Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Proffilio anghenion llety a chymorth rhai sy’n gadael gofal yng Nghonwy

Proffilio anghenion llety a chymorth rhai sy’n gadael gofal yng Nghonwy

Fel gwasanaeth, mae cyfrifoldeb arnom ac uchelgais i helpu pobl ifanc i fod yn annibynnol pan fyddant yn barod. Mae llawer yn dymuno aros yn eu cartrefi maeth sefydledig ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae hyn yn bosibl yng Nghonwy drwy “Lety â Chymorth”, ond bydd yn ehangu gyda’r cynllun “Pan fydda i’n barod”. Ein nod yw rhoi’r dewis hwn i bawb sy’n gadael gofal tra’n bod yn dal yn gallu derbyn plant newydd sy’n derbyn gofal.

Beth sydd wedi newid?

Nododd dadansoddiad o anghenion llety a chymorth y rhai sy’n gadael ein gofal (110 o bobl ifanc rhwng 16-21 oed, y rhan fwyaf o ohonynt yn byw mewn gwahanol fathau o lety cefnogol). bod opsiynau cyfyngedig ynghylch byw â chymorth. Rydym yn gweithio ar y cyd â Gwasanaethau Tai Conwy i wella’r opsiynau sydd ar gael i’r rhai sy’n gadael gofal.

Ar gyfer y rhai ag anghenion mwy cymhleth, rydym wedi creu cysylltiadau gyda PSS (cynllun lleoli oedolion) a’r Cynllun Landlordiaid Cymeradwy, a chwmnïau lleol fel Procare. Gall pob un o’r cynlluniau hyn gefnogi pobl ifanc ymhell ar ôl iddynt fod yn oedolion. Ein gweledigaeth yw na ddylai cyrraedd 18 oed fod yn rhwystr rhag cael mynediad i lety a chymorth.

Rydym yn bwriadu datblygu ‘Dewislen o Opsiynau’ ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno symud ymlaen o ofal maeth i fod yn annibynnol. Rydym yn gweithio’n agos â ‘n cydweithwyr o’r Gwasanaethau Tai a’r Gwasanaethau Oedolion Diamddiffyn. Sefydlwyd panel llety achosion cymhleth sy’n helpu nodi anghenion sydd heb eu diwallu a rheoli llety symud ymlaen mewn ffordd fwy rhagweithiol. Bydd SARAF, panel unigol sy’n ystyried holl anghenion llety pobl ifanc yn helpu i osgoi oedi mewn llety ar gyfer rhai sy’n gadael Gofal.

Dadansoddiad Beirniadol o Sefydlogrwydd Lleoliadau Maeth

Mae Conwy wedi ymfalchïo yn ei lwyddiant i ddarparu lleoliadau sefydlog, sy’n cyd-fynd ag anghenion unigol. O bryd i’w gilydd, os nad yw lleoliad bellach yn diwallu anghenion y plentyn, gellir ei derfynu. Cynhelir cyfarfodydd wedyn i ystyried beth aeth o’i le. Gan ddysgu o hyn, datblygwyd adnodd ar-lein newydd i ddadansoddi lleoliadau cyfredol yn feirniadol, a nodi a ydynt yn Sefydlog / Problemau yn Codi / Problemau Critigol. Gweithredir ymyriadau priodol pan fo angen, a bydd cydweithwyr yn ein gwasanaeth ac o asiantaethau partner yn cael eu cynnwys i ddatblygu ymyriadau adfer / sefydlogi priodol. Rydym yn dymuno hyrwyddo’r ethos fod yr un pwyslais ar sefydlogrwydd lleoliad maeth ac ar sefydlogrwydd cartref teuluol.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English