{"id":1444,"date":"2017-11-14T15:14:39","date_gmt":"2017-11-14T15:14:39","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=1444"},"modified":"2017-12-18T14:38:36","modified_gmt":"2017-12-18T14:38:36","slug":"sut-mae-pobl-yn-siapio-ein-gwasanaethau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2016-17\/sut-mae-pobl-yn-siapio-ein-gwasanaethau\/","title":{"rendered":"Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?"},"content":{"rendered":"<h2>Asesiad o Anghenion y Boblogaeth<\/h2>\n<p>Mae\u2019r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth wedi bod yn ffocws sylweddol o&#8217;n gwaith yn ystod 2016\/17. Yn rhan o hyn, fe wnaethom gynnal proses ymgynghori helaeth gyda sefydliadau, defnyddwyr gwasanaeth a&#8217;r cyhoedd. Roedd yr ymagwedd yn seiliedig ar yr egwyddorion cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus yng Nghymru ac egwyddorion cydgynhyrchiad, a oedd yn llywio ein cynllun ymgynghori. Cafodd yr ymgysylltiad asesiad o anghenion y boblogaeth ei drefnu gan gr\u0175p o staff o bob cyngor lleol, y bwrdd iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu\u2019n eang drwy gynghorau gwirfoddol sirol yng ngogledd Cymru a rhwydweithiau rhanbarthol amrywiol eraill. Bu\u2019r cynghorau lleol a bwrdd iechyd yn ei hyrwyddo ar eu gwefannau, ac ar eu tudalennau Facebook a Twitter ac mewn datganiadau i\u2019r wasg. Fe gysylltwyd \u00e2 grwpiau penodol, gan gynnwys pobl \u00e2 nodweddion a ddiogelir drwy grwpiau a rhwydweithiau presennol. Cafodd newyddlen ei chyhoeddi bob chwarter, gan ddarparu\u2019r newyddion diweddaraf am y prosiect i staff a sefydliadau partner, ac roedd hyn yn help i adnabod grwpiau i gysylltu \u00e2 nhw am yr ymgynghoriad ac ymgysylltu.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yng Nghonwy, fe wnaethom dderbyn 133 o ymatebion gan sefydliadau i\u2019n harolwg o angen pobl am ofal a chymorth. Fe wnaethom gynnal 16 o ddigwyddiadau gyda\u2019n partneriaid gan ddosbarthu tri holiadur i tua 260 o bobl sy&#8217;n defnyddio ein gwasanaethau. Roedd holiadur i\u2019r cyhoedd (pobl sydd ddim yn defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth) ar gael ar wefan Panel Dinasyddion, ac fe gynhaliodd y Panel Dinasyddion 34 cyfweliad gydag aelodau o\u2019r cyhoedd. Fe wnaethom ddefnyddio\u2019r casgliadau o dros 300 ymgynghoriad ac adroddiadau ymchwil, ac fe drefnodd gynghorau lleol tua 20 gweithdy i staff a chynghorwyr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Roedd asesiadau lles ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cynnal ar yr un pryd \u00e2\u2019r asesiad poblogaeth hwn. Lle bynnag y bo\u2019n bosibl, roedd unrhyw ymgysylltu oedd yn cael ei drefnu yn cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion y ddau asesiad. Mewn rhai meysydd, roedd hyn yn golygu anfon holiaduron ar y cyd, tra bod rhai eraill wedi cynnal gweithdai a grwpiau trafod ar y cyd.<\/p>\n<p>Roedd y darn yma o waith yn flaenoriaeth allweddol wrth lywio ein strategaeth gomisiynu a gosod y cyd-destun ar gyfer ein gweledigaeth a blaenoriaethau penodol ar gyfer y gwasanaeth dros y 5 mlynedd nesaf. Rydym eisoes wedi gweld gwasanaethau yn defnyddio\u2019r wybodaeth hon i fireinio gweledigaeth eu gwasanaeth a gosod meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu a chyflawni. Bydd hyn yn golygu rhagor o benderfyniadau gwybodus gan ymateb i dystiolaeth gadarn sydd yn cynnwys cyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaeth a dinasyddion ehangach.<\/p>\n<p>Bydd ein ffocws y flwyddyn nesaf ar ddechrau\u2019r gwaith o ailalino gwasanaethau presennol a gomisiynwyd a datblygu gwasanaethau newydd ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi cael eu nodi.<\/p>\n<h2>Sgwrs y Sir<\/h2>\n<p>Er mwyn datblygu ein blaenoriaethau ar gyfer Conwy, roedd gennym 2 ymagwedd; asesiad o les yn seiliedig ar ddadansoddiad demograffig o wybodaeth am y sir, a datblygu sgwrs gyda chymunedau lleol. Fe wnaethom rannu\u2019r safbwyntiau hyn gyda chyrff cyhoeddus statudol eraill sy&#8217;n gweithio yn lleol, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru a\u2019r Awdurdod T\u00e2n ac Achub. Defnyddiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr adborth cymunedol i helpu i lywio\u2019r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol.