol gan ymarferydd gofal cymdeithasol mewn nifer o ymholiadau, bydd sawl agwedd a ddylai ac a allai gael eu hymgymryd gan weithwyr proffesiynol eraill.<\/p>\n<p>Er mwyn monitro gweithrediad effeithiol y polisi, byddwn yn cyfeirio at Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ac yn adrodd yn \u00f4l ar berfformiad ynghylch faint o bobl sy\u2019n teimlo\u2019n ddiogel ar \u00f4l derbyn cymorth drwy Gynllun Gofal a Chymorth. Byddwn yn parhau i sefydlu ymagwedd Gwneud Diogelu\u2019n Bersonol i ymarfer Oedolion mewn Perygl.<\/p>\n<h2>R\u00f4l y Cydlynydd Diogelu Oedolion<\/h2>\n<p>Mae Conwy wedi parhau i ddatblygu r\u00f4l Cydlynydd Diogelu Oedolion i sicrhau gwell arolygiaeth o brif them\u00e2u ymarfer Oedolion mewn Perygl. Fe wnaed hyn drwy weithredu\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Sesiynau ymgynghori wythnosol gyda\u2019r Cydlynydd i\u2019r holl staff sy\u2019n gweithio ar waith achos<\/li>\n<li>Y Cydlynydd yn mynychu cyfarfodydd t\u00eem ar draws y gwasanaeth<\/li>\n<li>Sesiynau hyfforddi i reolwyr ynghylch r\u00f4l yr Arweinydd Dynodedig<\/li>\n<li>Archwiliadau thematig rheolaidd ynghylch Ymarfer Oedolion mewn Perygl<\/li>\n<li>Ail ddylunio\u2019r Model Diogelu Oedolion yn Paris. Mae\u2019r modiwl diogelu yn cydymffurfio \u00e2 gofynion canllawiau Delio ag Achosion Unigol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r Cadeirydd hefyd yn cadeirio Fforwm Diogelu Oedolion a gynhelir yn chwarterol, gan arwain ar Adroddiad Rhanbarthol Diogelu Oedolion mewn Perygl. Roedd y newidiadau hyn yn ymateb i Archwiliad Adroddiad Diogelu Oedolion mewn Perygl diweddar.<\/p>\n<p>Drwy lansio\u2019r Ffurflen Adrodd Diogelu Rhanbarthol, rydym yn disgwyl gweld gwelliant yn ansawdd y wybodaeth ynghylch pryderon diogelu. Bydd archwiliad dilynol yn cael ei gynnal yn 2017\/18.<\/p>\n<h2>R\u00f4l newydd Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu yng Nghonwy<\/h2>\n<p>Mae\u2019r cynllun peilot newydd Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu (a ariannwyd drwy Gronfa Gofal Canolraddol) o fewn y gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion sydd angen cyfarfod Strategaeth Oedolion mewn Perygl.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1546 size-full\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Safeguarding-Flowchart-2.png\" alt=\"\" width=\"838\" height=\"130\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Safeguarding-Flowchart-2.png 838w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Safeguarding-Flowchart-2-300x47.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Safeguarding-Flowchart-2-768x119.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Safeguarding-Flowchart-2-20x3.png 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 838px) 100vw, 838px\" \/><\/p>\n<ul>\n<li>Gyda dim ond 14% (cyfartaledd blynyddol) o Bryderon Diogelu bellach yn symud ymlaen i&#8217;r broses Strategaeth Oedolion mewn Perygl, mae hi&#8217;n amlwg y bu manteision syth i reolwyr. Mae pob gwasanaeth wedi cydnabod hyn ac wedi canmol y newid yn y broses.<\/li>\n<li>Nid yw&#8217;r term \u2018NFA&#8217; (No Further Action) bellach yn cael ei ddefnyddio. Fe ymchwilir i bob Pryder Diogelu a dderbynnir ac mae hyn yn unol \u00e2\u2019r Ddeddf.<\/li>\n<li>Ym mis Chwefror 2017, fe gynhaliodd y Cydlynydd Diogelu Oedolion archwiliad o\u2019r 52 ymholiad gan dynnu sylw at arfer da, yn enwedig ynghylch sicrhau fod barn Oedolion Mewn Perygl yn cael eu casglu.