{"id":1458,"date":"2017-11-14T15:33:18","date_gmt":"2017-11-14T15:33:18","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1458"},"modified":"2017-12-13T10:08:16","modified_gmt":"2017-12-13T10:08:16","slug":"gweithio-gyda-phobl-a-phartneriaid-i-ddiogelu-a-hyrwyddo-iechyd-corfforol-a-meddyliol-pobl-au-lles-emosiynol-safon-ansawdd-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/gweithio-gyda-phobl-a-phartneriaid-i-ddiogelu-a-hyrwyddo-iechyd-corfforol-a-meddyliol-pobl-au-lles-emosiynol-safon-ansawdd-2\/","title":{"rendered":"\u201cGweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a  hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a\u2019u lles emosiynol\u201d Safon Ansawdd 2"},"content":{"rendered":"<h2>Cefnogi Lles<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r cysyniad o les yn cynnwys dwy brif elfen: teimlo&#8217;n dda a gweithredu&#8217;n dda. Mae&#8217;r rhain yn effeithio ar sawl ffactor gwahanol ac mae sawl ffactor gwahanol yn effeithio arnynt: ein hoedran a\u2019n rhyw, ein hiechyd a mynediad at gymorth a gwasanaethau. Nod y T\u00eem Lles Cymunedol yng Nghonwy ydi helpu preswylwyr yng Nghonwy i fanteisio ar gyfleoedd i wella eu hiechyd a&#8217;u lles drwy gymryd rhan.<\/p>\n<p>Bydd ein gweithgareddau yn bodloni&#8217;r pum maen prawf:<\/p>\n<div class=\"content-box-green\">\n<ul>\n<li>Bod yn egn\u00efol \u2013 rhoi cynnig arni&#8230;cerdded, rhedeg, beicio, dawnsio, garddio, canu&#8230;<\/li>\n<li>Cysylltu \u2013 cyfarfod&#8230;ymuno&#8230;ffonio ffrind&#8230;gwrando&#8230;<\/li>\n<li>Rhoi \u2013 rhannu beth sydd gennych chi&#8230;gwenu ar bobl eraill&#8230;gwirfoddoli&#8230;<\/li>\n<li>Parhau i ddysgu \u2013 rhoi cynnig ar rywbeth&#8230;rhoi cynnig&#8230;gofyn sut, ble a pham&#8230;<\/li>\n<li>Cymryd sylw \u2013 arafu&#8230;gwerthfawrogi&#8230;cydnabod eich talentau eich hun a phobl<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<p>Y nod ar gyfer 2016\/17 oedd sefydlu&#8217;r t\u00eem Lles Cymunedol ym mhob ardal, gyda\u2019r nod o ddarparu o leiaf 40 gweithgaredd ffordd o fyw iach yn y pum canolfan ardal iechyd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017 \u2013 cyfanswm o 200. Fe wnaethom gyflawni hyn a mwy, yn ogystal \u00e2:<\/p>\n<ul>\n<li>Ychydig yn llai na 5000 yn mynychu sesiynau Rhaglen Lles Cymunedol rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017.<\/li>\n<li>Dros 200 math gwahanol o weithgaredd ffordd o fyw iach wedi cael eu darparu yn y pum canolfan ardal iechyd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017.<\/li>\n<li>Partneriaeth weithio gyda dros 55 sefydliad a 30+ o ddarparwyr sesiynau, pob un ohonynt yn helpu i sefydlu <em>5 awgrym llesol<\/em> a gweithgareddau atal yn lleol.<\/li>\n<li>Cydgynhyrchu Prosiect Peilot Hyfforddiant Llysgennad Lles gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a chynnal dau sesiwn hyfforddi gyda sefydliadau trydydd sector\u00a0 Mae\u2019r prosiect hwn yn annog unigolion i fod yn rhan wrth ledu\u2019r gair am iechyd ataliol, rhaglen T\u00eem Lles Cymunedol a<em> 5 awgrym llesol.<\/em><\/li>\n<li>Cyd-ddatblygu Prosiect Pentrefi gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy i helpu i ariannu gweithgareddau lles mewn naw cymuned y tu allan i\u2019r canolfannau ardal. Mae hyn wedi galluogi pentrefi i gynnal eu gweithgareddau lles eu hunain.<\/li>\n<\/ul>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1564 alignleft\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/craftwork-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/craftwork-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/craftwork-1-20x13.