{"id":1456,"date":"2017-11-14T15:24:10","date_gmt":"2017-11-14T15:24:10","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1456"},"modified":"2017-12-18T14:49:16","modified_gmt":"2017-12-18T14:49:16","slug":"gweithio-gyda-phobl-i-ddiffinio-a-chyd-gynhyrchu-canlyniadau-lles-apersonol-y-mae-pobl-yn-dymuno-eu-cyflawni-safon-ansawdd-1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/gweithio-gyda-phobl-i-ddiffinio-a-chyd-gynhyrchu-canlyniadau-lles-apersonol-y-mae-pobl-yn-dymuno-eu-cyflawni-safon-ansawdd-1\/","title":{"rendered":"\u201cGweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles apersonol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni\u201d Safon Ansawdd 1"},"content":{"rendered":"<h2>Oedolion<\/h2>\n<p>Ein prif ffynhonnell ar gyfer cyfeirio ydi ein <a href=\"http:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Social-Care-and-Wellbeing.aspx\">gwefan<\/a>.Yn ogystal, rydym yn darparu gwybodaeth drwy ein gweithwyr proffesiynol a phartneriaid, a Phwynt Mynediad Sengl Conwy. Pwynt Mynediad Sengl ydi\u2019r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys Gwasanaethau Pobl H\u0177n, Gwasanaethau Anableddau Corfforol a Synhwyraidd, gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, gwasanaethau Anableddau Dysgu a gwasanaethau Gofalwyr. Ar gyfartaledd, mae\u2019r t\u00eem yn derbyn 1500 o gysylltiadau y mis ar hyn o bryd, mae tua 75% o\u2019r rhain yn derbyn gwybodaeth gyfeirio a chyngor lefel isel sydd yn golygu y gallant reoli eu sefyllfa eu hunain yn rhagweithiol heb ymyriadau gan wasanaethau statudol.<\/p>\n<p>Yn ogystal, rydym yn hyrwyddo gwefan <a href=\"https:\/\/www.dewis.cymru\/\">Dewis<\/a>, ac yn ymgysylltu \u00e2\u2019n cydweithwyr Iechyd a\u2019r trydydd sector i\u2019w hyrwyddo, ynghyd \u00e2 gwefan Iechyd a Lles Cymru Gyfan i\u2019r cyhoedd a thimau proffesiynol fel eu gilydd. Ar hyn o bryd, mae gan Conwy tua 700 o adnoddau ar wefan DEWIS, sydd yn amrywio o grwpiau a gweithgareddau cefnogaeth lefel isel i grwpiau mwy sefydlog megis grwpiau cefnogi gofal, sydd yn cael eu dewis o grwpiau\/timau annibynnol, trydydd sector, cymunedol a statudol. Mae\u2019r safle hon yn cael ei defnyddio gan Bwynt Mynediad Sengl a thimau eraill ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gefnogi aelodau o\u2019r cyhoedd i ymgymryd \u00e2 gweithgareddau o\u2019u dewis nhw yn eu cymuned eu hunain.<\/p>\n<p>Eleni, roedd ein ffocws ar hyrwyddo\u2019r defnydd o Dewis a&#8217;i holl adnoddau i dimau proffesiynol ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y pum canolfan ardal, yn ogystal \u00e2\u2019r ysbytai.<\/p>\n<p>Gyda chefnogaeth y Gronfa Gofal Canolraddol, rydym wedi gallu datblygu\u2019r Pwynt Mynediad Sengl i gynnwys llwybr codymau. Y rheswm dros hyn yw y gall effaith codwm arwain at fwy o alw ar gefnogaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, yn ogystal \u00e2 Lles. Rydym wedi gwella darpariaeth ein T\u00eem Mynediad Conwy er mwyn iddynt ymdrin ag ymholiadau a galw cynyddol yn fwy effeithiol.<\/p>\n<p>Rydym wedi gallu diwallu mwyafrif ein hamcanion a chryfhau ein sylfaen wybodaeth. Fe fydd y gwaith yma\u2019n parhau yn 2017\/18, pan fyddwn ni\u2019n adolygu effeithiolrwydd effaith y newidiadau a\u2019r defnydd gorau o adnoddau. Mae blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys gwneud y broses yn fwy effeithiol ac effeithlon er mwyn darparu mynediad gwell i wasanaethau.