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Dysgu a Datblygu Gweithlu<\/h2>\n<p>Mae llawer o hyfforddiant wedi cael ei ddarparu i ymarferwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac asiantaethau darparwyr dros y deuddeng mis diwethaf. Mae\u2019r digwyddiadau dysgu canlynol wedi cael eu cynnal:<\/p>\n<ul>\n<li>Cadeirio Cyfarfodydd Diogelu Oedolion<\/li>\n<li>Ymarfer Oedolion mewn Perygl i Reolwyr Arweinwyr Penodedig<\/li>\n<li>Oedolion mewn Perygl i Ddarparwyr<\/li>\n<li>Hyfforddiant Ymchwiliad ac Ymholiadau i Weithwyr Cymdeithasol\/Therapyddion Galwedigaethol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Nod y Canlyniadau a nodwyd yn y Digwyddiadau Dysgu oedd sicrhau pwysigrwydd cadw\u2019r Oedolyn yn ganolbwynt y broses ddiogelu.<\/p>\n<h2>Oedolion ar Goll<\/h2>\n<p>Mewn partneriaeth \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru, mae\u2019r Awdurdod Lleol wedi bod yn treialu <a href=\"http:\/\/www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru\/lansio-cynllun-oedolyn-ar-goll-yn-herbert-protocol\/\">Protocol Oedolion Ar Goll<\/a> newydd (a elwir yn Herbert Protocol) gyda\u2019r nod o \u201carbed munudau a bywydau\u201d pan mae unigolion sy\u2019n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Gartrefi Gofal Nyrsio yn mynd ar goll.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun, wedi\u2019i enwi ar \u00f4l cyn-filwr a oedd yn dioddef o ddementia, wedi cael ei dreialu mewn cartrefi gofal ar draws Conwy cyn cyflwyno\u2019r cynllun ar draws Gogledd Cymru.<\/p>\n<p>Yn unol \u00e2\u2019r cynllun, mae gofyn i aelodau o\u2019r teulu neu ofalwyr lenwi proffil person &#8216;oedolyn mewn perygl&#8217; am eu hanwyliaid, sydd yn cynnwys gwybodaeth megis eu henw, dyddiad geni, arferion a mynediad i gludiant. Mae\u2019r ffurflen wedi\u2019i chreu i helpu swyddogion yr Heddlu gyrchu gwybodaeth bwysig a all fod o gymorth i leoli person coll, sy\u2019n byw mewn cartref gofal, cyn gynted \u00e2 phosib.<\/p>\n<p>Yn 2017\/18, mewn partneriaeth \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd y protocol ac yn adrodd yn \u00f4l i Fwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Gogledd Cymru cyn dod i benderfyniad ynghylch cyflwyno\u2019r protocol ledled gogledd Cymru.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1542 size-full\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Chris-Walker-Quote.png\" alt=\"\" width=\"480\" height=\"268\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Chris-Walker-Quote.png 480w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Chris-Walker-Quote-300x168.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Chris-Walker-Quote-20x11.png 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 480px) 100vw, 480px\" \/><\/p>\n<h2>Polisi Hunan esgeulustod a chelcio<\/h2>\n<p>Mewn ymateb i Adolygiad Ymarfer Oedolion, mae Conwy wedi cymryd arweiniad wrth ddatblygu Protocol Hunan Esgeulustod Rhanbarthol a datblygu Polisi Celcio Lleol.<\/p>\n<p><strong>Nod y Protocol Hunan esgeulustod <\/strong>ydi atal anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth unigolion sy&#8217;n ymddangos i fod yn hunan-esgeuluso trwy sicrhau fod:<\/p>\n<ul>\n<li>unigolion yn cael eu grymuso cyn belled \u00e2 phosibl, er mwyn deall goblygiadau eu gweithredoedd;<\/li>\n<li>Bod yna ddealltwriaeth ranedig, aml-asiantaeth a chydnabyddiaeth o\u2019r materion;<\/li>\n<li>Pryderon yn derbyn blaenoriaeth briodol;<\/li>\n<li>Asiantaethau a sefydliadau yn cynnal eu dyletswyddau gofal;<\/li>\n<li>Bod yna ymateb cymesur i lefel y perygl i&#8217;w hunain ac i eraill.