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/craftwork-1.jpg 649w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>O\u2019r adborth a dderbyniwyd, dywedodd 16% eu bod yn ymlacio\u2019n well, roedd gan 13% sgiliau gwell, roedd 13% yn teimlo\u2019n well am eu hunain ac roedd 12% yn teimlo\u2019n llai unig.<\/p>\n<h3>\nAstudiaeth Achos: Lles i Bawb \u2013 Prosiect Llysgenhadon Iechyd<\/h3>\n<div class=\"content-box-green\">\n<p>Mae T\u00eem Lles Conwy a Chyngor Gwasanaethu Gwirfoddol Conwy yn datblygu rhaglen llysgenhadon newydd ar y cyd, sydd wedi\u2019i ddylunio i helpu i sefydlu\u2019r <em>5 awgrym llesol<\/em> a dulliau atal iechyd mewn i waith ledled Conwy.<\/p>\n<p>Mae ymchwil <em>5 Awgrym Llesol <\/em>yn adnabod bod \u2018rhoi\u2019 yn rhan hanfodol o annog lles unigolyn. Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Lles Cymunedol Conwy wedi dod at ei gilydd i ddatblygu a chefnogi rhaglen beilot a fydd yn helpu i sicrhau bod gwirfoddoli yn y trydydd sector yng Nghonwy yn ategu egwyddorion iechyd a lles. Ein nod yw darparu:<\/p>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>Sesiwn hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a rhai presennol i adeiladu ymwybyddiaeth o&#8217;r <em>5 Awgrym Llesol<\/em> a&#8217;r ddeddfwriaeth newydd sydd yn gysylltiedig ag egwyddorion lles<\/li>\n<li>Rhaglen hyfforddi ar gyfer Rheolwyr Gwirfoddoli i\u2019w cynorthwyo i sefydlu egwyddorion lles i reoli gwirfoddolwyr trydydd sector<\/li>\n<li>Pecyn hyfforddiant etifeddiaeth sydd wedi cael ei werthuso\u2019n llawn ac yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar draws y trydydd sector yng Nghonwy<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gan elwa o arbenigedd y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy wrth reoli gwirfoddolwyr a phrofiad T\u00eem Lles Cymunedol Conwy o gyflwyno 5 Awgrym Llesol i\u2019r gymuned, fe fydd &#8216;Lles i Bawb\u2019 yn helpu i ddatblygu iechyd a lles cymunedau ar hyd a lled Conwy.<\/p>\n<\/div>\n<p><strong>Y flwyddyn nesaf, ein ffocws fydd: <\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><b><strong>Datblygu 4 x 5 Rhaglenni Gweithgaredd Cymunedol arall mewn canolfannau ardal <\/strong><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>Ein nod yw trosglwyddo mwy o gyllid i\u2019r gymuned leol a\u2019r Trydydd Sector i\u2019w hannog nhw i redeg eu gweithgareddau lles eu hunain ac yna eu cefnogi i sicrhau bod y sesiynau\u2019n troi\u2019n gynaliadwy<\/p>\n<ul>\n<li><b><strong>Ymgysylltu\u2019n llawn gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol statudol ar draws Conwy<br \/>\n<\/strong><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y ffocws ar sicrhau bod sianelau cyfathrebu yn effeithiol, bod staff yn ymwybodol o\u2019r rhaglen ac yn gwybod sut y gellir cynnwys y rhaglen yn y cylch gwaith atal a chefnogi<\/p>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\"><\/li>\n<li><b><strong>Lansio rhaglen Llysgenhadon Iechyd <\/strong><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym eisiau cydnabod y cyfraniad y mae pobl eisoes yn ei wneud a manteisio ar y gwaith y maent eisoes yn ei wneud<br \/>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1565 alignleft\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/gardening-1-300x217.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"217\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/gardening-1-300x217.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/gardening-1-20x14.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/gardening-1.jpg 581w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<ul>\n<li><b><strong>System o werthuso wedi\u2019i dargedu<\/strong><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym wedi gwella wrth ddeall beth sydd ei angen i fesur iechyd a lles ac fe wnaethom dreialu newidiadau yn chwarter 4. Rydym yn barod i\u2019w weithredu\u2019n llawn o fis Ebrill.