<\/p>\n<p>Rydym wedi cychwyn casglu adborth gan gwsmeriaid a byddwn yn adeiladu ar hyn i sicrhau bod adborth cyson gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<h2>Plant<\/h2>\n<p>Rydym yn hyrwyddo gwefan Dewis i sicrhau y gall teuluoedd gael gafael ar y wybodaeth yn uniongyrchol. Yn ystod y pwynt cyfeirio \u2018drws ffrynt\u2019 cyntaf, rydym yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 Th\u00eem o Amgylch y Teulu i sicrhau y gall pobl gael gafael ar gyngor a chymorth ar y lefel briodol heb yr angen am ymyrraeth statudol.<\/p>\n<p>Rydym yn treialu ffordd newydd o weithio gan ddefnyddio sgiliau a thechnegau cydweithrediadol i hyrwyddo hunan-benderfyniad a chanlyniadau personol cyraeddadwy. Mae\u2019r ymagwedd yn seiliedig ar wella cyfathrebu, gyda ffocws ar weithio mewn partneriaeth gyda phlant a theuluoedd er mwyn adnabod ac adeiladu ar gryfderau, a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol.\u00a0 Mae adborth cadarnhaol wedi cynnwys teuluoedd sydd yn fwy agored i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd gr\u0175p teulu, sydd yn ei dro yn gwella cyfathrebu o fewn teuluoedd, a rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, ac yn cynorthwyo i greu cynllun i dynnu n\u00f4l o&#8217;r achos. Fe fydd y cynllun peilot yn cael ei werthuso yn 2017 er mwyn ystyried y camau nesaf tuag at ei gyflwyno ym mhob t\u00eem.<\/p>\n<p>Rydym yn ymwybodol bod angen sicrhau bod ein penderfyniadau yn cynnwys plant a\u2019u teuluoedd lle bynnag y bo\u2019n ddiogel i\u2019r plant wneud hynny. Mae Cyfarfodydd Cynllunio Cyfreithiol wedi\u2019u dylunio i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau\u2019r Plentyn wrth wneud penderfyniadau a fydd yn anochel yn effeithio ar weddill eu bywydau.<\/p>\n<p>Caiff urddas a pharch eu hyrwyddo drwy waith sgiliau cydweithrediadol a chaiff ei rannu drwy seminarau amser cinio.<\/p>\n<p>Caiff plant a theuluoedd eu cynnwys mewn prosesau cynllunio lle bynnag y bo hynny\u2019n bosibl. Caiff hyn ei hwyluso mewn cynllunio Gofal a Chefnogaeth, Grwpiau Craidd a phrosesau Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus.<\/p>\n<p>Caiff ffyrdd iach o fyw eu hyrwyddo drwy gynllunio gofal a chymorth ac mae rhai plant yn cael cymorth drwy weithwyr sesiynol, sydd yn gallu darparu modelau r\u00f4l cadarnhaol a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, sydd yn cynnwys hwyluso gweithgareddau.<\/p>\n<p>Rydym yn parhau i weithio\u2019n agos gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i sicrhau fod pob plentyn yn cael mynediad cyfartal i\u2019r gwasanaethau fel y bo angen. Rydym yn cyfarfod bob deufis, ac yn ddiweddar fe wnaethom gyflwyno trafodaethau achos i\u2019r rhaglen.<\/p>\n<p>Mae Conwy yn rhan o\u2019r gydweithrediad ranbarthol sydd yn comisiynu gwasanaethau eirioli i blant sy&#8217;n derbyn gofal cymdeithasol. Caiff hyn ei hyrwyddo drwy godi ymwybyddiaeth mewn cyfarfodydd t\u00eem a sicrhau bod taflenni gwybodaeth ar gael, yn enwedig ar gyfer plant sy\u2019n derbyn gofal. Ym mis Mehefin, fe fydd y darparwr gwasanaeth yn gweithredu\u2019r \u2018Cynnig Gweithredol\u2019 i sicrhau bod pob plentyn o fewn y maes amddiffyn plant a phlant sy\u2019n derbyn gofal yn deall yn iawn beth all y gwasanaeth ei ddarparu, gan gynnwys y cynnig i fynychu cyfarfodydd ac i weithredu fel cynrychiolydd y plentyn petaent yn dewis derbyn y cynnig.