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy hyrwyddo dull sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd yn cefnogi hawl yr unigolyn i gael ei drin gyda pharch ac urddas, ac i fod mewn rheolaeth, a chyn belled a&#8217;i fod yn bosibl, i fyw bywyd annibynnol; hyrwyddo ymagwedd gymesur i asesu a rheoli risg; ac egluro cyfrifoldebau gwahanol asiantaeth ac ymarferydd a hyrwyddo lefel briodol o ymyrraeth drwy ddull aml asiantaeth.<\/p>\n<p>Nod y polisi celcio lleol ydi ymchwilio a rhannu gwybodaeth am y problemau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chelcio o wahanol safbwyntiau proffesiynol a chymunedol. Ymdrin \u00e2 digwyddiadau ar sail tystiolaeth, mewn ffordd strwythuredig, systematig, cydlynol a chyson.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Cyngor yn cynnal dau weithdy aml asiantaeth i hyrwyddo ymwybyddiaeth o\u2019r polisi. Bydd y ffocws ar Hunan esgeulustod a Diogelu. Yn ogystal, oherwydd y nifer sylweddol o achosion, fe fydd y Cyngor yn peilota Panel Hunan-esgeulustod Aml Asiantaeth. Fe fydd y panel yn ystyried cyflwyniadau achos ac yn cefnogi asiantaethau partner i gydweithio gyda\u2019r nod o leihau a rheoli risgiau.<\/p>\n<p>Diffiniad o lwyddiant fydd bod oedolion yn teimlo eu bod yn cael eu diogelu mewn modd sy\u2019n eu cefnogi i wneud dewisiadau a chael rheolaeth am sut maent eisiau byw. \u00a0Bydd llwyddiant hefyd yn golygu ymwybyddiaeth gynyddol gyda phartneriaid aml asiantaeth er mwyn i bawb atal, adnabod ac ymateb i bryderon diogelu.<\/p>\n<h2>Byrddau Diogelu Rhanbarthol<\/h2>\n<p>Fel Awdurdod Lleol, mae Conwy wedi cyflwyno dau adroddiad blynyddol i Fwrdd Rhanbarthol Plant ac Oedolion. Mae\u2019r adroddiadau yn nodi\u2019r gwaith sydd wedi cael ei wneud mewn cysylltiad \u00e2 diwallu blaenoriaethau\u2019r Bwrdd yn 2016\/17.<\/p>\n<h2>Blaenoriaethau Rhanbarthol Bwrdd Oedolion<\/h2>\n<ul>\n<li><strong>Mae BDOGC yn gweithredu\u2019n effeithiol ac yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol.<\/strong><br \/>\nMae CBSC yn cyfrannu at weithrediad y bwrdd<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><strong>Mae canlyniadau ar gyfer oedolion sy&#8217;n destun cynllun amddiffyn oedolion wedi gwella o ganlyniad i&#8217;r holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau amddiffyn oedolion o ansawdd yn gyson yn unol \u00e2&#8217;r arfer gorau a gytunwyd.<br \/>\n<\/strong>Mae hon yn flaenoriaeth bwysig i Gonwy, rydym yn canolbwyntio ar wella\u2019r Cynllun Amddiffyn Oedolion dros y deuddeng mis nesaf drwy ddigwyddiadau ymarfer dysgu ac adborth archwilio. Rydym wedi parhau i ddatblygu ymarfer gan sicrhau fod yr Oedolyn yn ganolbwynt i\u2019r broses. Mae datblygu Model Arwyddion Diogelwch yng Nghonwy yn gam pwysig tuag at gefnogi\u2019r amcan hon.<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><strong>Mae\u2019r BDOGC yn sicr o ansawdd gwasanaethau diogelu ar draws gogledd Cymru.<\/strong><br \/>\nMae gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion amserlen archwilio ar waith ac mae\u2019n darparu adborth i\u2019r gr\u0175p cyflawni ymarfer.