Mae pob teulu sy’n byw yn yr ardal wledig yn wynebu amddifadedd o ran mynediad i wasanaethau. Ar ben hyn mae llawer hefyd yn dioddef tlodi.
Cyn 2011, roedd Gwasanaeth Cychwyn Cadarn llwyddiannus yn gweithredu yng Nghonwy Wledig ond pan ddaeth y cyllid grant i ben, cafodd ei gau. Roedd teimlad cryf gan y gymuned, a ymgyrchodd dros barhau’r gwasanaeth cymorth hwn, dan arweiniad mamau ifanc yn Llanrwst.
Creodd cais llwyddiannus am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf y cyfle i ddylunio gwasanaeth pwrpasol gyda dull aml-asiantaeth holistig sy’n seiliedig ar y teulu.
Mae canolfan y gwasanaeth yn gweithredu o Ganolfan Deuluoedd Llanrwst, ac yn darparu cymorth un i un, cymorth grŵp a chymorth cymunedol i deuluoedd mewn lleoliad maent yn teimlo’n gyfforddus ynddo.
Mae’r model Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf yn cydlynu, hwyluso ac yn darparu ymyrraeth uniongyrchol i deuluoedd, gyda phwyslais ar weithio ar y cyd. Mae’n canolbwyntio ar gefnogi rhieni plant dan 12 oed yn yr ardal wledig, gydag amrywiaeth o gefnogaeth sy’n gallu addasu i anghenion sy’n newid ac yn amlygu eu hunain ac felly mae’n canolbwyntio ar y teulu, yn bwrpasol, integredig, rhagweithiol, dwys ac yn lleol. Rhoddir sylw arbennig i wella sgiliau magu plant drwy amrywiaeth o ddulliau sy’n addas i bob teulu.
Mae model partneriaeth cydweithio aml-asiantaeth yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn. Mae cyfle i weld gwasanaethau cymorth mewn gwahanol leoliadau/sefyllfaoedd, gan eu gwneud yn fwy deniadol a hygyrch i’r gymuned.
Mae gwybodaeth a phrofiad eang y staff yn helpu teuluoedd i ymgysylltu gyda, a ffurfio perthnasau llawn ymddiriedaeth.
Beth sydd wedi newid?
- Cynyddu’r ystod oedran i blant dan 12 oed a’u teuluoedd, beth bynnag fo’u cyfansoddiad.
- Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd rhan amser ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ag anghenion ychwanegol. Hefyd, sefydlwyd grwpiau lloeren mewn ardaloedd gwledig mwy anghysbell.
- Cynhyrchwyd cynllun rhianta blynyddol yn dangos bwydlen i rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o’r ymyriadau sydd ar gael i’r grŵp rhianta.
- Cyflawnodd staff a hyfforddwyd mewn gwaith grŵp cyn-geni ar y cyd â bydwraig ac Ymwelwyr Iechyd, gan felly alluogi ymagwedd fwy ataliol at weithio gyda rhieni.
- Canolbwyntiwyd yn gyntaf ar sicrhau fod staff yn ffurfio ‘perthynas broffesiynol’ â theuluoedd gan ddod yn ‘gyfaill proffesiynol’ iddynt, meithrin hyder a chodi dyheadau.
- Datblygwyd opsiynau cyfryngau cymdeithasol i ehangu’r dulliau y gall rhieni eu defnyddio i gadw cysylltiad.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Cynnydd yn nifer y partneriaid a gwasanaethau hygyrch yn yr ardal wledig yn sgil hynny, e.e. Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol, Meddygon Teulu, Deintyddion Iechyd Cymunedol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Cymorth i Ferched, Refeniw a Budd-daliadau, Gwasanaethau Hamdden, Twf, Taith i Waith, Menter Iaith, Golygfa Gwydir (Clwb Swyddi), Llyfrgelloedd, Gingerbread, y Gwasanaeth Cam-drin Domestig , Mudiad Ysgolion Meithrin, Relate, y Gwasanaeth Tân, Refeniw a Budd-daliadau, Tŷ Gobaith, Afasicac ati.
