Pob Gwasanaeth Anabledd Rheng Flaen
Mae recriwtio staff addas yn fwyfwy o broblem ar gyfer swyddi cymorth cymunedol rheng flaen, gydag ychydig iawn o ymgeiswyr am swyddi a hysbysebwyd.
Adlinio’r Gwasanaeth Anabledd
Adlinio’r timau, rheoli newid, ansicrwydd i staff, rhoi cyfrif am ddewisiadau staff ac ymdrechu i gyflawni hyn ar eu cyfer yn deg ar draws y gwasanaeth.
Sicrhau bod y gweithlu wedi’u hyfforddi i gyflawni’r Ddeddf
Gallu hyfforddwyr ar y fframwaith hyfforddi genedlaethol i hyfforddi’r gweithlu yng Nghonwy.
Dysgu a Datblygu Rhanbarthol
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau un cynllun Dysgu a Datblygu ar gyfer rhanbarth gyfan Gogledd Cymru, drwy Bartneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP).
Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Daeth Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gyfraith ar 1 Ebrill 2009. Eglurodd Dyfarniad y Goruchaf Lys ar 19 Mawrth 2014 y trothwy Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Mae’r meini prawf wedi lleihau’n fawr, sydd wedi effeithio ar allu Conwy i fodloni ei ofynion cyfreithiol statudol. Effaith y dyfarniad yw bod bellach rhestr aros o 337 o bobl yn aros am asesiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Disgwylir i nifer y bobl yr amcangyfrifir eu bod angen asesiad Diogelu Rhag Colli Rhyddid gynyddu’n raddol o flwyddyn i flwyddyn yn unol â thueddiadau demograffig.
Mae Conwy wedi ymateb trwy hyfforddi deuddeg o weithwyr proffesiynol Gwaith Cymdeithasol / Therapi Galwedigaethol i gynnal asesiadau. Mae’n rhaid i bob asesydd gynnal un asesiad y mis, mae hyn yn ychwaneg i’w llwyth achosion arferol ac mae’n cynnwys chwe asesiad unigol fesul pob defnyddiwr gwasanaeth. Mae tri Asesydd Lles Gorau parhaol yn derbyn hyfforddiant ym Mhrifysgol Caer. (yn Graddio ym mis Mai 2016). Mae’r Aseswyr hyn yn ymroddedig i’r gwasanaeth Diogelu Rhag Colli Rhyddid.
Ni ellir diwallu gofynion cyfreithiol newydd y gyfraith achosion yn y tymor byr oherwydd diffyg adnoddau ac mae hyn yn gadael yr adran agored i her ymgyfreitha gan deuluoedd ac oddi wrth bobl sydd wedi cael eu hamddifadu o’u rhyddid heb i unrhyw fesurau diogelu cyfreithiol gael eu gweithredu.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
O dan y Ddeddf newydd, bydd yn her i sicrhau dull cyfiawn a theg i’r bobl hynny sydd wedi bod yn derbyn gwasanaethau ers peth amser, ac yn ogystal, rhai a fydd yn dod yn ddefnyddwyr gwasanaeth newydd ar ôl mis Ebrill.