Recriwtio ein Gweithlu
Er mwyn denu pobl i weithio yn y sector, efallai heb iddynt erioed ystyried gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol, rydym wedi cynnal ffeiriau swyddi ar y cyd â chyflogwyr Gofal Cymdeithasol, Coleg Llandrillo, a Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg Conwy. Yn sgil y digwyddiadau hynny fe wnaeth darparwyr Gofal Cymdeithasol recriwtio gweithwyr newydd yn uniongyrchol o blith y bobl y cwrddasant â hwy yn y ffeiriau swyddi.
Beth nesaf?
Wedi llwyddo gyda’r dull hwn, bydd ein Tîm Datblygu a Dysgu’r Gweithlu yn cynnal rhaglen reolaidd o ffeiriau swyddi yn y dyfodol.
Gan weithio gyda darparwyr Gofal Cymdeithasol a Choleg Llandrillo, byddwn yn darparu rhaglen profiad gwaith ledled Conwy. Byddwn yn manteisio ar ymgyrch recriwtio genedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru yn lleol er mwyn helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol i ddenu pobl i’r maes.
Darparu gwasanaethau yn Gymraeg
Mwy na Geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Amcanion y fframwaith yw:
- Gwella ansawdd gofal, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar anghenion y defnyddwyr;
- Cynnal safonau proffesiynol;
- Bodloni anghenion iaith y defnyddwyr, yn enwedig felly plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a phobl â phroblemau iechyd meddwl;
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a statudol, gan gynnwys Safonau’r Iaith Gymraeg.
Mae’n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynnig a darparu gwasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny i’r un safon â gwasanaethau gofal drwy gyfrwng y Saesneg; gelwir hyn yn ‘y Cynnig Gweithredol’. Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddatblygu’r gwasanaethau a gynigiwn i siaradwyr Cymraeg yng Nghonwy, ac yn cadw golwg yn gyson ar ein gallu i ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r data blynyddol ar ein gweithlu’n dangos fod 42% o’r staff mewnol sy’n gweithio mewn gofal preswyl neu ofal cartref yn medru cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg. Yn y gweithlu allanol mae’r ffigwr yn is, gyda dim ond 16% yn medru cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg. Mae ein Gwasanaeth Monitro’n cynnal ymweliadau rheolaidd â chartrefi preswyl ac wedi canfod yn y deuddeg mis diwethaf fod yno 177 o staff Cymraeg ar gyfer 98 o breswylwyr Cymraeg.
Byddwn yn dal i ddarparu hyfforddiant i’n staff ynglŷn â Mwy na Geiriau a’r Cynnig Gweithredol; mae 16 o sesiynau wedi’u comisiynu tan fis Chwefror 2020.
Rheoleiddio ac Arolygu
Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu harolygu, sut rydym yn gwella ansawdd y gofal a chefnogaeth yr ydym yn ei ddarparu, a’r modd yr ydym yn rheoleiddio’r gweithlu. Bydd yn rhoi ansawdd a gwelliannau gwasanaeth wrth galon rheoleiddio; cryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y rhai sydd eu hangen a sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel.
Yn 2018 dechreuodd Gwasanaethau Oedolion ledled Cymru gofrestru rheolwyr yn y sector cartrefi gofal, yn unol â’r rheoliadau o dan y Ddeddf newydd. Rydym wedi cynnal cyfres o fforymau rheolwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf. Hefyd yn ddiweddar fe gynhaliom weithdai Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn helpu’r gweithlu gofal cartref i gofrestru. Rydym wedi sefydlu grŵp polisi ar gyfer y Ddeddf sy’n cwrdd bob mis er mwyn adolygu’r polisïau sy’n ofynnol o dan y rheoliadau newydd. Gyda’n partneriaid rydym hefyd yn cynnal Grŵp Hyfforddiant Darparwyr Conwy er mwyn hybu datblygiad a dysg y gweithlu gydol y Sector.