<\/li>\n<li><strong>Mae&#8217;r risg y bydd oedolion diamddiffyn yn dioddef neu&#8217;n destun camdriniaeth neu esgeulustod yn cael ei leihau ac mae&#8217;r cyhoedd yn ymwybodol o&#8217;r angen i ddiogelu ac amddiffyn, ac yn gwybod beth i&#8217;w wneud os oes mater diogelu.<\/strong><br \/>\nRydym yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr i wella ymarfer.<\/li>\n<li><strong>Mae canlyniadau i oedolion diamddiffyn yn gwella oherwydd mae\u2019r gweithlu yn ddiogel, yn fedrus, yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar deuluoedd.<\/strong><br \/>\nMae Conwy wedi cymryd arweiniad mewn Datblygiadau Gweithlu Rhanbarthol. Rydym wedi darparu nifer o ddigwyddiadau hyfforddi i\u2019n staff yn fewnol sy\u2019n ymwneud ag ymarfer Oedolion mewn Perygl.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Blaenoriaethau Rhanbarthol Bwrdd Plant<\/h2>\n<h3>Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant (CSE) a Phlant ar Goll<\/h3>\n<p>Mae llawer o waith wedi cael ei gynnal o fewn CBSC ynghylch agenda CSE a Phlant ar Goll. Mae ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol wedi sefydlu fforwm misol CSE. Mae\u2019r fforwm yma&#8217;n trafod materion ymarfer. Mae panel Fframwaith asesu risg o gam-fanteisio rhywiol (SERAF) wedi cael ei sefydlu hefyd; mae pob achos plentyn sy\u2019n destun SERAF yn cael ei gyflwyno i\u2019r panel a\u2019i adolygu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun gweithredu Rhanbarthol CSE yn cael ei adolygu a\u2019i ddiweddaru yng ngr\u0175p Plant Coll a CSE Conwy a Sir Ddinbych.<\/p>\n<p>Mae archwiliad o achosion SERAF wedi cael ei gwblhau yn CBSC. Fe gyflwynwyd y casgliadau canlynol i\u2019r gr\u0175p cyflenwi ymarfer:<\/p>\n<ol start=\"1\">\n<li>Ers yr archwiliad diwethaf yn 2014, mae\u2019n amlwg bod gwelliannau i ymarferion wedi digwydd ynghylch y broses SERAF. Gellir dangos hyn drwy:<\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Asesiad SERAF yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod a rhesymeg clir dros y sgorio yn amlwg;<\/li>\n<li>Cyfarfod adolygu SERAF ar gyfer pob achos yn cael ei gynnal yn fwy aml;<\/li>\n<li>Rhaid nodi ansawdd cofnodion SERAF;<\/li>\n<li>Mwy o Berchenogaeth Aml Asiantaeth ynghylch proses SERAF.<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"2\">\n<li>Mae\u2019n amlwg iawn nad yw unrhyw ymyrraeth a ddarparwyd pan fo sg\u00f4r SERAF yn nodi risg sylweddol, yn gallu bod yn ddarn o waith tymor byr. Mae\u2019n amlwg yn y sg\u00f4r ar gyfer pob un o&#8217;r achosion yma bod gwelliannau i&#8217;w gweld ar \u00f4l tua 6-9 mis o ymglymiad.<\/li>\n<li>Cyflwynodd diffyg ymgysylltu gan rieni mewn dau achos her sylweddol.<\/li>\n<li>Mewn achosion pan fo\u2019r plentyn yn destun Cynllun Amddiffyn Plant\/ Cynllun Cefnogaeth Gofal a Chymorth, cynhelir sawl cyfarfod, er bod y broses SERAF yn cael sylw yn y Gynhadledd ac Adolygiad Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, mae hi\u2019n bwysig bod Cynllun Gofal a Chymorth y Plentyn yn tynnu sylw at faterion a nodwyd yn y broses SERAF.<\/li>\n<li>Un o\u2019r heriau a nodwyd yn un o\u2019r achosion, yw mai dim ond am nifer penodol o oriau yn y bore y mae un person ifanc yn mynychu, oherwydd eu hymddygiad yn amgylchedd yr ysgol. Mynegwyd pryderon bod gan y person ifanc yma fwy o amser rhydd yn y prynhawn.