Mae 78% o’r plant yn hapus gyda’r bobl y maent yn byw gyda hwy.
Hawliau Lles yn y Gymuned
Ym mis Tachwedd 2018, dechreuodd y Tîm Hawliau Lles weithio o’r pum swyddfa amlddisgyblaethol leol o amgylch Sir Conwy, ac ar yr un pryd agorwyd y gwasanaeth i’r holl drigolion sydd angen cyngor am fudd-daliadau. Cyn hyn, roedd angen i weithiwr cymdeithasol atgyfeirio unigolion at y gwasanaeth. Mae’r tîm yn gweithredu llinell gyngor ddyddiol y gall unrhyw un o drigolion Conwy ei ffonio am gyngor a chymorth.
Ffoniwch y Tîm Hawliau Lles rhwng dydd Llun a dydd Gwener ar 01492 576605.
O fewn yr ardaloedd lleol, mae’r Swyddogion Hawliau Lles yn rhan o dîm gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol. Mae pob Swyddog Hawliau Lles yn gyfrifol am reoli’r atgyfeiriadau yn yr ardal a gwneud eu trefniadau eu hunain i ymweld â chleientiaid. Mae’r Swyddogion Hawliau Lles hefyd yn ffynhonnell gymorth ar gyfer y gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol sy’n aml yn eu holi am gyngor ar fudd-daliadau ac atgyfeiriadau. Mae pawb yn cydweithio i ddarparu’r llythyrau cefnogi a’r wybodaeth feddygol sydd eu hangen i hawlio budd-daliadau, a hynny’n aml yr un diwrnod. Gall hyn gyflymu’r broses hawlio i’r cleient. Er enghraifft, efallai y bydd cleient sy’n profi caledi angen llythyr gan y meddyg i gefnogi cais am grant, a gall gael gafael ar hwn yr un diwrnod er mwyn ei anfon gyda’r ffurflen gais.
Mae yna nifer o fanteision i weithio yn y ffordd hon. Un ohonynt yw y gellir ymyrryd yn gynnar mewn achosion, gyda’r gobaith o osgoi gorfod rheoli argyfwng. Bydd Swyddogion Hawliau Lles yn mynychu cyfarfodydd clwstwr wythnosol lle bydd gweithwyr cymdeithasol a staff Iechyd fel nyrsys a therapyddion galwedigaethol yn trafod ac yn dyrannu achosion. Gall staff Hawliau Lles roi cyngor ar gam cynnar yn y broses, a gallant wneud apwyntiad i weld y cleient yr un diwrnod yn aml os bydd angen.
Astudiaeth Achos
Roedd gŵr hŷn, 85 oed, yn ysbyty Llandudno yn aros am leoliad addas mewn cartref preswyl. Trafodwyd ei achos yn y cyfarfod Clwstwr gan ei fod yn ddigon da i adael yr ysbyty ond na allai ddychwelyd adref am ei fod wedi cael strôc ddrwg, oedd wedi ei adael â gwendid yn ei fraich a diffyg hyder.
Gwyddai’r Gweithiwr Cymdeithasol fod lle wedi dod yn wag yng Nghynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys y Coed, fyddai’n diwallu ei holl anghenion. Yr unig broblem oedd ei fforddiadwyedd i’r cleient. Dim ond am 48 awr y gellid cadw’r lle iddo. Gyda chaniatâd y cleient, gwnaeth y Swyddog Hawliau Lles yr ymholiadau angenrheidiol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â’i Bensiwn y Wladwriaeth, gan wneud cais yr un diwrnod am Lwfans Gweini i’r cleient. Byddai’r cais hwn yn cynyddu ei incwm o £87.65 yr wythnos. Gan ei fod yn byw ar ei ben ei hun heb unrhyw incwm arall ar wahân i bensiwn y wladwriaeth, roedd yn gymwys am bremiwm arall o £65.85 yr wythnos. Roedd ar ei ennill o £153.50 yr wythnos. Mae bellach yn hapus yn ei fflat ac mae’r warden yn dweud ei fod wedi gwneud ffrindiau newydd. Heb ymyrraeth gynnar gan y tîm Hawliau Lles, efallai na fyddai wedi cael cyfle i gymryd y denantiaeth.
