Mae Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhyngweithio gyda’r unigolion rydym yn eu cefnogi – yn aml mae hyn yn golygu ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain, yn unrhyw ran o’r sir. Mae gennym hefyd nifer o swyddfeydd mewn gwahanol leoliadau yn y sir, felly mae’n gwneud synnwyr i weithio o’r swyddfa gyfleus agosaf yn hytrach nag un ddesg arbennig mewn swyddfa benodol.
Ers peth amser, mae Gofal Cymdeithasol wedi treialu “Doethwaith” – gan ddefnyddio gliniaduron yn hytrach na PCs sefydlog, a defnyddio RAG (porth mynediad o bell) i alluogi staff i weithio o unrhyw le gyda mynediad i’r rhyngrwyd a dal i gysylltu â’n systemau rhwydweithiol. Mae hyn yn golygu llai o amser teithio, y gallu i weithio o gartref lle mae hyn yn gwneud synnwyr, y gallu i wneud mwy rhwng cyfarfodydd.
Mae Doethwaith bellach wedi datblygu i fod yn rhan o Raglen Foderneiddio ehangach ar gyfer Conwy. Gyda’n cydweithwyr yn TG ac adrannau eraill, rydym yn cyflwyno’r cysyniad i’r holl staff.
Trwy fod yn fwy symudol, rydym yn cynyddu ein gofod swyddfa a rhyddhau ystafelloedd cyfarfod. Mae cefnogi gweithio hyblyg i staff yn helpu i wneud y defnydd gorau o’n hamser Mae’r broses gyflwyno hefyd yn cynnwys twtio, rhoi sgriniau newydd mwy i’r holl staff, gan ddisodli gliniaduron a Chyfrifiaduron dros 5 mlwydd oed, a gwella gwelededd a hygyrchedd uwch reolwyr.