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Plant sy&#8217;n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol <\/strong><\/p>\n<p>Dyma faes sydd yn parhau i fod yn un heriol i ysgolion\/unedau addysg o fewn CBSC. Mae gwaith eisoes wedi cael ei gynnal ynghylch cyflwyno hyfforddiant i staff aml asiantaeth ac i blant a phobl ifanc. Mewn ysgolion, mae\u2019r Uwch Unigolion Dynodedig (Cydlynwyr Amddiffyn Plant) wedi cael Hyfforddiant Pellach ar \u2018Defnyddio\u2019r Fframwaith i Ddadansoddi a Rheoli Ymddygiad Rhywiol Niweidiol\u2019. Mae amrywiaeth o waith <em>cadw\u2019n ddiogel<\/em> wedi cael ei gynnal gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyfforddiant ar gael i deuluoedd hefyd drwy\u2019r T\u00eem Ymyriadau Teuluol.<\/p>\n<p><strong>Cam-drin domestig<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r maes yma\u2019n parhau yn flaenoriaeth allweddol i CBSC. Mae gwaith aml asiantaeth yn parhau ar waith drwy fforymau megis Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC). \u00a0Mae gan staff yn CBSC fynediad at hyfforddiant mewn cysylltiad \u00e2\u2019r maes yma.<\/p>\n<p>Deddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 \u2013 mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar draws CBSC mewn cysylltiad \u00e2\u2019r maes yma.<\/p>\n<p>Bydd y Panel Diogelu Corfforaethol yn monitro cydymffurfedd.<\/p>\n<h2>Polisi Diogelu Corfforaethol<\/h2>\n<p>Un o Flaenoriaethau Corfforaethol Conwy ydi bod Pobl yng Nghonwy yn ddiogel ac yn teimlo\u2019n ddiogel. Fel cymunedau rydym yn cadw llygad am ein gilydd ac mae pawb yn ymwybodol o&#8217;u cyfrifoldebau diogelu. Ein nod yw sicrhau nad yw cenedlaethau&#8217;r dyfodol yn edrych yn \u00f4l ac yn meddwl y dylem fod wedi gwneud mwy i ddiogelu pobl.<\/p>\n<p>Ers rhoi\u2019r Polisi Diogelu Corfforaethol ar waith ym mis Gorffennaf 2014, mae\u2019r pecynnau diogelu canlynol naill ai wedi cael eu cwblhau neu mae camau gweithredu wedi cychwyn.<\/p>\n<p>Yn 2016\/17 nod y flaenoriaeth oedd sicrhau bod yr holl aelodau etholedig wedi mynychu hyfforddiant diogelu y Cyngor Gofal \u2013 mae pob aelod etholedig bellach wedi derbyn hyfforddiant diogelu.<\/p>\n<p>Mae Gr\u0175p Arweinwyr Dynodedig (arweinwyr diogelu ym mhob adran) yn cwrdd bob deufis. Arweinwyr Penodedig i gael mynediad at hyfforddiant arbenigol ynghylch Diogelu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p wedi cwrdd tair gwaith dros y chwe mis diwethaf gan dderbyn hyfforddiant ar y meysydd canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014<\/li>\n<li>Ymarfer Oedolion mewn Perygl<\/li>\n<li>Rheoli Honiadau yn erbyn Gweithwyr Proffesiynol<\/li>\n<li>Eithafiaeth Dreisgar<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cynhelir Gweithdai Hyfforddiant Recriwtio Diogel Corfforaethol drwy gydol 2016\/17 ar gyfer rheolwyr sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r broses recriwtio \u2013 mae hi bellach yn orfodol bod rheolwyr ar draws y Cyngor yn mynychu Hyfforddiant Recriwtio Diogel.<\/p>\n<p>Bydd gwybodaeth perfformiad allweddol mewn perthynas \u00e2 Diogelu yn cael ei fonitro gan y Panel Diogelu Corfforaethol (gweler y Cynllun Corfforaethol).<\/p>\n<p>Bydd gweithgaredd archwilio diogelu sy\u2019n cael ei gynnal mewn adrannau unigol yn cael ei adrodd i\u2019r Panel Diogelu Corfforaethol \u2013 mae pob Arweinydd Diogelu Penodol yn llenwi archwiliad ar-lein er mwyn monitro cydymffurfiaeth ynghylch Diogelu Corfforaethol.