Mae prydlondeb asesiadau cychwynnol wedi gostwng yn gyffredinol yn ystod 2015-16, ond, mae gwelliant yn ystod y flwyddyn ar sail chwarterol.
Y diffiniad o asesiad cychwynnol yw asesiad cryno o blentyn y cyfeiriwyd at y gwasanaethau cymdeithasol gyda chais i wasanaethau gael eu darparu. Caiff perfformiad ei fonitro gan y mesur statudol “Canran yr asesiadau cychwynnol a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith”. Y targed ar gyfer y mesur hwn yw 80%.
2013/14 |
2014/15 | 2015/16 |
82.1% | 79.2% |
76.1% |
Er y bu gostyngiad mewn perfformiad yn ystod 2015-16, gwelir tuedd gyffredinol o welliant ar draws y flwyddyn.
Ch1 2015/16 |
Ch2 2015/16 | Ch3 2015/16 | Ch4 2015/16 |
65.2% | 80.7% | 82.5% |
77% |
Gellir priodoli’r gwelliant cyson mewn perfformiad i’r cynllun gweithredu manwl a gyflwynwyd ar draws y Gwasanaeth.
Mae’r mesur hwn wedi’i gysylltu â SCC/006 – “penderfyniadau a wnaed ar atgyfeiriadau o fewn 1 diwrnod gwaith”. Mae unrhyw oedi ar benderfyniadau cychwynnol, yn cael effaith anochel ar y siawns o gwblhau’r asesiad o fewn 7 diwrnod. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys:
- Cynyddwyd gallu i sicrhau y gwneir penderfyniadau cyflym ar atgyfeiriadau sy’n Pennu staff ychwanegol gan helpu i leihau’r risg o oedi
- Cynhaliwyd cyfarfodydd monitro misol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth, i fonitro perfformiad yn barhaus
- Nododd archwiliadau rheolaidd a gynhaliwyd gan y tîm Safonau Ansawdd arfer da ac arweiniodd at gynlluniau gweithredu i fynd i’r afael ag anghenion datblygu
Mae rhan (b) o’r dangosydd hwn – ‘SCC/042 (b) – nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau Asesiadau Cychwynnol a oedd yn fwy na 7 diwrnod gwaith’, hefyd yn dangos gwell perfformiad. Mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau Asesiad Cychwynnol rŵan yn ôl i lawr i 10 diwrnod (yn hytrach na 16 diwrnod fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn). Mae hyn hefyd yn awgrymu bod arfer yn gwella gyda llai o oedi wrth gwblhau’r broses asesu.
Rydym wedi gwella ar ein perfformiad asesiad craidd hyd yma o gymharu â’r llynedd, ac wedi rhagori ar y targed yn gyson ym mhob chwarter.
Mae angen cwblhau asesiad craidd o fewn 35 diwrnod i nodi’r angen am asesiad pan fydd ymholiadau Adran 47 yn cael eu cychwyn, pan fo plentyn yn dechrau derbyn gofal neu pan fydd yr asesiad cychwynnol yn nodi y dylid cynnal asesiad pellach, mwy manwl.
SCC/043(a) Canran yr asesiadau craidd gofynnol a gynhaliwyd o fewn 35 diwrnod gwaith. Y targed a gytunwyd arno’n lleol yw 75%.
Mae perfformiad o ran asesiadau craidd wedi rhagori’n gyson ar y targed drwy 2015-16.
Ch1 = 81.0%, Ch2 = 88.5%, Ch3 = 79.4% Ch4 = 82.7%
Er ein bod yn rhagori ar y targed gyda’r mesur hwn, rydym yn dymuno gwella ymhellach.
Roedd y rhan fwyaf o’r asesiadau a gymerodd fwy na 35 diwrnod gwaith i’w cwblhau, ond ychydig ddiwrnodau yn hwyr. Bydd hyn yn cael ei fonitro’n agos yn ystod y cyfnod adrodd nesaf.