Ar 19 Mawrth 2014, newidiodd y gyfraith ynghylch pobl nad oedd â’r gallu i wneud penderfyniadau ynghylch ble maent yn byw ac am eu trefniadau cynllunio gofal dros nos yng Nghymru a Lloegr. Cyflwynwyd ‘prawf terfynol’ syml gan y Goruchaf Lys sef y byddai’n rhaid asesu unrhyw un a oedd wedi ei roi mewn Cartref Preswyl/ Nyrsio, Ysbyty neu brosiect Byw â Chymorth a heb allu; a oedd yn cael eu monitro 24 awr y dydd ac nad oeddent yn cael hawl i fynd allan ar eu pennau eu hunain gael eu hasesu am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
Nod y trefniadau diogelu yw sicrhau bod y bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas yn cael ‘llais’ fel bod eu hanghenion, dymuniadau a’u teimladau’n cael eu hystyried a bod ganddynt lais pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud amdanynt. Mae’n sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu cynnal a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gyda nhw ac nid ar eu rhan.
Beth sydd wedi newid?
Er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith newydd, roedd rhaid i Gonwy sicrhau bod systemau a phrosesau ar waith i ateb y galw. Cyfrifoldeb y Cartrefi Nyrsio/Preswyl / prosiectau Byw â Chymorth yw cyfeirio unrhyw un sy’n cwrdd â’r ‘prawf terfynol’ at y Gwasanaethau Cymdeithasol. Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi’i dderbyn a’i gytuno arno, bydd Aseswr Lles Gorau (BIA) a Meddyg a gymeradwywyd o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 yn mynd allan i asesu’r person dan sylw.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl a aseswyd eu bod yn cwrdd â gofynion y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy wedi cyhoeddi awdurdodiad i Gartrefi Gofal sy’n eu galluogi i amddifadu rhywun o’i ryddid, lle bod hynny er lles y person i’w cadw’n ddiogel.
Yn ddiweddar, aeth BIA a Meddyg allan i asesu Mrs Jones, gwraig 78 mlwydd oedd yn dioddef o Dementia ac yn byw mewn Cartref Preswyl. Roedd yn amlwg nad oedd Mrs Jones yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch ble roedd hi’n byw a’i threfniadau cynllunio gofal, fodd bynnag, roedd ei theulu’n poeni am ei gofal. Yn ystod yr asesiad, daeth yn amlwg bod Mrs Jones wedi dioddef nifer o godymau dros sawl mis, ac wedi bod i’r Adran Ddamweiniau ac Argyfwng ac wedi bod angen pwythau.
Gosododd y BIA a’r Meddyg Mrs Jones ar Drefniadau Diogelu, fodd bynnag gwnaethant hefyd argymell bod achos Mrs Jones yn cael ei gyfeirio at y Panel Diogelu Oedolion Diamddiffyn, oherwydd eu pryderon ynghylch nifer y syrthiadau a theimlwyd bod angen ymchwilio i hyn – mae hyn yn unol ag adran 128 (3) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), 2014.
Er bod y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn ymwneud yn bennaf â hawliau dynol pobl, mae hefyd yn broses ddiogelu i sicrhau bod pobl ddiamddiffyn sydd â diffyg gallu yn cael eu hamddiffyn rhag niwed a’u cadw’n ddiogel.