Ym maes gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wrthi’n cynnal prosiect drwy Gymru i feithrin dealltwriaeth o brofiadau plant, pobl ifanc sy’n gadael gofal a’u Gofalwyr, a pha fath o gymorth sydd ar gael iddynt. Estynnwyd gwahoddiad i Gonwy gymryd rhan yn y prosiect fis Medi 2018, a chynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gyda phlant, Gofalwyr Maeth a phobl ifanc sy’n gadael gofal. Roedd yr ymateb gan y bobl ifanc sy’n gadael gofal yn galonogol, ac yn dangos mor werthfawr yw eu perthnasau â’u Cynghorwyr Personol a’u Gofalwyr Maeth, ynghyd â’r hwb y mae plant mewn gofal yn ei gael gan grwpiau cymorth a chyfleoedd i gymdeithasu wedi’u trefnu gan y Cyngor. Dywedodd plant â phrofiad o fod mewn gofal i’r arolygydd eu bod yn fodlon ar eu Gweithwyr Cymdeithasol ac yn teimlo fod pobl yn gwrando arnynt. Fe soniont hefyd am feithrin perthynas â phlant eraill yn y gymuned, a sut roedd Gweithwyr Cymdeithasol yn eu cefnogi i wneud hynny.
Ein hadnoddau ariannol a sut rydym ni’n cynllunio at y dyfodol
Er mor heriol yw’r hinsawdd ariannol, rydym yn dal i ddiogelu gwasanaethau uniongyrchol. Ein nod yw darparu’r gwerth gorau am arian, bod yn effeithlon a pheidio â dyblygu gwaith. Bu’n rhaid i’r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ddod o hyd i £2.4 miliwn mewn arbedion yn 2018-19, ond rydym yn dal i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallwn i’n preswylwyr.
Llywodraethu ac atebolrwydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae’r Ddeddf yn sicrhau fod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i benderfyniadau. Yng Nghonwy rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn y Cynllun Corfforaethol. Mae’r saith nod a’r pum ffordd o weithio yn cyfateb i’r wyth o Ganlyniadau Dinasyddion Conwy.
Ceir camau gweithredu yn y Cynllun Corfforaethol sy’n ataliol yn hytrach nag ymatebol, sydd â’r nod o weithio tuag at effaith tymor hirach, wedi cael eu hintegreiddio wrth ystyried sut maent yn cyfrannu at y Saith Nod Llesiant. Mae’r camau gweithredu hyn yn gydweithredol hefyd o ran canolbwyntio ar weithio’n agos gyda chymunedau fel bod ganddynt berchnogaeth dros y Canlyniadau Dinasyddion a’u bod yn rhan o’r gwaith a wneir ar y cyd i’w cyflawni.
Chwaraeodd cymunedau ran bwysig iawn wrth bennu’r blaenoriaethau, a byddant yn dal i gael eu cynnwys. Mae ein themâu trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo’r Gymraeg.
Mae’r Ddeddf hefyd yn diffinio Datblygu Cynaliadwy fel proses o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gwneud i ni ystyried beth rydym ni’n ei wneud, sut rydym yn ei gyflawni a sut rydym ni’n cyfathrebu. Mae’r gwasanaeth yn cyfrannu drwy fyfyriol ynghylch y modd yr ydym yn defnyddio’r pum ffordd o weithio yn ein Hadolygiadau o Berfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis.
Cynllun Ariannu Hyblyg
Nod y Cynllun Ariannu Hyblyg yw sicrhau gwell canlyniadau i’r rhai hynny sydd fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, a hynny drwy ddulliau ymyrryd yn gynnar ac atal, gan annog pobl i fyfyrio ynghylch eu hunain a chryfhau eu cymhelliant. Y bwriad yw chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag newid er gwell, drwy ddatblygu dulliau blaengar sydd wedi’u dylunio i atal pobl rhag mynd yn fwy diamddiffyn yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cyfuno deg o ffrydiau cyllid mewn dau ‘bot’ o grantiau er mwyn cryfhau ein gallu i ddarparu gwasanaethau ataliol, gan ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar gyda’r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae’r ‘pot’ cyntaf yn canolbwyntio ar Dai a’r ail ar Blant a Chymunedau.
Rydym wedi adolygu ein trefniadau llywodraethu fel bod modd dod â phawb sy’n ymwneud â grantiau ynghyd, gan gynnwys hwyluso trafodaethau ymysg uwch-reolwyr ynglŷn ag amcanion cyffredin, yn ogystal â’r gwaith manwl y mae’r swyddogion wedi’i wneud yn y grwpiau prosiect.
