{"id":1453,"date":"2017-11-14T15:28:55","date_gmt":"2017-11-14T15:28:55","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1453"},"modified":"2017-12-13T10:08:33","modified_gmt":"2017-12-13T10:08:33","slug":"cefnogi-pobl-i-ddatblygu-a-chynnal-perthnasau-domestig-teuluol-a-phersonol-diogel","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/cefnogi-pobl-i-ddatblygu-a-chynnal-perthnasau-domestig-teuluol-a-phersonol-diogel\/","title":{"rendered":"Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel"},"content":{"rendered":"<p>Gall T\u00eem o Amgylch y Teulu gynnig ymyrraeth gyda Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd i edrych ar faterion megis rhianta, problemau gyda pherthnasau a phroblemau ymddygiad.<\/p>\n<p>Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol Conwy (SAA) hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi plant i gadw cysylltiad lle y bo\u2019n briodol gydag aelodau\u2019r teulu (<em>gweler yr adroddiad blynyddol i ddarllen enghreifftiau pellach o achosion<\/em>). Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol wedi cynnal sawl gweithdy ledled yr awdurdod dros y deuddeg mis diwethaf. Mae\u2019r rhain wedi darparu gwybodaeth ynghylch r\u00f4l yr SAA, eu cyfrifoldebau, y ddeddfwriaeth ddiweddaraf, \u2018pwerau\u2019 y SAA wrth sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu, a\u2019u gallu i drafod materion gydag uwch reolwyr a Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) os oes angen, ac os ydynt yn teimlo nad yw anghenion y plant yn cael eu diwallu drwy\u2019r Cynllun Gofal a Chymorth.<\/p>\n<h2>Astudiaeth Achos: R\u00f4l yr SAA wrth sicrhau bod anghenion hunaniaeth y plentyn yn cael eu diwallu &#8211; cyswllt gyda brodyr a chwiorydd<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<\/strong><\/p>\n<p><em>Cafodd pump o blant eu hadleoli oherwydd esgeulustod hir dymor.<\/em> <em>Cafodd y plant eu lleoli mewn pedwar lleoliad maethu gwahanol, roedd hyn oherwydd anghenion ac oedran y plant; mae gan y plentyn hynaf anableddau corfforol a dysgu sylweddol a chafodd ei leoli mewn lleoliad maeth hir dymor priodol, cafodd dwy chwaer sydd yn agos o ran oedran eu lleoli gyda\u2019u gilydd mewn lleoliad maethu gyda\u2019r bwriad o chwilio a dod o i hyd i leoliad mabwysiadu, a chafodd y ddau blentyn ieuengaf eu lleoli mewn lleoliad unigol gyda\u2019r bwriad o\u2019u mabwysiadu.<\/em> <em>Yn ystod gwrandawiadau llys ac oedi wrth ddod o hyd i fabwysiadwyr addas ar gyfer y ddwy chwaer, y cynllun ar eu cyfer nhw yw eu bod yn aros mewn gofal maeth hir dymor. <\/em><\/p>\n<p><strong>Ymyrraeth<\/strong><\/p>\n<p><em>Yn ystod Adolygiad Plant sy\u2019n Derbyn Gofal ar gyfer y ddwy chwaer sydd wedi\u2019u lleoli gyda\u2019u gilydd, fe drafodwyd bod mabwysiadwyr posibl wedi tynnu yn \u00f4l o\u2019r broses, o bosibl oherwydd ymddygiad y plant, ac roedd yna deimlad y byddai chwilio\/dod o hyd i fabwysiadwyr posibl newydd yn dasg anodd, roedd tua 18 mis wedi mynd heibio yn chwilio am fabwysiadwyr posibl ar gyfer y plant yma. <\/em><\/p>\n<p><em>Gofynnodd ac argymhellodd y swyddog adolygu annibynnol bod y gweithiwr cymdeithasol yn galw Cyfarfod Cynllunio Cyfreithiol ar gyfer y ddwy yma er mwyn llunio cynllun parhad ar eu cyfer, gan gofio bod y plant yn heneiddio a bod y tebygolrwydd o ddod o hyd i fabwysiadwyr posibl yn prinhau.