<\/p>\n<p>Gwahoddir pob asiantaeth i gymryd rhan yn y cyfarfodydd adolygu gofal a chymorth. Mae presenoldeb yn anghyson ac mae hyn yn cael ei ystyried. Mae gweithdai wedi cael eu trefnu i ymgysylltu \u00e2 chydweithwyr asiantaethau eraill ynghylch yr ymagwedd sgiliau cydweithrediadol.<\/p>\n<p>Mae gr\u0175p Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi lansio\u2019r offeryn asesu newydd yn ddiweddar a fydd yn cael ei gynnwys yn y system rheoli gwybodaeth. Cafodd ei ddylunio i gydymffurfio \u00e2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a gwella asesiad a chymhwyster.<\/p>\n<h2>Astudiaeth Achos \u2013 t\u00eem pobl h\u0177n<\/h2>\n<p>Roedd \u2018X\u2019 yn \u0175r yn ei 70au cynnar, ac roedd yn briod a\u2019i wraig \u2018Y\u2019 ers dros 30 mlynedd, ac roedd hithau yn ei 70au cynnar. Mae ganddynt blant sydd wedi tyfu fyny ac yn byw i ffwrdd.<\/p>\n<p>Dechreuodd y gwaith o gefnogi\u2019r cwpl yma 18 mis yn \u00f4l ar \u00f4l pryderon gan y gwasanaethau iechyd meddwl bod \u2018Y\u2019 wedi derbyn diagonsis o ffurf o ddementia yn dilyn cymhlethdodau \u00e2\u2019i hiechyd corfforol, tra roedd \u2018X\u2019 wedi datblygu obsesiwn gyda rhai o\u2019i gredoau a\u2019i arferion.<\/p>\n<p>I ddechrau, roedd y ddau\u2019n cael eu cefnogi gan \u2018X\u2019 oedd \u00e2 r\u00f4l wahanol iawn mewn bywyd bellach, ac roedd yn cael anhawster ymgymryd \u00e2 thasgau dyddiol corfforol y mae llawer ohonom yn eu hystyried yn rhai arferol; roedd hyn o achos y rolau traddodiadol roedd o a\u2019i wraig wedi ymgymryd \u00e2 nhw yn ystod eu priodas.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1489 alignleft\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Case-Study-older-people-team-300x279.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"279\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Case-Study-older-people-team-300x279.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Case-Study-older-people-team-20x20.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Case-Study-older-people-team.jpg 640w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Daeth yn amlwg fod hwyliau \u2018X\u2019 yn isel iawn, a cheisiodd ei feddyg teulu a&#8217;n t\u00eem ailalluogi godi ei hwyliau a\u2019i gefnogi gyda thasgau dyddiol. Serch hynny, fe ddirywiodd ei iechyd ymhellach ac fe aeth i\u2019r uned seiciatrig leol ei hun lle arhosodd am sawl mis wedi\u2019i gefnogi gan ei weithiwr cymdeithasol, Nyrs Seiciatrig Gymunedol a\u2019r t\u00eem iechyd meddwl a therapi. Fe aeth ei wraig i aros gydag un o\u2019u plant.<\/p>\n<p>Roedd \u2018X\u2019 yn amlwg yn gallu gwneud penderfyniadau ond weithiau, oherwydd pyliau o iselder, ni allai ymdopi \u00e2\u2019r wybodaeth yn rhan o\u2019r broses o wneud penderfyniadau. Oherwydd gwrthdaro posibl o fewn y teulu, a barn wahanol aelodau\u2019r teulu, fe wnaethom benderfynu penodi eiriolwr annibynnol i gefnogi \u2018X\u2019 i sicrhau fod ei farn yn cael ei barchu a&#8217;i gynnal drwy&#8217;r amser.<\/p>\n<p>Tra\u2019n aros gyda&#8217;r teulu, bu\u2019n rhaid i \u2018Y\u2019 fynd i&#8217;r ysbyty oherwydd ei hiechyd corfforol ac oherwydd yr effaith roedd bod ar wah\u00e2n oddi wrth ei g\u0175r yn ei gael ar ei lles emosiynol.<\/p>\n<p>Fe wnaethom weithio gyda\u2019r bwrdd iechyd lle&#8217;r oedd &#8216;Y&#8217; yn aros a&#8217;n bwrdd iechyd lleol er mwyn trosglwyddo \u2018Y&#8217; n\u00f4l i ogledd Cymru er mwyn iddi wella. Roedd hyn yn golygu bod modd i\u2019r cwpl weld eu gilydd eto bron yn ddyddiol, a chael ymdeimlad o berthyn i ardal unwaith eto. Roedd hefyd yn golygu bod modd i\u2019r t\u00eem amlddisgyblaethol asesu\u2019r ddau yn iawn i sicrhau bod y ddau\u2019n cael y cyfle gorau posibl i fod mor annibynnol \u00e2 phosibl i gyrraedd eu llawn botensial a sicrhau bod y ddau yn ganolog yn y broses gyfan.