<\/p>\n<h2>Plentyn mewn Perygl<\/h2>\n<p>Dros y deuddeng mis diwethaf mae Conwy wedi parhau i fonitro penderfyniadau wrth ymateb i atgyfeiriadau drws ffrynt er mwyn adnabod gwelliannau mewn ymarfer ynghylch Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Mae dau archwiliad wedi cael eu cwblhau; archwiliad mewnol gan uwch reolwyr ac archwiliad aml-asiantaeth.<\/p>\n<p>Prif Gasgliadau o&#8217;r ddau archwiliad<\/p>\n<ul>\n<li>Daeth yr archwiliad o hyd i ymarfer anghyson (o fewn y sampl o achosion a archwiliwyd) mewn cysylltiad ag ansawdd yr atgyfeiriadau y derbyniodd yr aml-asiantaethau.<\/li>\n<li>Prawf o gydymffurfio gydag amserlenni statudol ynghylch ymateb i atgyfeiriad.<\/li>\n<li>Gwelwyd gwelliannau mewn cofnodi achosion bod atgyfeiriadau blaenorol wedi cael eu hystyried yn rhan o\u2019r broses gwneud penderfyniadau.<\/li>\n<li>Mewn perthynas ag archwiliad Conwy a Sir Ddinbych 2014; gwelwyd gwelliannau mewn cysylltiad \u00e2 chyfeirio at wasanaethau eraill, ond mae rhagor o waith i\u2019w wneud.<\/li>\n<li>Ar y cyfan, roedd yr archwilwyr yn cytuno \u00e2 phenderfyniadau Rheolwyr T\u00eem yng Nghonwy mewn ymateb i atgyfeiriadau.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>R\u00f4l Sicrhau Ansawdd Cydlynydd Diogelu Plant<\/h2>\n<p>Ar \u00f4l pob cynhadledd, bydd y Cadeirydd yn cwblhau archwiliad ar-lein mewn cysylltiad ag ansawdd y broses gynhadledd. Bydd yr archwiliad yn edrych ar:<\/p>\n<ul>\n<li>Ansawdd adroddiadau\u2019r gweithiwr cymdeithasol ac adroddiadau eraill ar gyfer y gynhadledd;<\/li>\n<li>Pa mor brydlon y mae\u2019r gweithwyr cymdeithasol yn rhannu\u2019r adroddiadau;<\/li>\n<li>Presenoldeb pobl ifanc yn y gynhadledd;<\/li>\n<li>Presenoldeb aelodau\u2019r teulu;<\/li>\n<li>Presenoldeb yr asiantaeth yn y gynhadledd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&#8211; Prif gasgliadau o\u2019r Archwiliad dros y 12 mis diwethaf<\/p>\n<p>&#8211; Mae ansawdd adroddiadau Gwaith Cymdeithasol ar gyfer y gynhadledd yn dda;<\/p>\n<p>&#8211; Mae ymgysylltiad yr asiantaeth partner gyda phroses y gynhadledd hefyd yn dda;<\/p>\n<p>&#8211; Mae grwpiau craidd wedi bod yn gweithredu\u2019n dda;<\/p>\n<p>&#8211; Mae angen gwelliant ym mhresenoldeb tadau\/dynion o bwys yn y gynhadledd.<\/p>\n<h2>Ymgysylltiad Plant\/Teuluoedd yn y Gynhadledd<\/h2>\n<p>Fel awdurdod byddwn yn parhau i wella lefelau ymgysylltu gyda\u2019r plentyn\/person ifanc yn y broses Amddiffyn Plant. Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fydd Conwy yn rhoi Model<em> Arwyddion Diogelwch<\/em> ar waith.<\/p>\n<p>Mae eisoes o fewn maes y gynhadledd, mae\u2019r Cadeirydd yn ffocysu\u2019r agenda ar ddull sy\u2019n seiliedig ar gryfderau. Caiff plant\/pobl ifanc eu hannog i lenwi Pecyn Gwaith <em>Three Houses<\/em> cyn y gynhadledd.<\/p>\n<p>Ar ddiwedd pob cynhadledd, gofynnir i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy\u2019n bresennol i lenwi holiadur i edrych ar ffyrdd o wella proses y gynhadledd.<\/p>\n<p><em>\u201cDwi\u2019n meddwl bod y Cadeirydd wedi ymdrin \u00e2 phethau yn ardderchog heddiw; achos cymhleth ac roedd tad y plentyn hynaf wedi teithio o bell i fynychu, ond fe weithiodd y Cadeirydd yn dda gyda\u2019r ddau dad heddiw\u201d <\/em>Gweithiwr Iechyd<\/p>\n<p><em>\u201c<\/em><em>Hapus gyda phopeth; dwi\u2019n teimlo\u2019n ddiogel iawn; does dim angen i&#8217;r cyfarfod boeni&#8221; <\/em>Barn plentyn<\/p>\n<p><strong><u>\u00a0<\/u><\/strong><\/p>\n<h2>Cyfraddau Ail-gofrestru Amddiffyn Plant<\/h2>\n<p>Mewn cysylltiad \u00e2 chyfanswm y nifer o blant a gafodd eu hychwaneg i\u2019r Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn a oedd wedi bod ar y gofrestr yn flaenorol, dim ond naw achos oedd gan Gonwy, sef yr ail ffigur isaf yng Nghymru gyfan.