Ar 2 Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol i Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol a elwir yn “Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu Integredig ar gyfer Pobl Hŷn”.Dolen
Mae’r canllawiau yn nodi’r cyfrifoldebau a’r dyletswyddau sydd ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i ddarparu trefniadau integredig ar gyfer asesu a rheoli gofal i bobl hŷn a disodlodd y canllawiau: Creu System Unedig a Theg ar gyfer Asesu a Rheoli Gofal. Y nod yw symleiddio’r broses asesu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael gwell gwasanaethau a gwell canlyniadau.
Gorchmynnodd Llywodraeth Cymru ddatblygu a gweithredu’r templed asesu cyffredin (sy’n cynnwys y Set Ddata Gyffredin a chofnod ‘Dyma Beth sy’n Bwysig’ o’r sgwrs) erbyn 30 Ebrill 2014.
Cytunodd pob un o 6 Awdurdod Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ddefnyddio’r dull newydd hwn ar gyfer pob oedolyn ar wahân i’r rai dan y Mesur Iechyd Meddwl. Cyflwynwyd y ddogfen asesu newydd ar 30 Mehefin 2014.
Beth sydd wedi newid?
Mae staff sy’n gweithio yn y pwynt cyswllt cyntaf o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn llenwi’r templedi asesu newydd pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn cysylltu. Mae’r wybodaeth sylfaenol yn cael ei llenwi, ynghyd â’r camau gweithredu cychwynnol a gymerwyd – gall hyn gynnwys asesiad syml pellach ar gyfer darparu cymhorthion ac offer neu atgyfeiriad i wasanaethau ail-alluogi neu ofal canolradd.
Gwneir atgyfeiriadau i Wasanaethau Cymdeithasol Conwy gan asiantaethau mewnol ac allanol gan ddefnyddio’r Set Ddata Graidd a’r ‘Sgwrs yr Hyn sy’n Bwysig’ ac mae’r un yn wir am atgyfeiriadau i’r asiantaethau hynny. I gefnogi staff ac arbed yr angen am ail neu drydedd sgwrs i gasglu gwybodaeth ychwanegol am wasanaethau penodol, cynhyrchwyd cyfres o gymhorthion atgoffa. Mae’r rhain yn cynnwys atgyfeiriadau i ac atgyfeiriadau gan Hawliau Lles, Landlordiaid Cymeradwy, Dirprwyon a Benodwyd gan Lys, Cynnal Gofalwyr, Cymdeithas Alzheimer, Age Concern a’r Groes Goch Brydeinig.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae’r cymhorthion atgoffa wedi eu rhannu gyda 6 Awdurdod Gogledd Cymru a BIPBC. Mae BIPBC wedi cynhyrchu dogfennau tebyg ers hynny yn eu meysydd gwasanaeth eu hunain.
Rŵan, gall defnyddwyr gwasanaeth adrodd eu hanes a rhoi gwybodaeth hanfodol i bobl unwaith, boed hyn mewn lleoliad iechyd, gofal cymdeithasol neu wirfoddol, dull llawer llai ymwthiol o gasglu data.
Mae’r sgwrs wedi amlygu beth sydd wir yn bwysig i’r unigolyn a gellir cynnig cymorth holistaidd gan gwrdd â’r agenda lles.