O’i gymharu â 2013/14, bu cynnydd o 35% yn nifer y rhieni a phlant sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cymorth wedi’i ganolbwyntio ar gyfer 57 o rieni/gofalwyr a’u plant, sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd 100% o’r adborth a dderbyniwyd gan rieni/gofalwyr yn gadarnhaol. Mae rhieni/gofalwyr yn fwy hyderus a chyfforddus i dderbyn ystod o gefnogaeth, a ddangosir gan y cynnydd presenoldeb lluosog o 27%.Mae nifer y rhieni sy’n cwblhau grwpiau caeedig/strwythuredig yn parhau i fod yn gyson uchel, fel y mae nifer y staff aml-asiantaeth sy’n gweithio drwy’r ganolfan deuluoedd. Bellach mae’r holl staff wedi’u hyfforddi mewn rhaglenni rhianta cydnabyddedig, ar sail tystiolaeth ac wedi cyflawni Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol QCF Lefel 3 ar gyfer gweithio gyda Rhieni. Mae staff aml-asiantaeth wedi derbyn hyfforddiant achrededig i ddatblygu gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n dda sy’n gweithio gyda rhieni a theuluoedd yng Nghonwy ymhellach.
Yn ogystal â’r grŵp i gefnogi rhieni sydd â phlentyn ag Anghenion Ychwanegol yn Llanrwst, mae 2 grŵp lloeren pellach wedi cael eu datblygu pan fo’r angen yn codi. Rydym wedi trefnu hyfforddiant mewn Adnabod arwyddion a symbolau Makaton ac ar gyfer rhieni/gofalwyr a staff aml-asiantaeth lleol.
Astudiaeth achos 1
Roedd rhiant â phroblemau iechyd difrifol, gyda 2 ferch yn eu harddegau a merch 3 oed, ond wedi dod i’r clwb babanod yn achlysurol iawn ac yn ymddangos yn swil ac yn dawedog iawn. Gydag anogaeth ysgafn dechreuodd ddod i grwpiau a sesiynau eraill. Rhoddodd hyn gyfle i staff osod y seiliau ar gyfer perthynas ystyrlon. Yn ei dro, galluogodd hyn y rhiant i gyfaddef yr anawsterau roedd yn wynebu yn ei phriodas.
Cynigiwyd cefnogaeth emosiynol yn ogystal â chyngor rhianta yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wrth iddi ymddiried fwy ynom, datgelodd broblemau pellach fel problemau ariannol, nad oedd wedi cael sylw. Mae’r materion hyn yn cael eu datrys yn araf.
Mae hi bellach yn dod i 4 sesiwn yr wythnos, gan gynnwys y Rhaglen Meithrin Rhianta, yn ogystal â theimlo’n hyderus ac yn ddigon cyfforddus i ddod i mewn pan ei bod angen siarad am ei phroblemau. Mae hi hefyd yn ystyried mynd i grwpiau a phrosiectau cymunedol eraill na fyddai hi wedi eu hystyried o’r blaen oherwydd ei diffyg hyder a hunangred.
Astudiaeth Achos 2
Rhiant sengl gyda 3 o blant 7, 4 ac 1 oed. Hanes o drais domestig, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn y teulu agos a’r teulu estynedig. Rydym wedi gwybod am y rhiant ers 4 blynedd ac roedd perthynas dda wedi datblygu gyda’r holl staff.
Dyma rai o’r materion a gododd gyda’r rhiant hwn a gefnogwyd gan y Ganolfan Deuluoedd:
- Trais Domestig a cham-drin emosiynol: cysylltwyd â Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy ac anogwyd hi i fynd i loches am gyfnod byr.
- Rhoddwyd cefnogaeth emosiynol i’w helpu hi gyda’r holl anawsterau yn ei pherthynas, e.e. gwahanu gyda’i phartner, perthynas danllyd gyda’i mam a’i brodyr a’i chwiorydd.
- Rhoddwyd cyngor ariannol a chyngor tai o ganlyniad i ddyledion oedd ganddi gyda benthyciwr arian anghyfreithlon. Helpwyd hi i egluro ei sefyllfa yn y system fudd-daliadau.
- Addysg a rhianta: cysylltwyd â’r ysgol gynradd leol ynghylch anawsterau ag ymddygiad y plentyn canol. Aeth ar gwrs rhianta y Blynyddoedd Rhyfeddol.
- Iechyd: Cefnogwyd iechyd emosiynol y rhiant gan staff, ac rydym yn parhau i bwysleisio iddi pa mor bwysig yw meithrin ei hun yn ogystal â’r plant. Rydym wedi gweithio gyda’r Ymwelydd Iechyd lleol ac wedi trefnu apwyntiadau gyda’r meddyg pediatrig cymunedol ar ei rhan.
- Cefnogaeth ymarferol: darparwyd cludiant i ac o apwyntiadau.