Rhwng Ebrill 2019 a Ionawr 2020, gwelodd y Tîm Hawliau Lles 1,980 o unigolion, gan sicrhau cyfanswm o £5,987,983.08 mewn budd-daliadau ar eu cyfer.
Rydym yn darparu allgymorth yn y gymuned i gynnig cyngor am fudd-daliadau ar draws nifer o wahanol wasanaethau:
- Dydd Llun 1-4pm yn Eglwys Sure Hope, Hen Golwyn i gleientiaid y Prosiect Rhannu Bwyd.
- Dydd Llun 9.30am-12pm yng Nghoed Pella, Bae Colwyn– gwasanaeth galw heibio i gael cyngor am fudd-daliadau.
- Un dydd Llun y mis – gwasanaeth i gleifion y clinig poen yng Nghanolfan Abergele.
- Dydd Mawrth olaf y mis yn y lleoliad Cymunedau am Waith i gleientiaid y Ganolfan Waith.
Y brif her gyda Hawliau Lles yw darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y gymuned ar y pryd, gan osgoi dyblygu gwasanaethau a ddarperir gan asiantaethau eraill, fel y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth. Ar hyn o bryd, mae yna lawer o ganolbwyntio ar gyngor am y Credyd Cynhwysol, ac rydym yn diwallu’r angen hwn drwy helpu gyda cheisiadau gan ddefnyddio dyfeisiau llechen, cynnig sesiynau galw heibio yng Nghoed Pella a drwy’r llinell gyngor.
Mae mwy o gyngor cyffredinol am fudd-daliadau i’w weld ar wefan Conwy
Gweithio o’r Canolfannau Teuluoedd
Mae’r Tîm Hawliau Lles hefyd yn gweithio o’r Canolfannau Teuluoedd sydd o amgylch Conwy, yn ogystal â Llyfrgell Penmaenmawr. Mae’n arferol i swyddog weld rhwng pedwar a chwech o gleientiaid mewn diwrnod, ac mae pob un yn cael cyfle i drafod eu problemau a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau brys er mwyn atal y sefyllfa rhag troi’n argyfwng.
Rhwng Ebrill 2019 a Ionawr 2020, gwelodd y Tîm Hawliau Lles 161 o gleientiaid yn y Canolfannau Teuluoedd.
Gan fod Canolfannau Teuluoedd yn amlddisgyblaethol, gall y cyhoedd ffonio am gyngor a gellir trefnu apwyntiad i weld un o’r tîm Hawliau Lles drwy ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol a gweithwyr cymorth os oes angen. Nod y Tîm Hawliau Lles yw cynnig ymyrraeth gynnar i helpu atal problemau rhag troi’n faterion mwy cymhleth. Er enghraifft, drwy helpu mam ifanc gydag ôl-ddyledion rhent i gyllidebu ei harian a sefydlu cynllun fforddiadwy gyda’r Gymdeithas Tai i dalu’r ôl-ddyledion, gellir osgoi ei throi allan o’i llety a’i gwneud yn ddigartref. Enghraifft arall fyddai mam ifanc sy’n dioddef trais domestig yn y cartref ac sydd angen cyngor am sut i adael ei phartner. Mae’r Ganolfan Deuluoedd yn le hawdd iddi fynd a gellir archwilio pob dewis sydd ar gael iddi mewn amgylchedd diogel yn hytrach nag mewn swyddfa ffurfiol.
Nid yw pob cleient ar fudd-daliadau; mae rhai ar gyflogau isel neu gontractau oriau sero ac angen cymorth i wneud y mwyaf o’u hincwm a chyllidebu er mwyn gallu talu rhent a thrydan. Os oes yna broblem gyda dyled, gallwn gysylltu â’r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth i wneud apwyntiad i’r cleient.