Rydym wedi dylunio a chadarnhau pum ardal ddarparu, ac wedi dechrau ystyried yn fanwl yr anghenion ymhob un o’r cymunedau hynny. Mae swm enfawr o ddata ac ymchwil ar gael ac rydym wedi’i gasglu ynghyd yn sail ar gyfer adnabod yr angen am y ddarpariaeth. Yn ogystal ag ystyried yr anghenion ymhob ardal, mae’n hanfodol ein bod yn adnabod themâu trawsbynciol y bydd angen eu cydlynu ledled y sir.
O dan y thema Ymyrryd yn Gynnar ac Atal, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil i arfarnu’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghonwy er mwyn datblygu’r dull newydd o gynllunio a chomisiynu. Roedd yr astudiaeth honno’n cynnwys:
- Cyfweliadau â darparwyr prosiectau;
- Hanesion Teulu i nodi’r themâu a ddaeth i’r amlwg yn y prosiectau;
- Ymchwil ansoddol gyda theuluoedd.
Trosglwyddir yr hyn a ddysgwyd o’r astudiaeth i’n gwaith ymyrryd yn gynnar ac atal yn y Canolfannau Teuluoedd, ac rydym wedi sefydlu pump o dimau Cymorth i Deuluoedd (y Tîm o Amgylch y Teulu a Dechrau’n Deg, gynt).
O dan y thema Cyflogadwyedd, mae ein Swyddogion Ymgysylltu â Chyfranogwyr a Chyflogwyr bellach yn hyrwyddo’r holl raglenni cyflogadwyedd yng Nghonwy er mwyn osgoi dyblygu gwaith, ac er mwyn cydlynu gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus/marchnata a deunydd hyrwyddo er mwyn hybu cyflogadwyedd. Crëwyd cysylltiadau ffurfiol rhwng y rhaglen hon a gwaith arall sydd wedi’i ariannu gan gyllid Ewropeaidd.
Beth nesaf?
Yn 2019-20 byddwn yn ail-gomisiynu prosiectau fesul tipyn o dan nifer o themâu, gan gynnwys datblygu chwarae ac agweddau allweddol ar Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod, er enghraifft, trais domestig, profedigaeth, camfanteisio’n rhywiol ar blant a chwnsela i deuluoedd. Mae’r datblygiadau hyn yn ategu’r farn gyffredinol fod Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn her allweddol yn y sir, ac yn rhan bwysig o’r Strategaeth Ymyrryd yn Gynnar ac Atal ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghonwy. Mae’r dull yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd yng Nghonwy sydd wedi adrodd eu hanesion ynglŷn â’r cymorth oedd ar gael iddynt.
Gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn y trydydd sector
Rydym yn gweithio’n agos â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CVSC) sy’n darparu hyfforddiant sylfaenol i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ar ein rhan. Er enghraifft, maent yn darparu gwasanaeth diogelu, gan gynnig gwybodaeth, adnoddau, cyngor a hyfforddiant i sefydliadau yn y trydydd sector. Cynhaliwyd digwyddiad Diogelu – Gwneud Pethau’n Iawn, Gyda’n Gilydd ym mis Tachwedd 2018 yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu, a daeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwya Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghyd i arddangos y cydweithio oedd yn digwydd a hyrwyddo’r ethos fod diogelu’n fater i bawb, lle bynnag y maent yn gweithio. Roedd 53 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad yn cynrychioli 40 o sefydliadau, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, y Cyngor Sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru. Roedd y pynciau dan sylw’n cynnwys:
- Gwaith Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
- Agwedd y Comisiwn Elusennau at ddiogelu
- Cefnogaeth ar gyfer ‘gwneud pethau’n iawn’
- Cymuned Ymarfer ar gyfer Diogelu
- Cyfrifoldebau ymddiriedolwyr.
Cafwyd ymateb da i’r digwyddiad, ac roedd 83% o’r rhai hynny a gwblhaodd y ffurflenni gwerthuso o’r farn bod y digwyddiad yn rhagorol, ac 8% arall wedi dweud ei fod yn dda. Mae’r sylwadau ategol yn dangos fod llawer o bobl wedi cael budd o’r cyfle i rwydweithio, yn ogystal â’r adnoddau a ddarparwyd a’r cyngor ynglŷn â ble i gael mwy o gymorth a chefnogaeth. Yn bwysicaf oll, roedd mwy na 75% o’r rhai oedd yn bresennol â diddordeb yn y bwriad i sefydlu Cymuned Ymarfer ar gyfer Diogelu, a byddwn yn mynd ati i wneud hynny’n awr. Mae Cymunedau Ymarfer yn cynnwys grwpiau o bobl sy’n rhannu pryderon neu frwdfrydedd dros rywbeth maent yn ei wneud, ac yn dysgu sut i’w wneud yn well drwy gwrdd yn rheolaidd i drafod.