<\/em> <em>Yn ogystal, dylid trafod ac ystyried cyswllt y plant gyda\u2019u rhieni; nid oedd unrhyw gyswllt wedi bod gyda\u2019r rhieni ers i\u2019r Gorchymyn Lleoli gael ei roi. <\/em><\/p>\n<p><em>Dygwyd Adolygiad Plant sy\u2019n Derbyn Gofal yn ei flaen i drafod y penderfyniadau ac argymhellion o\u2019r Cyfarfod Cynllunio Cyfreithiol.<\/em> <em>Fe fydd y plant nawr yn aros mewn gofal maeth tymor hir. <\/em><\/p>\n<p><em>Yn ystod adolygiad ar gyfer un o\u2019r plant iau sydd mewn lleoliad mabwysiadu, roedd yna drafodaeth ynghylch ei gysylltiad gydag aelodau\u2019r teulu ar \u00f4l i\u2019r broses fabwysiadu ddod i ben.<\/em> <em>Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol mai\u2019r cynllun ar ei gyfer o fyddai cael cysylltiad gyda dau o\u2019r plant (un gydag anabledd sylweddol ac un a fydd hefyd yn cael ei fabwysiadu, ond ddim yn cynnwys y ddau blentyn mewn gofal maeth hir dymor). <\/em><\/p>\n<p><em>Cafodd y gweithiwr cymdeithasol ei herio ynghylch y cynllun yma, a gofynnwyd iddo\/iddi feddwl eto am y cynllun cysylltiad. <\/em><\/p>\n<p><strong>Canlyniadau<\/strong><\/p>\n<p><em>Dyna wnaeth y gweithiwr cymdeithasol gyda chefnogaeth y rheolwr t\u00eem, ac mae bellach wedi trefnu cyfarfod gyda darpar fabwysiadwyr y ddau blentyn ifanc a\u2019r gofalwyr maeth sydd wedi ymrwymo i ddarparu lleoliad tymor hir ar gyfer y chwiorydd, i drafod beth maent yn ei feddwl ac ymarferoldeb sicrhau bod cyswllt rhwng y brodyr a\u2019r chwiorydd yn digwydd, fe allai hyn fod yn gyswllt wyneb i wyneb blynyddol neu\u2019n gyswllt anuniongyrchol. <\/em><\/p>\n<h2>Diogelu Rhag Colli Rhyddid<\/h2>\n<p>Mae gennyn D\u00eem Diogelu Rhag Colli Rhyddid yng Nghonwy. Mae\u2019r t\u00eem wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau\u2019r defnyddiwr gwasanaeth. Mae\u2019r enghraifft ymarfer canlynol yn dangos y gwaith sydd wedi digwydd yn yr awdurdod:<\/p>\n<p><em>Cafodd Defnyddiwr Gwasanaeth ei roi mewn cartref gofal oherwydd fod perygl y byddai\u2019n cael ei anfon i ysbyty meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Cafodd ei ddarbwyllo i fynd i gartref gofal nyrsio oherwydd hunan-esgeulustod yn ei gartref ei hun. Mae\u2019r defnyddiwr gwasanaeth yn ffarmwr ac mae\u2019n gwerthfawrogi ei annibyniaeth. O&#8217;r dechrau, mae\u2019r defnyddiwr gwasanaeth wedi dweud ei fod yn dymuno dychwelyd gartref ar \u00f4l iddo wella. Fe gysylltodd y cartref gofal \u00e2\u2019r Awdurdod Lleol (Corff Goruchwylio) ar gyfer atgyfeiriad er mwyn Awdurdodi Diogelu Rhag Colli Rhyddid gwrthrychol.<\/em><\/p>\n<p><em>Daeth asesiadau i\u2019r casgliad nad oedd gan y defnyddiwr gwasanaeth allu meddyliol yn y maes allweddol o ddeall yr angen iddo fod dan reolaeth a goruchwyliaeth barhaol wrth ddiogelu ei iechyd a lles. Daeth yr Aseswr Lles Gorau i\u2019r casgliad fod y defnyddiwr gwasanaeth yn gwrthwynebu i\u2019r lleoliad parhaol yn y cartref gofal nyrsio. Cafodd cyfarfod Lles Gorau ei alw gyda\u2019r holl fudd-ddeiliaid \u2013 Gweithiwr Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd, deilydd Atwrneiaeth Arhosol ac Eiriolydd Galluoedd