{"id":1449,"date":"2017-11-14T15:18:17","date_gmt":"2017-11-14T15:18:17","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1449"},"modified":"2017-12-18T14:40:16","modified_gmt":"2017-12-18T14:40:16","slug":"sut-ydym-nin-cyflawni-yr-hyn-rydym-nin-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/sut-ydym-nin-cyflawni-yr-hyn-rydym-nin-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Sut Ydym ni\u2019n Cyflawni yr Hyn Rydym ni\u2019n ei Wneud"},"content":{"rendered":"<h2>Ein Gweithlu a Sut Rydym ni\u2019n Cefnogi eu Rolau Proffesiynol<\/h2>\n<h3><strong>Dysgu a Datblygu <\/strong><\/h3>\n<p>Mae ein Cynllun Dysgu a Datblygu Gweithlu blynyddol wedi\u2019i alinio \u00e2 Deddf SSWB (Cymru) 2014.<\/p>\n<p>Rydym wedi sefydlu gr\u0175p \u2018Gweithredu\u2019r Ddeddf\u2019 i ymarferwyr i&#8217;w cefnogi wrth weithredu Deddf SSWB (Cymru) 2014 o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Rydym yn cefnogi staff heb eu cymhwyso, sydd yn cymryd rhan mewn asesiadau, i fynd drwy gynllun hyfforddi \u2018Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol\u2019 a ddatblygwyd drwy Ofal Cymdeithasol Cymru.<\/p>\n<p>Rydym wedi cyflwyno hyfforddiant modiwl craidd Deddf SSWB (Cymru) 2015 ar IAA \u2013 plant ac oedolion. Roedd llefydd hyfforddiant ar gael i asiantaethau partner megis BIPBC.<\/p>\n<p>Rydym wedi cymryd rhan mewn Sgyrsiau Cydweithrediadol &#8211; Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol. Mae\u2019r rhaglen yn meithrin sgiliau cyfathrebu effeithiol mewn timau gwaith cymdeithasol ar draws timau oedolion, plant ac amlasiantaeth o fewn adrannau, a&#8217;r brif nod yw rhoi sgiliau a strategaethau &#8216;cyfathrebu cydweithrediadol&#8217; i weithwyr.<\/p>\n<p>Rydym yn parhau i gefnogi cyflwyno sesiynau hyfforddi undydd i reolwyr yn y trydydd sector a gwasanaethau darparwyr a gomisiynir i gynyddu eu gwybodaeth o\u2019r Ddeddf SSWB (Cymru) 2014.<\/p>\n<p>Gan edrych tuag at y dyfodol, mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a budd-ddeiliaid allweddol, byddwn yn llunio cynllun dysgu i gefnogi\u2019r gofynion bod gweithlu yn cofrestru fel y nodir yn Rheoleiddio ac Arolygu Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru).<\/p>\n<p>Mae\u2019r newid mewn diwylliant sydd ei angen er mwyn sefydlu Deddf SSWB (Cymru) yn llwyr yn broses sy\u2019n parhau. Mewn partneriaeth gyda budd-ddeiliaid allweddol rydym yn adolygu ein rhaglen dysgu a datblygu ac effeithiolrwydd ein hyfforddiant i sicrhau y gallwn gefnogi\u2019r sector cyfan i ddiwallu gofynion Deddf SSWB (Cymru) a gofynion cofrestru Rheoleiddio ac Arolygu Ddeddf (Cymru).<\/p>\n<h3><strong>Rheoli Gweithlu <\/strong><\/h3>\n<p>Roedd 2016\/17 yn flwyddyn heriol arall. Tra bod yr adolygiadau strwythurol mawr wedi cael eu cwblhau yn 2015\/16 yn rhan o Raglen Trawsnewid y gwasanaeth, mae gwasanaethau yn parhau i adolygu\u2019r gweithlu gan fod y strwythur rheoli newydd bellach wedi\u2019i \u2018sefydlu\u2019, ac er mwyn gallu dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd pellach angenrheidiol. \u00a0 Yn ystod 16\/17 a 17\/18 hyd yn hyn, mae newidiadau strwythurol wedi bod o fewn y T\u00eem Gwasanaethau Anableddau, Pobl Ddiamddiffyn, T\u00eem Datblygu a Hyfforddi Gweithlu\/Staff Cefnogi Busnes.<\/p>\n<p>Mae uwch reolwyr yn cynnal cyfarfod gweithlu bob mis gydag Adnoddau Dynol a\u2019r Rheolwr Datblygu&#8217;r Gweithlu i ystyried a mynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau staff megis salwch, adolygiadau datblygu perfformiad, cwynion a materion disgyblu.