<\/p>\n<p>Mae hyn yn dangos yr ymagwedd bresennol yng Nghonwy i sicrhau bod plant sydd yn cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn parhau i dderbyn cefnogaeth drwy Gynlluniau Gofal a Chymorth Plant mewn Angen.<\/p>\n<ul>\n<li>Mae\u2019r gwasanaethau yn parhau i fod ar gael tri mis ar \u00f4l i enw\u2019r plentyn gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant<\/li>\n<li>Caiff dyddiad cyfarfod adolygu Chynllun Gofal a Chymorth Plant mewn Angen ei drefnu yn y gynhadledd olaf<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Data perfformiad sy\u2019n ategu\u2019r safon ansawdd yma<\/h2>\n<p><strong>Ansoddol<\/strong> <strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"color: #008000;\"><strong><em>Pobl yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel<br \/>\n<\/em><\/strong><\/span>Roedd 76% o <strong>oedolion<\/strong> a ymatebodd yn cytuno eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel. Y thema mwyaf cyffredin yn y sylwadau ychwanegol ydi ofn disgyn, yn hytrach nag unrhyw ffactorau allanol.<\/p>\n<p>Mae 86% o <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong> yn teimlo\u2019n ddiogel.<\/p>\n<p>Mae 87% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn teimlo\u2019n ddiogel, ac unwaith eto mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn s\u00f4n am fod ofn disgyn a delio \u00e2\u2019u cyflyrau meddygol eu hunain. Mae\u2019n rhaid iddynt hefyd ddelio ag ymddygiad y bobl y maent yn gofalu amdanynt, a gall hyn fod ar ffurf cam-drin geiriol.<\/p>\n<p>Mae 93% o <strong>blant<\/strong> yn teimlo\u2019n ddiogel, a chafwyd sylwadau cadarnhaol iawn i ategu\u2019r farn hon, ee, \u201cDwi\u2019n teimlo\u2019n ddiogel iawn iawn yma\u201d a \u201cDwi\u2019n teimlo\u2019n gwbl ddiogel\u201d.<\/p>\n<p><strong>Meintiol<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Canran yr ymholiadau amddiffyn oedolion sydd yn cael eu cwblhau o fewn amserlenni statudol (7 diwrnod) ydi 89.04%.<\/li>\n<li>Canran ailgofrestru plant ar gofrestri amddiffyn plant awdurdodau lleol ydi 17.91%<\/li>\n<li>Hyd cyfartaledd ar gyfer yr holl blant a oedd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn ydi 246 diwrnod.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Datblygu Polisi Oedolion mewn Perygl Yn rhan o\u2019r gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda Diogelu Oedolion, mae\u2019r Awdurdod Lleol wedi diweddaru ei Bolisi Oedolion mewn Perygl. Mae\u2019r polisi newydd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw&#8217;r oedolion yn ganolbwynt i\u2019r cyfan. Mae\u2019r oedolyn yn y sefyllfa orau i adnabod risgiau, darparu manylion yngl\u0177n \u00e2&#8217;i effaith ac a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1482","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1482","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1482"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1482\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1482"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}