- Byddwn yn cyflwyno Llwybr i Ymagwedd Gofal ar gyfer asesiad o fewn cyd-destun y pecyn a fframwaith asesu newydd fel y cytunwyd gyda LlC. Dylai’r ymagwedd arloesol hon alluogi ystyriaeth effeithiol o’r canlyniadau sydd eu hangen ar gyfer pobl ac asesu llwyddiant defnyddio cymhwysedd ar ôl ail-alluogi yn unig
- Adborth o waith Ansoddol Anableddau Dysgu Cymru ar ganlyniadau
- Gweithio gyda BIPBC i gael dealltwriaeth glir o dderbyniadau heb eu trefnu i Ysbytai Cyffredinol y Dosbarth
- Gweithio gyda BIPBC i ddatblygu gwasanaethau ataliol
- Byddwn yn gweithredu canfyddiadau ein prosiect mynediad i wasanaethau a gweithredu’r argymhellion i sicrhau bod ymateb cymesur yn cael ei dderbyn, a lle y gellir cyfeirio pobl at wasanaethau amgen anstatudol eraill, bod hyn yn cael ei wneud.
- Byddwn yn gweithredu llwybr gofal gyda phartneriaid Iechyd sy’n ystyried taith y claf o’r ysbyty i Ofal Iechyd Gwell, Gofal Canolradd, ail-alluogi ac nid i wasanaethau neu gefnogaeth 3ydd sector.
- I gefnogi pobl gydag Anableddau Dysgu byddwn yn cyflwyno pecyn asesu newydd sy’n canolbwyntio ar allu pobl nid eu hanabledd
- I gefnogi pobl gydag Anableddau Dysgu byddwn yn cyflwyno model dilyniant o ddarpariaeth i leihau gorddarpariaeth a’r cyfyngiadau dilynol mae hyn yn ei greu
- Datblygu dull o gefnogi canlyniadau Defnyddiwr Gwasanaeth a sicrhau cydymffurfiant
- Datblygu Rhwydwaith Plant gydag Anableddau, gan gyfuno Iechyd, Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol i greu un gofrestr o Blant ag Anableddau, ac o hwn, llunio Strategaeth Gyfathrebu gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Dadansoddi ac argymell sut y gellir cynyddu’r nifer o bwyntiau achrediad ar gyfer rhai 16/17 mlwydd oed