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ychydig wythnosau, roedd y teulu cyfan yn gweld pa mor bwysig oedd yr aduniad. Mae gwahanu cwpl yn cael effaith negyddol ar bobl, ac fel asesydd lles gorau, rydym bob amser yn ystyried yr effaith y gallai colled o\u2019r fath ei gael, yn enwedig ar unigolion sydd \u00e2 dementia.<\/p>\n<p>Er gwaethaf ymdrechion holl aelodau\u2019r T\u00eem Amlddisgyblaethol a\u2019n hymrwymiad i gefnogi pobl n\u00f4l i gymuned maent yn ei adnabod ac wedi bod yn rhan weithgar ohono ers cymaint o amser, gyda chefnogaeth aelodau eu teulu (ac ar \u00f4l cyfres o gynadleddau teulu a llais yr eiriolwyr yn cefnogi \u2018X\u2019 ac \u2018Y\u2019), fe wnaethant ofyn i gael mynd i gartref preswyl yn agos at un o\u2019u plant.<\/p>\n<p>Roedd \u2018X\u2019 yn teimlo y byddai gweld teulu yn ddyddiol yn fwy o gefnogaeth iddynt a byddent yn ei gefnogi o wrth iddo gefnogi \u2018Y\u2019 ar ei thaith dementia.<\/p>\n<p>Roedd modd i ni weithio gyda&#8217;r cartref gofal i\u2019r ddau aros gyda\u2019u gilydd fel g\u0175r a gwraig. Serch hynny, yn anffodus o fewn 4 mis ar \u00f4l yr adleoli, dirywiodd iechyd \u2018X\u2019 yn sylweddol a chafodd ei anfon i ysbyty cyffredinol yn Lloegr.<\/p>\n<p>Er bod y plant bellach yn cefnogi\u2019r penderfyniad, roeddynt yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o\u2019r hyn oedd yn mynd ymlaen yn yr ysbyty cyffredinol. Dirywiodd iechyd a gallu \u2018X\u2019 eto nes iddo yntau gael diagnosis gyda ffurf o ddementia.<\/p>\n<p>Fe wnaethom deithio lawr i&#8217;w ysbyty yn Lloegr i sicrhau fod y teulu yn ganolog yn y broses gyfan, ac i sicrhau fod ei anghenion yn cael eu diwallu a&#8217;i fod yn ganolog yn y broses gyfan.<\/p>\n<p>Roedd ei hwyliau mor isel bellach nad oedd modd iddo gyfathrebu llawer. Drwy fynd i\u2019r ysbyty a threulio amser gydag o, fe ddechreuodd ddweud wrthym beth oedd ei ddymuniadau eto, ac er yn gyfyngedig, roedd yn amlwg ei fod yn dymuno bod gyda&#8217;i wraig.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l deufis o drafodaethau cymhleth gyda\u2019r bwrdd iechyd yn Lloegr, roedd modd i ni sicrhau ei fod yn cael ei symud i gartref nyrsio priodol ger y teulu, ac ar \u00f4l iddo setlo, roedd modd iddo gael bod gyda\u2019i wraig unwaith eto.<\/p>\n<p>Yn yr oes sydd ohoni heddiw, rydym yn aml yn tybio y dylem gefnogi pobl i aros yn eu cartref eu hunain, fodd bynnag roedd hi\u2019n amlwg fod \u2018X\u2019 ac \u2018Y\u2019 yn teimlo na allent ymdopi yn y gymuned. Dyma benderfyniad sydd wedi diogelu\u2019r ddau gan y byddai risgiau wedi bodoli petai hwyliau \u2018X\u2019 wedi dirywio ymhellach.<\/p>\n<p>Mae hi hefyd werth nodi, i\u2019w diogelu yn y gymuned, fe fyddai\u2019n rhaid i ni fod wedi darparu gofal 24 awr yn y cartref ac mae\u2019n bosib nad dyma fyddai\u2019r dewis lleiaf cyfyngol gan y byddai wedi bod yn arbennig o ymwthiol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Astudiaeth Achos \u2013 T\u00eem Plant sy&#8217;n Derbyn Gofal<\/h2>\n<p>Mae brawd a chwaer yn byw gydag aelod teulu oherwydd problemau esgeulustod, pryderon am gamdriniaeth gorfforol, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Mae\u2019r plentyn hynaf wedi dangos problemau ymddygiad sydd yn gwaethygu, gan gynnwys ymosod ar bobl eraill yn rheolaidd a bod yn ddinistriol yng nghartref y teulu. Mae wedi cael asesiad gan CAMHS ac mae wedi derbyn diagnosis ar gyfer sawl anhwylder.