Mewn ymateb i berfformiad gwael yn y maes ymarfer yn 2014/15, cytunwyd i ddatblygu cynllun gweithredu mewnol. Roedd gan y Cydlynydd Amddiffyn Plant gyfrifoldeb pennaf am wella prydlondeb ar gynadleddau achos. Cwblhawyd nifer o gamau gweithredu gan gynnwys:
- Mynd i gyfarfodydd tîm i atgoffa staff am yr amserlenni o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
- Darparu gweithdai i wahanol asiantaethau o gwmpas y broses gynadleddau
- Sicrhau ansawdd pob cais am gynhadledd achos gychwynnol i sicrhau bod materion yn ymwneud â phrydlondeb yn cael sylw.
Cafodd cyfanswm eleni o 289 allan o 289 o adolygiadau Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant eu cynnal o fewn y terfynau amser statudol. Mae’r canlyniad o 100% ychydig yn uwch na’r targed a gytunwyd yn lleol (98.0%).