Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Unigolion Cysylltiedig

Unigolion Cysylltiedig

Fel opsiwn parhaol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal rydym yn hyrwyddo i blant aros o gyda’u teulu neu gyda’r oedolion hynny y maent yn gysylltiedig â nhw.

  • Unigolyn Cysylltiedig yw perthynas, ffrind neu unrhyw berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn/person ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod, brodyr a chwiorydd sy’n oedolion ac aelodau eraill o’r teulu sy’n oedolion a ffrindiau sydd â chysylltiad pwysig â’r plentyn.
  • Y dasg, y gofynnwyd i ni gwblhau gan y NWHOS oedd datblygu ymarfer a sicrhau cysondeb o ran y broses asesu ar gyfer Ffrindiau a Theulu fel Gofalwyr ar draws chwe Awdurdod Gogledd Cymru.
  • Mae’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol wedi canolbwyntio’r awdurdod i ystyried yn wirioneddol y Teulu neu unigolion cysylltiedig fel y cynllun gofal a ffafrir ar gyfer plant sydd angen lleoliad sefydlog a diogel ac fel opsiwn parhaol
  • Fel rhan o’r gwaith Personau Cysylltiedig Rhanbarthol, crëwyd asesiad rhanbarthol. Roedd gan Gonwy rôl ymarferol wrth gynnal y datblygiad hwn
  • Creodd yr awdurdod lleol brotocol cyn achos yn ogystal â chynnal ymarferiad mapio i edrych ar effaith pobl gysylltiedig o ran adnoddau i gyflawni’r gwaith. Yn dilyn y gwaith mapio hwn teimlwyd bod gan y gweithwyr Cymdeithasol maethu arbenigedd i gynnal yr asesiad ar yr oedolion. Felly mae’r Gwasanaeth Maethu yng Nghonwy wedi dyrannu gweithiwr cymdeithasol asesu pobl gysylltiedig llawn amser a swydd ran amser arall. Bydd y staff unigol hyn wedyn yn dod yn arbenigwyr, yn asesu oedolion sy’n addas i ofalu am blant yn barhaol.
  • Er mwyn sicrhau bod yr holl staff wedi cael y gwaith ymchwil a’r hyfforddiant angenrheidiol ym maes pobl gysylltiedig comisiynwyd hyfforddiant i aelodau’r panel, staff gwaith maes a staff maethu
  • Sefydlwyd gweithgor rhanbarthol ac maent yn dal yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu’r offeryn asesu
  • Gan fod hwn yn faes lle mae galw newydd ar ein Gwasanaethau, rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygu ein dangosyddion perfformiad o ran unigolion cysylltiedig ac asesiadau hyfywedd
  • Rydym wedi datblygu ein prosesau ynghylch gwiriadau cychwynnol sy’n cynorthwyo wrth gyflawni amserlenni ar gyfer y llys a datblygu ein systemau monitro
  • Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r asesiad ariannol ac yn ystyried effaith hyn ar draws Gogledd Cymru

Mae’r Gweithiwr Cymdeithasol goruchwylio gofal carennydd wedi arbrofi gyda grŵp ar gyfer perthnasau y gallai gofalwyr cysylltiedig fynd iddi yn y dyfodol.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, LAC Sefydlogrwydd

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English