Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn teimlo bod mynd i’r afael â thlodi yn bwysig iawn a’i bod ond yn bosibl i ni wneud hyn gyda’n gilydd. Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i hyn mae gennym Fwrdd Trechu Tlodi sy’n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi pobl i adael tlodi.
Un o’r meysydd yr edrychodd y bwrdd arnynt yw’r rhaglenni trechu tlodi a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf a Chefnogi Pobl. Ond penderfynom fod yna gyfle i edrych ar gyllid arall felly rydym erbyn hyn wedi cynnwys cyllid Grant Trydydd Sector Gofal Cymdeithasol Oedolion yn ogystal â’r Gronfa Datblygu Gwledig a’r cyllid Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid.
Mae hon yn ffordd newydd o weithio lle rydym yn edrych ar yr holl grantiau a’r cyllid arall yn eu cyfanrwydd ac nid fel rhannau unigol. Rydym eisiau gwneud yn siŵr nad ydym yn colli unrhyw beth a’n bod yn bodloni anghenion ein cymunedau.
O’r hyn y mae teuluoedd eisoes yn dweud wrthym, teimlwn fod gweithio’n agosach gyda’n gilydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl Conwy. Dyma drosolwg cryno o’r enghraifft;
Cafwyd atgyfeiriad gan HOST ynglŷn â theulu a oedd wedi colli eu holl eiddo pan aeth eu tŷ ar dân ac roeddynt yn aros dros dro gyda ffrindiau tra’n ceisio cael cymorth brys.
Llwyddodd y Tîm o Amgylch y Teulu ddod o hyd i ddillad a pharsel bwyd ar gyfer y teulu. Gwnaed atgyfeiriad hefyd i Hawliau Lles, er mwyn darganfod a ydynt yn hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Roedd y Tîm o Amgylch y Teulu hefyd yn rhagweithiol wrth osod hysbyseb ar fewnrwyd y cyngor, yn gofyn am roddion ar gyfer dillad, eitemau i’r cartref, dillad gwely a phethau o’r fath.
Nododd y Tîm o Amgylch y Teulu fod y teulu’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg ac yn gallu gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau trosglwyddiad gwasanaeth esmwyth. Darparodd Dechrau’n Deg y rhoddion a gafwyd a pharhau i weithio gyda’r teulu.