<\/p>\n<ul>\n<li><b><strong>Datblygu Partneriaeth Ddysgu Conwy<\/strong><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd adfer i breswylwyr sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl.<\/p>\n<ul>\n<li><b><strong>Datblygu tuag at rhaglen beilot rhagnodi cymdeithasol <\/strong><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae hyn yn creu rhwydwaith well i gael mynediad at wasanaethau sydd ddim yn canolbwyntio ar ymyrraeth feddygol yn unig &#8211; e.e. canu i bobl gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint \u2013 dilysu ymagweddau cymdeithasol i broblemau meddygol.<\/p>\n<p>Yn unol \u00e2\u2019r gwaith yma, rydym yn gobeithio agor ein trydydd Canolfan Lles yn Llanrwst yn 2018.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Adborth y Cleient<\/p>\n<p>\u201cDim ond i ddweud diolch i chi am y cymorth y rhoesoch i mi yn y dosbarth i ddod dros fy ofn o\u2019r Llechen. Mae agor Google, siopa a chwilio am wasanaethau tr\u00ean ac ati wedi rhoi\u2019r awydd imi gario ymlaen, dwi\u2019n gwybod fod gen i lawer i\u2019w ddysgu, felly fe welai chi ar y cwrs nesaf ym mis Mai os gai le\u201d.<\/p>\n<p>Adborth Staff<\/p>\n<p>Roedd X yn dioddef o bryder ac iselder ac yn teimlo\u2019n unig iawn. Yn y sesiwn ddiwethaf fe ddywedodd hi faint roedd hi\u2019n mwynhau\u2019r cwrs a sut mae hi bellach yn mentro allan mwy. Roedd hi\u2019n teimlo\u2019n fwy hyderus a chyfforddus o amgylch pobl, fe ddywedodd hi hefyd ei fod wedi gwneud gwahaniaeth i\u2019r modd y mae hi\u2019n cyfathrebu gyda phobl eraill ac mae hi wedi gwneud newidiadau i\u2019w ffordd o fyw o ran bwyd ac iechyd meddwl ac fe ddywedodd ei bod yn mynd i drafod hyn gyda&#8217;i mab y mae hi&#8217;n gofalu amdano. Roedd hi\u2019n wirioneddol wedi mwynhau\u2019r cwrs ac yn meddwl ei fod yn ddefnyddiol a chynorthwyol iawn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Ail-alluogi<\/h2>\n<p>Mae gan Gonwy wasanaeth ail-alluogi sefydledig sydd yn parhau i ddangos cyfradd lwyddiant uchel. Bu gostyngiad bychan mewn perfformiad yn ystod y flwyddyn, gan ein bod wedi mabwysiadu model derbyn. (Y rheswm dros hyn yw pecyn gofal llai yn cynyddu, ond nid yw\u2019r gofal parhaus yn lleihau).<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Fflatiau Gofal Ychwanegol<\/h2>\n<p>Mae gan Gonwy bedwar fflat Gofal Ychwanegol (wedi\u2019u hariannu\u2019n rhannol drwy\u2019r Gronfa Gofal Canolraddol a Gofal Iechyd Parhaus) sydd yn cael eu defnyddio i hwyluso cleifion sy\u2019n gadael ysbytai aciwt a chymunedol. C\u00e2nt hefyd eu defnyddio fel seibiant i ofalwyr. Caiff y fflatiau eu defnyddio fel dewis arall i ofal preswyl a nyrsio sydd yn atal dibyniaeth ar ofal a chymorth. Mae canlyniadau ar gyfer defnyddwyr yn cynnwys dychwelyd i\u2019w cartref yn eu cymuned yn hytrach na gofal preswyl, symud i dai addas \u2013 megis y fflatiau &#8211; lle y gallant wneud y mwyaf o\u2019u hannibyniaeth. Ein nod ar gyfer y flwyddyn oedd cynyddu\u2019r gyfradd meddiannaeth ar gyfer y fflatiau drwy ymgysylltu\u2019n well gyda\u2019n cydweithwyr Iechyd. Mae meddiannaeth wedi cynyddu o 57% i 68%. Yn sgil llwyddiant y fflatiau hyn, fe wnaethom agor fflat arall ym mis Mawrth a ariannwyd drwy\u2019r Gronfa Gofal Canolraddol, ac mae wedi cael ei ddefnyddio bob noson ers iddo agor.