<\/p>\n<p>Roedd cymunedau yn rhan wrth ddatblygu&#8217;r blaenoriaethau, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig trwy gysylltu trafodaethau cymuned lleol drwy ddatblygu cynlluniau lleoedd. Mae ein them\u00e2u trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo\u2019r Gymraeg. Roedd y broses ymgysylltu a gynhaliwyd yn monitro ymatebion i sicrhau bod yr adborth yn cynrychioli pob ardal o\u2019r sir, pob nod llesiant, pob gr\u0175p oedran a phob nodwedd a ddiogelir.<\/p>\n<h2>Ymgysylltu \u00e2 Defnyddwyr Gwasanaeth a Gweithgareddau\/Ymgynghoriadau<\/h2>\n<p><strong>Rydym hefyd yn ymgynghori gyda\u2019n defnyddwyr gwasanaeth yng Nghonwy drwy ein t\u00eem Cyfranogi: <\/strong><\/p>\n<p><strong>Cyfranogiad yr Ifanc:<\/strong> Rydym wrthi\u2019n ymgysylltu gyda 3 phrif gr\u0175p ar gyfer pobl ifanc:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyngor Ieuenctid Conwy \u2013 cynrychiolaeth ar gyfer Ysgolion Uwchradd ledled Conwy, gan gynnwys Ysgol y Gogarth\/Gwasanaethau Ieuenctid<\/li>\n<li>Fforwm Lleisiau Uchel i Blant sy\u2019n Derbyn Gofal, rhwng 9-14 oed<\/li>\n<li>Fforwm Gadael Gofal \u2013 Siapio Dyfodol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ym mis Mawrth, bu Cyngor Ieuenctid Conwy yn rhan o gyfarfod ar y cyd gydag Aelodau Cabinet Conwy a Chadeiryddion Pwyllgorau Craffu er mwyn adolygu\u2019r Cynllun Corfforaethol. Mae eu hadborth wedi dylanwadu ar ddyluniad a gosodiad y cynllun.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1583\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Youth-Council-2-225x300.jpg\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Youth-Council-2-225x300.jpg 225w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Youth-Council-2-768x1024.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Youth-Council-2-15x20.jpg 15w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Youth-Council-2.jpg 967w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/p>\n<p>Cafodd addysg a sut y gellir cefnogi Plant yng Nghonwy i gyflawni safon dda o addysg ei drafod hefyd. Yna cafwyd sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda\u2019r Prif Weithredwr ac Aelodau.<\/p>\n<p><strong>Mae blaenoriaethau ar gyfer 2017\/18 yn cynnwys: <\/strong><\/p>\n<p>Datblygu cysylltiadau gweithio gydag Unedau Atgyfeirio Disgyblion yng Nghonwy a Chyngor yr Ifanc er mwyn ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc anodd eu cyrraedd, sydd dal mewn addysg.<\/p>\n<p>Testunau gwaith sydd wedi\u2019u dewis ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:<\/p>\n<ul>\n<li>Prosiect Anghenion Dysgu Ychwanegol\/Gweithio gyda Chydlynwyr ADY mewn ysgolion uwchradd.<\/li>\n<li>Iechyd Meddwl a Stigma \u2013 wrthi\u2019n ymgysylltu gyda\u2019r Samariaid \u2013 i ddatblygu cyflwyniad\/fideo ar sut i ddatblygu systemau cymorth gwell i bobl ifanc sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl mewn lleoliadau ysgol.<\/li>\n<li>Mae\u2019r Fforwm Gadael Gofal (wedi\u2019i adnewyddu fel Siapio Dyfodol), yn paratoi ar gyfer yr ymweliad gan y Comisiynydd Plant ar 12 Mehefin 2017, a bydd yn ymgynghori gyda\u2019r Gr\u0175p ac yn gwerthuso ein hunain yn erbyn Adroddiad Breuddwydion Cudd ar gyfer Pobl Ifanc sy\u2019n Gadael Gofal.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Cyfranogiad oedolion:<\/strong> Yn ogystal \u00e2 gweithio gyda\u2019r t\u00eem comisiynu ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, mae\u2019r Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion yn parhau i gysylltu \u00e2 grwpiau cynllunio lleol a\u2019r grwpiau tasg a gorffen. Mae cynrychiolaeth ar y gr\u0175p yn cynnwys grwpiau pobl h\u0177n, hy, Age Connect, Anableddau Dysgu, Men\u2019s Sheds, Anableddau Corfforol a Dinasyddion Conwy. Croesawir aelodaeth gan bobl sy\u2019n dangos diddordeb i gymryd rhan a dylanwadu ar wasanaethau gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn gweithio gyda CANIAD \u2013 y gr\u0175p cynrychiadol ar gyfer iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwaith sydd wedi cael ei gynnal yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Ymgynghoriad corfforaethol \u2013 Gwiriad iechyd ar y partneriaethau a sut maent yn gweithio.<\/li>\n<li>Rhaglen waith Cydlynydd Codymau \u2013 rhannu gwybodaeth.<\/li>\n<li>Y Groes Goch Brydeinig &#8211; rhannu gwybodaeth.<\/li>\n<li>Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.<\/li>\n<li>Partneriaeth ddysgu a sut gall y grwpiau sy\u2019n cael eu cynrychioli fod yn rhan o\u2019r gwaith hwn.