Gwasanaethau yn y gymuned
Y llynedd fe soniom am raglen flaenllaw ein Tîm Adnoddau Cymunedol ar gyfer iechyd a lles yng Nghonwy a Sir Ddinbych, sydd â’r weledigaeth o ddarparu gwasanaethau amlasiantaethol cydweithredol, hyblyg ac ymatebol, wedi’u seilio’n lleol. Bydd hwn yn ddull mwy hygyrch o gynnal annibyniaeth gyda thîm cadarn, amlddisgyblaethol yn canolbwyntio ar ofal cleifion ag anghenion cymhleth, a bydd yn sicrhau gwell canlyniadau i bobl yn y gymuned. Bydd y Tîm Adnoddau Cymunedol yn medru darparu gwasanaeth cadarn, proffesiynol a pharhaus i bobl ymhob cymuned, a’u galluogi i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain. Bydd y Tîm hefyd yn atal pobl rhag mynd i ysbyty heb fod angen, ac yn cefnogi pobl sy’n dod allan o’r ysbyty.
Sefydlwyd naw o Dimau Adnoddau Cymunedol yn y ddwy sir; ymhob tîm ceir amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon teulu, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, Therapyddion, Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol a gweithwyr eraill mewn gwasanaethau plant, ac maent yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion iechyd a lles eu cymunedau.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi’i wneud, ond bydd yn creu llwybrau gofal newydd ac yn newid y modd y datblygir y sefydliad, sy’n golygu y gellir gwneud gwaith amlddisgyblaethol ystyrlon drwy rannu rheolaeth achosion, cydleoli, integreiddio technoleg a gwella cyfathrebu ar draws yr amrywiaeth helaeth o wasanaethau.
Pa gynnydd a wnaethpwyd?
Mae gan bob un o’r naw Tîm Adnoddau Cymunedol swyddog arweiniol dynodedig sy’n sbarduno’r gwaith integreiddio yn ei flaen, yn arwain a chymell y gweithwyr, yn hyrwyddo newid diwylliant a helpu i ysgogi llwyddiant y prosiect drwy arwain a chefnogi’r timau presennol drwy gyfnod o newid cyffrous.
Ffurfiwyd Grwpiau Datblygu Lleol hefyd er mwyn sicrhau fod pob ardal yn datblygu cynllun gweithredu, a hynny ar sail dull sector gyfan. Mae’r Grwpiau Datblygu Lleol yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth helaeth o feysydd gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn sgil datblygu’r grwpiau hyn gwelwyd gwelliant syfrdanol mewn cysylltiadau proffesiynol a chyfathrebu, sy’n hanfodol wrth geisio sefydlu tîm integredig.
Yng Nghonwy, penodwyd swyddogion cyswllt ar gyfer y pum Tîm Adnoddau Cymunedol i gefnogi’r datblygiadau o ran gweithio integredig. Mae rhai o’r adnoddau presennol wedi’u trosglwyddo i’r Timau Adnoddau Cymunedol, sef Gweithredwyr Un Pwynt Mynediad, Swyddogion Cymorth Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Swyddogion Hawliau Lles.
Mae rhai o’r timau’n cynnal cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol yn rheolaidd, yn cael cyfarfodydd bach bob dydd ac wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio, ac o ganlyniad i hynny maent yn fwy effeithlon.
Ffurfiwyd is-grwpiau technegol i roi arweiniad a chefnogaeth yn y broses o newid y sefydliad. Mae’r is-grwpiau hynny’n hwyluso a gweithredu’r newidiadau angenrheidiol er mwyn gweithio’n integredig, gan gynnwys seilwaith, TG, prosesau a chyfathrebu. Ceir cynrychiolwyr technegol o’r tri sefydliad yn y bartneriaeth sy’n cynnig datrysiadau pan gyfyd problemau.
Bwriedir cynnal cynhadledd ranbarthol fis Gorffennaf 2019 fel y gall pob Tîm Adnoddau Cymunedol ddod ynghyd i rannu gwybodaeth ac arferion da.