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-1566 alignleft\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/extra-care-flat-1.jpg\" alt=\"\" width=\"187\" height=\"131\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/extra-care-flat-1.jpg 187w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/extra-care-flat-1-20x14.jpg 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 187px) 100vw, 187px\" \/><\/p>\n<p>Yn ddiweddar, mae\u2019r fflatiau wedi cael eu defnyddio fel dewis arall i ofal preswyl pan nad yw llety blaenorol yr unigolyn yn addas iddynt ddychwelyd iddo, neu bod yr unigolyn yn ddigartref. Unwaith eto, y canlyniad ydi cynnal annibyniaeth ac osgoi gofal preswyl diangen sydd \u00e2&#8217;r potensial i fod yn ddatrysiad parhaol. Mae Conwy hefyd yn symud tuag at ddefnyddio\u2019r fflatiau ar gyfer grwpiau defnyddwyr eraill, ac mae hyn yn duedd yn genedlaethol.<\/p>\n<p>Byddwn yn parhau i fonitro defnydd o\u2019r fflatiau ac yn ymgysylltu \u00e2\u2019n cydweithwyr Iechyd.<\/p>\n<h2>\u00a0Cwmpawd Adfer<\/h2>\n<p>Cafodd \u2018Cwmpawd Adfer\u2019 ei sefydlu ym mis Ebrill 2016 i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth gyda\u2019u llwybrau adfer eu hunain ac i fod \u00e2 phresenoldeb yn y trydydd sector a fyddai&#8217;n pontio\u2019r gwasanaethau rhwng gwasanaethau statudol a\u2019r gymuned. Y nod yw cynnig amrywiaeth o ymyraethau i unigolion ac i ddarparu cefnogaeth i\u2019w galluogi i lywio eu ffordd at bwyntiau priodol ar eu siwrnai adfer bersonol, gyda\u2019u dyheadau neu gyrchfannau eu hunain yn ffocws neu\u2019n ganlyniad. Nod y model adfer hwn yw lleihau dibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth ar wasanaethau statudol drwy gynyddu eu gwydnwch, rhoi rheolaeth iddynt dros eu bywydau a\u2019u cysylltu i\u2019w cymunedau ar gyfer rhwydwaith gefnogaeth gynaliadwy.<\/p>\n<p>Mae deuddeng mis cyntaf y model newydd wedi bod yn un o ddatblygu, ac mae\u2019r gwasanaeth yn parhau i esblygu. Rydym wedi gweld nifer cyson o atgyfeiriadau i\u2019r gwasanaeth, mae 37 ohonynt yn derbyn cefnogaeth reolaidd a chyfraniad gan Gwmpawd Adfer. Mae cysylltiadau cryf yn cael eu sefydlu gyda\u2019r Gwasanaeth Lles Cymunedol a fydd yn golygu y gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad at rwydweithiau cymdeithasol a chefnogaeth y tu hwnt i Gwmpawd Adfer. Mae wedi bod yn broses heriol i staff a defnyddwyr gwasanaeth wrth i\u2019r cysyniad symud i ffwrdd o wasanaethau traddodiadol sy\u2019n cael eu darparu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth yn disgwyl i bob unigolyn gael Cynllun Gweithredu Adfer Lles, a hyd yn hyn, mae 9 defnyddiwr gwasanaeth wedi llenwi eu rhai nhw ac mae 2 yn edrych ar eu cynlluniau eto i osod golau newydd i&#8217;w hunain. Mae dau ddefnyddiwr gwasanaeth wedi mynd ymlaen i gyflwyno cyflwyniadau gweithdai gan ddweud bod eu hyder a&#8217;u hunan-barch wedi gwella yn sgil hynny.<\/p>\n<p>Byddwn yn parhau i adolygu a datblygu\u2019r gwasanaeth i\u2019n galluogi i fod mor unigryw ag sydd angen i gyflawni golau defnyddwyr gwasanaeth, boed hynny\u2019n fwy o ryngweithio cymdeithasol, gwirfoddoli neu gyfleoedd lleoliad gwaith neu addysg a hyfforddiant. Wrth symud ymlaen yn 2018, fe fydd sefydlu\u2019r Bartneriaeth Ddysgu yn ddolen hanfodol i sicrhau bod ein defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i wneud y mwyaf o\u2019u potensial drwy fynychu cyrsiau, ennill sgiliau a datblygu eu hyder a&#8217;u gallu.<\/p>\n<h2>Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol<\/h2>\n<p>Mae\u2019r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i\u2019r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yng ngwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd yn dymuno rhedeg gwasanaeth integredig i gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol. Fe dynnwyd sylw at broblemau sy\u2019n ymwneud \u00e2 staffio a\u2019r effaith ddilynol ar reoli llwyth gwaith ac amseroedd aros, llywodraethu, isadeileddau TG a\u2019r amgylchedd clinigol.