<\/p>\n<h2>Adnoddau Ariannol a Sut Rydym ni\u2019n Cynllunio at y Dyfodol<\/h2>\n<p>Mae Gofal Cymdeithasol yn adrodd yn \u00f4l yn rheolaidd i nifer o bwyllgorau craffu, gan gyflwyno 32 adroddiad ar amrywiaeth o destunau yn ystod 2016\/17.<\/p>\n<p>Cafodd gorwariant Gofal Cymdeithasol ei adrodd i\u2019r Prif Bwyllgor Craffu ym mis Rhagfyr 2016. Cafodd Achos Busnes, i adlewyrchu\u2019r lefel bresennol o danariannu yng nghyllideb Gofal Cymdeithasol ei gyflwyno a\u2019i gymeradwyo gan y Cyngor yn rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer 2017\/18.<\/p>\n<p>Yn ychwanegol, cafodd achosion busnes pellach eu cyflwyno, a\u2019u cymeradwyo, yn ystod y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2017\/18. Roedd y swm yma&#8217;n cynnwys costau ychwanegol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chyflog byw, a thwf gwasanaeth.<\/p>\n<p>Yn ogystal, roedd yn rhaid i\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol ddod o hyd i arbedion sylweddol yn 2017\/18.<\/p>\n<p>Fe fydd y gyllideb yn parhau i gael ei monitro\u2019n agos yn ystod 2017\/18 drwy gyfarfodydd cyllideb misol a gynhelir gyda Rheolwyr Gwasanaeth, Cyfrifwyr Gwasanaeth, yr adran Gyllid a Phenaethiaid Gwasanaeth. Yn rhan o\u2019r broses honno, fe fydd y cynnydd wrth gyflawni\u2019r targed arbedion yn cael ei dracio a\u2019i adrodd yn ofalus. Mae&#8217;r gwasanaeth hefyd yn mynychu Gr\u0175p Ymgynghori ar y Gyllideb ac mae uwch reolwyr yn cwrdd yn rheolaidd gyda\u2019r Cyfarwyddwr Strategol, Cyllid ac Effeithlonrwydd.<\/p>\n<h2>Gweithio mewn Partneriaeth, Arweinyddiaeth Gwleidyddol a Chorfforaethol, Llywodraethu ac Atebolrwydd<\/h2>\n<p>Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd penderfyniadau. Dylai fod yn egwyddor trefnu canolog i ystyried effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd penderfyniadau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol. Mae\u2019r 7 nod a 5 ffordd o weithio wedi\u2019u halinio i 8 Canlyniadau Dinasyddion Conwy, fel yr amlinellir isod.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1586 size-full\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/7-Wellbeing-Goals-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" width=\"571\" height=\"246\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/7-Wellbeing-Goals-Cymraeg.jpg 571w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/7-Wellbeing-Goals-Cymraeg-300x129.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/7-Wellbeing-Goals-Cymraeg-20x9.jpg 20w\" sizes=\"auto, (max-width: 571px) 100vw, 571px\" \/><\/p>\n<p>Mae meysydd blaenoriaeth eraill sydd wedi cael eu hystyried yn cynnwys:<\/p>\n<p><strong>Creu Cymunedau Cryf Llywodraeth Cymru<\/strong><\/p>\n<p><strong>Symud Cymru Ymlaen<\/strong><\/p>\n<p><strong>Amcanion Lles Llywodraeth Cymru (2016-2021)<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r broses o asesu camau blaenoriaeth yn adlewyrchu\u2019r 5 ffordd o weithio, ac mae\u2019r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys camau gweithredu sydd yn rhagweithiol nid yn ymatebol, sydd \u00e2\u2019r nod o weithio tuag at effaith tymor hirach, wedi cael eu integreiddio wrth ystyried sut maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles ac maent yn gydweithredol o ran y ffocws ar weithio\u2019n agos gyda chymunedau &#8211; felly maent yn rhan o berchen a gweithio ar y cyd i ddiwallu Canlyniadau Dinasyddion. Mae blaenoriaethau\u2019r Cynllun Corfforaethol wedi cael eu hystyried gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych er mwyn edrych lle mae blaenoriaethau yn effeithio ar sefydliadau cyhoeddus eraill a lle mae yna gyfleoedd ar gyfer cydweithio.