Fel rhan o’n gwasanaeth, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cleient yn cael pob gostyngiad sydd ar gael, er enghraifft cymorth gyda chostau dŵr, prydau ysgol am ddim a gwirio bod y cleient ar y tariff ynni cywir. Os nad oes gan y cleient ddigon o arian i brynu bwyd, yna gallwn archebu parsel bwyd.
Gwasanaethau sy’n Ennill Gwobrau
Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy, sy’n cynnwys Galw Gofal a darpariaeth TCC yr Awdurdod Lleol, wedi ennill gwobr Safon Aur yr Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol. Dyma’r safon ddiogelwch uchaf y gall Canolfan Derbyn Larymau ei chyrraedd, a ni yw’r cyntaf yng Nghymru i’w hennill, gyda’r gallu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’n holl gwsmeriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd yr achrediad yn caniatáu i ni ehangu cwmpas ein gwasanaethau monitro galwadau i gynnwys monitro larymau tresmaswyr a lladron, larymau tân, TCC ar gyfer cymwysiadau diogelwch, dyfeisiau gweithwyr sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain, yn ogystal â larymau cymdeithasol a chyfarpar theleofal.
Mae hon yn safon anodd ei chyrraedd ac fe aethom drwy dri diwrnod o asesiadau ar y safle i weld sut mae’r tîm yn gweithio a chadarnhau bod yr holl systemau yn eu lle. Archwiliwyd adeiladwaith y ganolfan fonitro ynghyd â’r trefniadau mynediad diogelwch, ac roedd rhaid gwirio ein haelodau staff i safonau’r heddlu. Mae angen i’n polisïau a’n gweithdrefnau gynnwys pob agwedd ar y gwasanaeth, rhaid i raglenni hyfforddi fod wedi’u trefnu ar gyfer y staff ac mae’n rhaid i ni fod â threfniadau parhad busnes cadarn. Roedd angen tystiolaeth hefyd ein bod yn defnyddio systemau rheoli ansawdd effeithiol gyda rhaglen effeithiol o archwilio mewnol.
Beth nesaf?
Twf busnes cynaliadwy, gan fod y ganolfan dderbyn ddigidol yn gallu rheoli amrywiaeth eang o dechnolegau a gwybodaeth. Y Ganolfan Derbyn Larymau yw’r ganolfan fonitro gyntaf yng Nghymru sydd wedi’i galluogi’n ddigidol, a byddwn yn cydweithio â’n partneriaid i ddarparu gwasanaethau a gefnogir gan y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.
TRAC
Mae gan dîm TRAC Conwy 19 aelod staff sy’n helpu dysgwyr blynyddoedd 7 i 11, a blwyddyn 6 yn fwy diweddar, pob ysgol uwchradd, ysgol arbenigol a lleoliad addysg amgen, yn ogystal â hyd at ddeg ysgol gynradd ledled y sir. Amcan y prosiect yw darparu hyfforddiant i bobl ifanc sydd â’r mwyaf o risg o fod yn NEET (Pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Ers cychwyn y prosiect ym mis Ebrill 2016, mae tîm TRAC Conwy wedi gweithio gyda 784 o bobl ifanc.
Caiff dysgwyr eu hatgyfeirio at TRAC gan ysgolion ar sail eu sgôr Adnodd Proffilio Dysgwyr. Mae’r sgôr yn cynnwys dangosyddion fel presenoldeb, ymddygiad a statws derbyn gofal, sydd â’r mwyaf o bwysoliad. Mae Gweithwyr Lles, cwnselwyr ysgol a Gweithwyr Lles Addysg yn cyfarfod â phobl ifanc am hyd at un sesiwn/gwers yr wythnos. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc i ganfod sut y gellir gwella presenoldeb, ymddygiad a chyrhaeddiad drwy osod nodau, amcanion, eirioli dros bobl ifanc a helpu gwella sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu, hunan-barch ac ysgogiad, ymysg pethau eraill.