<\/p>\n<p>Cafodd cynllun gweithredu cynhwysfawr i sefydlogi ac ail-ddylunio gwasanaethau ei ffurfio ym mis Ionawr 2017 ac mae\u2019r uwch d\u00eem rheoli wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion a nodwyd. Yn ychwanegol, mae grwpiau llwybrau amlddisgyblaethol rhanbarthol wedi cael eu sefydlu i ymateb i ofyniad y strategaeth Iechyd Meddwl, \u2018Law yn Llaw at Iechyd Meddwl\u2019, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad cenedlaethol o\u2019r holl Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.<\/p>\n<p>Mae arfer arloesol newydd yn cael ei dreialu yn Nh\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol Roslin drwy gyflwyno \u2018cyfarfodydd diogelwch\u2019, sydd wedi cael ei addasu o\u2019i ddefnydd llwyddiannus mewn gofal aciwt. Mae\u2019r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar amser rheolaidd bob dydd am 10-15 munud a rhoi cyfle i\u2019r fforwm edrych ar unrhyw faterion sy\u2019n effeithio ar y t\u00eem y diwrnod hwnnw, ee, gwaith llanw ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch neu unrhyw risgiau sydd angen eu rheoli. Mae hwn yn ddull effeithiol ac effeithlon o ran amser i\u2019r t\u00eem gydweithio i reoli risgiau i\u2019w hunain a defnyddwyr gwasanaeth.<\/p>\n<p>Mae yna gydnabyddiaeth na fydd newid diwylliannol a gwasanaeth yn gam cyflym ymlaen, ond fe fydd cael gr\u0175p staff sefydlog a gwasanaeth sydd yn addas i\u2019r diben ac yn gynaliadwy yn y tymor hir yn nod tymor hirach. Dylai hyn adlewyrchu egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a\u2019r Ddeddf Cenedlaethau\u2019r Dyfodol.<\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen yn 2017\/18 mae\u2019r t\u00eem Gofal Cymdeithasol yn bwriadu canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn fuan yn y lleoliad Gofal Sylfaenol fel ffactor sylfaenol i ddarparu gwasanaethau effeithlon a chynaliadwy, e.e. gweithio gyda chleientiaid sydd \u00e2 phroblemau gofal cymdeithasol sydd yn effeithio yn negyddol ar eu hiechyd meddwl a gwydnwch, i atal i bethau rhag gwaethygu i bwynt argyfwng a gofal eilaidd. Mae model sy\u2019n canolbwyntio ar adfer yn bwysig i sicrhau nad yw defnyddwyr gwasanaeth yn aros yn ddiangen mewn gwasanaethau statudol ac yn cael eu cefnogi i adennill a byw eu bywydau\u2019n weithgar yn y gymuned.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1567\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/tying-laces-1.jpg\" alt=\"\" width=\"256\" height=\"171\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/tying-laces-1.jpg 256w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/tying-laces-1-20x13.jpg 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 256px) 100vw, 256px\" \/><\/p>\n<h2>Plant<\/h2>\n<p>Yn ddiweddar mae\u2019r Gwasanaeth Lles Cymunedol wedi cynnal gwaith ymchwil gyda theuluoedd sydd wedi derbyn ymyrraeth drwy wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf. Ar \u00f4l derbyn yr adroddiad ymchwil, fe wnaethom lansio prosiect aml asiantaeth i edrych ar ymyrraeth yn gynnar yng Nghonwy drwy barthau\/ardaloedd penodol. Fe fydd y parthau\u2019n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac yn cydweithio i adnabod a gweithredu model effeithiol. Mae partneriaid yn cynnwys Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, Cyfiawnder Ieuenctid, Datblygu Cymunedol, T\u00eem o Amgylch y Teulu a Theuluoedd Gwledig yn Gyntaf, ynghyd \u00e2 sefydliadau trydydd sector priodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><em>Astudiaeth Achos &#8211; Anableddau<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Roedd Miss Z yn arfer byw gyda\u2019i phartner hirdymor mewn fflat.