Sut rydym yn comisiynu gwasanaethau
Yn yr adroddiad y llynedd fe soniom am ein strategaeth gomisiynu, a oedd yn nodi sut byddai Conwy’n cydweithio gyda dinasyddion, staff, cymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid i gomisiynu gwasanaethau sy’n darparu canlyniadau, gwell iechyd a lles, gweithlu y gofalir amdanynt a gwell gwerth am arian. Y nod oedd darparu’r hyn sy’n bwysig i ddinasyddion a rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu bywydau, yn ogystal â chyflawni ein gweledigaeth:
“Cydweithio gyda’n cymunedau i alluogi pawb i gael y gorau o fywyd”
Roedd gennym wyth o amcanion strategol:
Sut hwyl gawsom ni arni?
Gwnaethpwyd cynnydd wrth weithredu’r strategaeth gomisiynu, a bydd adroddiad ar hynny’n mynd gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill fel sy’n digwydd bob blwyddyn.
Bob tri mis byddwn yn cwrdd â’n darparwyr annibynnol ar y cyd â’n cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Diben y cyfarfodydd hynny yw meithrin gwell perthynas, rhoi cyfle i ddarparwyr leisio’u barn, a rhannu gwybodaeth. Cynhelir pob cyfarfod ar thema benodol, ac mae’r pynciau trafod hyd yma wedi cynnwys:
- Gwersi a ddysgwyd a gwelliant parhaus (y broses o gau cartref gofal, polisi uwchgyfeirio pryderon, diogelu ac yn y blaen);
- Pennu ffioedd;
- Cydymffurfiaeth a rheoleiddio (ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd, rheoliadau’r gweithlu).
Daeth nifer dda o bobl i’r sesiynau a gweld gwerth ynddynt, ac roeddent yn sicrhau ein bod yn meithrin perthynas agos â’n darparwyr.
Beth nesaf?
Un o’r pethau mwyaf inni yn 2019/20 fydd hwyluso a sicrhau gwerth cymdeithasol drwy ein gweithgarwch comisiynu. Bydd hynny’n golygu ein bod yn hyrwyddo datblygiad sefydliadau dielw i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol. Bydd y rheiny’n cynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau wedi’u harwain gan ddefnyddwyr, a’r trydydd sector. Byddwn yn canfod y nifer o sefydliadau yn y sir sy’n rhoi gwerth cymdeithasol drwy ddarparu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn dadansoddi sut rydym yn comisiynu eu gwasanaethau, gan ystyried yn benodol sut allwn annog datblygiad dulliau newydd o ddarparu gwerth cymdeithasol a dulliau blaengar o ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol.
Cyfranogi
Yn y flwyddyn aeth heibio fe gynhaliom nifer o ymgyngoriadau ynghylch amrywiaeth o bynciau ar ran y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mae’r ymateb a’r wybodaeth a gawn ni yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau:
- Cynnig Deddfwriaethol i Ddileu Cosb Resymol fel Amddiffyniad – Ymateb Adran Gofal Cymdeithasol Conwy;
- Drafft Ymgynghori o’r Bil Awtistiaeth (Cymru) – Ymateb Adran Gofal Cymdeithasol Conwy;
- Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a’r Fframwaith Rheoleiddio newydd ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu;
- Safonau Cenedlaethol Drafft ar gyfer Plant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid 2019;
- Arolygiaeth Gofal Cymru – Cwestiynau – Ymateb i Ymgynghoriad Arolygu Cafcass Cymru;
- Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal – Eithrio rhag Treth y Cyngor – ymateb i’r ymgynghoriad gan Grŵp Siapio’r Dyfodol;
- Ymgynghoriad ynghylch Rheoliadau Mabwysiadu 2019;
- Addasiadau Tai – Safonau’r Gwasanaeth – ymateb i’r ymgynghoriad.
Rydym hefyd wedi medru cynnwys pobl
wrth ddatblygu ein Canolfannau Teuluoedd a’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ar
wahanol lefelau.
Datblygwyd y
dull ar sail profiadau teuluoedd a’r ymchwil ansoddol a wnaethpwyd ar y cyd â
hwy. Mae Grŵp
Cynghori’r Prosiect yn cynnwys rhieni a phobl ifanc sy’n gweithio ochr yn ochr
â’r Rheolwr Prosiect. Cynhaliwyd ymgyngoriadau mewn ysgolion a chymunedau,
grwpiau ffocws a digwyddiadau i randdeiliaid.
Bydd hynny’n parhau wrth inni weithio
i ddatblygu pob maes.