Meddyliol Annibynnol 39D (IMCA) a staff y cartref gofal nyrsio. Fe benderfynwyd y byddai\u2019r Atwrneiaeth Arhosol ac IMCA yn siarad gyda\u2019r defnyddiwr gwasanaeth am sut y gellir ei ddychwelyd gartref. <\/em><\/p>\n<p><em>Mae\u2019r broses wedi galluogi\u2019r defnyddiwr gwasanaeth i herio ei leoliad drwy&#8217;r Llys Gwarchod. O dan Erthygl 5 Deddf Hawliau Dynol 1998 mae gan bawb yr hawl i ryddid a diogelwch. <\/em><em>Gellir defnyddio Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol) yn yr achos hwn hefyd. <\/em><\/p>\n<h2>Gweithio mewn partneriaeth i amddiffyn Oedolion Ifanc<\/h2>\n<p>Mae\u2019r achos canlynol yn dangos rhywfaint o\u2019r gwaith sydd wedi digwydd yng Ngwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn i helpu oedolyn ifanc i gydnabod perthynas anniogel ac i amddiffyn eu hunain.<\/p>\n<p><em>Roedd cleient ifanc yn cymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol niweidiol posibl. <\/em><em>Fe arweiniodd hyn at Waith Cymdeithasol Diogelu yn Nh\u00eem Mynediad Conwy, gyda Th\u00eem Oedolion Diamddiffyn, Heddlu Gogledd Cymru a Chlinig Iechyd Rhywiol yn cydweithio i adnabod a lleihau ymddygiad drwy gynnwys y person ifanc yn y broses cynllunio risg. <\/em><\/p>\n<p><em>Fe roddodd yr awdurdod lleol ff\u00f4n symudol i\u2019r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi allu cysylltu, ac fe roddodd hi ei manylion i weithwyr proffesiynol er mwyn iddynt allu cysylltu drwy gyfryngau cymdeithasol. <\/em><em>Fe aeth y Gweithiwr Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, drwy beryglon safleoedd cyfryngau cymdeithasol penodol a chynnig cefnogaeth i ddileu cyfrifon lle roedd y cleient yn cydnabod y gellir camfanteisio ar y defnyddiwr gwasanaeth. <\/em><em>Gwnaed trefniadau i\u2019r heddlu gynnal gwiriad lles os nad ydi\u2019r defnyddiwr gwasanaeth wedi cysylltu neu os nad oes galwad wedi cael ei wneud. <\/em><em> Os na fyddai modd dod o hyd i\u2019r defnyddiwr gwasanaeth, fe fyddent yn cael eu cofnodi ar goll. <\/em><em> Roedd yna gyfarfodydd diogelu rheolaidd i sicrhau fod y cynllun amddiffyn risg yn gweithio er mwyn i\u2019r cleient i gysylltu os oedd y defnyddiwr gwasanaeth eisiau aros allan dros nos, gan adael gwybodaeth am bwy roeddynt yn aros \u00e2 nhw ac ymhle. <\/em><\/p>\n<h2>Data perfformiad sy\u2019n ategu\u2019r safon ansawdd yma<\/h2>\n<p><strong>Ansoddol<\/strong><\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Pobl yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n rhan o\u2019u cymuned<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Dim ond 47% o <strong>oedolion<\/strong> a ymatebodd yn dweud eu bod yn rhan o\u2019u cymuned. Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn rhoi cipolwg i ddinasyddion sy\u2019n teimlo na allant fynd allan, yn aml oherwydd problemau iechyd, ac felly yn arwain at arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg cyfranogiad mewn gweithgareddau lleol.<\/p>\n<p>I gyferbynnu, roedd <strong>oedolion gydag anableddau dysgu<\/strong> yn teimlo\u2019n llawer mwy cadarnhaol am eu lle yn y gymuned, gyda 93% yn cytuno gyda\u2019r datganiad.