Hyd yma, mae 197 o bobl ifanc wedi lleihau eu risg o fod yn NEET wrth gymryd rhan yn y prosiect.
Mae staff y tîm TRAC hefyd yn darparu gweithgareddau i ddarparwyr a grwpiau bychain; mae sefydliadau hyfforddi a gomisiynir gan TRAC yn darparu amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau, gyda rhai ohonynt yn arwain at gymhwyster.
Hyd yma, mae 149 o gymwysterau lefel I neu II wedi cael eu dyfarnu.
Fel rhan o’u rôl, mae gweithwyr TRAC yn mynychu cyfarfodydd amlddisgyblaethol a chyfarfodydd eraill y gwasanaethau cymdeithasol, gan ddod â safbwynt y person ifanc i’r cyfarfod. Mae hyn wedi bod o fudd mawr i helpu hysbysu paneli am y camau gorau i berson ifanc eu cymryd.
Astudiaeth Achos
Cyfeiriwyd person ifanc at TRAC i helpu gwella ei bresenoldeb a chanfod y rheswm pam nad oedd yn mynychu’r ysgol bob dydd. Cododd yr ysgol bryder am gyflawniad academaidd y person ifanc, ond roedd hefyd yn poeni am ei iechyd meddwl a’i amharodrwydd i gael ei atgyfeirio at CAMHS.
Roedd y person ifanc yn eithaf tawedog yn ystod y sesiwn gyntaf. Dros amser, fe gychwynnodd ddatgelu mwy am ei fywyd personol a pham nad oedd yn hoffi’r ysgol. Cychwynnodd y person ifanc hefyd siarad mwy am ei iechyd meddwl. Cychwynnodd y gwaith cymorth gyda chymorth emosiynol, gan fagu hyder ac edrych ar y gwahaniaeth rhwng perthnasoedd iach a rhai niweidiol.
Mae’r person ifanc bellach yn mynychu’r ysgol uwchradd yn llawn amser gyda chofnod presenoldeb llawer gwell. Mae bellach yn paratoi ar gyfer ei ddyfodol ac wedi cael ei atgyfeirio at Gyrfa Cymru.
ADTRAC
Mae’r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) sydd rhwng 16 a 24 oed i ddychwelyd i’r gweithle, i gyrsiau hyfforddi neu i addysg. Mae ADTRAC wedi gweithio gyda dros 130 o bobl ifanc, gyda:
- 22 yn ennill cymhwyster
- 24 yn cael gwaith a 4 arall yn gweithio’n rhan-amser (llai nag 16 awr)
- 11 yn dychwelyd i addysg a 3 arall mewn addysg rhan-amser (llai nag 16 awr)
- 6 ar hyfforddeiaethau
- 5 yn cwblhau lleoliadau gwaith
- 6 yn cychwyn gwirfoddoli
Beth oedd yr heriau?
Mae’r bobl ifanc rydym yn gweithio â hwy i gyd yn wahanol ac yn dod ag amrywiaeth o rwystrau a phersonoliaethau i’r gymysgedd. Maent oll yn dod at ADTRAC ar wahanol gamau yn eu bywydau; efallai y bydd rhai’n gwybod beth yr hoffent ei wneud ond eu bod angen cymorth i symud ymlaen gyda’u syniadau. Mae rhai angen cymorth a chyngor ychwanegol i gyrraedd eu nodau, ac eraill heb unrhyw ysgogiad i ddilyn eu nodau a’u huchelgeisiau o gwbl. Mae’r prosiect wedi cael ei ymestyn tan fis Chwefror 2021, a byddwn yn parhau i helpu pobl ifanc Conwy tan hynny.
Grant Arloesi Tai – Atal Digartrefedd
Mae Grant Arloesi Tai Llywodraeth Cymru wedi cael ei sicrhau i alluogi’r Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal i gymryd drosodd gyda’r prosiect Kick Start 1. Mae’r prosiect hwn wedi galluogi datblygiad tai â chymorth sy’n darparu cymorth 24/7 i bobl sy’n gadael gofal sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion cymhleth. Fel arall, byddai’r bobl hyn sy’n gadael gofal mewn perygl o fod yn ddigartref.