<\/p>\n<p>Roedd yna bryder gwirioneddol y byddai\u2019r lleoliad yn chwalu o fewn dim oni bai y byddai cefnogaeth amserol benodol yn cychwyn.<\/p>\n<p>Mae cefnogaeth therapiwtig reolaidd gan Seicolegydd Clinigol wedi cael ei drefnu ac maent yn digwydd yn amlach ers yr wythnosau diwethaf gan fod y plentyn yn fwy cyfforddus gyda&#8217;r ymagwedd therapiwtig. Mae cefnogaeth sesiynol yn cael ei ddarparu yn ystod gwyliau\u2019r ysgol i ymgysylltu ac i ddarparu gweithgareddau a chefnogaeth ynghylch ymddygiad. Mae hyn yn golygu bod modd i\u2019r plentyn ieuengaf a\u2019r gofalwr gael amser gyda\u2019u gilydd.<\/p>\n<p>Nod y gefnogaeth a roddir i\u2019r gofalwr ydi helpu\u2019r ddau ohonynt i feddwl am ymddygiad anodd a heriol y plentyn hynaf, a\u2019u ffordd ymosodol, ffordd o reoli a gwrthod. Mae\u2019r therapydd yn darparu therapi, profiad, mewnwelediad a damcaniaeth.<\/p>\n<p>Mae wedi bod yn her i\u2019r sawl sy\u2019n darparu gofal i dderbyn cefnogaeth gan y therapydd, ac fe gafodd sawl apwyntiad eu canslo. Mae\u2019r her o ennill ymddiriedaeth y sawl sy\u2019n darparu gofal yn cymryd amser. Mae darparu ein cefnogaeth sesiynol yn allanol wedi arwain at rai anawsterau.<\/p>\n<p>Dyma oedd un o becynnau cefnogaeth cyntaf y Gronfa Gofal Canolraddol i ni ei gomisiynu, ac mae&#8217;n gweithio\u2019n dda ar hyn o bryd ac yn darparu canlyniadau da. Fe fyddwn yn ei adolygu maes o law ac yn datblygu\u2019r prosiect ymhellach.<\/p>\n<h2>Data perfformiad sy\u2019n ategu\u2019r safon ansawdd yma<\/h2>\n<h3>Ansoddol<\/h3>\n<p><span style=\"color: #008000;\"><strong><em>Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn y wybodaeth a\u2019r cyngor cywir pan roeddynt ei angen<br \/>\n<\/em><\/strong><\/span>Fe ymatebodd 79% o <strong>oedolion<\/strong> gan ddweud bod hyn yn wir. Roedd y mwyafrif o sylwadau eraill hefyd yn gadarnhaol, a dim ond tri ymatebwr a awgrymodd nad oedd modd cael gafael ar gyngor, neu fod y wybodaeth yn gallu bod yn wrthdrawiadol ar adegau.<\/p>\n<p>Roedd 73% o <strong>oedolion gydag<\/strong> <strong>anableddau dysgu<\/strong> yn cytuno \u00e2\u2019r datganiad hwn, er mynegodd rhai bryderon nad ydynt yn derbyn digon o gyngor i roi\u2019r darlun llawn iddynt a&#8217;u bod yn gallu teimlo&#8217;n ddryslyd.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, roedd 78% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn cytuno \u00e2\u2019r datganiad, gan deimlo boddhad gyda&#8217;r wybodaeth a chyngor roeddynt yn ei dderbyn. Roedd mwyafrif y sylwadau ychwanegol gan y rhai a ymatebodd gyda \u2018weithiau\u2019, gan fynegi rhwystredigaeth gyda chymhlethdod y system a\u2019r wybodaeth anghywir am gyfleoedd seibiant. Roedd goblygiadau ariannol cyngor anghywir yn achosi pryder.<\/p>\n<p>Roedd 85% o <strong>blant<\/strong> a ymatebodd yn hapus gyda\u2019r wybodaeth a chyngor roeddynt yn ei dderbyn. Roedd sylwadau ychwanegol yn awgrymu eu bod yn dibynnu\u2019n helaeth ar eu rhieni a Gweithwyr Cymdeithasol am y gefnogaeth honno, ond roedd un ymatebydd wedi cymryd y cam i wneud eu gwaith ymchwil eu hunain.