\u00a0 Roedd \u2018Z\u2019 wedi profi profedigaeth bersonol sylweddol a oedd wedi arwain at broblemau perthynas a oedd yn aml yn cynnwys alcohol, toddyddion a thrais.\u00a0 Ar \u00f4l i\u2019r berthynas chwalu daeth Miss Z yn ddigartref ac yn isel iawn.\u00a0 Fe arhosodd mewn llety dros dro am ychydig fisoedd a chysylltu \u00e2\u2019i gweithiwr cymdeithasol sawl gwaith y dydd yn teimlo\u2019n ofidus iawn gan ddweud ei bod eisiau marw.\u00a0 Gan weithio mewn partneriaeth gyda\u2019r adran Dai, roedd modd i ni ddod o hyd i denantiaeth barhaol iddi.\u00a0 Drwy weithio\u2019n agos gyda hi er mwyn magu ei hyder a chael ymdeimlad o berthyn o fewn y gymuned, mae hi wedi mynd o nerth i nerth.\u00a0\u00a0 Mae hi bellach yn ymgymryd \u00e2 dyletswyddau dyddiol i ddatblygu ei hanghenion sgiliau sylfaenol, mynychu cyrsiau hyfforddi i fagu hyder, ac mae hi&#8217;n bwriadu dychwelyd i addysg. Mae hyn wedi bod yn ddarn gwerthfawr o waith ac yn bleser ei gweld yn trawsnewid.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Mr X wedi cael tair str\u00f4c yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn golygu bod ei goes a\u2019i fraich ar yr ochr dde yn wan ac nid yw\u2019n gallu defnyddio cymaint arnynt. Mae Mr. X yn colli ei anadl ac yn blino&#8217;n hawdd; mae\u2019n gallu cerdded ar ei ben ei hun gyda pheth anhawster, ond mae wedi cael codymau yn y gorffennol.<\/p>\n<p>Y problemau y soniodd Mr X amdanynt oedd ei fod yn cael trafferth gwisgo ar ei ben ei hun a\u2019i fod hefyd angen rhywfaint o help gyda meddyginiaeth a pharatoi prydau poeth. O ganlyniad, fe ganolbwyntiodd ail-alluogi ar wneud y mwyaf o annibyniaeth Mr X yn y meysydd allweddol yma. \u00a0 Er bod angen gweithio tuag at ganlyniadau tymor hir eraill hefyd, mae\u2019r gallu i ddarparu ymyrraeth gynnar yn y meysydd penodol yma yn golygu y gallwn wneud y mwyaf o annibyniaeth yn y tymor byr heb ddatblygu dibyniaeth. Yn \u00f4l Mr. X mae <em>un ymweliad byr y dydd wedi ei annog i wneud mwy drosto \u2018i hun ac i fynd allan yn fwy aml. Mae\u2019n dweud fod hyn wedi gwella ei iechyd meddwl a chorfforol.<\/em><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h2>Data perfformiad sy\u2019n ategu safon ansawdd 2<\/h2>\n<h3>Meintiol<\/h3>\n<ul>\n<li>Y gyfradd o oedi mewn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o\u2019r boblogaeth 75 oed neu h\u0177n ydi 00.0%<\/li>\n<li>Y ganran o oedolion a gwblhaodd cyfnod o alluogi ac:<\/li>\n<li>sydd \u00e2 phecyn gofal a chymorth llai chwe mis yn ddiweddarach ydi 8.23%<\/li>\n<li>sydd heb becyn gofal chwe mis yn ddiweddarach ydi 89.63%<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Oedran cyfartaledd oedolion sydd yn mynd i gartrefi gofal preswyl ydi 81.44 mlwydd oed<\/li>\n<li>Canran y plant sydd yn gweld deintydd cofrestredig o fewn tri mis ar \u00f4l derbyn gofal ydi 89.19%<\/li>\n<li>Canran y plant sy\u2019n derbyn gofal sydd wedi\u2019u cofrestru gyda meddyg teulu ydi 72.5%<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cefnogi Lles Mae&#8217;r cysyniad o les yn cynnwys dwy brif elfen: teimlo&#8217;n dda a gweithredu&#8217;n dda. Mae&#8217;r rhain yn effeithio ar sawl ffactor gwahanol ac mae sawl ffactor gwahanol yn effeithio arnynt: ein hoedran a\u2019n rhyw, ein hiechyd a mynediad at gymorth a gwasanaethau. Nod y T\u00eem Lles Cymunedol yng Nghonwy ydi helpu preswylwyr yng [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1458","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1458","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1458"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1458\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1458"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}