Defnyddiwyd y grant i gyllido’r meysydd canlynol:
- Darparu gofal 24/7 i bobl sy’n gadael gofal gydag anghenion cymhleth
- Cynyddu’r cymorth ymarferol a’r llety y gellir ei gynnig i bobl sy’n gadael gofal
- Lleihau’r perygl i bobl sy’n gadael gofal fynd yn ddigartref
Cynigir y ddarpariaeth i bobl sy’n gadael gofal ac mewn perygl o fod yn ddigartref y nodwyd eu bod angen cyfnod pontio hirach cyn y gallant symud i’r gymuned a rheoli eu tenantiaeth eu hunain.
Mae gan y prosiect Reolwr Cofrestredig dynodedig sy’n gyfrifol am gyflawniad llwybr pob person ifanc a’r canlyniadau a nodwyd o fewn y rhain.
Mae’r uwch fodel byw â chymorth yn cynnwys:
- Darparu cyfleoedd gwaith
- Gweithio ar y cyd â Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, Cynghorwyr Personol, Heddlu Gogledd Cymru, Swyddogion Tai a budd-ddeiliaid allweddol eraill
- Sgiliau cyllidebu
- Sgiliau datrys problemau a gwytnwch
- Lefel uchel o oruchwyliaeth a monitro anghenion cymorth
- Sgiliau byw’n annibynnol
Mae ambell i her wedi codi gyda’r prosiect hwn, er enghraifft, mae pobl ifanc a roddwyd mewn darpariaeth byw â chymorth wedi bod angen lefelau arbennig o uchel o gymorth unigol i sicrhau y diogelir eu lles. Os na fyddai’r ddarpariaeth hon wedi bod ar gael, gallai’r bobl ifanc fod wedi bod mewn perygl o gamfanteisio a digartrefedd.
Beth nesaf?
Wrth symud ymlaen, gallai lleoliadau yn y dyfodol gynnwys pobl ifanc sydd wedi cael sawl gofalwr maeth neu wedi cael profiad o leoliad preswyl yn chwalu, neu rai sydd wedi cael eu rhoi mewn lleoliadau preswyl y tu allan i’r sir a fyddai’n elwa o fod yn agosach i’w cartref mewn amgylchedd sy’n cynnig lefel uchel o gymorth.
Cytunodd 67% o’r bobl ifanc eu bod wedi cael cyngor, cymorth a chefnogaeth i’w paratoi ar gyfer bod yn oedolyn.
Rydw i wedi cael cryn dipyn o gymorth wrth fudo a sefydlu fy mywyd fel oedolyn.
Maelgwyn / Kick Start
Mae’r gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal a Phobl Ddiamddiffyn yn ymgymryd â thenantiaeth tai dwy ystafell wely ym Mhrosiect Maelgwyn. Bydd hwn yn adnodd i bobl ifanc ag anghenion canolig sydd angen symud ymlaen o ofal maeth. Rydym wrthi’n cysylltu â’r Adran Ystadau a Chartrefi Conwy i gael gwybod beth yw telerau rheoli’r ddarpariaeth.
Bydd adolygiad ar raddfa eang o’r Cynllun Tai Llety â Chymorth yn archwilio niferoedd y bobl ifanc sy’n defnyddio’r prosiect hwn ac yn nodi’r rhwystrau i ddewis y llety hwn. Mae’r canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer pobl ifanc a leolwyd mewn llety Gwely a Brecwast dros dro wedi cael eu hadolygu i ganfod beth sydd ei angen o ran manylion llety dros dro yn y dyfodol. Rydym wrthi’n archwilio modelau amgen gyda’r Tîm Cefnogi Pobl. Erbyn Mehefin 2020, gobeithiwn fod wedi comisiynu pum gwely a gynlluniwyd ac un gwely brys mewn prosiect newydd yng Nghoed Pella, gyda grant Cefnogi Pobl wedi cael ei ailgyfeirio o Kick Start 1.