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl yn dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Dywedodd 94% o <strong>oedolion<\/strong> eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch tra\u2019n derbyn cynllun gofal a chymorth. Fe ymatebodd y gweddill gyda \u2018weithiau\u2019. Roedd y sylwadau ychwanegol yn gymysgedd, gyda rhai dinasyddion yn canmol gofalwyr a oedd &#8220;wedi&#8217;u hyfforddi&#8217;n dda ac yn gwrtais&#8221; tra mynegodd rhai eraill bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda&#8217;u teulu yn hytrach na gyda nhw, neu eu bod yn teimlo eu bod yn cael ffrae.<\/p>\n<p>Roedd 92% o <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong> yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, ac ychydig iawn o sylwadau ychwanegol ddaeth i law i\u2019n helpu i greu darlun pellach.<\/p>\n<p>Roedd 93% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn cytuno \u00e2\u2019r datganiad hwn, a chafwyd sawl sylw cadarnhaol am staff cwrtais, cynorthwyol a pharchus o fewn yr Awdurdod. Nid oedd unrhyw un yn anghytuno \u00e2\u2019r datganiad hwn o\u2019r garfan hon.<\/p>\n<p>Roedd 89% o <strong>blant<\/strong> yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch; roedd rhai ymatebion yn cynnwys ymddygiad eu rhieni tuag atynt yn ogystal \u00e2 staff Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl sydd \u00e2 chynllun gofal a chymorth yn dweud eu bod wedi cael gwybodaeth ysgrifenedig am eu gweithiwr penodedig yn y gwasanaethau cymdeithasol<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Roedd 82% o <strong>oedolion<\/strong> yn gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw ynghylch eu cynllun gofal a chymorth. Cafwyd nifer o sylwadau ychwanegol yn dilyn y cwestiwn hwn i egluro pwy ydi&#8217;r swyddog penodedig a phwy sy&#8217;n tueddu i gysylltu \u00e2&#8217;r gwasanaeth (hyd yn oed gan y rhai a atebodd gyda &#8216;na&#8217;).<\/p>\n<p>Mae 88% o <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong> yn gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw yn y t\u00eem, ac fe enwodd nifer ohonynt y gweithiwr proffesiynol perthnasol yn y sylwadau ychwanegol. Mae\u2019n ymddangos bod ganddynt hyder y bydd rhywun yno i\u2019w helpu.<\/p>\n<p>Mae 82% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn gwybod pwy i gysylltu \u00e2 nhw ac fe gynigiodd nifer sylwadau ychwanegol i ategu\u2019r gefnogaeth werthfawr a roddir iddynt yn eu rolau gofalu. Serch hynny, cafwyd sawl sylw negyddol am drafferthion ariannol a gallu cysylltu \u00e2\u2019r gweithiwr proffesiynol perthnasol pan fo angen.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1501 alignleft\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/two-little-girls-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/two-little-girls-300x200.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/two-little-girls-20x13.jpg 20w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/two-little-girls.jpg 640w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Mae 93% o <strong>blant<\/strong> yn gwybod pwy i siarad \u00e2 nhw am eu gofal a\u2019u chymorth. Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn enwi rhai o\u2019r unigolion yma ac yn tynnu sylw at y rhwydweithiau cymorth ychwanegol yn yr ysgol a gartref.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n rhan o unrhyw benderfyniad a wneir am eu gofal a\u2019u cymorth<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Roedd 78% o <strong>oedolion<\/strong> yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau, serch hynny roedd nifer o\u2019r sylwadau ychwanegol yn s\u00f4n am ddiffyg rheolaeth oherwydd cyflyrau megis Alzheimer\u2019s neu ddementia. Mewn nifer o achosion, mae aelodau o\u2019r teulu yn gwneud penderfyniadau am becyn gofal a chymorth ar ran eu perthynas.