Un o’r prif gyflawniadau eleni oedd sefydlu’r Panel Tai Anghenion Cymhleth. Mae’r Panel yn cyfarfod yn fisol ac yn cynnwys aelodau strategol o’r adran Dai a’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.
Rydym yn nodi’r unigolion hynny a allai ei chael yn anodd cael tai cyffredin am nifer o resymau. Mae’r panel yn cydweithio i gomisiynu modelau gofal newydd sy’n rhoi sylw i rai o’r unigolion mwyaf cymhleth sy’n ceisio cael tai yng Nghonwy. Roedd un prosiect o’r fath a ddatblygwyd eleni yn galluogi person ifanc a oedd yn gadael gofal i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun ac yn osgoi’r angen am leoliad preswyl arbenigol costus y tu allan i’r sir. Cyflawnwyd hyn drwy gynllunio strategol gyda’r gwasanaethau plant, gwasanaethau tai a gwasanaethau i bobl ddiamddiffyn.