Datblygiad Tai Cymdeithasol Cwrt Ysgol Maelgwn
Mae 2 dŷ pâr â dwy ystafell wely wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn Gofal Maeth fel rhan o ddatblygiad tai cymdeithasol Cwrt Ysgol Maelgwn.
Bydd Cwrt Ysgol Maelgwn yn cynnwys:
- 10 Uned Tai â Chymorth 1 ystafell wely (i gael eu dyrannu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol)
- 2 fyngalo 5 ystafell wely wedi’u haddasu
- 4 tŷ 2 ystafell wely (anghenion cyffredinol)
- 2 dŷ 2 ystafell wely (llety a rennir i bobl ifanc sy’n gadael gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol)
- 1 byngalo bariatrig 1 ystafell wely
- 2 fyngalo 2 ystafell wely
- 6 fflat 1 ystafell wely (gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael cynnig cyntaf am gyfnod cyfyngedig)
Mae darpariaeth llety a rennir i bobl ifanc sy’n gadael gofal yn ddarpariaeth tymor byr a arweinir gan anghenion, a byddai plant a phobl ifanc yn cael eu lletya am gyfnodau o rhwng tri mis a dwy flynedd cyn symud ymlaen i’w llety eu hunain fel trefniant pontio o ‘Pan Fydda’ i’n Barod’.
Byddai’r unigolion sy’n cael llety yn cael cymorth cofleidiol yn ystod y dydd drwy’r timau cymorth Gwasanaethau Plant a Phobl Ddiamddiffyn. Gallai hyn gynnwys cymorth gan Gynghorydd Personol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, Swyddog Hawliau Lles, Gweithiwr Cymdeithasol a swyddfa Llwybrau Cadarnhaol Pobl Ifanc, neu bwy bynnag sy’n rhan o ofal y person ifanc. Bydd y cymorth mewnol hwn yn cael ei gyfuno â chymorth yn ôl yr angen a gomisiynir yn allanol gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu’n rheolaidd â Datrysiadau Tai i ganfod atebion i symud ymlaen pan fydd y person ifanc yn barod i drosglwyddo i ddarpariaeth amgen neu fyw’n annibynnol. Bydd hyn yn sicrhau y cedwir hyd yr arhosiad i’r cyfnod byrraf posib er mwyn i blant a phobl ifanc eraill sydd mewn angen gael defnyddio’r unedau llety.
Mae’r datblygiad yn gyson â nodau Conwy o ddatblygu cymunedau cynaliadwy a diwallu anghenion a dyheadau’r gymuned leol sy’n cael eu gwthio i’r cyrion yn y farchnad dai bresennol.
Beth nesaf?
Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt i benderfynu a allai’r Gymdeithas Dai sy’n datblygu’r llety rentu’n uniongyrchol i’r bobl ifanc/ddiamddiffyn dan sylw, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd cyfrifoldeb os yw’r unigolyn yn iau na 18 oed. Mae paratoadau wedi’u gwneud mewn perthynas â threfniadau pellach o ran y pecyn cymorth/gofal sydd wedi’i sefydlu a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y lefel uwch o reolaeth tai y bydd ei angen ar gyfer tai tymor byr, tai â chymorth a thai a rennir. Mae cytundeb rheoli hefyd wrthi’n cael ei ddatblygu.
Datblygiadau Eraill y Dyfodol
Mewn cydweithrediad ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Clwyd Alun, rydym yn datblygu ein cynnig o gymorth mewn perthynas ag ailalluogi, Tai Gofal Ychwanegol ac unedau anabl a byw’n annibynnol. Mae’r prosiectau cyffrous hyn yn dal i fod yng nghamau cynnar eu datblygiad. Fodd bynnag, ein nod drwy’r mentrau hyn yw darparu cymorth llety priodol a chadarn i unigolion.
Teimlai 67% o’r oedolion mai eu dewis hwy oedd byw mewn cartref preswyl.
Dyma’r peth gorau i mi ei wneud erioed.