<\/p>\n<p>Roedd 61% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn teimlo\u2019n rhan o\u2019r gymuned, gyda sylwadau ychwanegol yn awgrymu fod y r\u00f4l ofalu yn ffactor i\u2019w hatal rhag bod yn rhan mewn gweithgareddau yn yr ardal leol. Mae hyn yn broblem ychwanegol i bobl sydd wedi symud i\u2019r ardal gan nad ydynt yn gallu dod o hyd i amser i feithrin rhwydweithiau cymdeithasol ac felly nid oes ganddynt ymdeimlad o berthyn.<\/p>\n<p>Roedd 82% o <strong>blant<\/strong> yn teimlo eu bod yn perthyn i\u2019r ardal maent yn byw ynddi. Dim ond un ddywedodd yr hoffent symud yn \u00f4l i Loegr gan mai yno mae eu teulu.<\/p>\n<p><span style=\"color: #008000;\"><strong><em>Rhieni yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n rhan o unrhyw benderfyniad a wneir am ofal a chymorth eu plentyn<br \/>\n<\/em><\/strong><\/span>O\u2019r 7 a ymatebodd, cytunodd 1 eu bod wedi bod yn rhan o\u2019r broses benderfyniad, gan gynrychioli 14%. Roedd 57% yn teimlo mai dim ond rhan o\u2019r amser roeddynt wedi bod yn rhan o\u2019r broses.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Gofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo eu bod cael eu cefnogi i barhau \u00e2\u2019u r\u00f4l gofalu<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Roedd 68% yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu r\u00f4l gofalu, gyda nifer yn darparu sylwadau ychwanegol am eu hamgylchiadau, sydd yn amrywio o ran profiad ac ansawdd bywyd. Mae hi\u2019n amlwg bod angen cefnogaeth ar gyfer gofalwyr a\u2019i fod yn cael ei werthfawrogi\u2019n fawr pan gaiff ei ddarparu. Dywedodd un person mai&#8217;r cwbl y mae hi ei angen ydi rhywun i eistedd i lawr gyda hi a gwrando ar gerddoriaeth fel rhyw fath o seibiant o&#8217;i dyletswyddau dyddiol. Mae cost y gwasanaeth yn achos o straen phryder.<\/p>\n<p><strong><em><span style=\"color: #008000;\">Gofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n rhan o gynllunio\u2019r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt<\/span><br \/>\n<\/em><\/strong>Roedd 79% o <strong>ofalwyr<\/strong> yn cytuno \u00e2\u2019r datganiad hwn.<\/p>\n<p><strong>Meintiol<\/strong><\/p>\n<p>Canran y plant sy\u2019n cael eu cefnogi i barhau i fyw gyda\u2019u teulu ydi 74.01%<\/p>\n<ul>\n<li>Canran y plant sy\u2019n derbyn gofal a ddychwelodd adref o ofal yn ystod y flwyddyn ydi 7.33%<\/li>\n<li>Canran y plant sy&#8217;n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn ydi 12.92%<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gall T\u00eem o Amgylch y Teulu gynnig ymyrraeth gyda Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd i edrych ar faterion megis rhianta, problemau gyda pherthnasau a phroblemau ymddygiad. Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol Conwy (SAA) hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi plant i gadw cysylltiad lle y bo\u2019n briodol gydag aelodau\u2019r teulu (gweler yr adroddiad blynyddol i ddarllen [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1453","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1453","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1453"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1453\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1453"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}