<\/p>\n<p>Roedd<strong> oedolion gydag anableddau dysgu <\/strong>yn teimlo fod ganddynt lefel uwch o allu i wneud penderfyniadau, gyda 83% o\u2019r ymatebwyr yn cytuno bod eu barn wedi cael eu clywed. Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn awgrymu y gellir gwneud gwelliannau i lefelau o gyswllt gan weithwyr Gofal Cymdeithasol proffesiynol.<\/p>\n<p>Roedd 84% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn teimlo\u2019n rhan o benderfyniadau ynghylch y gwasanaeth sy\u2019n cael ei ddarparu i\u2019r unigolyn y maent yn goflau amdanynt, er roedd sylwadau\u2019n awgrymu bod lle i groesawu cyswllt mwy rheolaidd.<\/p>\n<p>Roedd 85% o <strong>blant<\/strong> a ymatebodd yn teimlo bod eu barn yn cael eu clywed.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl sydd yn fodlon gyda\u2019r gofal a chymorth y maent wedi\u2019i dderbyn<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Mae 85% o <strong>oedolion<\/strong> yn fodlon gyda\u2019r gofal a chymorth y maent yn ei dderbyn gennym ni. Roedd rhai sylwadau yn s\u00f4n am yr angen am gysondeb o ran yr amser y mae gofal yn cael ei ddarparu a bod cyfathrebu am newidiadau i amseroedd ymweld a staff cymorth yn hanfodol.<\/p>\n<p>Mae 85% o <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong> yn hapus gyda&#8217;r gofal a chymorth maent wedi\u2019i dderbyn, ond eto, nid yw newidiadau i staff, asiantaethau neu lety yn cael eu croesawu.<\/p>\n<p>Mae 78% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn hapus gyda\u2019r gefnogaeth y maent wedi\u2019i dderbyn. Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn arddangos y blaenoriaethau a beichiau gwahanol sydd gan y gr\u0175p yma, mae nifer ohonynt yn ymdopi \u00e2\u2019u problemau iechyd eu hunain, yn chwilio am gymorth i gael seibiant rhag eu dyletswyddau gofalu ac yn cael trafferth \u00e2 beichiau ariannol.<\/p>\n<p>Mae 88% o <strong>blant <\/strong>yn hapus gyda\u2019r gofal a chymorth maent wedi\u2019i gael, boed hynny gyda\u2019u rhieni eu hunain neu fel plentyn sy\u2019n derbyn gofal.<\/p>\n<h3>Meintiol<strong>\u00a0<\/strong><\/h3>\n<ul>\n<li>Y ganran o oedolion sydd wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth ac sydd heb gysylltu \u00e2\u2019r gwasanaeth am 6 mis ydi 76.64%<\/li>\n<li>Y ganran o asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn y raddfa amser statudol ydi 95.34%<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Oedolion Ein prif ffynhonnell ar gyfer cyfeirio ydi ein gwefan.Yn ogystal, rydym yn darparu gwybodaeth drwy ein gweithwyr proffesiynol a phartneriaid, a Phwynt Mynediad Sengl Conwy. Pwynt Mynediad Sengl ydi\u2019r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys Gwasanaethau Pobl H\u0177n, Gwasanaethau Anableddau Corfforol a Synhwyraidd, gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, gwasanaethau Anableddau Dysgu a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1456","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1456","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1456"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1456\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1456"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}