<\/li>\n<\/ul>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1531 size-full\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Dont-Feel-Lonely-Image.png\" alt=\"\" width=\"279\" height=\"407\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Dont-Feel-Lonely-Image.png 279w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Dont-Feel-Lonely-Image-206x300.png 206w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Dont-Feel-Lonely-Image-14x20.png 14w\" sizes=\"auto, (max-width: 279px) 100vw, 279px\" \/><\/p>\n<ul>\n<li>Ymgynghoriad ar gludiant gofal cymdeithasol Conwy.<\/li>\n<li>Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, gan gynnwys adolygu\u2019r llyfrynnau sydd ar gael a chreu poster (gweler uchod)<\/li>\n<li>Holiadur cyn ac ar \u00f4l ymddeol; bu\u2019r Rhwydwaith yn treialu\u2019r holiadur ac fe wnaethant helpu i ddosbarthu&#8217;r holiaduron ymysg eu grwpiau a phobl eraill maent yn ei adnabod.<\/li>\n<li>Mynychodd un o aelodau\u2019r gr\u0175p yr ymgynghoriad ar Gludiant Cymunedol ar ran y gr\u0175p.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Adborth ar \u00f4l ymyrraeth<\/h2>\n<p><strong>Ymyrraeth Tymor Byr: <\/strong>Mae gwasanaethau anstatudol megis OPUS, Dechrau\u2019n Deg a T\u00eem o Amgylch y Teulu hefyd yn ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth a dderbyniodd ymyrraeth tymor byr. Caiff y rhain eu hystyried ar \u00f4l cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi, a chaiff unrhyw newidiadau angenrheidiol eu gweithredu, a\u2019u trafod mewn cyfarfodydd t\u00eem. Caiff astudiaethau achos hefyd eu rhannu pan fydd y gefnogaeth wedi mynd yn arbennig o dda, neu wael. Caiff y rhain eu cynnal ar unwaith, ac unwaith eto er mwyn adlewyrchu ar \u00f4l cyfnod o amser.<\/p>\n<p>Enghraifft arall yw ar ddiwedd ymyrraeth gan y t\u00eem ailalluogi. Gofynnir i gleientiaid lenwi ffurflen monitro ansawdd sydd yn gofyn amryw o gwestiynau gan roi cyfle iddynt gael dweud eu dweud ar lefel eu boddhad gyda&#8217;r gwasanaeth. Enghraifft o gwestiwn fyddai os oedd cleient yn hapus gyda\u2019u lefel o annibyniaeth, hyder a lles yn dilyn cyfnod o gefnogaeth. Mae&#8217;r wybodaeth sydd ar y ffurflenni hyn yn cael eu bwydo n\u00f4l i dimau cymunedol a rheoli drwy gyfarfodydd t\u00eem. Caiff unrhyw sylwadau eu trafod gyda&#8217;r cleient ar y pryd er mwyn datrys unrhyw bryderon mewn modd amserol.<\/p>\n<p><strong>Annog Cyfranogiad y Plentyn\/Person Ifanc mewn adolygiadau: <\/strong>Rydym hefyd yn annog plant a phobl ifanc i lenwi dogfennau ymgynghori cyn pob adolygiad Plant sy\u2019n Derbyn Gofal.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1532\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/have-your-say-1.jpg\" alt=\"\" width=\"522\" height=\"700\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/have-your-say-1.jpg 522w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/have-your-say-1-224x300.jpg 224w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/have-your-say-1-15x20.jpg 15w\" sizes=\"auto, (max-width: 522px) 100vw, 522px\" \/><\/p>\n<p>Rydym yn parhau i fonitro\u2019r canfyddiadau o\u2019r ymgynghoriadau; mae negeseuon allweddol wedi\u2019u nodi ynghylch y broses adolygu.<\/p>\n<h2>Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru<\/h2>\n<p>Gweler y rhan ansoddol o dan bob safon ansawdd. Tra bod cyfraddau ymateb uchel wedi cael eu cyflawni ar gyfer oedolion, roedd y gyfradd ymateb i blant yn isel ac rydym ni\u2019n ystyried dulliau eraill o gael adborth ar gyfer yr arolwg hwn yn 2017\/18<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Asesiad o Anghenion y Boblogaeth Mae\u2019r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth wedi bod yn ffocws sylweddol o&#8217;n gwaith yn ystod 2016\/17. Yn rhan o hyn, fe wnaethom gynnal proses ymgynghori helaeth gyda sefydliadau, defnyddwyr gwasanaeth a&#8217;r cyhoedd. Roedd yr ymagwedd yn seiliedig ar yr egwyddorion cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus yng Nghymru ac egwyddorion cydgynhyrchiad, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":1434,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-1444","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1444","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1444"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1444\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1444"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}