<\/p>\n<p>Roedd cymunedau yn rhan wrth ddatblygu&#8217;r blaenoriaethau, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig trwy gysylltu trafodaethau cymuned leol drwy ddatblygu cynlluniau lleoedd. Mae ein them\u00e2u trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>O fewn Gofal Cymdeithasol, caiff ein blaenoriaethau eu gosod gan Reolwyr Gwasanaeth drwy ymgynghori \u00e2&#8217;u timau, ac maent wedi&#8217;u halinio \u00e2\u2019r Cynllun Corfforaethol a safonau ansawdd Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant. Caiff cynnydd ei fonitro\u2019n rheolaidd, a chynhelir cyfarfodydd bob chwarter gydag Uwch Reolwyr a deiliaid Portffolio, gyda ffocws benodol ar risgiau a phroblemau, staffio a pherfformiad.<\/p>\n<p>Yn unol \u00e2\u2019n Fframwaith Rheoli Perfformiad, bob chwech mis bydd Conwy yn adolygu pob maes gwasanaeth i ddarparu cymorth a her, ac i fonitro ein cynnydd o ran cyflawni blaenoriaethau\u2019r Cynllun Corfforaethol, blaenoriaethau eu Cynllun Gwasanaeth, prif risgiau, mesurau perfformiad, cyflawniadau, a meysydd gwella.<\/p>\n<p>Mae canfyddiadau&#8217;r adolygiadau hyn hefyd yn cael eu dogfennu a&#8217;u cyflwyno i&#8217;r Uwch Reolwyr ac Aelodau Etholedig mewn Adroddiad Perfformiad Corfforaethol.<\/p>\n<p>Bob blwyddyn, erbyn 31 Hydref, byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol fydd yn manylu yngl\u0177n \u00e2\u2019r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn ariannol flaenorol i sicrhau\u2019r ymrwymiadau a wnaed gennym yn y Cynllun Corfforaethol. Bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys gwerthusiad o&#8217;n llwyddiannau allweddol, mesurau perfformiad a&#8217;r meysydd lle mae angen i ni wneud gwelliannau pellach.<\/p>\n<p>Daeth adolygiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru i\u2019r casgliad fod gan y Cyngor drefniadau llywodraethu cadarn ar gyfer penderfynu ar newidiadau sylweddol i wasanaethau ond mae cysondeb asesu effaith cydraddoldeb yn amrywio ac mae diffyg tryloywder wrth adrodd ar arbedion yn sgil newidiadau i wasanaethau.<\/p>\n<p>Mae gan y Cyngor fframwaith strategol clir i gynllunio a rhoi newidiadau i wasanaethau ar waith, ac mae dull \u2018T\u00eem Conwy\u2019 yn nodi dull clir sydd wedi\u2019i ddeall ar gyfer newid trefniadau llywodraethu gwasanaeth.<\/p>\n<p>Mae cynghorwyr yn herio achosion busnes a gwerthusiadau trefniadau monitro newid i wasanaethau yn gadarn er mwyn asesu bod yr effaith yn effeithiol. Mae proses ymgysylltu \u00e2 budd-ddeiliaid Conwy yn gynhwysfawr, ac mae\u2019r Cyngor yn adolygu a gwella effeithiolrwydd ei drefniadau gwneud penderfyniadau yn rhagweithiol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ein Gweithlu a Sut Rydym ni\u2019n Cefnogi eu Rolau Proffesiynol Dysgu a Datblygu Mae ein Cynllun Dysgu a Datblygu Gweithlu blynyddol wedi\u2019i alinio \u00e2 Deddf SSWB (Cymru) 2014. Rydym wedi sefydlu gr\u0175p \u2018Gweithredu\u2019r Ddeddf\u2019 i ymarferwyr i&#8217;w cefnogi wrth weithredu Deddf SSWB (Cymru) 2014 o ddydd i ddydd. Rydym yn cefnogi staff heb eu cymhwyso, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1449","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1449","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1449"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1449\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1449"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}